Gwaith diogelwch ffyrdd ar fin dechrau ym Mhrestatyn

Mae'r gwaith i wella diogelwch ffyrdd mewn cyffordd ym Mhrestatyn i ddechrau'n fuan.

Nodwyd yr angen am y cynllun gan Gyngor Sir Ddinbych a Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â'r patrwm pryderus o wrthdrawiadau wrth gyffordd Bastion Road, Bridge Road, Station Road a Sandy Lane ym Mhrestatyn.

Sicrhaodd Cyngor Sir Ddinbych £120,000 o gyllid grant o grant cyfalaf diogelwch ffyrdd Llywodraeth Cymru i gwblhau'r gwaith.  Mae'r cyllid grant hwn wedi'i glustnodi ac ni ellir ei ddefnyddio ar brosiectau eraill.

Bydd y cynllun yn edrych i gyflwyno gwelliannau i'r groesfan sebra bresennol, llwybrau troed gwell a symleiddio cynllun y gyffordd a bydd yn cael ei wneud gan y contractwyr lleol KM Construction.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Simon Barrasford o Wasanaethau Cefnogaeth Weithredol Heddlu Gogledd Cymru:

 "Mae cyflwyno'r gwelliannau diogelwch hyn ym Mhrestatyn yn nodi cam pwysig wrth fynd i'r afael â phryderon yn dilyn gwrthdrawiadau yn yr ardal.

 "Diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth, a lle mae patrymau o ddigwyddiadau yn dod i'r amlwg, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i gymryd camau pendant. 

 "Mae'r mesurau hyn wedi'u cynllunio i leihau risg, annog ymddygiadau gyrru mwy diogel, ac amddiffyn pawb sy'n defnyddio'r ffyrdd hyn yn well.  Rydym yn cefnogi'r cynllun yn llawn ac yn parhau i fod wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein cymunedau'n ddiogel."

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

"Mae'n galonogol gweld bod Cyngor Sir Ddinbych wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud cyffordd mor brysur ym Mhrestatyn yn fwy diogel i yrwyr a cherddwyr sy'n defnyddio'r ffordd.

"Diogelwch trigolion yw ein prif bryder ac mae'n bwysig, pan fydd patrymau pryderus fel y rhain yn dod i'r amlwg, eu bod yn cael eu nodi a'u trin yn briodol mewn modd amserol".

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw