Gwaith adfer natur yn esgor ar gnwd newydd o flodau gwyllt
Mae tegeirianau’n atgyfodi yn Sir Ddinbych ar ôl cael hwb gan brosiect bioamrywiaeth.
Wrth i dymor blodeuo 2025 ddirwyn i ben, mae Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor wedi cofnodi twf aruthrol yn niferoedd un o’n planhigion arbennig ledled y sir.
Mae ein Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn hybu ac amddiffyn byd natur yn lleol ac yn cyfrannu at les ein cymunedau ledled y Sir. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r prosiect drwy gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru.
Daeth y tîm Bioamrywiaeth o hyd i’r tegeirianau newydd wrth gynnal arolwg o ddolydd lleol i weld sut hwyl roedd amryw rywogaethau’n ei chael yn ystod y tymor tyfu.
Ar y ddôl ger Ffordd Abergele ym Modelwyddan, darganfuwyd am y tro cyntaf erioed ddau ar bymtheg o degeirianau bera a dau o degeirianau brych. Yn Rhuddlan, daethpwyd o hyd i ddau o degeirianau bera ar y ddôl ger Ffordd Abergele, ac eto dyma’r tro cyntaf erioed i’r tîm eu gweld yno.
Bu cynnydd yn nifer y tegeirianau sy’n tyfu ar amryw ddolydd eraill hefyd.
Ger Cylchfan ATS yn Ninbych, cofnodwyd deunaw o degeirianau’r wenynen o gymharu â naw’r llynedd, canfuwyd dau o degeirianau brych ar Stryd y Brython yn Rhuthun, un yn fwy na’r llynedd, ac yn Neuadd y Dref yn Rhuthun cofnodwyd dau o degeirianau brych, eto un yn fwy na’r llynedd.
Meddai Liam Blazey, Uwch-swyddog Bioamrywiaeth: “Mae’r tîm wedi gweld bod tegeirianau’n ffynnu yn nolydd y sir y tymor hwn ac mae hynny’n arwydd calonogol iawn. Mae’r planhigion hyn o fudd mawr i’r gloÿnnod byw a gwyfynnod yn yr ardal.
“Rydym wedi sylwi fod tegeirianau bera’n dechrau tyfu’n bellach o’r môr, a dim ond ar yr arfordir y daethon ni o hyd i rai yn 2023. Mae hynny’n dangos fod ein dolydd yn gyfrwng gwych i blanhigion, pryfed ac anifeiliaid symud o un safle i’r llall ac wrth wneud hynny, maen nhw’n helpu i gynyddu bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.”
“Peth pwysig arall yw bod hadau tegeirianau’n gorfod dod i gysylltiad â mathau neilltuol o ffwng mycorhisol sy’n eu helpu i egino a blaguro’n gryf. Mae pob tegeirian yn dueddol o gael y berthynas honno â ffwng mycorhisol penodol, felly os nad yw cyflwr y pridd yn iawn ar gyfer y ffwng, fyddwn ni ddim yn cael y tegeirianau.”
Mae’r cofnod o atgyfodiad tegeirianau’n dangos fod y prosiect yn rhoi hwb go iawn i adferiad ein dolydd sirol ac yn gwneud byd natur yn Sir Ddinbych yn fwy gwydn.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn brosiect hollbwysig i adfer cynefin oedd bron â diflannu ers y 1930au ac mae atgyfodiad y tegeirianau’n dangos ein bod yn mynd i’r cyfeiriad iawn wrth gynnal byd natur yn lleol yn wyneb newid yn yr hinsawdd.
“Diolch i’n timau Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Stryd a’u gwaith diwyd ar y prosiect, mae mwy o flodau gwyllt fel y tegeirianau hyn yn dychwelyd i’r dolydd gan ddod ag amrywiaeth a lliwiau i bobl eu mwynhau yn ein cymunedau yn ogystal â rhoi help llaw i’r pryfed peillio sydd mor bwysig i gynhyrchu’r bwyd ar ein platiau ni.”