Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd y Cyngor

Etholodd y cyngor gadeirydd ac is-gadeirydd newydd ar gyfer tymor 2026/27 yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir.

Cadeirydd newydd Cyng Bobby Feeley a'r Is-gadeirydd Cyng Peter Scott

Mae’r Cyngor wedi ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd ar gyfer tymor 2026/27.

Yn ystod Cyfarfod Flynyddol y Cyngor Sir, a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir, Rhuthun, etholwyd y Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd a'r Cynghorydd Peter Scott yn Is-gadeirydd yr awdurdod ar gyfer y flwyddyn ddinesig nesaf.

Fel Cadeirydd newydd y Cyngor, llongyfarchodd y Cynghorydd Bobby Feeley y cyn-gadeirydd, y Cynghorydd Arwel Roberts, ar y swm sylweddol yr oedd wedi’i godi ar gyfer ei elusennau dewisol, a dymunodd y gorau iddo ar gyfer y dyfodol.

Wrth fyfyrio ar ei gyfnod fel cadeirydd, dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts:

“Mae wedi bod yn bleser mawr bod yn Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

“Rwy’n hynod falch bod swm sylweddol wedi’i godi ar gyfer y ddau achos da, a hoffwn ddiolch i’r cynghorwyr am gefnogi’r digwyddiadau a drefnwyd i godi’r arian.

“Ni all unrhyw gadeirydd blesio pawb, ond rwyf wedi ceisio dilyn esiampl nifer o gadeiryddion yn y gorffennol a gwneud fy ngorau drwy ddilyn arwyddair y sir sef ‘Unwn i wneud da’.”

Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, cododd y Cynghorydd Arwel Roberts £6,000 ar gyfer ei elusennau dewisol sef Cronfa i Bawb a Sant Cyndeyrn.

Yn ystod y cyfarfod, diolchwyd i'r Cynghorydd Arwel Roberts am ei wasanaeth fel Cadeirydd.

Gan mai dyma oedd cyfarfod llawn cyntaf y cyngor ers marwolaeth y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones, talwyd teyrngedau gan arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol a chafodd pawb a oedd yn bresennol yn Siambr y Cyngor gyfnod o fyfyrdod tawel er cof am y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones a diolch am ei gwasanaeth nodedig.

Cadeirydd newydd Cyng Bobby Feeley, gyda'r cyn-gadeirydd Cyng Arwel Roberts

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw