Nythfa adar enwog yn barod am aelodau newydd

Mae nythfa sy’n diogelu aderyn sydd o dan fygythiad yn paratoi i dderbyn aelodau newydd o Affrica.

Mae nythfa sy’n diogelu aderyn sydd o dan fygythiad yn paratoi i dderbyn aelodau newydd o Affrica.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru a gwirfoddolwyr eraill wedi gorffen sefydlu Nythfa Môr-wenoliaid Bach Twyni Gronant.

Mae’r safle enwog wedi croesawu’r adar a ddaw yma yr holl ffordd o arfordir gorllewinol Affrica ers dros ddau ddegawd ac mae nawr yn barod i gefnogi’r anifeiliaid a hefyd helpu i addysgu ymwelwyr â’r ardal.

Mae’r grwpiau sy’n gofalu am y nythfa wedi gosod ffens derfyn 3.5km a hefyd ffens drydan 3km ar hyd y traeth i warchod yr adar rhag ymosodiadau ar y tir.   Bydd y ddwy ffens yn cael eu tynnu ar ddiwedd y tymor i sicrhau polisi dim olion yn yr ardal sydd hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Unwaith eto mae Canolfan Ymwelwyr y Môr-wenoliaid a’r guddfan gerllaw yn barod i helpu pobl i wylio’r nythfa o bellter diogel.

Yn 2025 fe welodd y nythfa 95 o barau bridio a gofnodwyd a chyfanswm o 103 o gywion ar y safle. Ar gyfartaledd ceir 1.08 o gywion i bob pâr bridio yn y nythfa.

Y llynedd gweithiodd wardeiniaid y Môr-wenoliaid Bach hefyd  gydag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain i fodrwyo nifer o’r adar er mwyn eu holrhain yn y dyfodol.  Fe aethant ati i helpu i fodrwyo 59 o gywion gydag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (modrwyau metel a chafodd naw arall eu modrwyo gyda modrwyau lliw).

Dywedodd yr Uwch Geidwad Cefn Gwlad, Jim Kilpatrick:  “Mae’r tîm yma yng Ngronant eisoes wedi gweld arwyddion fod yr adar anhygoel hyn yn cyrraedd ac rydym yn barod i’w diogelu a’u cefnogi drwy gydol y tymor bridio hwn. Fyddai dim o’r hyn rydym yn ei wneud yma yn bosibl heb gefnogaeth yr holl wirfoddolwyr gwych sy’n ein helpu i ofalu am y Môr-wenoliaid Bach.”

Ychwanegodd: “Mae ein wardeiniaid nawr yn gweithio yn y nythfa o’r ganolfan i ymwelwyr. Yn ogystal â gwarchod yr adar, byddant hefyd ar gael i siarad ag ymwelwyr a chasglu gwybodaeth am y nythfa eleni.”

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych: “Ers dros ddau ddegawd mae timau Cefn Gwlad, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr, wedi bod yn gweithio’n galed iawn i warchod y safle hwn i wneud y nythfa yn ardal o bwysigrwydd gwirioneddol ar gyfer gwarchod poblogaethau’r Môr-wenoliaid Bach yn y dyfodol. Gall pawb sy’n ymwneud â gofalu am y Môr-wenoliaid Bach fod yn eithriadol o falch o’r hyn maent yn ei wneud i gynnal y nythfa fywiog hon yn Nhwyni Gronant.”

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw