Cyflwyno thema lan y môr i faes chwarae Prestatyn

Mae dyluniadau wedi cael ei datgelu ar gyfer gwaith uwchraddio maes chwarae Traeth Canol, Prestatyn.

Mae adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych yn rheoli’r prosiectau ar ôl diogelu cyllid grant gan Gronfa Drosiannol Ffyniant Gyffredin y DU.

Bydd y gwaith uwchraddio sy’n cyflwyno thema lan y môr newydd i’r safle yn gweld gosod cyfarpar chwarae hygyrch a synhwyraidd, sydd wedi’i ddylunio i ganiatáu i blant o bob gallu chwarae gyda’i gilydd.

KOMPAN sy’n cynnal y gwaith uwchraddio ar y safle, ac roedd swyddogion y Cyngor yn awyddus i ddefnyddio thema lan y môr, gyda’r maes chwarae mor agos i’r traeth.

Meddai llefarydd ar ran KOMPAN: “Mae gan y safle hwn gyfleoedd chwarae ar gyfer nifer o fathau o ddefnyddwyr, sy’n gynhwysol ac yn hygyrch iawn, ac roedd hwn yn faes ffocws allweddol i Gyngor Sir Ddinbych yn y camau dylunio.

“Bydd yn darparu uwchraddiad modern gyda chyfleoedd chwarae dynamig, cyffrous ac amrywiol. Mae mathau corfforol a gwybyddol o chwarae, a digon o amrywiaeth er mwyn sicrhau bod plant yn dysgu a thyfu, yn ogystal ag archwilio gwahanol fathau o chwarae corfforol.

Yn ychwanegol at yr edrychiad newydd ar y thema lan y môr, bydd y maes chwarae ar ei newydd wedd yn well ar gyfer yr amgylchedd.

Meddai Mike Bennion, Rheolwr Gwasanaethau Stryd y Gogledd: “Rydym yn falch iawn o allu ailddatblygu ac uwchraddio’r maes chwarae hwn ym Mhrestatyn er mwyn helpu i gefnogi plant lleol o bob oed o ran eu hiechyd a lles. Mae’r thema yn wych, ac yn cyd-fynd â’r amgylchedd naturiol lleol, a bydd y cyfarpar newydd yn dod i’r brig ymysg y plant a fydd yn dod i ddefnyddio’r parc.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Mae hwn yn brosiect gwych i helpu lles holl blant sy’n byw o amgylch y parc hwn ym Mhrestatyn, a thu hwnt. Edrychaf ymlaen at weld y prosiect wedi’i gwblhau ac ar agor i’r plant fwynhau.

Disgwylir i’r gwaith datblygu gychwyn ar ddechrau mis Hydref, a bydd yn cymryd hyd at 8 wythnos. Bydd y maes chwarae ar gau yn ystod y cyfnod adeiladu.

 

 

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw