NEWYDDION

Gofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych yn cael mynediad am ddim i safleoedd treftadaeth

Mae gofalwyr maeth sy’n penderfynu maethu drwy’r awdurdod lleol bellach yn cael mwynhau mynediad am ddim i Garchar Rhuthun, Nantclwyd y Dre a Phlas Newydd fel rhan o becyn maethu Sir Ddinbych.

Llun: 

Mae’r ychwanegiad newydd hwn i’r pecyn maethu yn cael ei gyflwyno fel rhan o fenter drawsnewid y Cyngor sydd â’r nod o gynyddu nifer y gofalwyr sy’n maethu drwy Maethu Cymru Sir Ddinbych, er mwyn i blant allu derbyn gofal yn agosach at eu cymunedau a chyflawni gwell canlyniadau. 

Mae gofalwyr maeth sy’n maethu gyda’r awdurdod lleol yn cael cynnig pecyn eang a chynhwysfawr o bolisïau cynorthwyol, a bydd pob un ohonynt wedi cael eu cyflwyno erbyn mis Ebrill. 

Mae Cyngor Sir Ddinbych hefyd wedi cymeradwyo polisi ystyriol o faethu ar gyfer staff sy’n maethu gyda’r awdurdod lleol, sy’n gymwys i gael 5 diwrnod ychwanegol o absenoldeb arbennig.

Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant:

“Mae maethu’n brofiad trawsnewidiol gwerth chweil sy’n cael effaith enfawr ar fywyd y plentyn neu’r person ifanc yn ogystal â’r gofalwr maeth ei hun.

Mae ymweld â’n safleoedd treftadaeth yn ddiwrnod allan gwych i’r teulu cyfan, a’n gobaith yw y bydd gofalwyr maeth hen a newydd yn manteisio ar y cynnig arbennig hwn.”

Meddai Carly Davies, Swyddog Arweiniol Gwasanaeth Treftadaeth Cyngor Sir Ddinbych:

“Mae’n bleser mawr gennym ni gynnig mynediad am ddim i ofalwyr maeth fel rhan o ymrwymiad Cyngor Sir Ddinbych i gefnogi teuluoedd maeth. Rydym yn arbennig o falch o’r ffaith bod ein tri atyniad treftadaeth yn fannau croesawgar ac ystyriol o deuluoedd.

P’un a fyddwch chi’n dewis dilyn llwybr ‘Dianc o’r Carchar’ teuluol Carchar Rhuthun, archwilio bron i 600 mlynedd o hanes yn Nantclwyd y Dre drwy weithgareddau ymarferol fel gwisgo i fyny a llenwi Pasbort Teithio Drwy Amser, neu ddysgu am hanes hynod ddiddorol Merched Llangollen ym Mhlas Newydd a mwynhau picnic yn y gerddi, mae gennym ni rywbeth i’w gynnig i deuluoedd o bob oedran ei fwynhau gyda’i gilydd.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, ewch i:

https://sirddinbych.maethucymru.llyw.cymru/

Byddwch yn ailgylchwyr g-ŵy-ch y Pasg hwn

Fe anogir preswylwyr i fod yn ŵy-ch y Pasg hwn drwy gofio ailgylchu dros y gwyliau.

Fe anogir preswylwyr i fod yn ŵy-ch y Pasg hwn drwy gofio ailgylchu dros y gwyliau.

Fe fydd criwiau Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych yn casglu fel yr arfer dros wyliau’r Pasg. 

Gan ei bod hi’n gyfnod o ddathlu drwy gyfnewid nifer o anrhegion a chardiau, mae yna ffyrdd y gall preswylwyr helpu i wneud gwahaniaeth i ailgylchu dros y cyfnod yma.

Mae nifer o wyau Pasg yn dod â llai o ddeunydd pecynnu erbyn hyn, neu maen nhw wedi’u pecynnu mewn dull sy’n fwy addas i’w hailgylchu, a bydd hyn yn helpu â chasgliadau. 

Wrth i chi fwynhau’r wyau siocled dros y Pasg, cofiwch wasgu’r blychau cardfwrdd i’w hailgylchu a’u rhoi yn eich bag glas a gwiriwch a oes modd ailgylchu rhai o’r hambyrddau plastig a ddaw gyda nhw. Drwy ailgylchu blychau eich wyau Pasg, rydych chi’n cefnogi ffordd gynaliadwy o helpu i gynhyrchu eitemau eraill megis blychau grawnfwyd ac wyau ffres, a hyd yn oed pecynnau ar gyfer parseli allai ddod yn ôl ar stepen eich drws.

Cofiwch, pan fyddwch chi wedi agor eich wyau Pasg, fe ellir ailgylchu mwyafrif y ffoil. Gwasgwch y ffoil yn belen a’i roi yn y cynhwysydd cywir ar gyfer ffoil. Os bydd yn ailagor ar ôl ei wasgu’n belen mae’r deunydd wedi’i lamineiddio ac fe ddylid ei roi yn y bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Os ydych chi wedi derbyn cardiau Pasg eleni, fe ellir ailgylchu’r rhain gartref ynghyd â’r amlenni, cyn belled nad oes yna gliter neu ffoil arnynt, ac os oes, mae angen eu rhoi yn y bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Wrth i nifer o deuluoedd eistedd i lawr am brydau bwyd dros y Pasg, mae hi’n syniad da edrych sut i ailddefnyddio unrhyw fwyd sydd dros ben i wneud llawer mwy o ddanteithion blasus dros y gwyliau. Ar gyfer y gwastraff bwyd na allwch eu bwyta megis plisgyn ŵy, cofiwch ddefnyddio eich bin gwastraff bwyd.

Os ydych chi’n bwriadu mynd ati i roi trefn ar eich gardd y Pasg hwn cofiwch y gellir ailgylchu unrhyw wastraff gardd mewn i gompost defnyddiol drwy’r gwasanaeth gwastraff gardd, ond cofiwch gofrestru i fod yn gymwys am gasgliadau rhwng mis Ebrill 2026 a diwedd mis Mawrth 2027.

Meddai Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r  Amgylchedd: “Fe all y Pasg arwain at gynnydd mewn eitemau gartref y gellir eu hailgylchu. Rydym eisiau annog preswylwyr i barhau â’u cefnogaeth i wneud gwahaniaeth i amgylchedd Sir Ddinbych drwy ddewis yr opsiynau cywir i ailgylchu’r eitemau yma ac fe hoffwn i ddiolch iddynt am eu hymdrechion gwych.”

Os nad ydych chi’n siŵr beth sy’n mynd i ble, gallwch wirio canllaw ailgylchu A i Y ar y wefan.

 

Partneriaeth Gogledd Cymru yn sicrhau cyllid i fynd i'r afael â llygredd golau artiffisial

Bydd y cyllid hwn yn mynd yn bell i amddiffyn ein rhywogaethau.

Mae partneriaeth ledled Gogledd Cymru wedi llwyddo i sicrhau cyllid i fynd i'r afael ag effeithiau ecolegol golau artiffisial ar draws tirweddau dynodedig Gogledd Cymru.

Ar ran partneriaeth Prosiect NOS, bu Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn llwyddiannus yn eu cais o'r enw Rhwydweithiau’r Nos, a gyflwynir gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Rhaglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. 

Dyfarnwyd £247,225 i'r bartneriaeth, sy'n cynnwys Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Tirwedd Genedlaethol Ynys Môn, Tirwedd Genedlaethol Llŷn ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, i fynd i'r afael â phroblemau sy’n cael eu hachosi gan Olau Artiffisial yn y Nos sy'n newid ymddygiad rhywogaethau ac yn bygwth bioamrywiaeth.

Mae tywyllwch yn rhan hanfodol o'n treftadaeth naturiol ac yn hanfodol ar gyfer dyfodol dros 30% o fertebriaid a 60% o infertebratau, gan fod y rhan fwyaf o ffurfiau bywyd yn cael eu llywodraethu gan rythmau biolegol sy'n cael eu rheoleiddio gan olau.

Fodd bynnag, mae Golau Artiffisial yn y Nos yn tarfu ar y cylchoedd hyn. Bydd prosiect Rhwydweithiau’r Nos yn nodi parthau llygredd allweddol trwy fapio golau, cynnal arolygon ecolegol a chydweithio â thirfeddianwyr, cymunedau ac asiantaethau i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gweithgareddau ôl-osod a chysgodi yn y dyfodol i leihau’r ymyrraeth.

Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi’r gwaith o greu dwy swydd newydd. Bydd un Swyddog Rhwydweithiau Ecolegol yn y Nos yn cynorthwyo datblygiad y cynlluniau hyn i amddiffyn y tywyllwch naturiol sy'n hanfodol ar gyfer iechyd yr ecosystem, ac un Swyddog Ymgysylltu â'r Gynulleidfa sydd â'r dasg o godi ymwybyddiaeth a chefnogi newid ymddygiad trwy ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych:

“Rydym ni wrth ein bodd ein bod ni wedi sicrhau’r cyllid hwn i fynd i’r afael â’r problemau sydd ynghlwm â llygredd golau. Ni fyddai sicrhau'r cyllid hwn wedi bod yn bosibl heb waith caled a chydweithrediad partneriaeth Prosiect NOS sy'n cynnwys y tirweddau dynodedig ledled Gogledd Cymru.

“Bydd y cyllid hwn yn mynd yn bell i amddiffyn ein rhywogaethau, drwy gynnal profion ac arolygon hanfodol a chodi ymwybyddiaeth o’r effeithiau posibl y gall Golau Artiffisial yn y Nos eu cael.”

Gwasanaeth Ceidwaid Chwarae Sir Ddinbych yn rhyddhau sesiynau ‘Beth am Chwarae Allan’ dros wyliau’r Pasg

Mae gwasanaeth Ceidwaid Chwarae Sir Ddinbych wedi rhyddhau eu sesiynau ‘Beth am Chwarae Allan’ ar gyfer gwyliau’r Pasg.

Mae’r sesiynau a gynhelir yn rhad ac am ddim gan Wasanaeth Ceidwaid Chwarae Sir Ddinbych yn rhoi cyfleoedd chwarae mynediad agored i blant yn eu cymunedau lleol.

Bydd sesiynau dros wyliau’r Pasg ar gael yng Nghorwen, Dinbych, Dyserth, Llangollen, Gallt Melyd, Prestatyn, Rhuddlan, Y Rhyl, Rhuthun a Llanelwy.

Bydd angen i rieni neu warcheidwaid plant chwe blwydd oed a hŷn gofrestru eu plant ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae cyn y gallant fynd i’r sesiynau. Nid oes angen cofrestru plant dan chwech oed.

Mae’r sesiynau ‘Beth am Chwarae Allan’ wedi’u llunio mewn modd sy’n galluogi plant i ddewis beth yr hoffent ei wneud neu pa offer i’w defnyddio. Mae’r holl sesiynau’n gwbl gynhwysol a gellir rhoi gwybod am unrhyw anghenion wrth gofrestru’ch plentyn ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae.

Meddai Dawn Anderson, Rheolwr Gofal Plant a Datblygu Chwarae Sir Ddinbych:

“Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi ein hamserlen ar gyfer y sesiynau ‘Beth am Chwarae Allan’ dros wyliau’r Pasg.

Mae’r sesiynau hyn yn rhad ac am ddim ac ar agor i blant hyd at 13 oed. Bydd 15 o sesiynau chwarae yn cael eu cynnig dros wyliau’r Pasg, pob un mewn gwahanol rannau o’r sir.

Cofrestrwch os oes angen a dewch draw i fwynhau hwyl y Pasg!”

Mwy o wybodaeth: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/gwasanaeth-ceidwad-chwarae/gwasanaeth-ceidwad-chwarae.aspx

Y Cabinet yn cymeradwyo ffioedd Cartrefi Gofal ar gyfer 2026/27

Derbyniodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych yr argymhellion ynghylch ffioedd cartrefi gofal ar gyfer 2026/27 yng nghyfarfod y Cabinet heddiw (24 Mawrth).

Bydd y Cyngor yn gwario oddeutu £16 miliwn ar ofal preswyl a nyrsio i bobl hŷn yn ystod 2026/27, gan warchod y bobl mwyaf diamddiffyn yn y sir.

Bydd y ffioedd ar gyfer 2026/27 yn parhau i ariannu 51 o gartrefi gofal, sy’n cyfateb i leoli dros 355 o bobl ledled y sir.

Mae’r broses gosod ffioedd wedi cael ei hysbysu gan Care Cubed, sef methodoleg sy’n cael ei yrru gan ddata i ddarparu dull cyson sy’n seiliedig ar dystiolaeth i osod ffioedd. Mae’r dull hwn yn caniatáu i’r Cyngor ddeall sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario gan ddarparwyr i sicrhau bod ffioedd gofal yn deg, cyfiawn ac yn darparu’r gwerth gorau am arian.

Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd:

“Mae’n bwysig iawn bod y broses gosod ffioedd ar gyfer cartrefi gofal yn aros yn dryloyw a chyson. Mae’r argymhellion sydd wedi’u rhoi mewn lle yn sicrhau dull teg a chytbwys ar gyfer y broses gosod ffioedd.

Mae gofal cymdeithasol yn cyfrif am bron i draean o gyllideb y Cyngor, ac wrth i lefelau’r galw barhau i godi, mae’n bwysig bod y broses gosod ffioedd yn aros yn dryloyw ac yn darparu gwerth am arian i ddarparwyr a phreswylwyr.

Trwy weithio gyda chartrefi gofal yn y sir, gallwn barhau i sicrhau bod preswylwyr yn cael cefnogaeth a gofal o ansawdd."

Y Cyngor yn gosod Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol newydd

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo ei Bolisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol heddiw, sy’n amlinellu proses glir a chyson ar gyfer trosglwyddo adeiladau a thir dros ben sy’n eiddo i’r Cyngor i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, sefydliadau trydydd sector a grwpiau nid-er-elw cymunedol gan adeiladu ar brofiad y sefydliad ei hun gyda Throsglwyddo Asedau Cymunedol a chanllawiau arfer gorau’r sector.

Nod y polisi hwn yw cefnogi gwasanaethau lleol cryfach a mwy cynaliadwy trwy alluogi cymunedau i gymryd asedau gwerthfawr ymlaen fel hen adeiladau dinesig, caeau chwaraeon a chyfleusterau eraill. Mae’n nodi tri llwybr trosglwyddo, Trwydded i Feddiannu tymor byr a Throsglwyddo Lesddaliad a Throsglwyddo Rhydd-ddaliad hirdymor, ynghyd â phroses cam wrth gam i ymgeiswyr.

Mae’r dull yn cefnogi nifer o amcanion lles y Cynllun Corfforaethol, gan gynnwys ffyniant economaidd, grymuso cymunedol, a chynaliadwyedd hirdymor.

Dywedodd y Helen Vaughan-Evans, Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau: “Bydd y polisi hwn yn helpu â dealltwriaeth o’r broses trosglwyddo asedau ar gyfer pob parti a bydd yn cefnogi ein gwaith yn well wrth helpu cymunedau lleol Sir Ddinbych i gryfhau ar gyfer ffyniant y dyfodol.”

 

Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn penodi contractwr ar gyfer cynllun mawr newydd Prosiect Archifau Creadigol  

Mae Cyngor Sir y Fflint, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych, wedi penodi Wynne Construction fel y prif gontractwr ar gyfer y Cyd-Brosiect Archifau, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn natblygiad un o gynlluniau pwysicaf Gogledd Ddwyrain Cymru.

Ffurfiwyd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWA) ym mis Ebrill 2020 pan ddaeth Archifau Sir Ddinbych (Rhuthun) a Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint (Penarlâg) ynghyd i gynnig gwasanaeth ar y cyd i’r rhanbarth, gan uno eu casgliadau archifol o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn gofalu am hanes ysgrifenedig a darluniadol unigryw ac amhrisiadwy’r rhanbarth, sy’n dyddio’n ôl dros 900 o flynyddoedd.

Nod y prosiect hwn yw sefydlu gwasanaeth archif cryfach, mwy gwydn a chynaliadwy i’r rhanbarth, gyda adeilad archif newydd ar dir cyfagos i Theatr Clwyd, i gartrefu’r casgliadau a’r staff ac i ddarparu rhaglen ymgysylltu gynhwysfawr i ddenu cynulleidfa ehangach.

Mae’r prosiect, o’r enw ‘Archifau Creadigol’, wedi’i alluogi gan grant datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ynghyd â chyfraniadau ariannol gan awdurdodau lleol Sir y Fflint a Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru. Mae’r cyllid yn cefnogi cam cychwynnol y prosiect, gan alluogi dyluniadau pensaernïol manwl, cynllunio busnes a gweithgareddau cyn cais ail rownd am gyllid yn 2026 a chaniatâd cynllunio. Os bydd hyn yn llwyddiannus, disgwylir i waith adeiladu ar y ganolfan archif newydd ddechrau ddiwedd gwanwyn/haf 2027 a bod yn barod i agor yn ystod hydref 2028.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae hwn yn gam mawr ymlaen i’r prosiect ac i’r gymuned ehangach. Mae Wynne Construction yn dod â hanes cryf o gyflawni datblygiadau o ansawdd uchel, ac rydym yn hyderus y byddant yn ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer y prosiect hwn. Bydd y cynllun yn darparu manteision hirdymor i drigolion, busnesau ac ymwelwyr, ac rydym yn falch o symud i’r cam nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet dros Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:

“Mae Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn gyfoethog o ran treftadaeth. Rydym wrth ein bodd bod y penodiad hwn wedi’i wneud fel y gallwn ddatblygu’r prosiect ymhellach, a fydd yn sicrhau y caiff ein hanes bendigedig ei gadw ar gyfer cenedlaethau i ddod ac yn rhoi cyfle i bobl leol ac ymwelwyr archwilio a darganfod y straeon hynod o ddiddorol sydd o fewn y casgliadau.”

Dywedodd Chris Wynne, Cyfarwyddwr Rheoli Wynne Construction:

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi’n penodi i gyflawni’r prosiect trawsnewidiol hwn. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Chynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint i greu datblygiad sy’n cefnogi twf, cynaliadwyedd a lles cymunedol.”

Mae Wynne Construction yn gweithio’n agos gyda’r cyngor, rhanddeiliaid a chymunedau lleol i gwblhau’r dyluniadau a pharatoi cynigion manwl. Cynhelir gweithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori ym mis Mehefin 2026.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.

I unrhyw un sydd am ddysgu mwy am y gwasanaeth y mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn ei gynnig neu am y newyddion diweddaraf ar y prosiect Archifau Creadigol, ewch i’w gwefan nhw sef https://www.agddc.cymru/.

Cynefinoedd newydd yn cefnogi natur y Rhyl

Mae'r grŵp wedi plannu amrywiaeth o rywogaethau sy'n addas i’w tyfu mewn amgylchedd dyfrol.

Mae cynefin newydd yn datblygu i gefnogi natur mewn gwarchodfa yn y Rhyl.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi cwblhau gwaith ar bwll cynefinoedd newydd yng Ngwarchodfa Natur Coetir Cymunedol Parc Bruton yn ddiweddar.

Ariannwyd datblygiad y pwll drwy'r prosiect Natur er budd Iechyd sy'n cael ei ariannu gan gyllid grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Roedd y gwaith ar y safle yn cynnwys cloddio, gosod leinin clai bentonit a chodi ffensys i atal cŵn.

Mae'r ardal wedi'i lleoli ger prosiect pwll a gwblhawyd yn 2024, gan helpu i ymestyn y gefnogaeth i gynefin natur leol ac amrywio golwg y warchodfa a'r coetir ar gyfer y cymunedau cyfagos ac ymwelwyr â'r safle.

Gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr Natur er budd Iechyd, mae ceidwaid cefn gwlad wedi plannu plygiau blodau gwyllt o amgylch glannau'r pwll newydd i ddarparu cymorth mawr i natur leol.

Mae'r grŵp wedi plannu amrywiaeth o rywogaethau sy'n addas i’w tyfu mewn amgylchedd dyfrol.

Mae hyn yn cynnwys llysiau'r sipsiwn, planhigyn gwlyptir a geir fel arfer ar hyd ymylon llynnoedd, pyllau, nentydd, camlesi a chorsydd. Mae llysiau'r sipsiwn yn ffynhonnell hanfodol o neithdar a phaill i wenyn a phryfed peillio eraill.

Plannwyd blodau pengaled hefyd ger y pwll newydd a fydd yn darparu ffynhonnell gyson o neithdar i loÿnnod byw a gwenyn.

Ochr yn ochr â'r pwll presennol, bydd yr ychwanegiad newydd hwn yn helpu madfallod dŵr yng Ngwarchodfa Natur Parc Bruton, yn benodol y madfallod dŵr cribog, a gaiff eu gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981.

Dywedodd Sasha Taylor, Ceidwad Cefn Gwlad:  “Mae’r cynefinoedd dyfrol hyn hefyd yn hanfodol i’r boblogaeth infertebrata yn ogystal ag amrywiaeth o amffibiaid.  Gobeithiwn y bydd y madfallod dŵr cribog o amgylch y safle hwn yn elwa o'r datblygiad, ochr yn ochr â gweision y neidr ac infertebratau eraill sy'n dibynnu ar ddŵr addas am ran o'u cylch bywyd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Mae Coetir Cymunedol Parc Bruton wedi datblygu i fod yn lle gwych i gefnogi bywyd gwyllt a lles trigolion lleol sy’n ymweld â’r safle i gerdded o amgylch y llwybrau niferus.

“Mae’r darn o dir gwych hwn yn y Rhyl yn rhoi cyfle mor arbennig i ni ddiogelu a chynnal ein natur leol i’r gymuned ei mwynhau, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y gall y pwll newydd hwn helpu i gynnal Madfallod Dŵr Cribog wrth symud tua’r dyfodol.”

 

 

Annog preswylwyr i gofrestru am gyfrif Treth Cyngor arlein wrth gyhoeddi biliau newydd

Biliau Treth Cyngor - beth am dalu arlein?

Mae preswylwyr Sir Ddinbych yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer cyfrif Treth Cyngor arlein wrth i filiau blynyddol ddod drwy’r blwch post ledled y sir.

Mae'r gwasanaeth digidol yn cynnig ffordd gyflymach, haws a mwy cyfleus i breswylwyr reoli eu treth cyngor, gydag amrywiaeth o nodweddion wedi'u cynllunio i symleiddio tasgau bob dydd.

Drwy gofrestru, mae preswylwyr yn gallu:

  • gweld eu cyfrifon treth cyngor, gan gynnwys rhandaliadau sydd ar ddod ac unrhyw falans sy'n weddill
  • derbyn biliau di-bapur
  • newid dulliau talu yn ddiogel
  • cael mynediad at filiau cyfredol a blaenorol 24/7
  • ciweddaru manylion personol yn hawdd
  • lledaenu taliadau trwy gynllun talu cyfleus
  • gwneud cais am y gostyngiad person sengl
  • gwirio eu band treth cyngor
  • rheoli eu cyfrif ar unrhyw adeg, o unrhyw ddyfais.

Dywedodd Liz Thomas, Pennaeth Gwasanaeth Cyllid ac Archwilio yn Sir Ddinbych, “Gyda biliau treth cyngor yn cael eu dosbarthu, nawr yw'r amser delfrydol i drigolion symud eu cyfrif arlein. Mae'n gyflymach, yn fwy cyfleus, ac yn cynnig llawer mwy o hyblygrwydd wrth reoli taliadau a diweddaru manylion. Gallwch gofrestru mewn ychydig funudau ar wefan Sir Ddinbych.”

I ble mae eich treth cyngor yn mynd?

Ychwanega Liz Thomas, “Wrth osod cyllideb eleni, rydym wedi gweithio’n galed i gadw cynnydd Treth Cyngor mor isel â phosibl, gan osgoi toriadau tra’n dal i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol y mae pobl yn dibynnu arnynt. Y Treth Cyngor a gymeradwywyd ar gyfer 2026–27 yw 4.76% ar gyfer gwasanaethau’r cyngor, ynghyd â’r 0.46% ychwanegol y mae’n rhaid ei dalu fel ardoll i’r Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, gan roi cyfanswm o 5.22%.”

Sut mae\'r Cyngor yn cael ei ariannuEr bod llawer yn credu bod treth y cyngor yn ariannu holl wasanaethau’r Cyngor, dim ond 26% o gyfanswm gwariant blynyddol y Cyngor yw’r arian a gesglir gan drigolion.

Daw mwyafrif y cyllid o’r grant cynnal refeniw gan Lywodraeth Cymru ac o drethi busnes, sef treth eiddo a delir gan fusnesau i gefnogi gwasanaethau lleol.

Mae’r rhan fwyaf o wariant Treth Cyngor (bron i ddwy ran o dair) yn cael ei wario ar helpu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae hyn yn cynnwys addysgu tua 16,500 o blant a phobl ifanc yn ein hysgolion ac addysg gyda thua 780 o athrawon yn darparu’r addysg hon.

Mae hefyd yn cynnwys darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a digartrefedd i blant ac oedolion i'w helpu i fyw bywydau diogel, iach ac annibynnol. Mae'r gwasanaethau statudol hyn yn ffurfio rhan sylweddol o gyllideb gyffredinol y Cyngor ac yn parhau i fod yn hanfodol wrth gefnogi trigolion ledled y sir.

Mae Liz Thomas yn mynd ymlaen i ddweud, “Mewn hinsawdd ariannol heriol barhaus, mae'n bwysig pwysleisio bod llawer o agweddau ar wariant wedi'u hanelu at y gwasanaethau statudol i gefnogi'r trigolion mwyaf agored i niwed ledled ein sir, ac mae hyn yn gwbl briodol. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau Treth Cyngor Sir Ddinbych ar y wefan.

Os ydych angen help, mae'r llinellau ffôn Treth Cyngor ar agor rhwng 9am a 1pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 01824 706 000 neu mae cyfleuster sgwrs fyw ar gael o 9am tan 5pm (4.30pm ar ddydd Gwener) drwy'r wefan.

Gwaith gwella yn mynd rhagddo’n dda ym Mharc Gwledig Loggerheads

Mae gwaith gwella ym Mharc Gwledig Loggerheads yn mynd rhagddo'n dda.

Mae gwaith gwella ym Mharc Gwledig Loggerheads yn mynd rhagddo'n dda, gyda gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud ar draws y safle, gan gynnwys y ganolfan ymwelwyr, adeilad y caffi, mannau eistedd a thoiledau cyhoeddus, gan adeiladu ar y gwaith lliniaru llifogydd a wnaed y gaeaf diwethaf.

Dechreuodd y gwaith gwella hwn ym mis Awst gyda’r nod o gynorthwyo i reoli pwysau sy'n gysylltiedig â chynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac ymateb i’w disgwyliadau cynyddol yn un o'r safleoedd prysuraf a reolir gan Gyngor Sir Dinbych ar gyfer ymwelwyr.

Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth unigryw a lles Rhuthun a’i a chymunedau gwledig.

Mae’r cyllid hwn wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus hyn ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill. 

Ochr yn ochr â'r gwaith gwella adeiladau, mae paneli solar a photiau draenio cynaliadwy wedi'u gosod ar y prif adeilad, gan gefnogi ymrwymiad y parc i gynaliadwyedd a helpu i baratoi safle ar gyfer y dyfodol sy'n croesawu bron i 300,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae gwaith i uwchraddio'r toiledau cyhoeddus wedi'i gwblhau ac mae'r cyfleusterau bellach yn ôl ar agor i'r cyhoedd, tra bo delweddau newydd o bob cwr o'r parc gwledig wedi’u gosod yn y mannau sydd newydd eu hadnewyddu, gan greu amgylchedd ffres a chroesawgar i ymwelwyr.

Ar ôl hysbysebu safle’r caffi a chynnal proses gyfweld ar gyfer ymgeiswyr posibl, gallwn gyhoeddi ein bod yn cydweithio’n agos â’r cynhyrchydd lleol Chilly Cow a fydd yn ymgymryd â thenantiaeth y caffi ar ei newydd wedd, yn amodol ar gwblhau holl drefniadau’r brydles.

Disgwylir i'r gwaith, sy'n cael ei wneud gan gontractwyr lleol Park City (Llanelwy) ac a ddyluniwyd gan TACP (Wrecsam), gael ei gwblhau erbyn diwedd y gwanwyn. 

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’n galonogol clywed bod y gwaith gwella yn mynd rhagddo’n dda yn Loggerheads, rydym wedi gweld cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads dros y blynyddoedd diweddar a bydd prosiectau fel rhain, pan fyddan nhw wedi’u cwblhau, yn helpu i ddiogelu’r parc ar gyfer y dyfodol a bodloni disgwyliadau cynyddol ymwelwyr.

“Tra bod y gwaith yn parhau, bydd Parc Gwledig Loggerheads yn parhau ar agor i’r cyhoedd drwy gydol gwyliau’r Pasg.

“Mae’r safleoedd hyn yn ardaloedd Tirwedd Cenedlaethol poblogaidd, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynnal a chadw a datblygu safleoedd fel y rhain wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy poblogaidd i sicrhau bod modd i bawb sy’n ymweld â nhw barhau i’w mwynhau.”

Mae cynlluniau ar gyfer gwaith gwella Loggerheads i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.

Ffioedd Cartrefi Gofal ar gyfer 2026/27 i’w drafod yn Cabinet

Bydd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych yn trafod yr argymhellion ffioedd cartrefi gofal a argymhellir yr wythnos nesaf mewn cyfarfod Cabinet yn Neuadd y Sir, Rhuthun.

Bydd y Cyngor yn gwario tua £16 miliwn ar ofal preswyl a nyrsio i bobl hŷn yn ystod 2026/27, gan amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn y sir.

Os cânt eu cymeradwyo, bydd y ffioedd a argymhellir ar gyfer 2026/27 yn parhau i ariannu dros 355 o leoliadau ar draws 51 o gartrefi gofal, buddsoddiad sy'n cael ei lywio gan Care Cubed.

Mae Care Cubed yn fethodoleg o osod ffioedd sy’n gredadwy, yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth, a sy’n gyson. Mae'r dull hwn yn caniatáu i'r Cyngor ddeall sut mae darparwyr yn gwario arian cyhoeddus i sicrhau bod ffioedd gofal yn deg, yn gyfartal ac yn darparu'r gwerth gorau am arian.

Gyda gofal cymdeithasol yn cyfrif am bron i draean o gyllideb y Cyngor - a'r galw yn parhau i gynyddu - mae'n hanfodol bod y broses o osod ffioedd yn parhau i fod yn dryloyw ac yn darparu gwerth am arian i drigolion a darparwyr.

Mae'r Cyngor eisoes wedi ymgynghori â darparwyr ac wedi ystyried eu hadborth yn ofalus.

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae cefnogi trigolion sy’n dibynnu ar ofal cymdeithasol yn un o gyfrifoldebau pwysicaf y Cyngor, ac mae gofal cymunedol yn parhau i gyfrif am y gyfran fwyaf o’n cyllideb gofal cymdeithasol i oedolion.

Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod trigolion yn derbyn y gofal a chefnogaeth safonol  y maent ei angen, gan osod ffioedd mewn ffordd sy’n deg, yn gynaliadwy ac yn dryloyw i ddarparwyr a threthdalwyr lleol.

Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae darparwyr gofal yn ei chwarae wrth gefnogi ein cymunedau, ac mae’r Cyngor yn parhau i weithio’n agos gyda nhw i sicrhau bod trigolion yn derbyn gofal o ansawdd uchel nawr, ac yn y dyfodol.”

Dweud eich dweud gyda'n arolwg i siapio dyfodol Sir Ddinbych

Mae trigolion o bob oedran yn cael eu hatgoffa i ddweud eu dweud yn yr arolwg “Dewch i Siarad: Byw yn Sir Ddinbych”.

Mae trigolion o bob oedran yn cael eu hatgoffa i ddweud eu dweud yn yr arolwg “Dewch i Siarad: Byw yn Sir Ddinbych”.

Bwriad yr arolwg gan Gyngor Sir Ddinbych yw casglu barn a safbwyntiau pobl ynglŷn â bywydau pobl o bob oed yn eu cymunedau lleol a’r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio.

Mae’n rhoi cyfle i bobl rannu’r hyn sy’n bwysicaf iddynt yn eu bröydd.

Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cydraddoldeb, Polisi a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Os nad ydych wedi ymateb i’r arolwg eto, gwnewch hynny da chi gan fod hwn yn gyfle go iawn i drigolion hen ac ifanc wneud gwahaniaeth i’w hardaloedd lleol. Hoffem glywed gan gynifer o bobl ag sy’n bosibl i’n helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei wella wrth symud ymlaen.

“Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, y mwyaf manwl fydd y darlun a gawn ni o beth sy’n bwysig i gymunedau yn y sir a sut y gallwn ddatblygu gwasanaethau i’r dyfodol i’n holl drigolion yn Sir Ddinbych.

Anogir pobl i gymryd rhan yn yr arolwg a’i rannu â theulu, ffrindiau a chymdogion i sicrhau ein bod yn clywed cymaint o leisiau â phosib.

Mae’r arolwg ar gael i bawb sy’n byw yn Sir Ddinbych ac mae modd ei gwblhau ar-lein yma

Gellir cael copi ar bapur hefyd o unrhyw lyfrgell yn y sir.

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. A fyddech chi cystal ag ymateb erbyn 31/03/2026.

Oeddech chi'n gwybod bod ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych a bod uchafbwyntiau'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni i'w gweld yma.

 

Prawf Traffig i Ddechrau ym Mhrestatyn

Prawf Traffig i Ddechrau ym Mhrestatyn

Diben y prawf fydd lleddfu tagfeydd yn yr ardal, wrth i’r Cyngor geisio gwella ac adfywio’r dref. 

O 13 Ebrill ymlaen, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn dechrau prawf i gael system ddwyffordd ar Ffordd y Bont ym Mhrestatyn, er mwyn gweld a fydd hynny’n lleddfu tagfeydd yn yr ardal. 

Gofynnwyd am y prawf yn dilyn adborth y bu i’r Cyngor ei dderbyn mewn ymgynghoriadau diweddar â’r cyhoedd, fel rhan o’r prosiect gwella’r parth cyhoeddus ar Stryd Fawr Prestatyn. 

Yn 2025, cadarnhaodd Llywodraeth y DU eu bwriad i ddarparu bron i £20 miliwn o gyllid grant ar gyfer saith prosiect cyfalaf i wella balchder bro a’r amgylchedd naturiol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.

Mae’r cyllid, sef y Gronfa Adfywio Leol, wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yn Nyffryn Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Cynhelir y prawf am gyfnod o dri mis, o leiaf, a gallai bara hyd at 18 mis o dan y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro sydd yn ei le gan y Cyngor. 

O dan y drefn newydd, bydd traffig yn gallu troi i’r chwith oddi ar Ffordd y Bont a mynd i lawr tuag at y fân gylchfan a Pharc Prestatyn. 

Ni fydd unrhyw newid i’r llif traffig lawr tuag at ran isaf y stryd fawr, ond ni chaniateir i gerbydau droi i’r dde i Ffordd y Bont oddi ar Ffordd Penisardre, gan y bydd disgwyl iddynt barhau ar hyd Ffordd Penisardre a throi i’r chwith i lawr y stryd fawr, fel ag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn casglu adborth gan yrwyr a cherddwyr trwy gydol cyfnod y prawf, ac os y bydd yn llwyddiannus, bydd Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cael ei roi ar waith, a bydd y drefn newydd yn parhau. 

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Hoffem ddiolch i breswylwyr, ymwelwyr a busnesau am eu cydweithrediad ac ymgysylltiad trwy gydol y prawf rheoli traffig blaenorol ar Stryd Fawr Prestatyn.

“O ganlyniad i’r prawf, rydym wedi derbyn adborth gwerthfawr, a ddefnyddir wrth ddatblygu’r prawf traffig newydd hwn, a fydd yn dechrau ar 13 Ebrill ar Ffordd y Bont.

“Roedd nifer o’r pryderon a godwyd yn ymwneud â’r tagfeydd cerbydau sydd ar y ffordd ar hyn o bryd, a gobeithiwn y bydd y prawf hwn yn lleddfu rhywfaint ar hynny. 

“Mae ein ffocws yn parhau ar ddarparu cynllun sy’n gwella hygyrchedd, lleihau tagfeydd a chefnogi adfywiad hirdymor o ganol y dref”. 

Y Cyngor yn mynd i’r afael â fandaliaeth ar safleoedd yn y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi condemnio gweithredoedd o fandaliaeth yn ddiweddar ar ddau safle  cyhoeddus yn y Rhyl. 

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi condemnio gweithredoedd o fandaliaeth yn ddiweddar ar ddau safle  cyhoeddus yn y Rhyl. 

Yn ddiweddar darganfu swyddogion y Cyngor ddifrod i offer campfa lles a osodwyd yn y Parc Drifft. 

Agorwyd ardal chwarae newydd y Parc Drifft ym mis Medi’r llynedd.  Adeiladwyd yr ardal gyda hygyrchedd a chynwysoldeb mewn golwg, ac mae’n cynnwys cylchfan gynhwysol i ddefnyddwyr cadair olwyn, ystod o baneli chwarae cynhwysol ar thema forwrol, si-so ar thema’r môr a llithren fawr ar thema llong fôr-ladron gyda grisiau hygyrch.  Mae mwy na 55 o nodweddion chwarae yn y parc newydd ac mae lle i 170 o ddefnyddwyr.

Roedd offer campfa ac ymarfer corff awyr agored i oedolion wedi’u gosod hefyd, drws nesaf i’r parc a oedd hefyd wedi’u hymgorffori fel rhan o’r prosiect gwaith amddiffynfeydd môr mwy, ynghyd ag Ardal Chwarae newydd y Parc Drifft.

Ar ôl archwilio yn dilyn sawl adroddiad am fandaliaeth, canfu swyddogion y gwasanaeth bod darn o’r offer campfa ar y safle wedi’i ddifrodi a’i dynnu.  Gwneir pob ymdrech i ddisodli’r offer a ddifrodwyd cyn gwyliau’r Pasg.

Canfuwyd gweithred o fandaliaeth y tu cefn i dafarn Min yr Haul hefyd yn ddiweddar, a oedd yn golygu bod angen disodli rhwystr mynediad er mai dim ond yn ddiweddar y gosodwyd y rhwystr.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae’r difrod bwriadol i’r offer yn y Parc Drifft yn annerbyniol ac yn hynod siomedig, yn enwedig pan ddarperir y cyfleusterau hyn er budd iechyd y preswylwyr lleol ac ymwelwyr y Rhyl.

“Mae gweithredoedd fel hyn yn difetha ased cymunedol gwerthfawr, ond hefyd yn rhoi pwysau ariannol di-angen ar y Cyngor yn sgil costau trwsio offer a ddifrodwyd, arian y gellid ei ddefnyddio i wella cyfleusterau lleol eraill.

“Rydym yn annog unrhyw un a fu’n dyst i’r fandaliaeth yn y Parc Drifft neu safle Min yr Haul i roi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru.  Mae amddiffyn ein cyfleusterau cymunedol yn gyfrifoldeb a rennir, ac ni fydd fandaliaeth yn cael ei goddef gan y Cyngor.”

 

 

Cwblhau gwaith ar do dwy ystafell ddosbarth fel rhan o brosiect ysgol yn Rhuddlan

Mae’r prosiect estyniad yn Ysgol y Castell yn Rhuddlan wedi gweld cynnydd o ran y gwaith ar do’r ddwy ystafell ddosbarth gyntaf o fewn y prosiect.

Mae’r strwythur bellach yn dal dŵr ar ôl i’r gwaith cerrig a’r to gael ei gwblhau. 

Bydd y drysau a’r ffenestri newydd ar gyfer yr ystafelloedd dosbarth yn cael eu gosod nesaf, ac mae’r gwaith mewnol yn dal i ddod yn ei flaen yn dda. 

Mae’r prosiect ar y trywydd cywir ar gyfer trosglwyddo’r ddwy ystafell ddosbarth gyntaf yn y gwanwyn, yn y gobaith y byddant yn barod i’r disgyblion eu defnyddio.

Yn ystod y prosiect, bydd Ysgol y Castell yn derbyn uwchraddiadau gofod ychwanegol mewn pedwar o'i hystafelloedd dosbarth presennol yn ogystal â gwaith gwella ynni.

Dechreuodd cam cyntaf y prosiect yr haf diwethaf ac mae’r gwaith lleihau ynni pellach wedi'i gynllunio ar gyfer ail gam y gwaith. 

Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar y ddwy ystafell ddosbarth gyntaf ar hyn o bryd, cyn symud i’r set nesaf o’r ystafelloedd dosbarth sydd i gael eu hymestyn. 

Bydd yr estyniadau’n darparu 16 metr sgwâr o ofod ychwanegol i bedair ystafell ddosbarth, gan greu estyniad o 64 metr sgwâr at ddefnydd disgyblion, a byddwn yn gweld cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu ar yr un pryd.

Disgwylir i gam cyntaf y gwaith gael ei gwblhau yn ystod Gaeaf 2026.

Mae cam cyntaf y prosiect wedi cael arian cyfatebol o 65% gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. 

Mae 35% o’r cyllid sy’n weddill wedi dod yn bennaf o gyfraniad datblygwr a ddarparwyd gan ddatblygiad tai Tirionfa yn Rhuddlan.

Meddai Geraint Davies, Pennaeth Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych:

“Rwy’n falch iawn o weld y cynnydd gyda’r prosiect hwn, gan ychwanegu gofod mwy modern i’r disgyblion ei ddefnyddio. 

Mae’r gwaith strwythurol yn dod yn ei flaen yn dda ac rydym yn gobeithio y bydd y ddwy ystafell ddosbarth gyntaf yn barod i’r disgyblion eu defnyddio yn y gwanwyn.”

Cyhoeddi cynlluniau tymor newydd prosiect Adfer Natur

Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal a hybu twf blodau gwyllt yn 2026 drwy brosiect Adfer Bioamrywiaeth a Natur.

Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal a hybu twf blodau gwyllt yn 2026 drwy brosiect Adfer Bioamrywiaeth a Natur.

Sefydlodd Cyngor Sir Ddinbych y Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn 2019 ac mae’n cynnwys tua 70 o erwau o ddolydd blodau gwyllt cynhenid sy’n creu cynefinoedd i warchod a chynnal byd natur yn lleol a hybu lles ein cymunedau ledled y sir.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyfrannu’n ariannol drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Partneriaethau Natur Lleol Cymru.

Yn nhymor 2025, gwelwyd tegeirianau’n tyfu am y tro cyntaf erioed mewn nifer o ddolydd blodau gwyllt ledled y sir.

Yn 2026, mae timau Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Stryd y Cyngor yn dal i hybu datblygiad y dolydd blodau gwyllt y mae’r prosiect eisoes wedi’u sefydlu yn y sir.

Bydd Gweithwyr Adfer Natur arbenigol y Gwasanaethau Stryd yn cynnal a chadw’r dolydd y tymor hwn ac yn mynd ati i wella nifer ddethol ohonynt. Mae’r tîm yn awyddus i weithio ag ysgolion lleol, cymunedau a gwirfoddolwyr ac mae croeso i unrhyw un sy’n dymuno dysgu mwy am y prosiect neu gymryd rhan gysylltu â’r tîm Bioamrywiaeth ar biodiversity@denbighshire.gov.uk.

Mae’r prosiect yn helpu i gyflawni’r ymrwymiadau yng Nghynllun Hinsawdd a Natur y Cyngor a’r ddyletswydd statudol i gydymffurfio ag Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Dyma rai o’r pethau sydd at y gweill y tymor hwn:

  • Torri a chasglu’r gwair yn yr holl ddolydd blodau gwyllt erbyn dechrau gwanwyn 2026. Mae torri a chasglu’r gwair yn tynnu maethynnau o’r ddaear ac yn atal gwair rhag tyfu, sy’n hybu bioamrywiaeth a thwf blodau gwyllt
  • Torri a chasglu gwair ar rai safleoedd yn ystod yr haf os oes angen eu rheoli er mwyn eu sefydlu ac annog blodau gwyllt i dyfu
  • Bwriedir torri a chasglu’r gwair yn yr holl ddolydd blodau gwyllt eto ym mis Awst/Medi 2026
  • Clustnodi mwy o ddolydd i’w gwella yn hydref 2026. Gallai hynny gynnwys plannu hadau, plannu blodau gwyllt, digroeni’r ddaear a/neu blannu cribellau melyn.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae’r prosiect wedi blodeuo ar hyd y blynyddoedd diolch i gefnogaeth gyson y cymunedau lleol, gwirfoddolwyr a’n timau Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Stryd.

“Bydd y gwaith y bwriedir ei wneud yn 2026 yn helpu i sefydlu ein dolydd blodau gwyllt yn gynt drwy dynnu maethynnau ohonynt yn gyson wrth dorri a chasglu’r gwair. Fe welwn ni fwy o liw ac amrywiaeth o flodau yn sgil y gwaith. Bydd tynnu maethynnau o’r pridd yn sicrhau nad yw’r gwair yn tyfu cymaint a bod llai o waith cynnal a chadw i’w wneud.

“Bydd y gwaith hefyd yn ein helpu i greu mwy o gynefinoedd ffrwythlon yn Sir Ddinbych sy’n medru cynnal mwy o beillwyr, fel gwenyn, na chaeau gwair sy’n cael eu torri’n gyson.”

Ychwanegodd: “Yn y Deyrnas Unedig, rydyn ni wedi colli bron i 97 y cant o ddolydd blodau gwyllt ers y 1930au. Mae’r prosiect yn gwbl hanfodol i hybu byd natur yn lleol i adfer ar ôl y fath golled. Wrth i ni weld mwy o flodau gwyllt yn tyfu byddan nhw’n helpu i gynyddu bioamrywiaeth a lliw fel y gall cymunedau fwynhau’r ardal ac er mwyn cefnogi pryfed peillio sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau.

“Mae dolydd blodau gwyllt y sir yn fuddiol i les pobl leol a bywyd gwyllt ac yn bwysicach fyth, i genedlaethau’r dyfodol sef ein pobl ifanc yn Sir Ddinbych.”

Mwy na 350 o breswylwyr yn elwa o weithdai Cynhwysiant Digidol

Mae cannoedd o breswylwyr Sir Ddinbych wedi gwella eu sgiliau digidol trwy brosiect Cynhwysiant Digidol. 

Mae cannoedd o breswylwyr Sir Ddinbych wedi gwella eu sgiliau digidol trwy brosiect Cynhwysiant Digidol. 

Nid yw hyd at 9% o boblogaeth Sir Ddinbych ar-lein, o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 7%. Golyga hyn bod yna ddinasyddion nad oes ganddynt fynediad at, y sgiliau na’r hyder i ddefnyddio technoleg ddigidol, a does gan tua 22% o’r boblogaeth ddim sgiliau mewn o leiaf un o’r 5 maes sgiliau digidol sylfaenol.

Mae’r prosiect Cynhwysiant Digidol, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy Gyngor Sir Ddinbych, a ddarperir gan CWMPAS, wedi gwella hyder digidol, lleihau teimladau ynysig, gwella cyflogadwyedd a gwytnwch economaidd drwy eu rhaglen gefnogaeth wedi’i theilwra.  

Ers i’r prosiect gael ei gyflwyno ar draws y sir, mae wedi cefnogi mwy na 350 o unigolion yn Sir Ddinbych drwy ddarparu hyfforddiant sgiliau bywyd a digidol hanfodol, gyda 110 o gyfranogwyr yn derbyn cefnogaeth ddwyieithog wedi’i theilwra.

Trwy ystod o sesiynau galw heibio, gweithdai a chyrsiau sgiliau hanfodol, fe wnaeth y sawl a fynychodd ddysgu sgiliau digidol pwysig megis siopa’n ddiogel ar-lein, iechyd a lles digidol a sut i wario ac arbed arian ar-lein. 

Roedd y prosiect hwn hefyd yn darparu cefnogaeth trwy grantiau/ talebau ar gyfer cyfarpar a data, galwadau ffôn i addysgu unigolion sut i ddefnyddio gwefannau ac apiau ac atgyfeiriadau i’r gwasanaethau addysg a chyflogadwyedd. 

Meddai Ron, rheolwr y sesiwn Cynhwysiant Digidol:

“Mae’r sesiynau wedi profi’n llwyddiant ysgubol, gan ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol iawn, yn ogystal â chreu amgylchedd croesawgar a chefnogol. Mae’r rhai sy’n mynychu wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi meithrin hunanhyder y gellir ei ddefnyddio ar gyfer agweddau eraill o’u bywydau. Mae’r sesiynau’n rhai hwyliog, hamddenol a diddorol bob amser”.

Meddai Samantha Edwards, Rheolwr Prosiect Cwmpas:

“Pwrpas Hyder Digidol Sir Ddinbych, sef prosiect a ddarperir gan Cwmpas, yw cefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol, gan roi’r hyder i bobl fynd ar-lein, drwy gynnig cefnogaeth ac arweiniad cyfeillgar, wyneb yn wyneb, yn eu cymuned eu hunain. 

“Mae diogelwch ar-lein yn ymwneud â sicrwydd ac arweiniad, ac mae Hyder Digidol Sir Ddinbych yn creu gofod lle gall pobl ofyn cwestiynau, gwella eu sgiliau digidol a theimlo’n fwy diogel ar-lein”.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r prosiect hwn yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd ati i gynyddu lefelau cynhwysiant digidol yn Sir Ddinbych, ac mae’n amlwg bod llawer o’n preswylwyr wedi elwa o’r sesiynau hyn.

“Mae llwyddiant y cynllun hwn yn enghraifft arall o waith Cyngor Sir Ddinbych gyda phartneriaid er budd ein preswylwyr”.

 Nodiadau i Olygyddion:

Ariennir y gweithdai hyn gan Raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU drwy Gyngor Sir Ddinbych a chânt eu darparu gan Hyder Digidol Sir Ddinbych. I ddysgu mwy neu archebu eich lle ar sesiwn hyfforddi, ffoniwch 0300 111 5050, dewiswch opsiwn 2 am gymorth digidol ac yna opsiwn 1 ar gyfer tîm Hyder Digidol Sir Ddinbych. Fel arall, gallwch anfon neges e-bost at: dcdenbighshire@cwmpas.coop

System storio batris newydd yn helpu effeithlonrwydd ynni cartref gofal

Mae gwaith wedi’i gwblhau i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartref gofal yng Nghorwen.

Mae gwaith wedi’i gwblhau i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartref gofal yng Nghorwen.

Mae timau Ynni a Fflyd Cyngor Sir Ddinbych wedi cwblhau prosiect i osod system storio ynni mewn batris (BESS), ochr yn ochr â phaneli solar 21.36kWp yng Nghysgod y Gaer i helpu i ddefnyddio ynni sy’n cael ei gynhyrchu gan baneli ffotofoltäig yr adeilad.

Mae'r tîm wedi rheoli prosiectau ar draws adeiladau'r Cyngor i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau a lleihau allyriadau yn rhan o ymgyrch y Cyngor i leihau ei ôl troed carbon ar ôl datgan Argyfwng Hinsawdd a Natur yn ystod 2019.

Maen nhw wedi gweithio yng Nghysgod y Gaer yn y gorffennol er mwyn gosod paneli solar ffotofoltäig 10.2kW, goleuadau LED ac addasu system wresogi'r safle. Gwnaeth y gwaith cyfunol hwn ostwng y defnydd o nwy o gyfartaledd o 750kwh i 200kwh y dydd a gostyngodd allyriadau carbon tua 10 tunnell y flwyddyn.

Mae gosod y batri 40kWh wedi cael cymorth ariannol gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn rhan o Grant EVCI a ZEV 25-26.

Mae dau gerbyd trydan yn gweithredu o'r safle bob dydd, sy’n cefnogi'r gymuned leol ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Mae defnydd cyfunol blynyddol cyfartalog y ddau gerbyd yn fwy na 10,000kWh o drydan y flwyddyn, sy’n galluogi mwy na 30,000 milltir o deithio heb allyriadau yn dod o’r bibell fwg, ac mae’n cyfrannu at leihau llygredd aer ledled y sir.

Mae batris solar yn storio'r trydan sy’n cael ei gynhyrchu gan baneli ffotofoltäig yn ystod y dydd fel y gellir ei ddefnyddio pan nad yw'r paneli'n cynhyrchu trydan. Gellid defnyddio'r ynni sydd wedi'i storio yn y nos neu yn ystod dyddiau cymylog iawn pan nad yw eich paneli solar yn cynhyrchu digon o drydan, sy’n helpu i gynnal costau defnyddio ynni hirdymor is. Disgwylir i'r paneli ychwanegol arbed tua 19,440kWh o drydan a 3.76 tunnell o allyriadau CO2 bob blwyddyn.

Dywedodd y Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Rydym ni wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau carbon a’n defnydd o ynni ar draws ein holl adeiladau. Rydym ni’n ddiolchgar i drigolion a staff Cysgod y Gaer am ganiatáu i'r gwaith hwn gael ei wneud er mwyn parhau i ostwng costau defnyddio ynni ac allyriadau carbon ar y safle.”

 

Ymunwch â Blwyddyn Darllen Genedlaethol gyda Llyfrgelloedd Sir Ddinbych

Oeddech chi’n gwybod mai 2026 yw Blwyddyn Darllen Genedlaethol?

Ar draws y DU, mae plant, pobl ifanc ac oedolion yn darllen llai. Mae teuluoedd yn ei chael hi'n anoddach darllen gyda'i gilydd gartref, ac mae'r cymunedau sy'n wynebu pwysau ariannol yn profi'r dirywiad mwyaf.

Mae pobl yn syrthio mewn cariad â darllen eto pan mae'n cysylltu â phwy ydyn nhw a'r hyn maen nhw'n poeni amdano, felly yn ystod Blwyddyn Darllen Genedlaethol, byddwn ni'n defnyddio'r angerddau hyn fel y sbardun sy'n gwneud darllen yn gyffrous. Yn caru cerddoriaeth, pobi, chwareon, sci-fi? Mae'r cyfan yn aros amdanoch chi yn eich llyfrgell leol; dewch o hyd iddo a mwynhewch.

Os nad ydych erioed wedi bod i’r llyfrgell o’r blaen, nawr yw’r amser perffaith i ddarganfod beth sydd yno i chi. O sesiynau rhigymau babanod i weithdai crefft a grwpiau darllen, mae eich llyfrgell yn le cymunedol croesawgar ar gyfer darllen, creadigrwydd a chysylltu.

Yn y llun mae Leon, aelod o staff Llyfrgell Y Rhyl

Mae eich llyfrgell leol yn rhad ac am ddim i ymuno â hi ac yn rhoi mynediad i chi at filoedd o lyfrau ar amrywiaeth eang o bynciau. Mae gan lyfrgelloedd hefyd ystod eang o deitlau Cymraeg a llyfrau mewn gwahanol fformatau.

Mae eich cerdyn llyfrgell hefyd yn rhoi mynediad am ddim i’n llyfrgell ddigidol, lle gallwch ddefnyddio apiau fel Borrowbox, uLibrary a Pressreader i lawrlwytho eLyfrau, llyfrau llafar, papurau newydd a chylchgronau.

I ddathlu Blwyddyn Darllen Genedlaethol, mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn gwahodd oedolion ledled y sir i gymryd rhan yn Her Ddarllen 2026 newydd sbon, sy’n lansio ar 16 Mawrth 2026. Nod yr ymgyrch yw ysbrydoli darllenwyr o bob oed i ddarganfod awduron newydd, archwilio gwahanol fathau o lyfrau, a dathlu llawenydd sydd mewn darllen drwy gydol y flwyddyn.

Bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i gwblhau cyfres o heriau darllen thematig, gyda staff y llyfrgell wrth law i gynnig argymhellion a chefnogaeth. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu cynnwys mewn tynnu enwau am wobrau, gyda chyfleoedd ychwanegol i ymuno mewn trafodaethau llyfrau, digwyddiadau thematig a gweithgareddau cymunedol a gynhelir gan lyfrgelloedd ar draws Sir Ddinbych.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae ein llyfrgelloedd yn chwarae rôl hollbwysig wrth gefnogi lles, dysgu a bywyd cymunedol. Mae Her Ddarllen 2026 yn gyfle gwych i oedolion ailgysylltu â darllen, darganfod rhywbeth newydd, a mwynhau popeth sydd gan ein llyfrgelloedd i’w gynnig. Rwy’n annog trigolion ledled Sir Ddinbych i gymryd rhan a gwneud darllen yn rhan o’u blwyddyn.”

Mae’r her yn rhad ac am ddim i ymuno â hi, ac mae croeso i bob oedolyn - p’un a ydynt yn ddefnyddwyr rheolaidd o’r llyfrgell neu’n newydd i’r gwasanaeth.

Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i’ch llyfrgell leol neu dilynwch Lyfrgelloedd Sir Ddinbych ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn agor cyfleoedd i bobl ifanc drwy brosiect ‘Y Môr a Mi’

Cymerodd pobl ifanc 16–25 oed o bob cwr o Ogledd Cymru ran yn ‘Y Môr a Mi’, rhaglen dair rhan a gynlluniwyd i ysbrydoli ymwybyddiaeth amgylcheddol, datblygu sgiliau ymarferol, ac agor llwybrau i wirfoddoli a gyrfaoedd sy’n seiliedig ar natur.

Wedi’i chyflwyno gan Sir Ddinbych yn Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau gwirfoddol lleol, cynhaliwyd y rhaglen drwy gydol mis Chwefror a dechrau mis Mawrth.

  • Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ar 18 Chwefror yn yr RNLI yn y Rhyl, gan gyflwyno cyfranogwyr i ddiogelwch arfordirol drwy sesiwn rhyngweithiol ar ddiogelwch dŵr a golwg fewnol ar weithrediadau’r bad achub.
  • Dilynnwyd hyn ar 25 Chwefror yn Resource yn Rhuthun, lle bu pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithdy ymarferol “Troi sbwriel yn drysor”, gan drawsnewid gwastraff plastig yn eitemau creadigol ac ymarferol wrth ddysgu am effaith llygredd plastig.
  • Cynhaliwyd y digwyddiad olaf ar 4 Mawrth yn RSPB Môn, lle bu’r cyfranogwyr yn archwilio’r warchodfa natur, cymryd rhan mewn sbotio bywyd gwyllt, ac ymgymryd â chyfnodi natur i ddyfnhau eu cysylltiad â’r amgylchedd a chefnogi llesiant.

Tynnwyd y llun yn ystod sesiwn yr RNLI yn Y Rhyl

Gyda’i gilydd, cryfhaodd y sesiynau ddealltwriaeth amgylcheddol, annog creadigrwydd, a thynnu sylw at lwybrau gwirfoddoli a gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â chadwraeth, cynaliadwyedd, a diwydiannau arfordirol lleol.

Dywedodd Tyler Turner, Hyfforddwr Llesiant a Gwydnwch yn Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Cafodd rhaglen ‘Y Môr a Mi’ ei chreu i ysbrydoli chwilfrydedd, meithrin hyder, a helpu pobl ifanc i ddarganfod cyfleoedd newydd mewn gwirfoddoli a phrosiectau cymunedol. Mae hefyd yn datblygu sgiliau ar gyfer gyrfaoedd y dyfodol sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd, cadwraeth, diwydiannau arfordirol a’r celfyddydau. Ein nod yw creu rhaglen gynhwysol a hygyrch lle gall pobl ifanc archwilio eu diddordebau wrth deimlo’n gefnogedig, hybu eu hyder, a datblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol a fydd yn eu helpu i gyrraedd eu nodau gyrfa.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:

“Mae Y Môr a Mi yn cyfrannu’n uniongyrchol at ein huchelgeisiau economaidd hirdymor ar gyfer Sir Ddinbych. Fel y nodir yn ein strategaeth economaidd newydd, mae gwella mynediad at gyflogaeth o ansawdd ac annog pobl ifanc i mewn i yrfaoedd cynaliadwy yn hanfodol i greu economi leol fwy llewyrchus a gwydn. Mae mentrau fel Y Môr a Mi’ yn helpu i sicrhau bod ein pobl ifanc yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd a fydd yn gyrru twf Sir Ddinbych yn y blynyddoedd i ddod.”

I archwilio digwyddiadau yn y dyfodol, cyfleoedd hyfforddi a’r cymorth sydd ar gael, ewch i wefan Sir Ddinbych yn Gweithio.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith Plus Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd fwyaf dan anfantais yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Diweddariad ar y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yn Sir Ddinbych

Mae preswylwyr ac ymwelwyr yn cael eu hysbysu o newidiadau i’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yn Sir Ddinbych yn dilyn gwaith cydweithredol i gadw mwyafrif y cyfleusterau yn y sir ar agor.

Mae preswylwyr ac ymwelwyr yn cael eu hysbysu o newidiadau i’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yn Sir Ddinbych yn dilyn gwaith cydweithredol i gadw mwyafrif y cyfleusterau yn y sir ar agor.

Ym mis Tachwedd y llynedd, cytunodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych ar gynigion a fydd yn cadw’r rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus y sir yn agored, diolch i gefnogaeth Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

Cafodd y cynigion eu datblygu pan nad oedd yr arian a dderbyniwyd gan y Cyngor wedi bod yn cyd-fynd â’r pwysau ariannol a chost gynyddol darparu gwasanaethau, yn arbennig gwasanaethau statudol fel gofal cymdeithasol ac addysg. Golygai hyn bod llai o arian i’w wario ar wasanaethau “Creu Lleoedd”, megis toiledau cyhoeddus.

Er bod y Cyngor yn cydnabod eu pwysigrwydd, mae toiledau cyhoeddus yn wasanaeth anstatudol, ac nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol i’w darparu.  Fodd bynnag, gweithiodd y Cyngor gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i gydweithio ar fodel cynaliadwy i ariannu a diogelu cymaint o gyfleusterau â phosibl. Mae’r model hwn yn cynnwys cyfraniadau ariannol uniongyrchol gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

Yn dilyn y gwaith hwn, mae newidiadau i ffioedd ar gyfer y toiledau, gyda chyflwyniad systemau talu/mynediad digyswllt yn dechrau ym Mawrth, gwaith adnewyddu toiledau a chau tri chyfleuster ar draws Sir Ddinbych.  Dyma’r newidiadau:

  • O 1 Ebrill bydd ffi mynediad o 50c i doiledau Ffordd Llys Nant a Nova ym Mhrestatyn. Bydd cyfleusterau Traeth Barkby ym Mhrestatyn yn derbyn gwaith adnewyddu sylweddol yn ystod yr haf. Cyn dechrau’r gwaith bydd mynediad i doiledau Traeth Barkby yn parhau i fod am ddim, bydd cyfleusterau dros dro ar gael pan fydd y gwaith yn cael ei gyflawni ac ar ôl cwblhau’r gwaith bydd ffi o 50c yn cael ei gyflwyno ar y safle.Ni fydd y toiledau yng ngorsaf fysiau a gorsaf drenau Prestatyn bellach ar gael.
  • Bydd gan doiledau yn Neuadd y Dref y Rhyl, Pentref Plant y Rhyl, Arena Digwyddiadau a Gerddi Botaneg y Rhyl ffi mynediad o 40c. Bydd cyfleusterau Old Golf Road y Rhyl yn derbyn gwaith adnewyddu sylweddol yn ystod yr haf. Cyn dechrau’r gwaith bydd mynediad i’r toiledau hyn yn parhau i fod am ddim, bydd cyfleusterau dros dro ar gael pan fydd y gwaith yn cael ei gyflawni ac ar ôl cwblhau’r gwaith bydd ffi o 40c yn cael ei gyflwyno ar y safle.
  • Bydd ffi mynediad yn parhau i fod yn rhad ac am ddim i doiledau Stryd y Tywysogion, Rhuddlan yn dilyn adnewyddu'r cyfleusterau dros yr haf, a thra bydd y cyfleuster hwn ar gau bydd cyfleusterau dros dro ar gael.
  •  Bydd ffi mynediad o £1 i gyfleusterau toiledau Llanelwy o 1 Ebrill.
  •  Bydd ffi mynediad o £1 i gyfleusterau toiledau Stryd y Farchnad a Pharc Glan yr Afon Llangollen o 1 Ebrill.
  •  Bydd gwaith adnewyddu yn digwydd yng nghyfleusterau Cae Ddôl Rhuthun dros y misoedd nesaf. Bydd cyfleusterau dros dro ar gael tra bydd y cyfleuster ar gau.
  •  Bydd toiledau Stryd y Farchnad Rhuthun yn cau o 31 Mawrth a bydd y cyfleusterau toiledau yn swyddfeydd Cyngor Sir Ddinbych o fewn ardal dderbynfa’r adeilad ar gael i’r cyhoedd rhwng 9.00am a 5.00pm (Dydd Llun i Ddydd Gwener).
  •  Bydd cyfleusterau toiledau Ward y Ffatri Dinbych yn cau ar 31 Mawrth.
  •  Bydd cyfleusterau toiledau Rhaeadr Dyserth yn cau o 31 Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Hoffwn ddiolch unwaith eto i’r Cynghorau Tref a Chymuned am eu hegni cadarnhaol a chydweithrediad sydd wedi cefnogi pawb i gyrraedd y sefyllfa hon lle gallwn gadw mwyafrif ein toiledau cyhoeddus ar agor. Hoffwn ddiolch hefyd i breswylwyr ac ymwelwyr am eu cefnogaeth ac amynedd wrth i’r gwaith adnewyddu ddigwydd yn rhai o’r safleoedd.”

Disgwylir i’r gwaith o gyflwyno systemau digyswllt yn safleoedd Llangollen, y Rhyl, Prestatyn a Llanelwy gymryd rhwng dau a tri diwrnod, yn dibynnu ar y tywydd.

Bydd y cyfleusterau hyn yn parhau ar agor yn ystod y gwaith, oni bai am NOVA, lle bydd cyfleusterau toiledau dros dro yn cael eu darparu am gyfnod o bedwar diwrnod yn sgil graddfa’r gwaith sydd ei angen ar y safle.

Darperir rhagor o wybodaeth mewn perthynas â chyfnodau'r gwaith adnewyddu ar gyfer rhai o'r cyfleusterau a restrir drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Cyngor.

 

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am brisiau prydau ysgol

Mae Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion Sir Ddinbych wedi wynebu cynnydd ym mhrisiau’r holl brif gynnyrch bwyd a gaiff eu caffael yn fasnachol, drwy’r farchnad fwyd gartref ac ar draws holl gadwyni cyflenwi’r farchnad fwyd.

Yn sgil y costau cynyddol hyn, cytunwyd i godi prisiau prydau ysgol o 10c, a bydd hyn yn dod i rym ar 13 Ebrill pan fydd yr ysgolion yn ailagor ar ôl gwyliau’r Pasg.

Cafodd y Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion ei gydnabod yn ddiweddar fel y gwasanaeth arlwyo sy’n perfformio orau yng ngwobrau’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn gynharach eleni.

Mae’r gydnabyddiaeth hon gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus wedi’i seilio ar gymariaethau â gwasanaethau prydau ysgol eraill o bob cwr o’r DU.

Mae’n ystyried agweddau fel nifer y plant sy’n talu am brydau ysgol a’r nifer sy’n eu cael am ddim, hyfforddiant staff, perfformiad y gwasanaeth a rheolaeth y gwasanaeth.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Nid ar chwarae bach y gwnaethom ni’r penderfyniad i godi prisiau prydau ysgol. Ond hyd yn oed ar ôl y cynnydd hwn, bydd y prisiau newydd yn dal i fod yn eithaf isel o’u cymharu ag awdurdodau lleol eraill.

“Fel mae ei lwyddiant diweddar yng ngwobrau’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn ei ddangos, mae Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion y Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu gwerth am arian o ran ansawdd y bwyd a roddir i’r disgyblion yn ein hysgolion”.

I gael golwg ar y bwydlenni ysgol, neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan prydau ysgol Sir Ddinbych.

 

 

Dechrau’n Deg yn Sir Ddinbych yn dathlu 20 mlynedd mewn digwyddiad yn y Rhyl

Yr wythnos diwethaf ym mwyty 1891 yn y Rhyl, nododd tîm Dechrau'n Deg y Cyngor 20 mlynedd o fodolaeth Dechrau'n Deg yn Sir Ddinbych trwy gynnal diwrnod gwybodaeth cymunedol lle daeth teuluoedd i ddysgu mwy am ofal Dechrau'n Deg yn y sir.

Yn ogystal â theuluoedd, daeth partneriaid a budd-ddeiliaid at ei gilydd hefyd i ddathlu effaith y rhaglen wrth helpu plant rhwng 0 a 4 oed i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Roedd dros 30 o stondinwyr yn arddangos yn y lleoliad glan môr, a phob un ohonynt yn darparu gwybodaeth werthfawr i deuluoedd lleol a oedd yn bresennol.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cyfeirio at y gefnogaeth sydd ar gael, yn ogystal â gweithgareddau sy'n addas i blant ac sy'n cael eu cynnal yn lleol.

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg Sir Ddinbych, ar gyfer plant o’u geni hyd at eu pedwerydd pen-blwydd, ynghyd â’u rhieni/gofalwyr, sy’n byw mewn ardaloedd cod post penodol.

Nod y rhaglen yw helpu plant i gael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd er mwyn eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol.

Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant:

“Roedd yn wych cael dathlu 20 mlynedd o’r cynllun Dechrau’n Deg yn Sir Ddinbych gyda theuluoedd lleol.

Hoffwn ddiolch i'r holl deuluoedd am ddod, ac i'r stondinwyr am eu hymdrechion drwy gydol y dydd. Hoffwn hefyd ddiolch i'n tîm Dechrau'n Deg anhygoel am drefnu digwyddiad mor llwyddiannus.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd yn hanfodol bwysig, ac rwy’n falch o weld bod ein tîm Dechrau’n Deg yn Sir Ddinbych yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gyflawni hyn.

Fe wnes i fwynhau clywed yr adborth gan deuluoedd lleol ynglŷn â sut mae Dechrau'n Deg wedi eu helpu. Diolch i bawb a ddaeth draw.”

Cofiwch adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mae garddwyr Sir Ddinbych sy’n defnyddio’r gwasanaeth gwastraff gardd yn cael eu hatgoffa i adnewyddu eu tanysgrifiad.

Mae garddwyr Sir Ddinbych sy’n defnyddio’r gwasanaeth gwastraff gardd yn cael eu hatgoffa i adnewyddu eu tanysgrifiad.

Gall preswylwyr adnewyddu ar gyfer 2026 i 2027 rŵan, cyn i’r cyfnod casglu newydd gychwyn ar 1 Ebrill.

Mae’r Cyngor hefyd yn annog preswylwyr sy’n cofrestru am y tro cyntaf i fanteisio ar y cyfnod cofrestru hwn fel eu bod yn cael budd llawn o’r gwasanaeth 12 mis.

Atgoffir preswylwyr i adnewyddu eu gwasanaeth casglu ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen isod:

https://www.denbighshire.gov.uk/cy/biniau-ac-ailgylchu/gwastraff-gardd.aspx

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd bob pythefnos yn cynnig dull hwylus, a chost effeithiol i arddwyr fynd i’r afael â’u gwastraff gardd, ac yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddiwallu’r targedau ailgylchu statudol hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Gan fod 1 Ebrill yn prysur agosáu, byddwn yn annog y bobl sydd heb adnewyddu neu gofrestru ar gyfer y gwasanaeth gwastraff gardd i sicrhau eu bod yn gymwys am y cyfnod casglu llawn o 12 mis.

Gall preswylwyr wirio os oes ganddynt danysgrifiad cyfredol ar dudalen dyddiadau casglu biniau’r wefan, neu gallwch ddysgu mwy am y gwasanaethyma.

 

Disgyblion o Brestatyn yn agor maes chwarae yn swyddogol

Mae disgyblion o Brestatyn wedi rhoi sêl eu bendith i faes chwarae sydd newydd ei ddatblygu.

Mae disgyblion o Brestatyn wedi rhoi sêl eu bendith i faes chwarae sydd newydd ei ddatblygu.

Yr wythnos hon, helpodd disgyblion Ysgol Bodnant i agor yn swyddogol y maes chwarae sydd newydd ei wella wrth Draeth Canol, Prestatyn.

Ailagorodd y maes chwarae ar ôl cwblhau prosiect ailddatblygu yn ddiweddar a reolwyd gan adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Dinbych ac a ariannwyd gan gyllid grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Bydd ymwelwyr o bob oed â'r maes chwarae yn canfod thema glan môr newydd i gyd-fynd â'i leoliad arfordirol, ochr yn ochr ag offer chwarae hygyrch a synhwyraidd sydd wedi'u cynllunio i ganiatáu i blant o bob gallu chwarae gyda'i gilydd.

Mae maes chwarae Traeth Canol wedi’i ddylunio bellach i fod yn fodern gyda chyfleoedd chwarae deinamig, cyffrous ac amrywiol. Mae’r safle’n cynnig mathau corfforol a gwybyddol o chwarae, a digon o amrywiaeth er mwyn sicrhau bod plant yn dysgu a thyfu, ac yn arbrofi gyda gwahanol fathau o chwarae corfforol.

KOMPAN, a ddatblygodd meysydd chwarae ar safleoedd Parc Drifft a Marchnad y Frenhines yn y Rhyl, oedd yn gyfrifol am wneud y gwaith o ailddatblygu’r maes chwarae ar ôl cael eu briffio gan swyddogion y Cyngor a oedd yn awyddus i gydnabod lleoliad glan môr y safle.

Bu’r disgyblion o Brestatyn yn dathlu agoriad swyddogol y maes chwarae gyda staff y Cyngor, cynghorwyr lleol a chynrychiolwyr o KOMPAN.

Dywedodd llefarydd ar ran Kompan UK: “Rydym yn falch iawn o’r gwaith sydd wedi’i wneud yn Nhraeth Canol ac yn gobeithio y bydd y gymuned leol ac ymwelwyr â’r traeth yn ei hoffi cymaint â ni, ac y byddant yn mwynhau chwarae, cymdeithasu a bod yn egnïol gyda’i gilydd yma am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: "Diolch yn fawr iawn i ddisgyblion Ysgol Bodnant am ein helpu i lansio’r safle gwych hwn yn swyddogol ar gyfer y gymuned leol.  Rydym yn gobeithio eu bod wedi mwynhau  profi'r hyn sydd gan yr ardal chwarae newydd sbon hon i'w gynnig.

“Mae’n wych gweld y safle pwysig hwn yn ailagor gyda thema glan môr newydd sbon gan fod hwn wedi bod yn brosiect gwych i helpu lles yr holl blant sy’n byw ym Mhrestatyn a’r rhai sy’n ymweld o bell.”

Gwelliannau ffordd yn y Rhyl

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi wyneb newydd ar Ffordd Las, y Rhyl fis yma

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi wyneb newydd ar Ffordd Las, y Rhyl fis yma.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud o 30 Mawrth tan 19 Ebrill.

Mae’r gwaith wedi’i ariannu drwy Fenter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.

Clustnododd y Cyngor 57 o leoliadau yn Sir Ddinbych i fanteisio ar raglen ddwy flynedd Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen (sydd wedi rhoi £4.780 miliwn ar gyfer 2025/26-2026/27) yw gwella cyflwr rhwydwaith ffyrdd y sir.

Bydd system gonfoi ar waith yn ystod y cyfnod hwn.

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ni’n falch o allu gwella Ffordd Las er budd gyrwyr gan ein bod ni’n ymwybodol iawn bod cyflwr ffyrdd yn destun trafod yn Sir Ddinbych. Bydd y gwaith yn gwella’r llwybr ar gyfer holl ddefnyddwyr y ffordd.

“Hoffaf ddiolch i drigolion y rhan hon o’r Rhyl am eu cefnogaeth ac i’r gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybr hwn am eu a’u hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig yma.”

Mae rhagor o wybodaeth am waith priffyrdd ar gael ar ein gwefan:

www.sirddinbych.gov.uk/ffyrdd

 

 

 

 

Rhaglen newydd Cysylltu â Gwaith gwerth £12.9m i’w lansio yng Ngogledd Cymru

Mae rhaglen gyflogaeth â chymorth newydd ar fin agor yng Ngogledd Cymru ym mis Mai 2026, gan gynnig cymorth cyflogaeth wedi’i deilwra i bobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd a’r rhai sy’n wynebu rhwystrau cymhleth wrth geisio cael gwaith cyflogedig, cynaliadwy.

Cyngor Sir Ddinbych yw’r Corff Atebol a byddant yn arwain y gwaith o ddarparu rhaglen Cysylltu â Gwaith mewn partneriaeth â’r pum awdurdod lleol arall yng Ngogledd Cymru [Conwy, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam].

Bydd Gogledd Cymru yn elwa o £12.9m dros 4 blynedd i ddarparu cymorth cyflogaeth arbenigol a bwrpasol i 3,555 o bobl sydd eisiau gweithio, dychwelyd i waith neu sydd angen cymorth i gynnal eu cyflogaeth bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:

“Rydym yn gwybod bod gan bobl anabl a’r rhai â chyflyrau iechyd gymaint i’w gynnig i’n cymunedau, ac eto mae gormod yn cael eu gadael heb y cymorth sydd ei angen arnynt i symud i waith ystyrlon.

“Fel y corff atebol ar gyfer Cysylltu â Gwaith ar draws Gogledd Cymru, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid, sefydliadau lleol a’n cydweithwyr iechyd i gael gwared ar rwystrau, meithrin llesiant, a datgloi potensial.

“Mae’r rhaglen hon yn cyd-fynd yn agos â’n hymrwymiad i dwf economaidd a threchu amddifadedd, gan gefnogi preswylwyr i ddatblygu sgiliau, meithrin hyder a chael mynediad at swyddi da, cynaliadwy.

“Ein nod yw sicrhau bod gan bawb sy’n gallu ac sydd eisiau gweithio y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu.”

Dywedodd Gary Jones, Rheolwr Rhaglen Ranbarthol Cysylltu â Gwaith:

“Nod Cysylltu â Gwaith fydd dod ag unigolion, iechyd, cyflogwyr a phartneriaid darparu at ei gilydd gyda diben cyffredin o ddatgloi potensial, creu cyfleoedd ystyrlon, a helpu pobl i ffynnu trwy arloesi a chydweithio.”

Mae Cysylltu â Gwaith yn rhaglen wirfoddol ac yn agored i unrhyw un sydd dros 16 oed ac sydd eisiau gweithio, sy’n berson anabl, sydd â chyflwr iechyd, neu sy’n wynebu rhwystrau cymhleth i waith. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio o amgylch anghenion a chyfleoedd lleol, gan sicrhau bod cymorth yn cael ei deilwra i ofynion cymunedau ledled Gogledd Cymru.

Bydd cyfranogwyr yn gallu cael mynediad at ystod o gymorth personol, gan gynnwys:

  • Cynghorwyr cyflogaeth arbenigol sy’n gweithio un-i-un gyda chyfranogwyr i ddeall eu hiechyd, eu sgiliau a’u hanghenion cyflogaeth.
  • Cynghorwyr wedi’u lleoli o fewn lleoliadau gofal iechyd, gan gynnwys meddygfeydd a gwasanaethau iechyd meddwl.
  • Cymorth i ymgysylltu â chyflogwyr heb orfod llywio prosesau ymgeisio cymhleth.
  • Cymorth mewn gwaith parhaus i gyfranogwyr a chyflogwyr er mwyn helpu i sicrhau llwyddiant hirdymor.

Unwaith y bydd y gwasanaeth yn agor, bydd preswylwyr yn gallu dod o hyd i wybodaeth leol a llwybrau atgyfeirio trwy wefan eu cyngor.

Mae Cysylltu â Gwaith wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU ac mae’n rhan allweddol o strategaeth Cael Prydain i Weithio Llywodraeth y DU.

Eiddo ar y stryd fawr yn barod i elwa ar gynllun gwella

Mae nifer o eiddo yn y Rhyl wedi cael eu nodi ar gyfer Cynllun Gwella’r Stryd Fawr.

Mae nifer o eiddo yn y Rhyl wedi cael eu nodi ar gyfer Cynllun Gwella’r Stryd Fawr.

Wedi’i ddarparu gan y tîm Datblygu Economaidd a Busnes, nod y cynllun yw gwella ymddangosiad allanol eiddo’r stryd fawr gan ddefnyddio mathau gwahanol o waith adfer.

Yn dilyn llwyddiant y gwaith a ariannwyd gan gronfa Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi yn y Rhyl yn y gorffennol, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar yr eiddo o fewn ardaloedd cerdded y stryd fawr, Stryd Sussex a Stryd y Farchnad gerllaw.

Cynhelir y gwaith gan adeiladwyr ac addurnwyr B&W, bydd y gwaith yn canolbwyntio ar dynnu llystyfiant, clirio cwteri, ac archwilio cwteri sydd angen eu disodli.

O ganlyniad i ymweliadau ac archwiliadau a gynhaliwyd gan y Cyngor, a’r contractwr lleol B&W, nodwyd 40 eiddo fel cymwynaswyr arfaethedig ar gyfer y cynllun.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r prosiect hwn yn darparu  cyfle gwych i fusnesau cymwys ar Stryd Fawr y Rhyl i wella ymddangosiad eiddo eu busnes.

“Rydym yn ymgysylltu’n rhagweithiol gyda pherchnogion yr eiddo sydd wedi cael eu nodi fel cymwynaswyr posib ar gyfer y cynllun drwy lythyrau ac ymweliadau.

“Rhagwelir y bydd gwella golwg esthetig yr eiddo dethol yn helpu i wneud Stryd Fawr y Rhyl yn ddewis mwy deniadol ar gyfer siopwyr ac ymwelwyr.”

Talu teyrnged i'r Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi tristau o glywed am farwolaeth y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones yn gynharach yr wythnos hon.

Roedd y Cynghorydd Chamberlain-Jones wedi gwasanaethu ar Gyngor Sir Dinbych yn ddi-dor ers 2004 gan gynrychioli Ward De'r Rhyl fel aelod amhleidiol. Cafodd yrfa hir a nodedig mewn gwasanaethau cyhoeddus gan weithio yn Ysbyty Glan Clwyd am bron i 30 mlynedd.

Cyng Jeanette Chamberlain-Jones

Y Cynghorydd Chamberlain-Jones oedd Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn ddinesig 2012-2013 ac roedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau rhwng Mai 2013 a Mai 2017 ac yna o Fehefin 2017 tan Fai 2022.

Cyn hyn roedd y Cynghorydd Chamberlain-Jones yn aelod o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai ac yn Is-gadeirydd Grŵp Ardal Aelodau'r Rhyl rhwng Tachwedd 2017 a Gorffennaf 2019, ac yn aelod o Banel Mabwysiadu Sir Ddinbych am flynyddoedd lawer. Roedd y Cynghorydd Chamberlain-Jones hefyd yn gyn Faer ar y Rhyl ac yn Gynghorydd Tref ymroddedig i Gyngor Tref y Rhyl.

Wrth dalu teyrnged i'r Cynghorydd Chamberlain-Jones, dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, “Rwyf mor drist o glywed am farwolaeth y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones. Roedd JJ, fel roedden ni’n ei hadnabod, wir yn ysbrydoliaeth.

“Roedd hi'n un o'r cynghorwyr mwyaf gweithgar rydw i wedi'u hadnabod a gwnaeth waith mor wych o gynrychioli ei thrigolion. Roedd hi'n gymeriad hoffus ac yn uchel ei pharch ymysg yr holl gynghorwyr y bu'n gweithio gyda nhw. Bydd colled fawr ar ôl JJ. Mae ein cydymdeimlad, ein meddyliau a'n gweddïau gyda'i theulu yn eu profedigaeth.”

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Arwel Roberts, “Bydd colled aruthrol i Sir Ddinbych wedi marwolaeth y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones. Roedd yn weithgar yn ei ward ac yn amlwg yn ei chymuned. Fel Cadeirydd y Sir rwyf yn cydymdeimlo yn fawr a'i theulu a'i ffrindiau agos. Bydd bwlch mawr ar ei hôl. Heddwch iddi.”

Ysgolion yn canu yn Siambr y Cyngor fel rhan o ddathliad Dydd Gŵyl Dewi

Fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi eleni, gwahoddwyd ysgolion lleol o Ruthun i Siambr y Cyngor i ganu o flaen Pwyllgor Llywio’r Gymraeg. 

Dathliadau yn y Siambr, Ysgol Pen Barras

Bu i ddisgyblion o Ysgol Borthyn, Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras ganu caneuon Cymraeg traddodiadol.

Roedd y disgyblion yn amrywio o flwyddyn un i flwyddyn chwech.

Rhoddwyd Baner Dewi Sant i bob disgybl (croes aur ar gefndir du) i fynd yn ôl i’r ysgol gyda nhw.

Ysgol Borthyn

Mae Pwyllgor Llywio’r Gymraeg yng Nghyngor Sir Ddinbych yn darparu arweinyddiaeth a throsolwg strategol i sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws ei wasanaethau, ac yn cefnogi datblygiad y Gymraeg o fewn y sefydliad a’r gymuned ehangach.

Ysgol Stryd y Rhos

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Roedd yn bleser croesawu disgyblion o ysgolion lleol i’r cyfarfod heddiw.

 Hoffwn ddiolch iddynt am ddod ac am eu canu hyfryd, roedd yn ffordd wych o ddathlu ein nawddsant.”

Gwahoddiad i breswylwyr a gweithredwyr tacsis i ddweud eu dweud ar ffioedd tacsis

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu sefydlu ‘Fforwm Tacsis’ newydd i’w helpu i osod y tabl blynyddoedd o ffioedd ar gyfer cerbydau hacni.

Bydd y fforwm yn cwrdd unwaith y flwyddyn cyn adolygiad blynyddol y Cyngor o’i dabl ffioedd ar gyfer cerbydau hacni.

Yn y gorffennol, roedd y broses yn cynnig ac yna ymgynghori ar dabl o ffioedd yn seiliedig ar ddata ystadegol, yn cynnwys newidiadau i brisiau yswiriant cyfartalog, chwyddiant a ffioedd awdurdodau lleol cyfagos ar gyfer y mathau hynny o deithiau.

Mae’r Cyngor rŵan yn bwriadu cyflwyno cam ychwanegol yn y broses ymgynghori, gan ofyn i bobl am eu profiadau cyn iddo gynnal yr ymgynghoriad ynghylch y ffioedd.

Dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 mae’r Cyngor yn gyfrifol am osod ffioedd tacsis trwyddedig Sir Ddinbych ac yn gobeithio, drwy sefydlu fforwm a gadael i weithredwyr a defnyddwyr tacsis ddod at ei gilydd i rannu eu profiadau a’u pryderon, y bydd tabl ffioedd blynyddol sy’n gweithio i bawb yn cael ei greu.

Mae ar Gyngor Sir Ddinbych eisiau gwahodd cymaint â phosibl o weithredwyr a defnyddwyr tacsis y sir i gwblhau’r arolwg.

Bydd pawb sy’n cwblhau’r arolwg yn cael cyfle i gofrestru eu diddordeb yn y ‘Fforwm Tacsis’, a fydd yn gyfarfod wyneb yn wyneb yn fis Ebrill.

Mae’r Cyngor yn gobeithio defnyddio canfyddiadau ac argymhellion y ‘Fforwm Tacsis’ i gynnig tabl ffioedd newydd, a fydd yn destun ymgynghoriad dilynol.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Rydym ni’n annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn ymgynghoriad y Cyngor a chofrestru eu diddordeb yn y ‘Fforwm Tacsis’, er mwyn sicrhau bod unrhyw benderfyniad rydym ni’n ei wneud yn cynrychioli barn ein holl fudd-ddeiliaid.

“Mae’r Cyngor yn deall ein bod mewn cyfnod ariannol anodd yn y wlad ar hyn o bryd sy’n golygu ei bod hi hyd yn fwy pwysig i ni ymgynghori, nid yn unig gyda’r cwmnïau tacsis, ond y cyhoedd hefyd, er mwyn sicrhau bod unrhyw newid rydym ni’n ei gyflwyno yn deg i’r ddwy ochr.”

I ddysgu mwy ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ‘Fforwm Tacsis’, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/ymgynghoriadau.

Rhaid derbyn pob ymateb erbyn dydd Sul 29 Mawrth 2026.

Llyfrgell Corwen yn ailagor yn swyddogol gyda chyfleusterau newydd a mynediad estynedig

Nododd Llyfrgell Corwen bennod newydd gyffrous i’r cyfleuster cymunedol poblogaidd wrth i’r Llyfrgell ddathlu ailagoriad swyddogol.

Y Cynghorydd Emrys Wynne (Aelod Arweiniol) a'r Cynghorydd Arwel Roberts (Cadeirydd) yn agor y llyfrgell yn swyddogol

Mae’r gwaith adnewyddu wedi bod yn bosibl diolch i £83,469 o Raglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi llyfrgelloedd cyhoeddus, amgueddfeydd a gwasanaethau archifau i foderneiddio cyfleusterau a thrawsnewid y ffordd y darperir gwasanaethau. Mae’r cyllid wedi galluogi gwelliannau sylweddol i’r adeilad a gosod technoleg Open+ a fydd ar gael yn fuan.

Bydd Open+ yn caniatáu i aelodau’r llyfrgell gael mynediad i’r adeilad yn ystod oriau heb staff, gan gynyddu hyblygrwydd i breswylwyr. Er bod cefnogaeth wyneb yn wyneb yn parhau i fod wrth wraidd y gwasanaeth, bydd ymwelwyr hefyd yn gallu defnyddio cyfrifiaduron, cael mynediad i Wi-Fi, astudio mewn lle cynnes a thawel, argraffu dogfennau a benthyca llyfrau gan ddefnyddio ciosg hunanwasanaeth yn ystod yr oriau estynedig.

Uchelbwynt allweddol y gwaith adnewyddu yw’r Llyfrgell Blant newydd, sydd wedi’i dylunio fel lle tawel, croesawgar a diogel wedi’i hysbrydoli gan y dirwedd naturiol sy’n amgylchynu Corwen. Mae’r cynllun hyblyg yn cynnwys cymysgedd o silffoedd isel ac uchel, seddi integredig ac unedau symudol er mwyn caniatáu i’r gofod gael ei ad-drefnu ar gyfer digwyddiadau. Mae delwedd hanesyddol o’r Sgwâr o tua 1910, a ddarparwyd yn garedig gan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, yn cysylltu’r gofod â threftadaeth y dref.

Mae sesiynau amser rhigwm Dechrau Da (Bookstart) wythnosol hefyd wedi lansio, gan annog teuluoedd a phlant ifanc i ddatblygu cariad at ddarllen o oedran cynnar.

Elin yn helpu un o'r darllenwyr ifanc i ddod o hyd i Smot!

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

“Llyfrgelloedd yw calon curo eu cymunedau. Mae ailagor Llyfrgell Corwen yn enghraifft wych o’r hyn sy’n bosibl pan fyddwn yn buddsoddi yn y mannau hanfodol hyn ac rydym yn falch o fod wedi cefnogi’r trawsnewidiad hwn trwy ein Rhaglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol.

“Mae’n wych gweld sut mae’r cyllid wedi’i ddefnyddio i foderneiddio’r adeilad, cyflwyno mynediad hyblyg newydd trwy dechnoleg Open+ a chreu llyfrgell blant newydd hardd a fydd yn ysbrydoli cariad at ddarllen am genedlaethau i ddod.”

Y Cynghorydd Emrys Wynne yn cael ei diddanu'n llwyr gan un o'r darllenwyr ifanc!

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae hwn yn ddiwrnod balch i Gorwen. Mae ein llyfrgelloedd yn llawer mwy na llyfrau yn unig – maent yn fannau cymunedol croesawgar lle gall pobl gael mynediad at wasanaethau, dysgu sgiliau newydd a chysylltu ag eraill.

“Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym wedi gallu moderneiddio’r llyfrgell, cyflwyno technoleg arloesol Open+ a chreu ardal newydd wych i blant a fydd yn ysbrydoli darllenwyr ifanc am flynyddoedd i ddod. Wrth i ni ddechrau’r Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol, ni allai fod amser gwell i annog pawb i fwrw iddi ac ailddarganfod pleser darllen.”

Mae’r ailagoriad hefyd yn darparu dechrau addas i ddathliadau’r Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol, a fydd yn gweld rhaglen o ddigwyddiadau yn annog pobl i “Ymgolli” a gwneud darllen yn rhan reolaidd o’u bywydau.

Bydd staff y llyfrgell yn parhau i ddarparu mynediad i wasanaethau’r cyngor drwy’r Siop Un Alwad, gan gefnogi preswylwyr gyda thaliadau treth gyngor, trwyddedau parcio, tanysgrifiadau biniau gwyrdd, ceisiadau Bathodyn Glas a mwy. Bydd ystod o sefydliadau partneriaeth hefyd yn darparu sesiynau rheolaidd o’r llyfrgell, gan gynnwys Pwyntiau Siarad, clybiau swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio, sesiynau tylino babi a gweithgareddau Dechrau Da mewn partneriaeth â Dechrau’n Deg.

Anogir preswylwyr i ymweld â’r llyfrgell sydd newydd ei hadnewyddu, i archwilio’r cyfleusterau ac i ddarganfod mwy am yr ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd ar gael. Mae manylion am Lyfrgell a Siop Un Alwad Corwen, ar ein gwefan.

Gŵyl The Gathering yn dychwelyd i’r Rhyl i Arena Mike Peters

Caiff lleoliad digwyddiadau Marchnad y Frenhines ei ail enwi yn Arena Mike Peters a bydd yn cynnal y digwyddiad yn 2027.

Bydd digwyddiad cerddoriaeth blynyddol, The Gathering, a sefydlwyd ym 1992 gan Mike Peters, yn dychwelyd i ogledd Cymru yn 2027 a chaiff ei gynnal ym Marchnad y Frenhines yn y Rhyl. Fel teyrnged i brif leisydd The Alarm, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn enwi'r lleoliad digwyddiadau ym Marchnad y Frenhines yn Arena Mike Peters.

The GatheringMae The Gathering, sy’n ddigwyddiad penwythnos o hyd a gynhaliwyd gyntaf yn Neuadd y Dref, y Rhyl ym 1992, yn dod â chefnogwyr The Alarm o bob cwr o'r byd ynghyd i ddathlu cerddoriaeth y band ac mae'n cynnwys setiau acwstig, perfformiadau trydanol, cwisiau, sesiynau holi ac ateb a llawer mwy.

Un o ddymuniadau olaf Mike Peters oedd i The Gathering barhau ac mae'r digwyddiad bellach yn rhan o'i etifeddiaeth ef a'r band. Fe’i cynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 2026, ac mae'r digwyddiad yn dychwelyd i'r Rhyl y flwyddyn nesaf a bydd yn cael ei gynnal yn Arena Mike Peters. Mae'r lleoliad amlbwrpas wedi cynnal nifer o gigs a digwyddiadau cerddoriaeth ers ei agor yn haf 2025.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, “Rydym wrth ein bodd bod Jules Jones Peters wedi cytuno i The Gathering ddychwelyd i'r Rhyl, ac yn benodol i Farchnad y Frenhines. Rydym hyd yn oed yn fwy balch o allu talu teyrnged i Mike Peters trwy enwi'r lleoliad ar ei ôl. Bydd Arena Mike Peters, sydd yng nghanol y dref, yn lleoliad delfrydol ar gyfer y dathliad gwych hwn o gerddoriaeth The Alarm ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu cefnogwyr o bell ac agos i'r achlysur arbennig hwn. Roedd Mike bob amser yn hyrwyddwr brwd dros ogledd Cymru a'r Rhyl, felly mae'n teimlo'n briodol bod The Gathering yn dychwelyd i'r dref lle cafodd ei fagu.”

Meddai Dylan Evans, Rheolwr Gweithrediadau ym Marchnad y Frenhines, “Mae’r newyddion bod The Gathering yn dychwelyd i’r Rhyl yn anhygoel ac mae’n anrhydedd enfawr bod Jules, Dylan ac Evan Peters wedi dewis Marchnad y Frenhines fel lleoliad. Mae’r ffaith y gallwn dalu teyrnged a chadarnhau gwaddol Mike Peters drwy enwi’r arena ar ei ôl yn fraint fawr a hoffem ddiolch i’r teulu am eu cefnogaeth a’u hangerdd wrth i ni roi hyn at ei gilydd. Rydym yn edrych ymlaen at bartneriaeth hirdymor o Gariad, Gobaith a Chryfder.”

Plannu coed yn dod â bywyd newydd i ddau fan awyr agored yn y Rhyl

Mae gwaith wedi digwydd i wella dau ardal awyr agored gyhoeddus yn y Rhyl er budd trigolion lleol a natur

Mae gwaith wedi digwydd i wella dau ardal awyr agored gyhoeddus yn y Rhyl er budd trigolion lleol a natur.

Mae tîm Newid Hinsawdd, Gwasanaethau Cefn Gwlad a Gwasabnaethau Stryd Sir Ddinbych wedi dod ynghyd i blannu dros 600 o goed mewn mannau gwyrdd mynediad cyhoeddus yn Walnut Crescent yn Ystâd Park View a'r ffordd i Barc Violet Grove yn Ystâd Trellewelyn.

Mae’r gwaith wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin 2025/26 sydd wedi rhoi £278,600 i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer gwaith adfer natur ledled y sir.

Ymysg y gwaith plannu bydd cymysgedd o wrychoedd a choed safonol yn datblygu yn y ddau safle i ddarparu cynefinoedd newydd i gefnogi natur leol.

Mae'r rhywogaethau a blannwyd yn cynnwys coed bedw arian, celyn, coed cyll, aethnen, masarn bach, criafolen, bedwen gyffredin, rhosod gwyllt, gwifwrnwydden y gors, draenen wen, derwen mes di-goes, ceirios gwyllt ac oestrwydden.

Plannwyd saith coeden o faint safonol a chrëwyd gwrych yn Walnut Crescent. Bydd blychau nythu ar gyfer adar, ystlumod a draenogod hefyd yn cael eu gosod ar y safle hwn.

Plannwyd gwrych hirach yn Violet Grove ochr yn ochr â 10 coeden ffrwythau, ynghyd â saith coeden collddail.  Bydd ardal ar y safle hefyd yn cael ei rheoli fel dôl blodau gwyllt i gynnal peillwyr fel gloÿnnod byw a gwenyn.

Bydd y coed ychwanegol yn y ddwy ardal yn dod â buddion i'r gymuned leol. Yn ogystal â dal carbon, a darparu cynefin i bryfed a bwyd i adar ac ystlumod, gall y coed hidlo llygryddion niweidiol o'r awyr, gweithredu fel cyflyrwyr aer naturiol, gan leihau tymereddau trefol, a darparu ardaloedd o gysgod. 

Mae’r coed ffrwythau oll yn rhywogaethau lleol Cymreig, fel afal Rhyl Beauty ac eirin Dinbych, i helpu i warchod y rhywogaethau lleol a phrin yma yn eu tarddle, er budd ein diwylliant a’n bioamrywiaeth.    Ac, ymhen amser, bydd y coed hyn yn darparu byrbrydau maethlon am ddim i drigolion. 

Gall gwreiddiau a dail coed hefyd ddal gwlybaniaeth glaw trwm, gan leihau faint o ddŵr sy'n mynd i mewn i systemau draenio a helpu i atal llifogydd lleol.

Mae cerdded ymhlith coed hefyd wedi'i brofi i fod yn fuddiol i iechyd a lles pobl.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn ddiolchgar am y gwaith partneriaeth rhwng y gwahanol wasanaethau sydd wedi helpu i roi bywyd newydd i’r ddwy ardal awyr agored mynediad cyhoeddus yn y Rhyl. Bydd y gwaith hwn yn rhoi hwb mawr i natur ar yr ystadau hyn a hefyd yn darparu budd gwirioneddol i les y cymunedau yn yr ardal.”

 

 

 

Caban cymunedol bron â chael ei gwblhau yn Ysgol Cefn Meiriadog

Mae’r caban cymunedol yn Ysgol Cefn Meiriadog bron â chael ei gwblhau, ac mae’r prif strwythur bellach yn ei le ac mae insiwleiddiad yn y waliau wedi’i osod.

Caban o'r tu allan

Wedi’i ariannu drwy fenter Ysgolion Bro gan Lywodraeth Cymru, dechreuodd y gwaith o adeiladu’r caban yn gynharach yn y flwyddyn, ac ers hynny mae’r ffrâm, to, ffenestri a drysau wedi cael eu gosod. 

Fe fydd gan y caban, sydd ag ôl-troed 60 metr sgwâr ardal gegin a thoiled hygyrch, yn ogystal â’r prif ofod. Fe fydd y gofod y tu allan i’r caban hefyd yn cael ei ailwampio a bydd modd i ddisgyblion ei ddefnyddio.

Mae’r adeilad yn creu gofod sydd yn cefnogi ymgysylltu â theuluoedd, cydweithio gyda gwasanaethau eraill ac anghenion cymuned yr ysgol.

Fe fydd cladin yn cael ei ychwanegu at y to yn rhan o gamau nesaf y prosiect, yn ogystal â’r gwaith o gysylltu a gosod y cyflenwad dŵr a thrydan.

Tu fewn y caban

Yn ogystal â’r caban, bydd paneli solar yn cael eu gosod ar do prif adeilad yr ysgol gan leihau effaith carbon y prosiect hwn. 

Fe fydd y prosiect yn cael ei orffen yn y gwanwyn.

Meddai Laura Martin, Pennaeth Ysgol Cefn Meiriadog:

“Rydym ni wrth ein boddau gyda’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyn yn hyn ac allwn ni ddim aros i’r gwaith gael ei gwblhau.  Fe fydd yr adeilad yma’n ased gwych i Ysgol Cefn Meiriadog, gan sicrhau y gall yr ysgol a’r gymuned ei ddefnyddio am sawl blwyddyn i ddod.

Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Gyngor Sir Ddinbych am eu cefnogaeth barhaus gyda’r prosiect yma.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Fe fydd y prosiect yma yn Ysgol Cefn Meiriadog yn ased enfawr i’r ysgol a’r gymuned fel ei gilydd.

Gan ddisodli adeilad hŷn, fe fydd y caban newydd yma’n cael ei gwblhau yn y gwanwyn ac fe fydd yn cael ei ddefnyddio gan yr ysgol y flwyddyn academaidd hon.”

Gwella croesffyrdd yr A541 i Bont y Cambwll, Trefnant

Bydd Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud gwaith cynnal a chadw o groesffyrdd yr A541 i Bont y Cambwll Trefnant.

Bydd Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud gwaith cynnal a chadw o groesffyrdd yr A541 i Bont y Cambwll Trefnant.

Byddwn yn rhoi wyneb newydd ar y ffordd rhwng 2 Mawrth a 22 Mawrth.

Mae'r gwaith yn rhan o raglen cynnal a chadw ffyrdd barhaus y Cyngor i wella cyflwr y rhwydwaith ffyrdd i drigolion ac ymwelwyr y sir.

Yn ystod y gwaith, bydd y ffordd ar gau a bydd arwyddion i ddangos y llwybr amgen.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn ymwybodol fod cyflwr rhwydwaith ffyrdd Sir Ddinbych yn destun trafod rheolaidd ymhlith ein preswylwyr. Mae’r Cyngor yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â chyflwr ein ffyrdd ledled y sir er budd y rhai sy'n defnyddio'r llwybrau hyn.

“Hoffaf ddiolch i’r trigolion sy’n byw yn yr ardal hon a’r gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybr hwn am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig yma.”

Mae rhagor o wybodaeth am waith Priffyrdd ar gael ar ein gwefan: www.sirddinbych.gov.uk/ffyrdd.

 

Ffair swyddi lwyddiannus yn cysylltu cannoedd o bobl â chyfleoedd cyflogaeth cyffrous

Mae ffair swyddi ddiweddaraf Sir Ddinbych yn Gweithio wedi cael ei chanmol yn llwyddiant ysgubol, gan ddod â thrigolion, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau cymunedol ynghyd am ddiwrnod egnïol o gyfleoedd a chysylltiadau.

Wedi'i gynnal yn 1891 yn Y Rhyl ddydd Mercher, 25 Chwefror, denodd y digwyddiad dros 500 o bobl yn edrych am waith yn awyddus i archwilio llwybrau gyrfa newydd, cwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb, a chael mynediad at gymorth ar unwaith i symud yn agosach at waith.

Cymerodd mwy na 50 o gyflogwyr ran, yn cynrychioli ystod eang o sectorau gan gynnwys lletygarwch, manwerthu, adeiladu, iechyd a gofal cymdeithasol, diwydiannau gwyrdd, a gwasanaethau digidol. Adroddodd llawer o gyflogwyr ddiddordeb cryf gan y mynychwyr, gyda nifer yn sicrhau cyfweliadau ar y diwrnod ac yn symud ymgeiswyr ymlaen i swyddi gwag byw.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn adnabyddus am y dull o weithio sy'n canolbwyntio ar gael gwared ar rhwystrau i drigolion, ac fe chwaraeodd ran flaenllaw wrth drefnu a chyflwyno'r digwyddiad. Roedd cynghorwyr wrth law i gynnig canllawiau personol, cyngor ar CV, a gwybodaeth am hyfforddiant lleol, gwirfoddoli, a rhaglenni cymorth a ariennir. Sicrhaodd eu presenoldeb fod ceiswyr gwaith nid yn unig yn derbyn mynediad at gyflogwyr ond hefyd y gefnogaeth cyfan oedd ei hangen i gymryd y camau nesaf yn hyderus.

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr, Cyflogaeth Strategol:

“Rydym wrth ein bodd gyda’r nifer a ddaeth a’r brwdfrydedd a ddangoswyd gan drigolion a chyflogwyr. Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos cryfder ein cymuned a’n hymrwymiad cyffredin i helpu pobl i symud i gyflogaeth ystyrlon a chynaliadwy. Rydym yn falch o gefnogi trigolion ym mhob cam o’u taith ac yr un mor falch o helpu busnesau lleol i gysylltu â’r dalent sydd ei hangen arnynt i dyfu.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:

“Mae’r nifer o bobl a ddaeth yno yn dangos pa mor ymroddedig yw ein trigolion i adeiladu eu gyrfaoedd a pha mor ymroddedig yw ein cyflogwyr lleol i’w cefnogi. Mae digwyddiadau fel hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gryfhau economi Sir Ddinbych a helpu ein cymunedau i ffynnu.

Rydym yn falch o barhau i weithio ochr yn ochr â phartneriaid a chyflogwyr i greu cyfleoedd cynhwysol i bobl ledled Sir Ddinbych.”

Canmolodd y mynychwyr y digwyddiad am ei awyrgylch croesawgar a’i gefnogaeth ymarferol, gan dynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer ceisiadau ar unwaith, atgyfeiriadau hyfforddi, a sgyrsiau uniongyrchol gyda chyflogwyr sy’n recriwtio.

Mae'r Ffair Swyddi yn rhan o ymdrech ehangach Sir Ddinbych i hybu sgiliau, hyder a chyflogaeth ledled y sir. Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn parhau i gefnogi trigolion drwy gydol y flwyddyn gydag amrywiaeth o wasanaethau o hyfforddiant un i un i raglenni cyflogadwyedd wedi'u teilwra gan sicrhau bod gan bawb gyfle i ffynnu, beth bynnag fo'u hamgylchiadau.

I gael gwybod am ddigwyddiadau sydd ar ddod, cyfleoedd hyfforddi a chefnogaeth sydd ar gael, gallwch ymweld â’n gwefan.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau dros Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r rhai mwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael cyflogaeth.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU.

Arian i Gyngor Sir Ddinbych i ddatblygu a gwireddu ecwiti iechyd ledled y sir

Bydd pecyn cenedlaethol o gymorth i ddatblygu a gweithredu systemau tegwch iechyd.

Mae Sir Ddinbych yn un o dri ardal awdurdod lleol i gael cyllid i ddod yn arloeswr ar gyfer uchelgais ‘Cenedl Marmot’, a gyhoeddwyd mewn Uwchgynhadledd Tegwch Iechyd yng Nghaerdydd (dydd Mawrth 24 Chwefror).

Caiff pecyn cenedlaethol o gymorth ei ddarparu i gynghorau Sir Ddinbych, Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot am ddwy flynedd o fis Ebrill ymlaen. Bydd y cyllid yn datblygu ac yn gweithredu systemau tegwch iechyd yn y tair ardal ac yn lledaenu arferion da yn ehangach ledled Cymru

Ym mis Mehefin 2025, daeth Cymru'n 'Genedl Marmot' gyntaf y byd, gan fabwysiadu wyth egwyddor Syr Michael Marmot i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, “Yng Nghymru, mae anghydraddoldebau iechyd dwfn wedi arwain at ganlyniadau gwaeth o ran ansawdd bywyd, cyflyrau iechyd hirdymor, a disgwyliad oes a hynny oherwydd lle mae rhywun yn cael ei eni a lle mae'n tyfu i fyny.

“Mae'r dull cenedlaethol hwn yn dangos ein bod wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chau'r bwlch fel y gall pobl mewn cymunedau cyfagos dyfu i fyny gyda'r un cyfleoedd bywyd a'r un disgwyliad oes.”

Mae Cymru eisoes mewn sefyllfa dda ar gyfer y gwaith hwn drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 10 oed yn ddiweddar.

Helen White, Prof Marmott - Summit
Yn y llun o'r chwith i'r dde: Helen White, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Syr Michael Marmot, ac Emily Mc Gill a Daniel Evans o Gyngor Sir Ddinbych

Dywedodd Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Dinbych, “Rydym yn falch iawn bod Sir Ddinbych wedi cael ei chymeradwyo fel arloeswr Cenedl Marmot. Mae sawl ffactor yn cyfrannu at iechyd da, fel addysg, cyflogaeth a thai, ac rydym yn cydnabod bod plant sy’n cael eu geni yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o wynebu anghydraddoldebau iechyd.

“Rydym yn benderfynol o gymryd camau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ledled y sir er mwyn sicrhau nad yw iechyd da yn cael ei bennu’n unig ar ble rydych chi’n digwydd byw.

“Rydym yn falch o’r gwaith sydd eisoes ar y gweill sy’n ymgorffori llawer o egwyddorion Marmot. Er enghraifft, mae Sir Ddinbych yn Gweithio, sy’n un o ddim ond tri phrosiect yng Nghymru i dderbyn cyllid ‘Trailblazer’ Llywodraeth Cymru, eisoes yn helpu trigolion i wella eu hiechyd, eu sgiliau a’u hyder i symud i mewn i waith. Trwy’r bartneriaeth ddiweddar ‘Y Tu Hwnt i’r Rhwystrau’ gyda RCS, rydym yn darparu mynediad cyflym at gefnogaeth therapiwtig i bobl sy’n wynebu heriau iechyd sy’n eu hatal rhag gweithio, gan eu helpu i feithrin gwydnwch a symud yn agosach at gyflogaeth gynaliadwy.

“Rydym yn parhau i flaenoriaethu gwaith ymatal, gan gynnig cyngor a chefnogaeth gynnar cyn i broblemau waethygu ac mae ein gwaith ar ail-alluogi, atal digartrefedd ac atal trais eisoes yn dwyn ffrwyth. Mae ein model ailgartrefu cyflym wedi haneru’r defnydd o lety brys, ac mae ein buddsoddiad mewn cartrefi fforddiadwy, cynnes a hygyrch wedi’i gydnabod.

“Bydd y cyllid a gadarnhawyd heddiw yn mireinio ein ffocws dros y ddwy flynedd nesaf, yn cryfhau gweithio ar draws gwasanaethau, ac yn gwella sut rydym yn gwerthuso effaith ein gwaith. Dyma gyfle cyffrous i’r Cyngor ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Sefydliad dros Ecwiti Iechyd i wella ein darpariaeth er budd ein trigolion.”

Cyfarfu Prif Weithredwr Sir Ddinbych, Helen White ynghyd â chydweithwyr o’r Cyngor â Syr Michael Marmot yn yr Uwchgynhadledd Ecwiti Iechyd a dywedodd, “Roedd yn wych cael clywed yn uniongyrchol gan Sir Michael am sut gall ymgorffori’r dull Cenedl Marmot arwain at waredu anghydraddoldeb iechyd er mwyn sicrhau gwell canlyniadau ar draws cymunedau. Edrychwn ymlaen at ddysgu gan eraill wrth i ni ddatblygu’r maes pwysig yma o waith.”

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, “Mae lefel yr anghydraddoldeb sy'n bodoli yng Nghymru heddiw yn annerbyniol. Mae'n niweidio bywydau, yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn byrhau disgwyliad oes. Os na fyddwn yn gweithredu nawr, ni fydd y niwed a'r costau hyn ond yn cyflymu.

“Dyna pam y gwnes i alw, yn Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol, ar i Gymru ddod yn genedl Marmot. Mae'r dull Marmot yn adlewyrchu uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol drwy fynd i'r afael ag achosion sylfaenol iechyd gwael — sef tlodi, tai ansicr, mynediad anghyfartal i addysg, a mynediad cyfyngedig at natur. Mae hyn yn ymwneud ag atal, tegwch, a gwydnwch hirdymor.

Yr wyth egwyddor Marmot yw:
1. Rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn
2. Galluogi pob plentyn, person ifanc ac oedolyn i wneud y gorau o'u galluoedd a chael rheolaeth dros eu bywydau
3. Creu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb
4. Sicrhau safon byw iach i bawb
5. Creu a datblygu lleoedd a chymunedau iach a chynaliadwy
6. Cryfhau rôl ac effaith atal afiechyd
7. Mynd i'r afael â hiliaeth, gwahaniaethu a'u canlyniadau
8. Dilyn cynaliadwyedd amgylcheddol a chydraddoldeb iechyd gyda'n gilydd

Rhoi wyneb newydd ar ffordd Pont H y Rhyl

Fis Mawrth bydd gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar Bont H yn y Rhyl.

Fis Mawrth bydd gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar Bont H yn y Rhyl.

Byddwn yn rhoi wyneb newydd ar y ffordd rhwng 3 Mawrth a 25 Mawrth. 

Mae’r gwaith yma wedi’i ariannu drwy Fenter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.

Clustnododd y Cyngor 57 o leoliadau yn Sir Ddinbych i fanteisio ar y rhaglen ddwy flynedd hon. Nod y rhaglen (sydd wedi rhoi £4.780 miliwn ar gyfer 2025/26-2026/27) yw gwella cyflwr rhwydwaith ffyrdd y sir.

Yn ystod y gwaith, bydd y ffordd ar gau a bydd arwyddion i ddangos y llwybr amgen.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae Pont H wedi bod yn destun trafod i nifer o breswylwyr oherwydd cyflwr y ffordd, ond bydd y gwaith yma’n gwella’r llwybr teithio er budd defnyddwyr y ffordd.  

“Hoffaf ddiolch i’r trigolion lleol a’r gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybr hwn am eu cefnogaeth a’u hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig yma.”

Mae rhagor o wybodaeth am waith Priffyrdd ar gael ar ein gwefan: www.sirddinbych.gov.uk/ffyrdd

 

 

Gwaith diogelwch ffyrdd ar fin dechrau ym Mhrestatyn

Mae'r gwaith i wella diogelwch ffyrdd mewn cyffordd ym Mhrestatyn i ddechrau'n fuan.

Nodwyd yr angen am y cynllun gan Gyngor Sir Ddinbych a Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â'r patrwm pryderus o wrthdrawiadau wrth gyffordd Bastion Road, Bridge Road, Station Road a Sandy Lane ym Mhrestatyn.

Sicrhaodd Cyngor Sir Ddinbych £120,000 o gyllid grant o grant cyfalaf diogelwch ffyrdd Llywodraeth Cymru i gwblhau'r gwaith.  Mae'r cyllid grant hwn wedi'i glustnodi ac ni ellir ei ddefnyddio ar brosiectau eraill.

Bydd y cynllun yn edrych i gyflwyno gwelliannau i'r groesfan sebra bresennol, llwybrau troed gwell a symleiddio cynllun y gyffordd a bydd yn cael ei wneud gan y contractwyr lleol KM Construction.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Simon Barrasford o Wasanaethau Cefnogaeth Weithredol Heddlu Gogledd Cymru:

 "Mae cyflwyno'r gwelliannau diogelwch hyn ym Mhrestatyn yn nodi cam pwysig wrth fynd i'r afael â phryderon yn dilyn gwrthdrawiadau yn yr ardal.

 "Diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth, a lle mae patrymau o ddigwyddiadau yn dod i'r amlwg, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i gymryd camau pendant. 

 "Mae'r mesurau hyn wedi'u cynllunio i leihau risg, annog ymddygiadau gyrru mwy diogel, ac amddiffyn pawb sy'n defnyddio'r ffyrdd hyn yn well.  Rydym yn cefnogi'r cynllun yn llawn ac yn parhau i fod wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein cymunedau'n ddiogel."

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

"Mae'n galonogol gweld bod Cyngor Sir Ddinbych wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud cyffordd mor brysur ym Mhrestatyn yn fwy diogel i yrwyr a cherddwyr sy'n defnyddio'r ffordd.

"Diogelwch trigolion yw ein prif bryder ac mae'n bwysig, pan fydd patrymau pryderus fel y rhain yn dod i'r amlwg, eu bod yn cael eu nodi a'u trin yn briodol mewn modd amserol".

Cynlluniau gwella ffyrdd mis Mawrth

Fis Mawrth, bydd Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi wyneb newydd ar nifer o ffyrdd y sir,

Fis Mawrth, bydd Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi wyneb newydd ar nifer o ffyrdd y sir, gan barhau i wella llwybrau teithio ar hyd a lled y sir.

Bydd y gwaith yn cynnwys sawl cynllun sydd wedi’i ariannu drwy Fenter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.

Clustnododd y Cyngor 57 o leoliadau yn Sir Ddinbych i fanteisio ar y rhaglen ddwy flynedd hon. Nod y cyllid (£4.780 miliwn ar gyfer 2025/26-2026/27) yw gwella cyflwr rhwydwaith ffyrdd y sir.

Mae cynlluniau eraill mis Mawrth wedi’u hariannu drwy gronfa gyfalaf y Cyngor, i wella profiadau gyrru preswylwyr ac ymwelwyr y sir.

Dyma’r cynlluniau sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru:

  • Ffordd Wigfair, Llanelwy: 02/03 – 13/03
  • Pont ‘H’, y Rhyl: 02/03 – 25/03  
  • Llys y Delyn i gyffordd Bryn Mawr, Rhuallt: 21/03 – 25/03
  • Ffordd Las, y Rhyl: 30/03 – 19/04  

Dyma gynlluniau cyfalaf Cyngor Sir Ddinbych:

  • Maes y Coed, Dinbych: 02/03 – 06/03
  • B5105 Clawddnewydd: 16/03 – 30/03
  • Fforddisa, Prestatyn: 19/03 – 20/03
  • Green Dinbych i’r A541: 23/03 – 19/04    
  • A542 Bwlch yr Oernant: 24/03 – 02/04
  • Lôn yr Ysgol, Eryrys: 25/03 – 02/04
  • A5104 Bryneglwys: 16/03 – 02/04  

 

Bydd rhagor o wybodaeth am rai o’r cynlluniau hyn yn cael ei chyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ni’n ymwybodol iawn o’r trafodaethau parhaus a gynhelir am gyflwr ein ffyrdd yma yn Sir Ddinbych. Bydd llawer o waith caled yn cael ei wneud fis Mawrth i fynd i’r afal â rhan fawr o’n rhwydwaith er budd y rheiny sy’n defnyddio ein ffyrdd.

“Hoffwn ddiolch i’r holl drigolion sy’n byw yn yr ardaloedd dan sylw ac i’r gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybrau hyn am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig yma fis Mawrth.”

Mae rhagor o wybodaeth am waith Priffyrdd ar gael ar ein gwefan: www.sirddinbych.gov.uk

 

 

Gofal Dechrau'n Deg yn Sir Ddinbych i ddathlu carreg filltir 20 mlynedd gyda sesiwn galw heibio yn y Rhyl

Bydd tîm Dechrau'n Deg y Cyngor yn cynnal sesiwn galw heibio am ddim ym mwyty 1891 yn y Rhyl, fel rhan o ddathliadau 20 mlynedd Gwasanaeth Dechrau'n Deg yn Sir Ddinbych. Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 4ydd o Fawrth, 10:00am – 2:00pm.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i deuluoedd lleol gwrdd â’r gwasanaethau lleol sy’n cefnogi teuluoedd â babanod a phlant ifanc.

Yn ogystal â chwrdd â darparwyr gwasanaeth, gall teuluoedd gael cyngor a gwybodaeth gan dîm Dechrau'n Deg y Cyngor a gwasanaethau eraill. Bydd cyfleoedd i ganfod pa gefnogaeth sydd ar gael a’r gweithgareddau cyfeillgar i blant sy’n cael eu cynnal yn lleol.

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg Sir Ddinbych, ar gyfer plant o’u geni hyd at eu 4ydd pen-blwydd, ynghyd â’u rhieni/gofalwyr, sy’n byw mewn ardaloedd cod post penodol.

Nod y rhaglen yw helpu plant i gael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd er mwyn eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Dyma gyfle gwych i deuluoedd lleol ddod i weld pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Dylai teuluoedd â phlant dan bedair oed wirio a ydynt yn gymwys er mwyn gweld a oes cefnogaeth ychwanegol ar gael iddynt.

Yn ogystal â darparu cefnogaeth, bydd ein tîm yn cyfeirio pobl at weithgareddau lleol sy’n addas i blant.”

Gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar y gweill ger y Llyn Morol

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi gwybod i drigolion bod gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar y gweill ger y Llyn Morol yn y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi gwybod i drigolion bod gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar y gweill ger y Llyn Morol yn y Rhyl. 

Er mwyn gwneud y gwaith, bydd y llyn yn cael ei ddraenio’n rhannol gan ddechrau ddydd Gwener 27 Chwefror am tua phythefnos tra bod archwiliadau perthnasol a gwaith cynnal a chadw cyffredinol blynyddol yn digwydd ar y safle. 

Bydd y gwaith draenio rhannol yn galluogi mynediad at y waliau cynnal a gwaith clirio eitemau mwy o amgylch yr ymylon, tra’n sicrhau bod yna ddigon o ddŵr yno i’r elyrch allu parhau ar y llyn yn ddiogel. Fe fydd y llyn yn cael ei ail-lenwi unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau. 

Mae Swyddfa'r Harbwr, sydd yn rheoli’r Llyn Morol, wedi bod yn gweithio gyda swyddogion o Wasanaeth Cefn Gwlad i sicrhau cyn lleied o amhariad â phosibl i’r elyrch a bywyd gwyllt arall ar y safle. Mae’r gwaith yma wedi cael ei gynllunio i gael ei wneud y tu allan i dymor nythu bywyd gwyllt a defnyddwyr tymor yr haf.

Mae bioamrywiaeth y llyn, yn ogystal â’r gweithgareddau ar y llyn, yr un mor bwysig i ddyfodol y safle, a rhoddir ystyriaeth lawn i’r llyn at ei gilydd wrth wneud unrhyw waith a phenderfyniadau.

 

 

Contractwyr wedi’u penodi ar gyfer prosiectau Rhuthun

Mae'r cyngor wedi penodi contractwr ar gyfer gwaith gwella’r parth cyhoeddus sydd ar droed yn nhref Rhuthun.

Mae'r cyngor wedi penodi contractwr ar gyfer gwaith gwella’r parth cyhoeddus sydd ar droed yn nhref Rhuthun.

Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.

Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yng Ngorllewin Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei wneud gan OBR Construction ar Sgwâr Sant Pedr a Chae Ddôl a bydd yn ceisio ehangu’r posibiliadau ar gyfer cynnal digwyddiadau ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, gan hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref ar yr un pryd.

Bwriedir i waith gwella parth cyhoeddus Sgwâr Sant Pedr ddechrau ar y safle o ganol fis Mawrth 2026 a chaiff ei wneud fesul cam. Bydd oedi ym mis Gorffennaf er mwyn i Ŵyl Rhuthun gael ei chynnal yn ddiogel a heb amhariad.

Bydd yr holl waith adeiladu yn dod i stop dros gyfnod yr ŵyl a bydd y safle yn ddiogel trwy gydol y cyfnod. Ar ôl i’r ŵyl ddod i ben, bydd gwaith adeiladu yn ailddechrau yn ôl y bwriad.

Bydd gwaith yng Nghae Ddôl i greu llwybr teithio llesol a thrac pwmpio yn dechrau ar ddyddiad diweddarach ar ôl i’r tymor rygbi ddod i ben ym mis Ebrill, er mwyn lleihau amhariad i rai sy’n defnyddio’r tir yn rheolaidd.

Fel rhan o’r cytundeb, bydd OBR Construction yn darparu swyddog cyswllt busnes i gefnogi busnesau gydag unrhyw wasanaethau cludiant fydd eu hangen yn ystod y prosiect.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:  

“Tra bod y prosiect yn ddatblygiad cyffrous yn Rhuthun, a fydd yn adfywio’r sgwâr a Chae Ddôl, rydym ni’n sylweddoli y bydd y gwaith yn effeithio ar breswylwyr a busnesau.

“Trwy gydol y ddau brosiect, bydd OBR Construction a’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r gymuned, yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd a rhoi gwybod am unrhyw effaith dros dro. Bydd hysbysiadau yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw i sicrhau bod preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yn ymwybodol o newidiadau dros dro i fynediad a dulliau rheoli traffig yn ystod y cam adeiladu.

“Wrth i ni baratoi ar gyfer y gwaith yn yr ardal, rydym yn gofyn i bob busnes a phreswylydd nad ydynt wedi llenwi Arolwg Anghenion Mynediad i wneud hynny. Mae ymatebion yn hanfodol i’n helpu i ddeall pa fynediad fydd ei angen ar fusnesau a phreswylwyr pan fydd y gwaith yn dechrau.

“Trwy lenwi’r arolwg, byddwch yn ein helpu i sicrhau bod mynediad yn cael ei gynnal i eiddo a thir, gan ganiatáu i ni gynllunio a chefnogi llwybrau priodol a lleihau amhariad yn ystod y gwaith adeiladu.”

Os nad ydych chi wedi llenwi’r arolwg eto neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y cynlluniau cysylltwch â thîm y prosiect: swyddfarhaglencorfforaethol@sirddinbych.gov.uk

Mae ceisiadau am symiau cymudol bellach ar agor

Mae ceisiadau bellach ar agor am gyllid i helpu i wella mannau agored a mannau chwarae ledled Sir Ddinbych.

Mae cyfanswm o £101,064.42 ar gael i gefnogi prosiectau lleol.

Daw'r cyllid o Symiau Cymudol, sef taliadau a wneir gan ddatblygwyr pan nad yw'n bosibl darparu mannau agored yn yr awyr agored fel rhan o ddatblygiad newydd. Mae'r cronfeydd hyn wedi'u neilltuo i wella parciau, mannau chwarae a mannau agored eraill, fel arfer o fewn yr un dref neu gymuned lle digwyddodd y datblygiad. Mewn rhai achosion, gellir defnyddio'r arian hefyd er budd cymunedau cyfagos yn Sir Ddinbych.

Gall amrywiaeth o sefydliadau wneud cais am gyllid, gan gynnwys:

  • Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
  • Grwpiau gwirfoddol a chymunedol
  • Elusennau
  • Sefydliadau sector cyhoeddus
  • Clybiau chwaraeon amatur
  • Cyngor Sir Ddinbych

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau:

“Mae cyllid symiau cymudol yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddiogelu a gwella mannau agored a mannau chwarae ledled Sir Ddinbych. Mae'r buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau bod cymunedau lleol yn parhau i elwa o fannau diogel, croesawgar a chynaliadwy sy'n cefnogi lles, chwarae a bywyd cymunedol. Byddwn yn annog sefydliadau sy’n gymwys i ystyried gwneud cais ac i fanteisio ar y cyfle hwn i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu hardal leol.”

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 20 Ebrill 2026. Mae rhagor o wybodaeth a ffurflenni cais ar gael ar-lein yma: www.sirddinbych.gov.uk/symiau-cymudol

Mae’r cyllid sydd ar gael, ac ym mha ardal yn cael eu rhestru isod:

Ardal

Swm sydd ar gael

Ardal Cyngor Cymuned Llangynhafal

£12,529.85

Ardal Cyngor Cymuned Llanynys

£4,025.03

Ardal Cyngor Tref Dinbych

£1,362.39

Ardal Cyngor Cymuned Cyffylliog

£2,694.19

Ardal Cyngor Cymuned Clocaenog

£1,432.80

Ardal Cyngor Tref Y Rhyl

£25,746.74

Ardal Cyngor Tref Prestatyn

£22,986.49

Ardal Cyngor Tref Llangollen

£3,603.18

Ardal Cyngor Cymuned Llandyrnog

£1,434.50

Ardal Cyngor Cymuned Llanarmon yn Iâl

£1,298.40

Ardal Cyngor Tref Rhuddlan

£1,298.40

Ardal Cyngor Dinas Llanelwy

£22,652.45

 

Adnewyddu tanysgrifiad gardd yn fyw

Gall garddwyr Sir Ddinbych sy’n defnyddio’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd adnewyddu eu tanysgrifiad yn awr.

Mae’r cyfnod adnewyddu ar gyfer 2026 i 2027 ar agor i wneud yn siŵr bod digon o amser i bawb gofrestru cyn y bydd cyfnod newydd y gwasanaeth yn dechrau o 1 Ebrill.

Mae’r Cyngor yn annog preswylwyr sy’n cofrestru am y tro cyntaf i fanteisio ar y cyfnod cofrestru hwn fel eu bod yn cael budd llawn o’r gwasanaeth 12 mis.

Anogir preswylwyr i adnewyddu eu gwasanaeth casglu ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen isod.

https://www.denbighshire.gov.uk/cy/biniau-ac-ailgylchu/gwastraff-gardd.aspx 

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd dwywaith yr wythnos yn cynnig dull hwylus, a chost effeithiol o fynd i’r afael â’u gwastraff gardd, ac yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddiwallu’r targedau ailgylchu statudol.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Gallwch adnewyddu neu gofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd 12 mis o heddiw ymlaen. Byddaf yn annog preswylwyr i wneud hyn cyn gynted â phosib er mwyn cyfri amser darparu’r cynwysyddion newydd, ac er mwyn cymryd mantais o’r gwasanaeth yn llawn am 12 mis.

Gall preswylwyr wirio a oes ganddynt danysgrifiad cyfredol ar dudalen dyddiadau casglu biniau’r wefan, neu gallwch ddysgu mwy am y gwasanaeth yma 

Lleisiwch eich barn i ddylanwadu ar ddyfodol y sir

Anogir pobl leol i leisio’u barn yn yr arolwg “Dewch i siarad: Byw yn Sir Ddinbych”.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal yr arolwg gyda’r nod o glywed barn a safbwyntiau pobl ynglŷn â byw yn eu cymunedau lleol a defnyddio gwasanaethau.

Mae’r arolwg yn gyfle i bobl rannu’r hyn sy’n bwysicaf iddynt yn eu bröydd.

Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cydraddoldeb, Polisi a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Mae’r arolwg yn gyfle go iawn i bobl wneud gwahaniaeth yn eu hardaloedd lleol. Bydd eich llais yn ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a beth ddylwn ni ei wella.

“Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, po fwyaf manwl fydd y darlun a gawn ni o beth sy’n bwysig i gymunedau yn y sir a sut y gallwn ddatblygu gwasanaethau i’r dyfodol yn Sir Ddinbych.

Anogir pobl i gymryd rhan yn yr arolwg a’i rannu â theulu, ffrindiau a chymdogion i sicrhau ein bod yn clywed cymaint o leisiau â phosib.

Mae’r arolwg ar gael i bawb sy’n byw yn Sir Ddinbych ac mae modd ei gwblhau ar-lein yma.

Gellir cael copi ar bapur hefyd o unrhyw lyfrgell yn y sir.

Oeddech chi'n gwybod bod ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym eisiau gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych, a gellir gweld uchafbwyntiau'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni yma.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw