Y Cabinet yn cymeradwyo contract dylunio ac adeiladu ar gyfer prosiect ailwampio Ysgol Uwchradd Dinbych
Heddiw (26 Mai), mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo dyfarnu’r contract dylunio, ac yn dilyn hynny, y gwaith adeiladu sydd ynghlwm â phrosiect ailwampio Ysgol Uwchradd Dinbych i Wynne Construction.
Ddiwedd 2025, rhoddodd y Cabinet eu cymeradwyaeth i gychwyn y broses gaffael ar gyfer y contract Dylunio ac Adeiladu ar gyfer ailwampio Ysgol Uwchradd Dinbych.
Fe wnaethant hefyd gymeradwyo cyflwyno'r Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru, ac o ganlyniad, cafodd hynny ei gymeradwyo ym mis Mawrth eleni.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o gynllun amlinellol y Cyngor ar gyfer y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Ysgol Uwchradd Dinbych
Bydd y camau nesaf yn cynnwys ymgysylltu â chymuned yr ysgol a bydd y disgyblion yn chwarae eu rhan gan helpu i ddatblygu’r dyluniad.
Cyfanswm y swm a gytunwyd i gael ei ddyrannu i’r prosiect ar hyn o bryd ar gyfer prosiect Ysgol Uwchradd Dinbych yw £19.8 miliwn.
Mae'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn ariannu 65% o'r prosiect hwn, gyda'r 35% sy'n weddill yn cael ei ariannu gan y Cyngor. Yn ogystal, mae cyllid pellach yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau carbon sero-net.
Dywedodd Glen Williams, Pennaeth Ysgol Uwchradd Dinbych:
“Mae hwn yn newyddion ardderchog ac yn gyfnod mor gyffrous i Ysgol Uwchradd Dinbych a’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.
Rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda’r awdurdod lleol, dylunwyr a chontractwyr i wneud yn siŵr bod moderneiddio’r ysgol yn helpu i ddarparu amgylchedd i ddysgwyr a fydd yn cefnogi eu cynnydd a’u hopsiynau ymhellach yn y dyfodol.”
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Rwy’n falch o weld bod y prosiect hwn wedi symud ymlaen i’r cam priodol nesaf. Gyda chontract dylunio ac adeiladu bellach ar waith, rydym gam yn nes at ddechrau gwaith ar y datblygiad cyffrous hwn.
Bydd moderneiddio a gwella cyfleusterau ar y safle hwn yn gwella capasiti yn yr ysgol, yn ogystal â helpu i ddarparu addysg o’r ansawdd uchaf i ddisgyblion yn ardal Dinbych ar gyfer cenedlaethau i ddod.”