Cwblhau gwaith ar do dwy ystafell ddosbarth fel rhan o brosiect ysgol yn Rhuddlan

Mae’r prosiect estyniad yn Ysgol y Castell yn Rhuddlan wedi gweld cynnydd o ran y gwaith ar do’r ddwy ystafell ddosbarth gyntaf o fewn y prosiect.

Mae’r strwythur bellach yn dal dŵr ar ôl i’r gwaith cerrig a’r to gael ei gwblhau. 

Bydd y drysau a’r ffenestri newydd ar gyfer yr ystafelloedd dosbarth yn cael eu gosod nesaf, ac mae’r gwaith mewnol yn dal i ddod yn ei flaen yn dda. 

Mae’r prosiect ar y trywydd cywir ar gyfer trosglwyddo’r ddwy ystafell ddosbarth gyntaf yn y gwanwyn, yn y gobaith y byddant yn barod i’r disgyblion eu defnyddio.

Yn ystod y prosiect, bydd Ysgol y Castell yn derbyn uwchraddiadau gofod ychwanegol mewn pedwar o'i hystafelloedd dosbarth presennol yn ogystal â gwaith gwella ynni.

Dechreuodd cam cyntaf y prosiect yr haf diwethaf ac mae’r gwaith lleihau ynni pellach wedi'i gynllunio ar gyfer ail gam y gwaith. 

Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar y ddwy ystafell ddosbarth gyntaf ar hyn o bryd, cyn symud i’r set nesaf o’r ystafelloedd dosbarth sydd i gael eu hymestyn. 

Bydd yr estyniadau’n darparu 16 metr sgwâr o ofod ychwanegol i bedair ystafell ddosbarth, gan greu estyniad o 64 metr sgwâr at ddefnydd disgyblion, a byddwn yn gweld cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu ar yr un pryd.

Disgwylir i gam cyntaf y gwaith gael ei gwblhau yn ystod Gaeaf 2026.

Mae cam cyntaf y prosiect wedi cael arian cyfatebol o 65% gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. 

Mae 35% o’r cyllid sy’n weddill wedi dod yn bennaf o gyfraniad datblygwr a ddarparwyd gan ddatblygiad tai Tirionfa yn Rhuddlan.

Meddai Geraint Davies, Pennaeth Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych:

“Rwy’n falch iawn o weld y cynnydd gyda’r prosiect hwn, gan ychwanegu gofod mwy modern i’r disgyblion ei ddefnyddio. 

Mae’r gwaith strwythurol yn dod yn ei flaen yn dda ac rydym yn gobeithio y bydd y ddwy ystafell ddosbarth gyntaf yn barod i’r disgyblion eu defnyddio yn y gwanwyn.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw