Gwaith gwella yn mynd rhagddo’n dda ym Mharc Gwledig Loggerheads
Mae gwaith gwella ym Mharc Gwledig Loggerheads yn mynd rhagddo'n dda.

Mae gwaith gwella ym Mharc Gwledig Loggerheads yn mynd rhagddo'n dda, gyda gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud ar draws y safle, gan gynnwys y ganolfan ymwelwyr, adeilad y caffi, mannau eistedd a thoiledau cyhoeddus, gan adeiladu ar y gwaith lliniaru llifogydd a wnaed y gaeaf diwethaf.
Dechreuodd y gwaith gwella hwn ym mis Awst gyda’r nod o gynorthwyo i reoli pwysau sy'n gysylltiedig â chynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac ymateb i’w disgwyliadau cynyddol yn un o'r safleoedd prysuraf a reolir gan Gyngor Sir Dinbych ar gyfer ymwelwyr.
Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth unigryw a lles Rhuthun a’i a chymunedau gwledig.
Mae’r cyllid hwn wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus hyn ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.
Ochr yn ochr â'r gwaith gwella adeiladau, mae paneli solar a photiau draenio cynaliadwy wedi'u gosod ar y prif adeilad, gan gefnogi ymrwymiad y parc i gynaliadwyedd a helpu i baratoi safle ar gyfer y dyfodol sy'n croesawu bron i 300,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae gwaith i uwchraddio'r toiledau cyhoeddus wedi'i gwblhau ac mae'r cyfleusterau bellach yn ôl ar agor i'r cyhoedd, tra bo delweddau newydd o bob cwr o'r parc gwledig wedi’u gosod yn y mannau sydd newydd eu hadnewyddu, gan greu amgylchedd ffres a chroesawgar i ymwelwyr.
Ar ôl hysbysebu safle’r caffi a chynnal proses gyfweld ar gyfer ymgeiswyr posibl, gallwn gyhoeddi ein bod yn cydweithio’n agos â’r cynhyrchydd lleol Chilly Cow a fydd yn ymgymryd â thenantiaeth y caffi ar ei newydd wedd, yn amodol ar gwblhau holl drefniadau’r brydles.
Disgwylir i'r gwaith, sy'n cael ei wneud gan gontractwyr lleol Park City (Llanelwy) ac a ddyluniwyd gan TACP (Wrecsam), gael ei gwblhau erbyn diwedd y gwanwyn.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’n galonogol clywed bod y gwaith gwella yn mynd rhagddo’n dda yn Loggerheads, rydym wedi gweld cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads dros y blynyddoedd diweddar a bydd prosiectau fel rhain, pan fyddan nhw wedi’u cwblhau, yn helpu i ddiogelu’r parc ar gyfer y dyfodol a bodloni disgwyliadau cynyddol ymwelwyr.
“Tra bod y gwaith yn parhau, bydd Parc Gwledig Loggerheads yn parhau ar agor i’r cyhoedd drwy gydol gwyliau’r Pasg.
“Mae’r safleoedd hyn yn ardaloedd Tirwedd Cenedlaethol poblogaidd, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynnal a chadw a datblygu safleoedd fel y rhain wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy poblogaidd i sicrhau bod modd i bawb sy’n ymweld â nhw barhau i’w mwynhau.”
Mae cynlluniau ar gyfer gwaith gwella Loggerheads i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.