Gwaith i wella effeithlonrwydd mewn gweithdai yn y Rhyl
Mae gwaith wedi ei wneud i ostwng costau ynni yn yr hirdymor mewn rhan o gyfadeilad gweithdai yn y Rhyl.
Mae Tîm Ynni Cyngor Sir Dinbych yn parhau i weithio i leihau'r defnydd o ynni a lleihau costau hirdymor yn adeiladau'r Cyngor.
Drwy reoli prosiectau mewn ystod o adeiladau’r sir, fel ysgolion a chanolfannau hamdden, mae’r tîm yn gweithio i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau a gostwng allyriadau yn rhan o ymdrech gan y Cyngor i leihau ei ôl troed carbon ar ôl datgan Argyfwng Hinsawdd a Natur yn ystod 2019.
Mae’r Tîm Ynni wedi cwblhau prosiect i uwchraddio’r goleuadau yng Ngweithdai Pinfold y Rhyl (Adran A) i oleuadau LED.
Mae goleuadau LED yn fwy effeithlon gan eu bod yn defnyddio llai o ynni na bylbiau confensiynol, gan leihau allyriadau carbon. Mae gan y system oleuo hon oes hwy, sy’n golygu na fydd angen newid y goleuadau mor aml – mae hyn yn arbed costau yn ogystal â defnyddio llai o ynni.
Mae’r arbedion ariannol a wneir yn flynyddol o’r gwaith hwn dros £2,000; arbedir dros 9,000 kWh bob blwyddyn, ynghyd â 2.68 tunnell o garbon.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ni wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon o’n hadeiladau, lleihau ein defnydd o ynni a lleihau costau yn y tymor hwy. Mae’r unedau gweithdy hyn yn bwysig iawn i’r bobl sy’n eu prydlesu i gynnal eu busnes o ddydd i ddydd, ac mae’n wych o beth bod ein Tîm Ynni wedi gallu gwneud yr amgylchedd yn fwy effeithlon a chyfforddus drwy osod y goleuadau LED.