Cyhoeddi cynlluniau tymor newydd prosiect Adfer Natur

Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal a hybu twf blodau gwyllt yn 2026 drwy brosiect Adfer Bioamrywiaeth a Natur.

Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal a hybu twf blodau gwyllt yn 2026 drwy brosiect Adfer Bioamrywiaeth a Natur.

Sefydlodd Cyngor Sir Ddinbych y Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn 2019 ac mae’n cynnwys tua 70 o erwau o ddolydd blodau gwyllt cynhenid sy’n creu cynefinoedd i warchod a chynnal byd natur yn lleol a hybu lles ein cymunedau ledled y sir.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyfrannu’n ariannol drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Partneriaethau Natur Lleol Cymru.

Yn nhymor 2025, gwelwyd tegeirianau’n tyfu am y tro cyntaf erioed mewn nifer o ddolydd blodau gwyllt ledled y sir.

Yn 2026, mae timau Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Stryd y Cyngor yn dal i hybu datblygiad y dolydd blodau gwyllt y mae’r prosiect eisoes wedi’u sefydlu yn y sir.

Bydd Gweithwyr Adfer Natur arbenigol y Gwasanaethau Stryd yn cynnal a chadw’r dolydd y tymor hwn ac yn mynd ati i wella nifer ddethol ohonynt. Mae’r tîm yn awyddus i weithio ag ysgolion lleol, cymunedau a gwirfoddolwyr ac mae croeso i unrhyw un sy’n dymuno dysgu mwy am y prosiect neu gymryd rhan gysylltu â’r tîm Bioamrywiaeth ar biodiversity@denbighshire.gov.uk.

Mae’r prosiect yn helpu i gyflawni’r ymrwymiadau yng Nghynllun Hinsawdd a Natur y Cyngor a’r ddyletswydd statudol i gydymffurfio ag Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Dyma rai o’r pethau sydd at y gweill y tymor hwn:

  • Torri a chasglu’r gwair yn yr holl ddolydd blodau gwyllt erbyn dechrau gwanwyn 2026. Mae torri a chasglu’r gwair yn tynnu maethynnau o’r ddaear ac yn atal gwair rhag tyfu, sy’n hybu bioamrywiaeth a thwf blodau gwyllt
  • Torri a chasglu gwair ar rai safleoedd yn ystod yr haf os oes angen eu rheoli er mwyn eu sefydlu ac annog blodau gwyllt i dyfu
  • Bwriedir torri a chasglu’r gwair yn yr holl ddolydd blodau gwyllt eto ym mis Awst/Medi 2026
  • Clustnodi mwy o ddolydd i’w gwella yn hydref 2026. Gallai hynny gynnwys plannu hadau, plannu blodau gwyllt, digroeni’r ddaear a/neu blannu cribellau melyn.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae’r prosiect wedi blodeuo ar hyd y blynyddoedd diolch i gefnogaeth gyson y cymunedau lleol, gwirfoddolwyr a’n timau Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Stryd.

“Bydd y gwaith y bwriedir ei wneud yn 2026 yn helpu i sefydlu ein dolydd blodau gwyllt yn gynt drwy dynnu maethynnau ohonynt yn gyson wrth dorri a chasglu’r gwair. Fe welwn ni fwy o liw ac amrywiaeth o flodau yn sgil y gwaith. Bydd tynnu maethynnau o’r pridd yn sicrhau nad yw’r gwair yn tyfu cymaint a bod llai o waith cynnal a chadw i’w wneud.

“Bydd y gwaith hefyd yn ein helpu i greu mwy o gynefinoedd ffrwythlon yn Sir Ddinbych sy’n medru cynnal mwy o beillwyr, fel gwenyn, na chaeau gwair sy’n cael eu torri’n gyson.”

Ychwanegodd: “Yn y Deyrnas Unedig, rydyn ni wedi colli bron i 97 y cant o ddolydd blodau gwyllt ers y 1930au. Mae’r prosiect yn gwbl hanfodol i hybu byd natur yn lleol i adfer ar ôl y fath golled. Wrth i ni weld mwy o flodau gwyllt yn tyfu byddan nhw’n helpu i gynyddu bioamrywiaeth a lliw fel y gall cymunedau fwynhau’r ardal ac er mwyn cefnogi pryfed peillio sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau.

“Mae dolydd blodau gwyllt y sir yn fuddiol i les pobl leol a bywyd gwyllt ac yn bwysicach fyth, i genedlaethau’r dyfodol sef ein pobl ifanc yn Sir Ddinbych.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw