Y Cyngor yn ymgysylltu â busnesau y Rhyl ar brosiectau adfywio mawr

Mae swyddogion y Cyngor a thimau prosiect wedi dechrau cwrdd â busnesau canol tref y Rhyl.

Yn dilyn cymeradwyaeth Cabinet Cyngor Sir Ddinbych, bydd gwaith ar brosiectau Adfywio Lleol a ariennir gan Lywodraeth y DU yng nghanol tref y Rhyl yn symud ymlaen i’r cam cyn adeiladu, gyda rhaglen o weithgareddau ymgysylltu ar fin cychwyn gyda busnesau lleol a phreswylwyr.

Mae swyddogion y Cyngor a thimau prosiect wedi dechrau cwrdd â busnesau canol tref y Rhyl i drafod y cynllun adfywio arfaethedig mewn rhagor o fanylder wrth i waith dylunio barhau i ddatblygu.

Bydd ymgysylltu yn canolbwyntio ar ystyriaethau gweithredol allweddol, gan gynnwys danfoniadau, mynediad a rheoli gwastraff, â’r nod o leihau amhariad a rheoli effaith yn ofalus trwy gydol y cam adeiladu. Bydd adborth gan fusnesau a phreswylwyr yn helpu i lywio cynllunio manwl a sicrhau bod gweithrediadau o ddydd i ddydd yn cael eu hystyried.

Nod y prosiectau adfywio yw trawsnewid yr ardal o gwmpas Tŵr Cloc y Rhyl yn lle sy’n addas i gerddwyr. Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys gosod pafin newydd ar draws canol y dref, gosod seddi newydd a gwella isadeiledd gwyrdd i greu amgylchedd mwy croesawgar, hygyrch a deniadol ar gyfer preswylwyr, ymwelwyr a busnesau.

Meddai Tony Ward, Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a’r Amgylchedd Cyngor Sir Ddinbych:

“Mae’r prosiectau hyn yn ffurfio rhan o waith adfywio ehangach sy’n cael ei wneud yn y Rhyl. Mae’r gwaith hwn eisoes wedi gweld creu amddiffynfeydd arfordirol, promenâd gwell a mwy hygyrch, parc chwarae newydd a chwbl hygyrch i blant yn ogystal ag agoriad Marchnad y Frenhines. Mae cam nesaf y gwaith yn ffurfio rhan o’r weledigaeth o ailgysylltu canol tref y Rhyl gyda’r promenâd a’r traeth.

“Nod prosiectau fel y rhain yw creu egni o’r newydd a hyder yn y Rhyl ac maen nhw’n sbardunau ar gyfer newid. Rydym yn wirioneddol werthfawrogi amynedd preswylwyr a busnesau wrth i’r newidiadau hyn gael eu gwneud, a gobeithiwn fod pawb yn gallu gweld yr effaith gadarnhaol mae’r gwaith hwn yn ei chael ar y dref.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw