Prawf Traffig i Ddechrau ym Mhrestatyn

Prawf Traffig i Ddechrau ym Mhrestatyn

Diben y prawf fydd lleddfu tagfeydd yn yr ardal, wrth i’r Cyngor geisio gwella ac adfywio’r dref. 

O 13 Ebrill ymlaen, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn dechrau prawf i gael system ddwyffordd ar Ffordd y Bont ym Mhrestatyn, er mwyn gweld a fydd hynny’n lleddfu tagfeydd yn yr ardal. 

Gofynnwyd am y prawf yn dilyn adborth y bu i’r Cyngor ei dderbyn mewn ymgynghoriadau diweddar â’r cyhoedd, fel rhan o’r prosiect gwella’r parth cyhoeddus ar Stryd Fawr Prestatyn. 

Yn 2025, cadarnhaodd Llywodraeth y DU eu bwriad i ddarparu bron i £20 miliwn o gyllid grant ar gyfer saith prosiect cyfalaf i wella balchder bro a’r amgylchedd naturiol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.

Mae’r cyllid, sef y Gronfa Adfywio Leol, wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yn Nyffryn Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Cynhelir y prawf am gyfnod o dri mis, o leiaf, a gallai bara hyd at 18 mis o dan y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro sydd yn ei le gan y Cyngor. 

O dan y drefn newydd, bydd traffig yn gallu troi i’r chwith oddi ar Ffordd y Bont a mynd i lawr tuag at y fân gylchfan a Pharc Prestatyn. 

Ni fydd unrhyw newid i’r llif traffig lawr tuag at ran isaf y stryd fawr, ond ni chaniateir i gerbydau droi i’r dde i Ffordd y Bont oddi ar Ffordd Penisardre, gan y bydd disgwyl iddynt barhau ar hyd Ffordd Penisardre a throi i’r chwith i lawr y stryd fawr, fel ag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn casglu adborth gan yrwyr a cherddwyr trwy gydol cyfnod y prawf, ac os y bydd yn llwyddiannus, bydd Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cael ei roi ar waith, a bydd y drefn newydd yn parhau. 

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Hoffem ddiolch i breswylwyr, ymwelwyr a busnesau am eu cydweithrediad ac ymgysylltiad trwy gydol y prawf rheoli traffig blaenorol ar Stryd Fawr Prestatyn.

“O ganlyniad i’r prawf, rydym wedi derbyn adborth gwerthfawr, a ddefnyddir wrth ddatblygu’r prawf traffig newydd hwn, a fydd yn dechrau ar 13 Ebrill ar Ffordd y Bont.

“Roedd nifer o’r pryderon a godwyd yn ymwneud â’r tagfeydd cerbydau sydd ar y ffordd ar hyn o bryd, a gobeithiwn y bydd y prawf hwn yn lleddfu rhywfaint ar hynny. 

“Mae ein ffocws yn parhau ar ddarparu cynllun sy’n gwella hygyrchedd, lleihau tagfeydd a chefnogi adfywiad hirdymor o ganol y dref”. 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw