Campfa awyr agored ar y gweill mewn parc yn Llangollen

Mae gwaith ar fin dechrau i ddiwygio a datblygu meysydd i hybu iechyd a lles ym Mharc Glan yr Afon yn Llangollen.

Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych sy’n cydlynu a gweithredu’r gwaith gyda chyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Daw hyn yn sgil gwaith a wnaed eisoes i wella rhannau o’r parc mewn blynyddoedd diweddar, gan gynnwys creu cwrs golff mini naw twll a gosod offer chwarae.

Mae’r Gwasanaethau Stryd yn dal i weithio i wella’r parc a’r cyffiniau er budd pobl leol ac ymwelwyr.

Ym Mharc Glan yr Afon, bwriedir defnyddio’r cyllid sydd ar gael i greu campfa awyr agored y tu ôl i’r parc sglefrio presennol. I wneud hynny, bydd angen cael gwared ar y gwrych, tirlunio’r llecyn dan sylw a gosod amrywiaeth o gyfarpar campfa awyr agored.

Bwriedir hefyd cael gwared â’r gwrych gerllaw’r llecyn picnic a’r meinciau a gosod ffensys bwaog, clwyd fel mynedfa i gerddwyr a mainc hygyrch ar gyfer cael picnic, yn ogystal â gwneud y gwaith daear sy’n angenrheidiol at hynny.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydyn ni’n falch o fedru dal i wella’r rhan hyfryd yma o Langollen drwy ddefnyddio’r cyllid sydd ar gael. Bydd y gwaith yn ategu’r hyn y mae’r Gwasanaethau Stryd wedi’i wneud yn barod i wella Parc Glan yr Afon ac yn gam arall ymlaen wrth ddatblygu’r rhan bwysig yma o’r dref er mwynhad pobl leol ac ymwelwyr â Llangollen.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw