Talu teyrnged i'r Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi tristau o glywed am farwolaeth y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones yn gynharach yr wythnos hon.
Roedd y Cynghorydd Chamberlain-Jones wedi gwasanaethu ar Gyngor Sir Dinbych yn ddi-dor ers 2004 gan gynrychioli Ward De'r Rhyl fel aelod amhleidiol. Cafodd yrfa hir a nodedig mewn gwasanaethau cyhoeddus gan weithio yn Ysbyty Glan Clwyd am bron i 30 mlynedd.

Y Cynghorydd Chamberlain-Jones oedd Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn ddinesig 2012-2013 ac roedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau rhwng Mai 2013 a Mai 2017 ac yna o Fehefin 2017 tan Fai 2022.
Cyn hyn roedd y Cynghorydd Chamberlain-Jones yn aelod o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai ac yn Is-gadeirydd Grŵp Ardal Aelodau'r Rhyl rhwng Tachwedd 2017 a Gorffennaf 2019, ac yn aelod o Banel Mabwysiadu Sir Ddinbych am flynyddoedd lawer. Roedd y Cynghorydd Chamberlain-Jones hefyd yn gyn Faer ar y Rhyl ac yn Gynghorydd Tref ymroddedig i Gyngor Tref y Rhyl.
Wrth dalu teyrnged i'r Cynghorydd Chamberlain-Jones, dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, “Rwyf mor drist o glywed am farwolaeth y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones. Roedd JJ, fel roedden ni’n ei hadnabod, wir yn ysbrydoliaeth.
“Roedd hi'n un o'r cynghorwyr mwyaf gweithgar rydw i wedi'u hadnabod a gwnaeth waith mor wych o gynrychioli ei thrigolion. Roedd hi'n gymeriad hoffus ac yn uchel ei pharch ymysg yr holl gynghorwyr y bu'n gweithio gyda nhw. Bydd colled fawr ar ôl JJ. Mae ein cydymdeimlad, ein meddyliau a'n gweddïau gyda'i theulu yn eu profedigaeth.”
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Arwel Roberts, “Bydd colled aruthrol i Sir Ddinbych wedi marwolaeth y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones. Roedd yn weithgar yn ei ward ac yn amlwg yn ei chymuned. Fel Cadeirydd y Sir rwyf yn cydymdeimlo yn fawr a'i theulu a'i ffrindiau agos. Bydd bwlch mawr ar ei hôl. Heddwch iddi.”