Planhigfa’n meithrin gwybodaeth newydd i wirfoddolwr o Brestatyn
Mae criw cynyddol o wirfoddolwyr cymunedol yn gweld eu gwybodaeth am natur yn blodeuo drwy gefnogi prosiect sydd wedi’i fwriadu i helpu bioamrywiaeth lleol

Mae criw cynyddol o wirfoddolwyr cymunedol yn gweld eu gwybodaeth am natur yn blodeuo drwy gefnogi prosiect sydd wedi’i fwriadu i helpu bioamrywiaeth lleol.
Mae planhigfa coed lleol y Cyngor yn Llanelwy yn tyfu coed a phlanhigion brodorol sydd i’w gweld ar hyd a lled Sir Ddinbych, a hefyd yn meithrin cymuned gref o wirfoddolwyr sy’n magu sgiliau a gwybodaeth newydd drwy ddod i’r safle.
Fe wnaeth Janet Davidson o Brestatyn ymuno â’r gymuned ym mis Mehefin y llynedd oherwydd yr elfen gref o les cymdeithasol a hyblygrwydd mae gwirfoddoli yn y blanhigfa goed yn ei ganiatáu.
Dywedodd: “Roeddwn i’n newydd yn yr ardal ac roeddwn i’n chwilio am waith gwirfoddol oedd yn cyd-fynd efo fy mhersonoliaeth i, gan nad ydw i’n berson pobl mawr iawn. Rydw i bob amser wedi bod â diddordeb mewn garddwriaeth ac felly roedd hwn yn gweddu i’r dim. Roedd yr amseroedd sydd ar gael i wirfoddolwyr yn gweddu i f’anghenion i, felly roeddwn i ar fy ennill ym mhob ffordd, a dweud y gwir.
“Mae o mor hyblyg hefyd, felly os nad ydych chi’n gallu dod ryw wythnos, maen nhw’n hawddgar iawn, iawn. Rydych chi’n cael gwneud amrywiaeth o bethau, sy’n wych i mi.”
Mae dod yn aelod o gymuned o wirfoddolwyr mewn planhigfa wedi agor y drws i sgiliau a gwybodaeth newydd i Janet, sy’n dod o gefndir gweithgynhyrchu bwyd.
“Mae rhywun yn dysgu pa goed sy’n ddefnyddiol mewn gwahanol leoedd, y mathau, yr holl amrywiaeth. Er enghraifft, doeddwn i ddim yn sylweddoli mor wahanol yw’r mathau o dir mae’r ddwy dderwen frodorol eu hangen. Mae cyfleoedd i ni ddysgu bob wythnos yma. Mae ’na bob amser rywbeth fel dysgu am yr aethnenni duon, yr heriau mae’r tîm yn eu cael wrth dracio a sicrhau bod modd olrhain pob dim… mae hynny’n arbennig o ddifyr.”
Mae’r gymuned o wirfoddolwyr yn y blanhigfa hefyd yn dod â’u sgiliau gyrfa eu hunain i’r safle, sy’n rhoi cyfle i staff weithio gyda nhw i ddylanwadu go iawn ar ddyfodol y blanhigfa, eglurodd Janet.
“Mae posib’ trosglwyddo rhai elfennau o wahanol ddiwydiannau. Felly olrhain a monitro rhwng bwyd a choed – mae cyfran helaeth o’r wybodaeth yn berthnasol. Mae’n adnodd arall i’r tîm allu casglu a datblygu syniadau.”
Wrth droi at y ffrindiau newydd roedd Janet wedi’u gwneud yn y blanhigfa goed er mis Mehefin, ychwanegodd Janet: “Maen nhw’n griw cyfeillgar iawn yma ac rydych chi’n teimlo bod pwrpas i’r cyfan a bod gwerth i’r gwaith.
“Fel arfer, mae ’na griw gwahanol gan nad ydy pawb yn gallu dod bob wythnos. Dydych chi byth yn gwybod pwy sydd am fod yma, ond rydych chi’n ’nabod pawb a allai fod. Mae hynny’n beth da iawn o safbwynt cymdeithasol. Mae criw da iawn ac amrywiol iawn yn dod yma ac rydw i’n meddwl ei fod o’n well o ganlyniad.”
Ers egino, mae’r gymuned o wirfoddolwyr wedi dod yn nodwedd gyfarwydd yn y blanhigfa ac maen nhw i gyd yn mwynhau torchi llewys gyda’r staff i wneud gwahaniaeth i fioamrywiaeth lleol, eglurodd Janet.
“Mae pob dim yma’n digwydd fel gwaith tîm. Nid yr unigolion sy’n bwysig, ond dal ati’n ddyfal, yn rhoi pethau i mewn i’r potiau neu eu tynnu allan o’r potiau, ac mae dipyn o waith cynnal a chadw mae angen i chi fod yn barod i’w wneud os byddwch chi yma hefyd.
“Allwch chi ddim disgwyl bod yn plannu coed derw bob wythnos, ond pan mae rhywun yn gwneud hynny, mae’n fraint ac yn rhoi boddhad i rywun. Mae’n braf cael dod yma. Bydd y tîm yn ein rhoi ni ar ben ffordd o ran gweithgareddau’r wythnos a mynd ati sydd angen wedyn, ac mae’n anffurfiol hefyd, sy’n beth braf i mi.”
Ychwanegodd Janet: “Rydych chi’n teimlo’n well o ddod yma. Dw i’n ei argymell o, a dweud y gwir. ’Does na ddim amodau na lol, felly mi allwch chi ddod yma, gwneud eich gwaith a chael amser braf iawn, mynd adref a dod eto’r wythnos nesaf heb orfod cario unrhyw straen.”
Os hoffech chi wirfoddoli yn y blanhigfa goed, anfonwch neges e-bost gyda’ch manylion at: bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk