Fforwm Twristiaeth
Caiff busnesau a sefydliadau twristiaeth eu gwahodd i Fforwm Twristiaeth nesaf Sir Ddinbych a gaiff ei gynnal ddydd Mercher, 15 Hydref yng ngwesty’r Wild Pheasant, Llangollen (10.30am–1.30pm).

Mae’r Fforwm yn cynnig cyfle gwych i glywed am y datblygiadau diweddaraf yn y sector, cysylltu gyda busnesau o’r un meddylfryd a rhannu profiadau.
Mae’r rhaglen eleni yn cynnwys ystod o siaradwyr gwadd arbenigol.
- Gail Swan, Cadeirydd Grŵp Bwyd a Diod Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru
- Lucy von Weber, Pennaeth Marchnata, Croeso Cymru
- Pennaeth Gwasanaeth Twristiaeth, Cyngor Sir Ddinbych
Bydd cynrychiolwyr yn cael y cyfle hefyd i weld amrywiaeth o stondinau gwybodaeth gan sefydliadau gan gynnwys Coleg Cambria, Banc Datblygu Cymru, Busnes@LlandrilloMenai, Y Ganolfan Sgiliau Coetir, Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Rheilffordd Llangollen a Chorwen a Thwristiaeth Sir Ddinbych.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae twristiaeth yn chwarae rhan mor hanfodol yn economi a diwylliant Sir Ddinbych ac mae’r Fforwm yn ffordd wych i ni ddod ynghyd, rhannu syniadau a chefnogi ein gilydd. P’un ai ydych chi’n fusnes bach, sefydliad cymunedol neu’n rhan o atyniad mwy, fe fyddwn yn eich annog i ddod draw a bod yn rhan o’r sgwrs.”
Bydd cofrestru yn agor am 10.00am a bydd y Fforwm yn dechrau am 10.30am gyda chinio bwffe i ddilyn a rhyngweithio am 1.30pm.
Mae lleoedd yn rhad ac am ddim ond mae’n rhaid archebu lle. Cadwch eich lle heddiw. Ffurflen Archebu Eventbrite.
Beth Sy'n Digwydd ym Mhrestatyn
(Stryd Fawr Prestatyn)
Ymgynghoriad Cyhoeddus Dylunio Cysyniad Cychwynnol Stryd Fawr Prestatyn
I glywed barn pobl ar yr hyn yr hoffent ei weld yng nghanol y Stryd Fawr fel rhan o'r cynllun yma, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 15 Medi a 31 Hydref 2025.
Am ragor o wybodaeth ac i weld y dyluniadau ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/datblygu-cymunedol/cronfa-ffyniant-bro/rownd-3/stryd-fawr-prestatyn/stryd-fawr-prestatyn.aspx
Bydd yr ymgynghoriad ar gael o ddydd Llun 15 Medi yn: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/eich-cyngor/ymgynghoriadau/ymgynghoriadau.aspx
Bydd dyluniadau hefyd ar ddangos yn Llyfrgell Prestatyn o ddydd Llun 15 Medi am hyd yr ymgynghoriad a gellir casglu a chyflwyno copïau papur o'r ymgynghoriad yno hefyd.
Bydd adborth a dderbynnir yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei rannu â'r cyhoedd yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn a bydd yn helpu i lywio'r dyluniad terfynol.
Digwyddiad Gwybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl gweld y dyluniadau, dewch draw i'r sesiwn galw heibio i siarad â Thîm y Prosiect a gynhelir ddydd Iau 18 Medi 2025.
Cynhelir y digwyddiad yn sinema Scala, Prestatyn rhwng 1pm – 7pm.
Am ragor o wybodaeth ac i weld y dyluniadau ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/datblygu-cymunedol/cronfa-ffyniant-bro/rownd-3/stryd-fawr-prestatyn/stryd-fawr-prestatyn.aspx
Bydd gwybodaeth am brosiect Parc Natur Prestatyn ar gael ar y diwrnod hefyd.
Hyfforddiant a gweithdai am ddim yn ystod mis Medi

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnal cyfres o weithdai a sesiynau hyfforddi am ddim y mis Medi hwn i gefnogi pobl gyda sgiliau, lles a chyflogaeth. Ar agor i unrhyw un sy'n byw yn Sir Ddinbych — boed mewn gwaith neu allan o waith — mae'r sesiynau hyn yn ffordd wych o feithrin hyder, dysgu rhywbeth newydd ac archwilio cyfleoedd.
Dyma beth sydd ar y gweill:
- Ailadeiladu a Blodeuo gyda LEGO: 12.30pm ar Ddydd Mawrth 16 Medi / 23 Medi / 30 Medi yn Llyfrgell Y Rhyl
- Hyfforddiant Barista: 9.30am Dydd Mercher, 17 Medi yng Nghanolfan Gymunedol Ffordd Las
- Cyflwyniad i Weithiwr Warws: 10am Dydd Mercher, 17 Medi yn Llyfrgell Y Rhyl
- Llesiant ar Ddydd Mercher: Creu a Thawelu: 10.30am Dydd Mercher, 17 Medi yn Hwb Cymunedol Pengwern
- Cinio Pastai Melys a Pizza: 11am Dydd Iau, 18 Medi yn ‘Use your Loaf’
- Cyfle Ysgol Goedwig: 9.45am Dydd Gwener, 19 Medi yn Llyfrgell Y Rhyl
- Cymorth Cyntaf Pediatrig: 9.30am Dydd Llun, 22 Medi yn HWB Dinbych
- She Connects - Creu a Thawelu: 11am Dydd Mercher, 24 Medi yng Nghanolfan Menywod Gogledd Cymru, Y Rhyl
- Dynion yn Symud Ymlaen - Sgwrsio a Chysylltu: 1pm Dydd Mercher, 24 Medi yn Llyfrgell Y Rhyl
- Lefel 2 Diogelwch Bwyd: 9.30am Dydd Llun, 29 Medi yn Llyfrgell Y Rhyl
Mae'r sesiynau i gyd ar gael i'w harchebu drwy dudalen Eventbrite Sir Ddinbych yn Gweithio: www.eventbrite.com/o/working-denbighshire-79434827543
Os ydych chi'n adnabod rhywun a allai elwa, neu os ydych chi eisiau gwybod mwy, cysylltwch â thîm Sir Ddinbych yn Gweithio.
Ailadeiladu a Ffynnu: Sesiynau Lles Lego am ddim yn dod i Sir Ddinbych
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn gwahodd oedolion (16+ oed) i gymryd rhan mewn cyfres unigryw o sesiynau lles creadigol yr hydref hwn, lle bydd Lego ar gael i oedolion.
Mae “Ailadeiladu a Ffynnu” yn rhaglen o sesiynau am ddim am bedair wythnos sy’n cael eu cynnal bob prynhawn Mawrth rhwng 12:30 a 2:30pm, gan ddechrau 16 Medi tan 7 Hydref 2025. Fe gynhelir y sesiynau yn Llyfrgell y Rhyl.
Nod y sesiynau yw rhoi hwb i les, hyder a datblygiad personol drwy bleser syml ond pwerus adeiladu Lego.
Fe arweinir y sesiynau gan Floss Barrett, artist blodau LEGO a fu ar ei thaith ei hun o wella wedi’i ysbrydoli gan y rhaglen. Fe ddechreuodd Floss adeiladu gyda LEGO yn dilyn ymosodiad â chyllell a’i gadawodd gydag anafiadau difrifol i’w dwy law. Yn rhan o’i hadferiad corfforol, fe ddechreuodd ddefnyddio LEGO i ailadeiladu cryfder a symudedd yn ei bysedd, ond yn fuan fe ddarganfu ei fod yn adnodd hollbwysig i ailadeiladu ei lles.
Mae Floss yn wirfoddolwr angerddol sy’n arbenigo ym Mlodau Botanegol LEGO ac mae’n awyddus i gyflwyno pobl eraill i’r tawelwch, creadigrwydd a phleser y gall yr hobi unigryw yma ei ennyn.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae cefnogi pobl i deimlo’n well, i gredu yn eu hunain ac i archwilio cyfleoedd newydd wrth wraidd popeth yr ydym ni’n ei wneud. Mae Ailadeiladu a Ffynnu yn enghraifft wych o sut y gall creadigrwydd a chysylltiad ysbrydoli pobl i symud ymlaen.”
Caiff y fenter ei chyflwyno gan Barod, Sir Ddinbych yn Gweithio a Floss, ac mae’n cefnogi pobl i wella eu lles, magu hyder, a chymryd camau tuag at gyflogaeth neu hyfforddiant.
Meddai Floss Barrett, gwirfoddolwr gyda Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Pan oeddwn i’n teimlo eithriadol o isel, rhoddodd LEGO ofod i mi ddianc. Fe ddaeth yn hafan ddiogel i mi, yn fyd lle gallwn i fod yn fi. Rydw i eisiau i bobl eraill deimlo’r un tawelwch, ffocws a chreadigrwydd. Bu LEGO yn help i mi wella ac rydw i wir yn credu y gall helpu pobl eraill hefyd.”
Fe fydd y sesiynau yn ymlaciol, yn gynhwysol ac ar agor i bob oedolyn, pa unai ydych chi eisiau gwella eich lles, ail-fagu hyder, neu eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Nid oes angen profiad, ac fe fydd Floss a thîm Sir Ddinbych yn Gweithio wrth law i gynnig cefnogaeth i’r rhai sy’n bresennol drwy gydol.
Gallwch fynychu dim ond un sesiwn, neu’r pedwar, ond mae llefydd yn brin, felly mae’n rhaid archebu lle. I gadw eich lle, ewch i'n gwefan.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.
Cyngerdd Elusennol y Cadeirydd yng Nghadeirlan Llanelwy

Mae'r Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Cyngor, yn eich gwahodd i'w gyngerdd elusennol yng nghwmni dau gôr lleol enwog sef Meibion Marchan a Chôr Rhuthun.
Manylion y cyngerdd:
📅 Nos Wener, 21 Tachwedd
🕢 7.30pm
📍 Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Mae tocynnau ar gyfer y cyngerdd yn £12 ac ar gael o:
- Siop Elfair: Rhuthun/Ruthin (01824 702575)
- Siop Clwyd: Dinbych/Denbigh (01745 813431)
- WISH: Rhuddlan (01745 591264)
- Tudor House: Prestatyn (01745 859528)
- Eleri Woolford: 01824 706196 (eleri.woolford@sirddinbych.gov.uk)
Bydd holl elw’r cyngerdd yn mynd at elusennau dewisol y Cadeirydd sef Hosbis Sant Cyndeyrn ac Urdd Gobaith Cymru.