Dechrau gwella dolydd blodau gwyllt cyn hir

Mae rhaglen waith ar fin dechrau i wella amryw ddolydd blodau gwyllt yn Sir Ddinbych.
Timau Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Stryd y Cyngor sydd wedi cynllunio’r gwaith er mwyn annog blodau gwyllt i ymwreiddio ar rai o ddolydd y sir yr hydref hwn a hybu amrywiaeth ynddynt.
Mae’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn cynnal ac amddiffyn byd natur yn lleol ac yn fuddiol i les cymunedau ledled y Sir. Llywodraeth Cymru sy’n ei ariannu drwy gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru.
Mae gwella’r dolydd yn fuddiol i bawb, nid byd natur yn unig, a bydd cymunedau’n elwa ar aer glanach, trefi llai poeth, a chael mannau difyr ar gyfer addysg a chwarae er budd eu lles corfforol a meddyliol.
Detholwyd y safleoedd i’w gwella eleni ar sail arolygon y tîm Bioamrywiaeth. Bydd y gwaith yn cynnwys creithio neu gribinio’r gwair i ddinoethi’r pridd a chreu lle i hadau blodau gwyllt egino a magu gwreiddiau. Mae hynny’n helpu i atal y gwair rhag mynd yn drech na’r blodau, yn annog yr hadau i egino ac yn hybu bioamrywiaeth drwy greu cymysgedd fwy helaeth o flodau gwyllt.
Ni fydd modd gwella’r holl ddolydd dan sylw eleni a gobeithir y bydd modd mynd i’r afael â’r rheiny’r flwyddyn nesaf. Safleoedd mawr sydd wedi cael blaenoriaeth eleni er mwyn sicrhau fod gennym gyflenwad da o hadau lleol i’w plannu ar ddolydd eraill mewn blynyddoedd i ddod, gan gynnal natur gynhenid y prosiect.
Yn ystod tymor 2024, cofnodwyd 297 o wahanol rywogaethau o flodau gwyllt ar ddolydd y sir a chyfanswm o 5,269 o flodau unigol, llawer iawn mwy nag sy’n tyfu mewn caeau lle torrir y gwair yn gyson.
Mae’r dolydd yn amrywio o le i le ac fel arfer yn cynnwys gwahanol fathau cynhenid o wair a blodau gwyllt. Rhywogaethau cynhenid yw’r blodau gwyllt ar ein dolydd a’r rhan fwyaf ohonynt yn rhai lluosflwydd, sy’n golygu eu bod yn dychwelyd bob blwyddyn ac yn cynnal cymaint â phosib o fywyd gwyllt.
Mae adfer a chynnal y dolydd blodau gwyllt hyn yn gam pwysig tuag at helpu i wrthdroi’r dirywiad a chynyddu cyfoeth rhywogaethau lleol ac mae’r Cyngor wedi ymrwymo i fanteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio ei feysydd glaswelltir at y diben hwn, lle bo’n briodol.
Mae blodau gwyllt yn darparu bwyd i wenyn a phryfed peillio eraill gydol y flwyddyn, sy’n cynnal ein cadwyn fwyd ni.
Heb fod gan bryfaid y cynefin hwn, byddai llai o beillwyr ym myd natur a byddai hynny’n amharu ar ein cadwyn fwyd gan mai pryfed peillio sy’n ysgogi twf y rhan fwyaf o’n ffrwythau a llysiau.
Mae’r pridd ar ddolydd blodau gwyllt hefyd yn medru dal cymaint o garbon â choedwigoedd ac yn lleihau nwyon tŷ gwydr, sy’n ein helpu wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Bydd gwella a chyfoethogi’r dolydd yn helpu i greu llwybrau sy’n cysylltu’n well efo’i gilydd fel bod bywyd gwyllt yn medru symud o le i le a mynd â phaill i leoedd eraill, er mwyn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a hybu byd natur yn ein trefi i bobl ei fwynhau.”