Arian i Gyngor Sir Ddinbych i ddatblygu a gwireddu ecwiti iechyd ledled y sir
Bydd pecyn cenedlaethol o gymorth i ddatblygu a gweithredu systemau tegwch iechyd.
Mae Sir Ddinbych yn un o dri ardal awdurdod lleol i gael cyllid i ddod yn arloeswr ar gyfer uchelgais ‘Cenedl Marmot’, a gyhoeddwyd mewn Uwchgynhadledd Tegwch Iechyd yng Nghaerdydd (dydd Mawrth 24 Chwefror).
Caiff pecyn cenedlaethol o gymorth ei ddarparu i gynghorau Sir Ddinbych, Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot am ddwy flynedd o fis Ebrill ymlaen. Bydd y cyllid yn datblygu ac yn gweithredu systemau tegwch iechyd yn y tair ardal ac yn lledaenu arferion da yn ehangach ledled Cymru
Ym mis Mehefin 2025, daeth Cymru'n 'Genedl Marmot' gyntaf y byd, gan fabwysiadu wyth egwyddor Syr Michael Marmot i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, “Yng Nghymru, mae anghydraddoldebau iechyd dwfn wedi arwain at ganlyniadau gwaeth o ran ansawdd bywyd, cyflyrau iechyd hirdymor, a disgwyliad oes a hynny oherwydd lle mae rhywun yn cael ei eni a lle mae'n tyfu i fyny.
“Mae'r dull cenedlaethol hwn yn dangos ein bod wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chau'r bwlch fel y gall pobl mewn cymunedau cyfagos dyfu i fyny gyda'r un cyfleoedd bywyd a'r un disgwyliad oes.”
Mae Cymru eisoes mewn sefyllfa dda ar gyfer y gwaith hwn drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 10 oed yn ddiweddar.
Yn y llun o'r chwith i'r dde: Helen White, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Syr Michael Marmot, ac Emily Mc Gill a Daniel Evans o Gyngor Sir Ddinbych
Dywedodd Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Dinbych, “Rydym yn falch iawn bod Sir Ddinbych wedi cael ei chymeradwyo fel arloeswr Cenedl Marmot. Mae sawl ffactor yn cyfrannu at iechyd da, fel addysg, cyflogaeth a thai, ac rydym yn cydnabod bod plant sy’n cael eu geni yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o wynebu anghydraddoldebau iechyd.
“Rydym yn benderfynol o gymryd camau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ledled y sir er mwyn sicrhau nad yw iechyd da yn cael ei bennu’n unig ar ble rydych chi’n digwydd byw.
“Rydym yn falch o’r gwaith sydd eisoes ar y gweill sy’n ymgorffori llawer o egwyddorion Marmot. Er enghraifft, mae Sir Ddinbych yn Gweithio, sy’n un o ddim ond tri phrosiect yng Nghymru i dderbyn cyllid ‘Trailblazer’ Llywodraeth Cymru, eisoes yn helpu trigolion i wella eu hiechyd, eu sgiliau a’u hyder i symud i mewn i waith. Trwy’r bartneriaeth ddiweddar ‘Y Tu Hwnt i’r Rhwystrau’ gyda RCS, rydym yn darparu mynediad cyflym at gefnogaeth therapiwtig i bobl sy’n wynebu heriau iechyd sy’n eu hatal rhag gweithio, gan eu helpu i feithrin gwydnwch a symud yn agosach at gyflogaeth gynaliadwy.
“Rydym yn parhau i flaenoriaethu gwaith ymatal, gan gynnig cyngor a chefnogaeth gynnar cyn i broblemau waethygu ac mae ein gwaith ar ail-alluogi, atal digartrefedd ac atal trais eisoes yn dwyn ffrwyth. Mae ein model ailgartrefu cyflym wedi haneru’r defnydd o lety brys, ac mae ein buddsoddiad mewn cartrefi fforddiadwy, cynnes a hygyrch wedi’i gydnabod.
“Bydd y cyllid a gadarnhawyd heddiw yn mireinio ein ffocws dros y ddwy flynedd nesaf, yn cryfhau gweithio ar draws gwasanaethau, ac yn gwella sut rydym yn gwerthuso effaith ein gwaith. Dyma gyfle cyffrous i’r Cyngor ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Sefydliad dros Ecwiti Iechyd i wella ein darpariaeth er budd ein trigolion.”
Cyfarfu Prif Weithredwr Sir Ddinbych, Helen White ynghyd â chydweithwyr o’r Cyngor â Syr Michael Marmot yn yr Uwchgynhadledd Ecwiti Iechyd a dywedodd, “Roedd yn wych cael clywed yn uniongyrchol gan Sir Michael am sut gall ymgorffori’r dull Cenedl Marmot arwain at waredu anghydraddoldeb iechyd er mwyn sicrhau gwell canlyniadau ar draws cymunedau. Edrychwn ymlaen at ddysgu gan eraill wrth i ni ddatblygu’r maes pwysig yma o waith.”
Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, “Mae lefel yr anghydraddoldeb sy'n bodoli yng Nghymru heddiw yn annerbyniol. Mae'n niweidio bywydau, yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn byrhau disgwyliad oes. Os na fyddwn yn gweithredu nawr, ni fydd y niwed a'r costau hyn ond yn cyflymu.
“Dyna pam y gwnes i alw, yn Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol, ar i Gymru ddod yn genedl Marmot. Mae'r dull Marmot yn adlewyrchu uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol drwy fynd i'r afael ag achosion sylfaenol iechyd gwael — sef tlodi, tai ansicr, mynediad anghyfartal i addysg, a mynediad cyfyngedig at natur. Mae hyn yn ymwneud ag atal, tegwch, a gwydnwch hirdymor.
Yr wyth egwyddor Marmot yw:
1. Rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn
2. Galluogi pob plentyn, person ifanc ac oedolyn i wneud y gorau o'u galluoedd a chael rheolaeth dros eu bywydau
3. Creu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb
4. Sicrhau safon byw iach i bawb
5. Creu a datblygu lleoedd a chymunedau iach a chynaliadwy
6. Cryfhau rôl ac effaith atal afiechyd
7. Mynd i'r afael â hiliaeth, gwahaniaethu a'u canlyniadau
8. Dilyn cynaliadwyedd amgylcheddol a chydraddoldeb iechyd gyda'n gilydd