Fforwm Twristiaeth

Caiff busnesau a sefydliadau twristiaeth eu gwahodd i Fforwm Twristiaeth nesaf Sir Ddinbych a gaiff ei gynnal ddydd Mercher, 15 Hydref yng ngwesty’r Wild Pheasant, Llangollen (10.30am–1.30pm).

Mae’r Fforwm yn cynnig cyfle gwych i glywed am y datblygiadau diweddaraf yn y sector, cysylltu gyda busnesau o’r un meddylfryd a rhannu profiadau.

Mae’r rhaglen eleni yn cynnwys ystod o siaradwyr gwadd arbenigol.

  • Gail Swan, Cadeirydd Grŵp Bwyd a Diod Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru
  • Lucy von Weber, Pennaeth Marchnata, Croeso Cymru
  • Pennaeth Gwasanaeth Twristiaeth, Cyngor Sir Ddinbych

Bydd cynrychiolwyr yn cael y cyfle hefyd i weld amrywiaeth o stondinau gwybodaeth gan sefydliadau gan gynnwys Coleg Cambria, Banc Datblygu Cymru, Busnes@LlandrilloMenai, Y Ganolfan Sgiliau Coetir, Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Rheilffordd Llangollen a Chorwen a Thwristiaeth Sir Ddinbych.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Mae twristiaeth yn chwarae rhan mor hanfodol yn economi a diwylliant Sir Ddinbych ac mae’r Fforwm yn ffordd wych i ni ddod ynghyd, rhannu syniadau a chefnogi ein gilydd. P’un ai ydych chi’n fusnes bach, sefydliad cymunedol neu’n rhan o atyniad mwy, fe fyddwn yn eich annog i ddod draw a bod yn rhan o’r sgwrs.”

Bydd cofrestru yn agor am 10.00am a bydd y Fforwm yn dechrau am 10.30am gyda chinio bwffe i ddilyn a rhyngweithio am 1.30pm.

Mae lleoedd yn rhad ac am ddim ond mae’n rhaid archebu lle. Cadwch eich lle heddiw. Ffurflen Archebu Eventbrite.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw