Dechrau’n Deg yn Sir Ddinbych yn dathlu 20 mlynedd mewn digwyddiad yn y Rhyl

Yr wythnos diwethaf ym mwyty 1891 yn y Rhyl, nododd tîm Dechrau'n Deg y Cyngor 20 mlynedd o fodolaeth Dechrau'n Deg yn Sir Ddinbych trwy gynnal diwrnod gwybodaeth cymunedol lle daeth teuluoedd i ddysgu mwy am ofal Dechrau'n Deg yn y sir.

Yn ogystal â theuluoedd, daeth partneriaid a budd-ddeiliaid at ei gilydd hefyd i ddathlu effaith y rhaglen wrth helpu plant rhwng 0 a 4 oed i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Roedd dros 30 o stondinwyr yn arddangos yn y lleoliad glan môr, a phob un ohonynt yn darparu gwybodaeth werthfawr i deuluoedd lleol a oedd yn bresennol.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cyfeirio at y gefnogaeth sydd ar gael, yn ogystal â gweithgareddau sy'n addas i blant ac sy'n cael eu cynnal yn lleol.

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg Sir Ddinbych, ar gyfer plant o’u geni hyd at eu pedwerydd pen-blwydd, ynghyd â’u rhieni/gofalwyr, sy’n byw mewn ardaloedd cod post penodol.

Nod y rhaglen yw helpu plant i gael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd er mwyn eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol.

Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant:

“Roedd yn wych cael dathlu 20 mlynedd o’r cynllun Dechrau’n Deg yn Sir Ddinbych gyda theuluoedd lleol.

Hoffwn ddiolch i'r holl deuluoedd am ddod, ac i'r stondinwyr am eu hymdrechion drwy gydol y dydd. Hoffwn hefyd ddiolch i'n tîm Dechrau'n Deg anhygoel am drefnu digwyddiad mor llwyddiannus.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd yn hanfodol bwysig, ac rwy’n falch o weld bod ein tîm Dechrau’n Deg yn Sir Ddinbych yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gyflawni hyn.

Fe wnes i fwynhau clywed yr adborth gan deuluoedd lleol ynglŷn â sut mae Dechrau'n Deg wedi eu helpu. Diolch i bawb a ddaeth draw.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw