Sesiynau Pwyntiau Siarad yn cefnogi dros 900 o drigolion mewn blwyddyn
Mae ystadegau diweddar yn dangos bod 923 o breswylwyr Sir Ddinbych wedi derbyn cyngor ac arweiniad drwy’r gwasanaeth Pwyntiau Siarad rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026.

Mae Pwyntiau Siarad ym mhob un o Lyfrgelloedd Sir Ddinbych ac maent yn ffordd gyfleus i drigolion Sir Ddinbych ddarganfod pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael iddynt yn eu hardal.
Darperir y gwasanaeth Llywyr Cymunedol gan y Groes Goch Brydeinig mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a phartneriaid allweddol.
Fe wnaeth y 388 o sesiynau Pwyntiau Siarad a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod hwn hefyd gael 100% o adborth cadarnhaol gan y rhai a lenwodd ffurflen ar ôl sesiwn. Dangosai’r ffurflenni adborth hefyd fod 100% o’r rheiny a lenwodd ffurflen wedi dweud eu bod yn gallu siarad yn eu dewis iaith.
Mae’r gefnogaeth mae’r gwasanaeth Pwyntiau Siarad yn ei chynnig drwy Lywyr Cymunedol y Groes Goch Brydeinig yn eang, a gall amrywio o ddarparu cyngor yn unig, i atgyfeirio i gael rhagor o gymorth perthnasol a chefnogaeth a chymorth â thai.
Dyma leoliadau ac amseroedd Pwyntiau Siarad ar hyn o bryd:
Pob dydd Llun (heblaw gwyliau banc) – Llyfrgell Llanelwy, 10:00am–12:30pm
Pob dydd Mawrth – Llyfrgell y Rhyl a Llyfrgell Rhuthun, 10:00am–12:30pm
Pob dydd Mercher – Llyfrgell Dinbych a Llyfrgell Corwen, 10:00am–12:30pm
Pob dydd Iau – Llyfrgell Llangollen, 10:00am–12:30pm
Pob dydd Gwener (heblaw gwyliau banc) – Llyfrgell Prestatyn a Llyfrgell Rhuddlan, 10:00am–12:30pm
Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:
“Mae Pwyntiau Siarad yn darparu gwasanaeth gwerthfawr yn ein cymunedau, gan roi’r dewis i breswylwyr gael sgwrs wyneb yn wyneb, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig iddynt.
Gall yr ystod eang o gefnogaeth a gynigir gan Bwyntiau Siarad ddarparu cyfleoedd hanfodol i gyfeirio pobl a rhoi cyngor iddynt, a lleihau’r straen ar wasanaethau eraill yn y pen draw. Mae Pwyntiau Siarad yn darparu adnodd cefnogi dibynadwy, hawdd ei gael, i breswylwyr yn eu cymuned.”