Pob tocyn wedi’i werthu ar gyfer cyngerdd llwyddiannus yn Nantclwyd
Swynodd Janusz Piotrowicz ei westeion gyda’i ddyfnder llawn mynegiant a’i feistrolaeth dechnegol anhygoel.

Roedd tŷ hanesyddol Nantclwyd y Dre yn llawn dop yn ddiweddar ar gyfer prynhawn cofiadwy o gerddoriaeth wrth i’r pianydd byd enwog Janusz Piotrowicz roi datganiad yn amgylchedd agos y safle treftadaeth gwerthfawr, ac roedd pob tocyn wedi’i werthu.
Roedd y perfformiad arbennig, a gynhaliwyd yn ddiweddar, yn llwyddiant ysgubol, pan gafodd y gynulleidfa wledd gyda rhaglen eithriadol o ddarnau, yn awyrgylch unigryw’r tŷ sy’n llawn o bron i 600 mlynedd o hanes.
Yn cael ei ddathlu fel “Bardd Meistrolgar y Piano”, swynodd Janusz Piotrowicz ei westeion gyda’i ddyfnder llawn mynegiant a’i feistrolaeth dechnegol anhygoel drwy gydol rhaglen oedd yn cynnwys gwaith gan Liszt, Scarlatti, Chopin, Tchaikovsky a Rachmaninov.

Roedd y datganiad yn ddigwyddiad pwysig i Nantclwyd y Dre, gan ddangos potensial anferthol y tŷ fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau diwylliannol a pherfformiadau.
Dywedodd Kate Thomson, Rheolwr Safle Nantclwyd y Dre:
“Rydym wedi gwirioni ein bod wedi gallu cynnal datganiad Mr Piotrowicz. Roedd y gynulleidfa’n canmol ei berfformiad i’r entrychion ac rydym yn gobeithio mai dyma fydd y sbardun i gynnal llawer o ddigwyddiadau tebyg fydd yn cynnig profiadau newydd yn Nantclwyd y Dre gan gynnal ei hen draddodiad fel lle creadigol.”
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth i gefnogi’r datganiad, yn ogystal â’r sefydliad Tai Hanesyddol a sicrhaodd bod y perfformiad hwn yn bosibl.
“Mae Nantclwyd y Dre yn sefydliad sydd â gwerth hanesyddol sylweddol, ac mae’n bwysig ein bod yn cofio ac yn dathlu’r hanes sydd ar garreg ein drws. Mae’r perfformiadau hyn yn ffordd arall o fwynhau’r tŷ, ac rydym yn gobeithio y gallwn gynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”
Mae Nantclwyd y Dre ar agor i ymwelwyr archwilio ei hanes hynod a’r gerddi hardd rhwng 10.30am - 4.30pm (mynediad olaf am 3.30pm) bob dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn o fis Ebrill i fis Medi (codir tâl mynediad). Mae’r tŷ hanesyddol hefyd yn cynnig opsiynau llogi cyffredinol drwy’r flwyddyn ac mae’n barod i weithio gydag artistiaid a pherfformwyr i ddarparu digwyddiadau ar y cyd yn y dyfodol.
Am fwy o wybodaeth am ymweld neu ddigwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch â Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych drwy anfon e-bost at treftadaeth@sirddinbych.gov.uk