Plannu coed yn dod â bywyd newydd i ddau fan awyr agored yn y Rhyl
Mae gwaith wedi digwydd i wella dau ardal awyr agored gyhoeddus yn y Rhyl er budd trigolion lleol a natur

Mae gwaith wedi digwydd i wella dau ardal awyr agored gyhoeddus yn y Rhyl er budd trigolion lleol a natur.
Mae tîm Newid Hinsawdd, Gwasanaethau Cefn Gwlad a Gwasabnaethau Stryd Sir Ddinbych wedi dod ynghyd i blannu dros 600 o goed mewn mannau gwyrdd mynediad cyhoeddus yn Walnut Crescent yn Ystâd Park View a'r ffordd i Barc Violet Grove yn Ystâd Trellewelyn.
Mae’r gwaith wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin 2025/26 sydd wedi rhoi £278,600 i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer gwaith adfer natur ledled y sir.
Ymysg y gwaith plannu bydd cymysgedd o wrychoedd a choed safonol yn datblygu yn y ddau safle i ddarparu cynefinoedd newydd i gefnogi natur leol.
Mae'r rhywogaethau a blannwyd yn cynnwys coed bedw arian, celyn, coed cyll, aethnen, masarn bach, criafolen, bedwen gyffredin, rhosod gwyllt, gwifwrnwydden y gors, draenen wen, derwen mes di-goes, ceirios gwyllt ac oestrwydden.
Plannwyd saith coeden o faint safonol a chrëwyd gwrych yn Walnut Crescent. Bydd blychau nythu ar gyfer adar, ystlumod a draenogod hefyd yn cael eu gosod ar y safle hwn.
Plannwyd gwrych hirach yn Violet Grove ochr yn ochr â 10 coeden ffrwythau, ynghyd â saith coeden collddail. Bydd ardal ar y safle hefyd yn cael ei rheoli fel dôl blodau gwyllt i gynnal peillwyr fel gloÿnnod byw a gwenyn.
Bydd y coed ychwanegol yn y ddwy ardal yn dod â buddion i'r gymuned leol. Yn ogystal â dal carbon, a darparu cynefin i bryfed a bwyd i adar ac ystlumod, gall y coed hidlo llygryddion niweidiol o'r awyr, gweithredu fel cyflyrwyr aer naturiol, gan leihau tymereddau trefol, a darparu ardaloedd o gysgod.
Mae’r coed ffrwythau oll yn rhywogaethau lleol Cymreig, fel afal Rhyl Beauty ac eirin Dinbych, i helpu i warchod y rhywogaethau lleol a phrin yma yn eu tarddle, er budd ein diwylliant a’n bioamrywiaeth. Ac, ymhen amser, bydd y coed hyn yn darparu byrbrydau maethlon am ddim i drigolion.
Gall gwreiddiau a dail coed hefyd ddal gwlybaniaeth glaw trwm, gan leihau faint o ddŵr sy'n mynd i mewn i systemau draenio a helpu i atal llifogydd lleol.
Mae cerdded ymhlith coed hefyd wedi'i brofi i fod yn fuddiol i iechyd a lles pobl.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn ddiolchgar am y gwaith partneriaeth rhwng y gwahanol wasanaethau sydd wedi helpu i roi bywyd newydd i’r ddwy ardal awyr agored mynediad cyhoeddus yn y Rhyl. Bydd y gwaith hwn yn rhoi hwb mawr i natur ar yr ystadau hyn a hefyd yn darparu budd gwirioneddol i les y cymunedau yn yr ardal.”