Llyfrgell Corwen yn ailagor yn swyddogol gyda chyfleusterau newydd a mynediad estynedig

Nododd Llyfrgell Corwen bennod newydd gyffrous i’r cyfleuster cymunedol poblogaidd wrth i’r Llyfrgell ddathlu ailagoriad swyddogol.

Y Cynghorydd Emrys Wynne (Aelod Arweiniol) a'r Cynghorydd Arwel Roberts (Cadeirydd) yn agor y llyfrgell yn swyddogol

Mae’r gwaith adnewyddu wedi bod yn bosibl diolch i £83,469 o Raglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi llyfrgelloedd cyhoeddus, amgueddfeydd a gwasanaethau archifau i foderneiddio cyfleusterau a thrawsnewid y ffordd y darperir gwasanaethau. Mae’r cyllid wedi galluogi gwelliannau sylweddol i’r adeilad a gosod technoleg Open+ a fydd ar gael yn fuan.

Bydd Open+ yn caniatáu i aelodau’r llyfrgell gael mynediad i’r adeilad yn ystod oriau heb staff, gan gynyddu hyblygrwydd i breswylwyr. Er bod cefnogaeth wyneb yn wyneb yn parhau i fod wrth wraidd y gwasanaeth, bydd ymwelwyr hefyd yn gallu defnyddio cyfrifiaduron, cael mynediad i Wi-Fi, astudio mewn lle cynnes a thawel, argraffu dogfennau a benthyca llyfrau gan ddefnyddio ciosg hunanwasanaeth yn ystod yr oriau estynedig.

Uchelbwynt allweddol y gwaith adnewyddu yw’r Llyfrgell Blant newydd, sydd wedi’i dylunio fel lle tawel, croesawgar a diogel wedi’i hysbrydoli gan y dirwedd naturiol sy’n amgylchynu Corwen. Mae’r cynllun hyblyg yn cynnwys cymysgedd o silffoedd isel ac uchel, seddi integredig ac unedau symudol er mwyn caniatáu i’r gofod gael ei ad-drefnu ar gyfer digwyddiadau. Mae delwedd hanesyddol o’r Sgwâr o tua 1910, a ddarparwyd yn garedig gan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, yn cysylltu’r gofod â threftadaeth y dref.

Mae sesiynau amser rhigwm Dechrau Da (Bookstart) wythnosol hefyd wedi lansio, gan annog teuluoedd a phlant ifanc i ddatblygu cariad at ddarllen o oedran cynnar.

Elin yn helpu un o'r darllenwyr ifanc i ddod o hyd i Smot!

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

“Llyfrgelloedd yw calon curo eu cymunedau. Mae ailagor Llyfrgell Corwen yn enghraifft wych o’r hyn sy’n bosibl pan fyddwn yn buddsoddi yn y mannau hanfodol hyn ac rydym yn falch o fod wedi cefnogi’r trawsnewidiad hwn trwy ein Rhaglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol.

“Mae’n wych gweld sut mae’r cyllid wedi’i ddefnyddio i foderneiddio’r adeilad, cyflwyno mynediad hyblyg newydd trwy dechnoleg Open+ a chreu llyfrgell blant newydd hardd a fydd yn ysbrydoli cariad at ddarllen am genedlaethau i ddod.”

Y Cynghorydd Emrys Wynne yn cael ei diddanu'n llwyr gan un o'r darllenwyr ifanc!

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae hwn yn ddiwrnod balch i Gorwen. Mae ein llyfrgelloedd yn llawer mwy na llyfrau yn unig – maent yn fannau cymunedol croesawgar lle gall pobl gael mynediad at wasanaethau, dysgu sgiliau newydd a chysylltu ag eraill.

“Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym wedi gallu moderneiddio’r llyfrgell, cyflwyno technoleg arloesol Open+ a chreu ardal newydd wych i blant a fydd yn ysbrydoli darllenwyr ifanc am flynyddoedd i ddod. Wrth i ni ddechrau’r Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol, ni allai fod amser gwell i annog pawb i fwrw iddi ac ailddarganfod pleser darllen.”

Mae’r ailagoriad hefyd yn darparu dechrau addas i ddathliadau’r Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol, a fydd yn gweld rhaglen o ddigwyddiadau yn annog pobl i “Ymgolli” a gwneud darllen yn rhan reolaidd o’u bywydau.

Bydd staff y llyfrgell yn parhau i ddarparu mynediad i wasanaethau’r cyngor drwy’r Siop Un Alwad, gan gefnogi preswylwyr gyda thaliadau treth gyngor, trwyddedau parcio, tanysgrifiadau biniau gwyrdd, ceisiadau Bathodyn Glas a mwy. Bydd ystod o sefydliadau partneriaeth hefyd yn darparu sesiynau rheolaidd o’r llyfrgell, gan gynnwys Pwyntiau Siarad, clybiau swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio, sesiynau tylino babi a gweithgareddau Dechrau Da mewn partneriaeth â Dechrau’n Deg.

Anogir preswylwyr i ymweld â’r llyfrgell sydd newydd ei hadnewyddu, i archwilio’r cyfleusterau ac i ddarganfod mwy am yr ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd ar gael. Mae manylion am Lyfrgell a Siop Un Alwad Corwen, ar ein gwefan.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw