Rhaglen newydd Cysylltu â Gwaith gwerth £12.9m i’w lansio yng Ngogledd Cymru
Mae rhaglen gyflogaeth â chymorth newydd ar fin agor yng Ngogledd Cymru ym mis Mai 2026, gan gynnig cymorth cyflogaeth wedi’i deilwra i bobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd a’r rhai sy’n wynebu rhwystrau cymhleth wrth geisio cael gwaith cyflogedig, cynaliadwy.
Cyngor Sir Ddinbych yw’r Corff Atebol a byddant yn arwain y gwaith o ddarparu rhaglen Cysylltu â Gwaith mewn partneriaeth â’r pum awdurdod lleol arall yng Ngogledd Cymru [Conwy, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam].
Bydd Gogledd Cymru yn elwa o £12.9m dros 4 blynedd i ddarparu cymorth cyflogaeth arbenigol a bwrpasol i 3,555 o bobl sydd eisiau gweithio, dychwelyd i waith neu sydd angen cymorth i gynnal eu cyflogaeth bresennol.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:
“Rydym yn gwybod bod gan bobl anabl a’r rhai â chyflyrau iechyd gymaint i’w gynnig i’n cymunedau, ac eto mae gormod yn cael eu gadael heb y cymorth sydd ei angen arnynt i symud i waith ystyrlon.
“Fel y corff atebol ar gyfer Cysylltu â Gwaith ar draws Gogledd Cymru, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid, sefydliadau lleol a’n cydweithwyr iechyd i gael gwared ar rwystrau, meithrin llesiant, a datgloi potensial.
“Mae’r rhaglen hon yn cyd-fynd yn agos â’n hymrwymiad i dwf economaidd a threchu amddifadedd, gan gefnogi preswylwyr i ddatblygu sgiliau, meithrin hyder a chael mynediad at swyddi da, cynaliadwy.
“Ein nod yw sicrhau bod gan bawb sy’n gallu ac sydd eisiau gweithio y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu.”
Dywedodd Gary Jones, Rheolwr Rhaglen Ranbarthol Cysylltu â Gwaith:
“Nod Cysylltu â Gwaith fydd dod ag unigolion, iechyd, cyflogwyr a phartneriaid darparu at ei gilydd gyda diben cyffredin o ddatgloi potensial, creu cyfleoedd ystyrlon, a helpu pobl i ffynnu trwy arloesi a chydweithio.”
Mae Cysylltu â Gwaith yn rhaglen wirfoddol ac yn agored i unrhyw un sydd dros 16 oed ac sydd eisiau gweithio, sy’n berson anabl, sydd â chyflwr iechyd, neu sy’n wynebu rhwystrau cymhleth i waith. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio o amgylch anghenion a chyfleoedd lleol, gan sicrhau bod cymorth yn cael ei deilwra i ofynion cymunedau ledled Gogledd Cymru.
Bydd cyfranogwyr yn gallu cael mynediad at ystod o gymorth personol, gan gynnwys:
- Cynghorwyr cyflogaeth arbenigol sy’n gweithio un-i-un gyda chyfranogwyr i ddeall eu hiechyd, eu sgiliau a’u hanghenion cyflogaeth.
- Cynghorwyr wedi’u lleoli o fewn lleoliadau gofal iechyd, gan gynnwys meddygfeydd a gwasanaethau iechyd meddwl.
- Cymorth i ymgysylltu â chyflogwyr heb orfod llywio prosesau ymgeisio cymhleth.
- Cymorth mewn gwaith parhaus i gyfranogwyr a chyflogwyr er mwyn helpu i sicrhau llwyddiant hirdymor.
Unwaith y bydd y gwasanaeth yn agor, bydd preswylwyr yn gallu dod o hyd i wybodaeth leol a llwybrau atgyfeirio trwy wefan eu cyngor.
Mae Cysylltu â Gwaith wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU ac mae’n rhan allweddol o strategaeth Cael Prydain i Weithio Llywodraeth y DU.
