Gwirfoddolwyr yn adnewyddu arwyddion mewn gwarchodfa natur boblogaidd yn y Rhyl

Mae tîm cefn gwlad Cyngor Sir Ddinbych ochr yn ochr â gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio'n galed.

Mae tîm cefn gwlad Cyngor Sir Ddinbych ochr yn ochr â gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio'n galed i adnewyddu arwyddion yng ngwarchodfa natur pyllau Brickfield.

Roedden nhw’n gweithio ochr yn ochr â Natur er budd Iechyd i wella'r arwyddion dehongli yn y warchodfa a oedd yn arfer bod mewn cyflwr gwael.

Mae Natur er Budd Iechyd yn brosiect ar y cyd sy’n ymgysylltu ag unigolion a chymunedau i hyrwyddo sut y gall byd natur wella iechyd a lles.

Mae’r rhaglen yn croesawu pobl o bob gallu i gyfrannu at gadwraeth a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.

Cefnogwyd Gwarchodfa Natur Brickfield gan y Rhaglen Natur er budd Iechyd a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Trefnwyd sesiynau fframio yn The Willow Collective i adeiladu'r ffrâm bren a'r coesau ar gyfer map wedi'i adnewyddu o Bwll Brickfields.

Gwnaeth gwirfoddolwyr hefyd lyfnhau a phaentio'r arwyddion yn y gweithdy yn y warchodfa natur cyn eu gosod yn ôl ar y safle.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad:

“Hoffwn ddiolch i’n tîm cefn gwlad a’r gwirfoddolwyr am eu gwaith caled wrth ailosod yr arwyddion yng ngwarchodfa natur pyllau Brickfields.

“Mae pyllau Brickfields yn warchodfa natur boblogaidd yn y sir ac mae’r gwirfoddolwyr a’r staff wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i’r gymuned sy’n ymweld â’r safle.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw