Disgyblion o Brestatyn yn agor maes chwarae yn swyddogol

Mae disgyblion o Brestatyn wedi rhoi sêl eu bendith i faes chwarae sydd newydd ei ddatblygu.

Mae disgyblion o Brestatyn wedi rhoi sêl eu bendith i faes chwarae sydd newydd ei ddatblygu.

Yr wythnos hon, helpodd disgyblion Ysgol Bodnant i agor yn swyddogol y maes chwarae sydd newydd ei wella wrth Draeth Canol, Prestatyn.

Ailagorodd y maes chwarae ar ôl cwblhau prosiect ailddatblygu yn ddiweddar a reolwyd gan adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Dinbych ac a ariannwyd gan gyllid grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Bydd ymwelwyr o bob oed â'r maes chwarae yn canfod thema glan môr newydd i gyd-fynd â'i leoliad arfordirol, ochr yn ochr ag offer chwarae hygyrch a synhwyraidd sydd wedi'u cynllunio i ganiatáu i blant o bob gallu chwarae gyda'i gilydd.

Mae maes chwarae Traeth Canol wedi’i ddylunio bellach i fod yn fodern gyda chyfleoedd chwarae deinamig, cyffrous ac amrywiol. Mae’r safle’n cynnig mathau corfforol a gwybyddol o chwarae, a digon o amrywiaeth er mwyn sicrhau bod plant yn dysgu a thyfu, ac yn arbrofi gyda gwahanol fathau o chwarae corfforol.

KOMPAN, a ddatblygodd meysydd chwarae ar safleoedd Parc Drifft a Marchnad y Frenhines yn y Rhyl, oedd yn gyfrifol am wneud y gwaith o ailddatblygu’r maes chwarae ar ôl cael eu briffio gan swyddogion y Cyngor a oedd yn awyddus i gydnabod lleoliad glan môr y safle.

Bu’r disgyblion o Brestatyn yn dathlu agoriad swyddogol y maes chwarae gyda staff y Cyngor, cynghorwyr lleol a chynrychiolwyr o KOMPAN.

Dywedodd llefarydd ar ran Kompan UK: “Rydym yn falch iawn o’r gwaith sydd wedi’i wneud yn Nhraeth Canol ac yn gobeithio y bydd y gymuned leol ac ymwelwyr â’r traeth yn ei hoffi cymaint â ni, ac y byddant yn mwynhau chwarae, cymdeithasu a bod yn egnïol gyda’i gilydd yma am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: "Diolch yn fawr iawn i ddisgyblion Ysgol Bodnant am ein helpu i lansio’r safle gwych hwn yn swyddogol ar gyfer y gymuned leol.  Rydym yn gobeithio eu bod wedi mwynhau  profi'r hyn sydd gan yr ardal chwarae newydd sbon hon i'w gynnig.

“Mae’n wych gweld y safle pwysig hwn yn ailagor gyda thema glan môr newydd sbon gan fod hwn wedi bod yn brosiect gwych i helpu lles yr holl blant sy’n byw ym Mhrestatyn a’r rhai sy’n ymweld o bell.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw