Gŵyl The Gathering yn dychwelyd i’r Rhyl i Arena Mike Peters

Caiff lleoliad digwyddiadau Marchnad y Frenhines ei ail enwi yn Arena Mike Peters a bydd yn cynnal y digwyddiad yn 2027.

Bydd digwyddiad cerddoriaeth blynyddol, The Gathering, a sefydlwyd ym 1992 gan Mike Peters, yn dychwelyd i ogledd Cymru yn 2027 a chaiff ei gynnal ym Marchnad y Frenhines yn y Rhyl. Fel teyrnged i brif leisydd The Alarm, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn enwi'r lleoliad digwyddiadau ym Marchnad y Frenhines yn Arena Mike Peters.

The GatheringMae The Gathering, sy’n ddigwyddiad penwythnos o hyd a gynhaliwyd gyntaf yn Neuadd y Dref, y Rhyl ym 1992, yn dod â chefnogwyr The Alarm o bob cwr o'r byd ynghyd i ddathlu cerddoriaeth y band ac mae'n cynnwys setiau acwstig, perfformiadau trydanol, cwisiau, sesiynau holi ac ateb a llawer mwy.

Un o ddymuniadau olaf Mike Peters oedd i The Gathering barhau ac mae'r digwyddiad bellach yn rhan o'i etifeddiaeth ef a'r band. Fe’i cynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 2026, ac mae'r digwyddiad yn dychwelyd i'r Rhyl y flwyddyn nesaf a bydd yn cael ei gynnal yn Arena Mike Peters. Mae'r lleoliad amlbwrpas wedi cynnal nifer o gigs a digwyddiadau cerddoriaeth ers ei agor yn haf 2025.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, “Rydym wrth ein bodd bod Jules Jones Peters wedi cytuno i The Gathering ddychwelyd i'r Rhyl, ac yn benodol i Farchnad y Frenhines. Rydym hyd yn oed yn fwy balch o allu talu teyrnged i Mike Peters trwy enwi'r lleoliad ar ei ôl. Bydd Arena Mike Peters, sydd yng nghanol y dref, yn lleoliad delfrydol ar gyfer y dathliad gwych hwn o gerddoriaeth The Alarm ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu cefnogwyr o bell ac agos i'r achlysur arbennig hwn. Roedd Mike bob amser yn hyrwyddwr brwd dros ogledd Cymru a'r Rhyl, felly mae'n teimlo'n briodol bod The Gathering yn dychwelyd i'r dref lle cafodd ei fagu.”

Meddai Dylan Evans, Rheolwr Gweithrediadau ym Marchnad y Frenhines, “Mae’r newyddion bod The Gathering yn dychwelyd i’r Rhyl yn anhygoel ac mae’n anrhydedd enfawr bod Jules, Dylan ac Evan Peters wedi dewis Marchnad y Frenhines fel lleoliad. Mae’r ffaith y gallwn dalu teyrnged a chadarnhau gwaddol Mike Peters drwy enwi’r arena ar ei ôl yn fraint fawr a hoffem ddiolch i’r teulu am eu cefnogaeth a’u hangerdd wrth i ni roi hyn at ei gilydd. Rydym yn edrych ymlaen at bartneriaeth hirdymor o Gariad, Gobaith a Chryfder.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw