Hyfforddiant a gweithdai am ddim yn ystod mis Medi

Working Denbighshire Logo

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnal cyfres o weithdai a sesiynau hyfforddi am ddim y mis Medi hwn i gefnogi pobl gyda sgiliau, lles a chyflogaeth. Ar agor i unrhyw un sy'n byw yn Sir Ddinbych — boed mewn gwaith neu allan o waith — mae'r sesiynau hyn yn ffordd wych o feithrin hyder, dysgu rhywbeth newydd ac archwilio cyfleoedd.

Dyma beth sydd ar y gweill:

  • Ailadeiladu a Blodeuo gyda LEGO: 12.30pm ar Ddydd Mawrth 16 Medi / 23 Medi / 30 Medi yn Llyfrgell Y Rhyl
  • Hyfforddiant Barista: 9.30am Dydd Mercher, 17 Medi yng Nghanolfan Gymunedol Ffordd Las
  • Cyflwyniad i Weithiwr Warws: 10am Dydd Mercher, 17 Medi yn Llyfrgell Y Rhyl
  • Llesiant ar Ddydd Mercher: Creu a Thawelu: 10.30am Dydd Mercher, 17 Medi yn Hwb Cymunedol Pengwern
  • Cinio Pastai Melys a Pizza: 11am Dydd Iau, 18 Medi yn ‘Use your Loaf’
  • Cyfle Ysgol Goedwig: 9.45am Dydd Gwener, 19 Medi yn Llyfrgell Y Rhyl
  • Cymorth Cyntaf Pediatrig: 9.30am Dydd Llun, 22 Medi yn HWB Dinbych
  • She Connects - Creu a Thawelu: 11am Dydd Mercher, 24 Medi yng Nghanolfan Menywod Gogledd Cymru, Y Rhyl
  • Dynion yn Symud Ymlaen - Sgwrsio a Chysylltu: 1pm Dydd Mercher, 24 Medi yn Llyfrgell Y Rhyl
  • Lefel 2 Diogelwch Bwyd: 9.30am Dydd Llun, 29 Medi yn Llyfrgell Y Rhyl

Mae'r sesiynau i gyd ar gael i'w harchebu drwy dudalen Eventbrite Sir Ddinbych yn Gweithio: www.eventbrite.com/o/working-denbighshire-79434827543

Os ydych chi'n adnabod rhywun a allai elwa, neu os ydych chi eisiau gwybod mwy, cysylltwch â thîm Sir Ddinbych yn Gweithio.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw