Gwahodd trigolion i ddweud eu dweud ar brosiect Stryd Fawr Prestatyn
Bydd y sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal ar 3 Mehefin.

Mae'r Cyngor yn annog unrhyw un sy'n byw, sy’n gweithio neu sy’n ymweld â Phrestatyn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyluniad manwl y cynllun gwella’r parth cyhoeddus a fydd yn cael ei gynnal rhwng 3 Mehefin a 5 Gorffennaf 2026.
Yn 2025, cadarnhaodd Llywodraeth y DU eu bwriad i ddarparu bron i £20 miliwn o gyllid grant ar gyfer saith prosiect cyfalaf i wella balchder bro a’r amgylchedd naturiol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.
Cafodd y cyllid hwn, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall.
Yn rhan o'r prosiect i wella balchder bro a'r amgylchedd naturiol ym Mhrestatyn, dyfarnwyd cyllid i Gyngor Sir Ddinbych i wella parth cyhoeddus (man gweladwy) y stryd fawr.
Mae sesiwn galw heibio hefyd wedi'i threfnu gan y Cyngor ac mae trigolion yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar y gwelliannau arfaethedig i'r stryd fawr.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar 3 Mehefin, yn Sinema Scala ym Mhrestatyn rhwng 1pm a 7pm.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Hoffem ni ddiolch i drigolion, ymwelwyr a busnesau am eu cydweithrediad ac ymgysylltiad trwy gydol y prosiect hyd yn hyn.
“Ein nod yw cyflawni cynllun sy’n gwella parth cyhoeddus y stryd fawr ac sy’n cefnogi adfywio’r dref yn yr hirdymor.
“Hoffem ni annog cymaint o drigolion â phosibl i ddweud eu dweud drwy naill ai fynd i’r digwyddiad galw heibio neu drwy gwblhau’r ymgynghoriad ar-lein.”
Gall trigolion sy'n methu â dod i’r digwyddiad galw heibio wyneb yn wyneb rannu eu barn drwy gwblhau'r ymgynghoriad ar-lein ar wefan y Cyngor.
Mae fersiynau papur o'r arolwg adborth hefyd ar gael a gellir cael gafael arnyn nhw yn Llyfrgell Prestatyn a’r Siop Un Alwad. Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw 5 Gorffennaf 2026.