NEWYDDION
Cyflwyno thema lan y môr i faes chwarae Prestatyn

Mae dyluniadau wedi cael ei datgelu ar gyfer gwaith uwchraddio maes chwarae Traeth Canol, Prestatyn.
Mae adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych yn rheoli’r prosiectau ar ôl diogelu cyllid grant gan Gronfa Drosiannol Ffyniant Gyffredin y DU.
Bydd y gwaith uwchraddio sy’n cyflwyno thema lan y môr newydd i’r safle yn gweld gosod cyfarpar chwarae hygyrch a synhwyraidd, sydd wedi’i ddylunio i ganiatáu i blant o bob gallu chwarae gyda’i gilydd.
KOMPAN sy’n cynnal y gwaith uwchraddio ar y safle, ac roedd swyddogion y Cyngor yn awyddus i ddefnyddio thema lan y môr, gyda’r maes chwarae mor agos i’r traeth.
Meddai llefarydd ar ran KOMPAN: “Mae gan y safle hwn gyfleoedd chwarae ar gyfer nifer o fathau o ddefnyddwyr, sy’n gynhwysol ac yn hygyrch iawn, ac roedd hwn yn faes ffocws allweddol i Gyngor Sir Ddinbych yn y camau dylunio.
“Bydd yn darparu uwchraddiad modern gyda chyfleoedd chwarae dynamig, cyffrous ac amrywiol. Mae mathau corfforol a gwybyddol o chwarae, a digon o amrywiaeth er mwyn sicrhau bod plant yn dysgu a thyfu, yn ogystal ag archwilio gwahanol fathau o chwarae corfforol.
Yn ychwanegol at yr edrychiad newydd ar y thema lan y môr, bydd y maes chwarae ar ei newydd wedd yn well ar gyfer yr amgylchedd.
Meddai Mike Bennion, Rheolwr Gwasanaethau Stryd y Gogledd: “Rydym yn falch iawn o allu ailddatblygu ac uwchraddio’r maes chwarae hwn ym Mhrestatyn er mwyn helpu i gefnogi plant lleol o bob oed o ran eu hiechyd a lles. Mae’r thema yn wych, ac yn cyd-fynd â’r amgylchedd naturiol lleol, a bydd y cyfarpar newydd yn dod i’r brig ymysg y plant a fydd yn dod i ddefnyddio’r parc.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Mae hwn yn brosiect gwych i helpu lles holl blant sy’n byw o amgylch y parc hwn ym Mhrestatyn, a thu hwnt. Edrychaf ymlaen at weld y prosiect wedi’i gwblhau ac ar agor i’r plant fwynhau.
Disgwylir i’r gwaith datblygu gychwyn ar ddechrau mis Hydref, a bydd yn cymryd hyd at 8 wythnos. Bydd y maes chwarae ar gau yn ystod y cyfnod adeiladu.
Cynllun arloesol yn helpu Ieuenctid Sir Ddinbych i gymryd y cam nesaf
Mae pobl ifanc ar draws Sir Ddinbych nad ydynt mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant (NEET) ar hyn o bryd wedi cael hwb hollbwysig yn sgil cynllun cydweithredol rhwng Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych, Barod/ Sir Ddinbych yn Gweithio, Addysg, GLlM a Choleg Cambria yn sgil cefnogaeth drwy gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a chyrraedd cyllid ehangach gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (MEDR).
Yn rhan o’u hymrwymiad i gael gwared ar rwystrau a chreu cyfleoedd, rhoddodd bartneriaid gefnogaeth wedi’i theilwra i helpu dysgwyr NEET gychwyn ar eu hastudiaethau’r hydref hwn. Roedd hyn yn cynnwys adnoddau ymarferol megis pecynnau cychwynnol i fynd i’r coleg gan helpu pobl ifanc i deimlo’n barod ac yn hyderus wrth iddynt gychwyn ar eu haddysg, ni fyddai llawer ohonynt wedi cael cyfle i fynd i’r coleg fel arall.
Er mwyn bod yn fwy parod ar gyfer dysgu, dosbarthwyd 100 pecyn o offer ysgrifennu, gan sicrhau bod hyd yn oed mwy o bobl ifanc wedi cael yr adnoddau sylfaenol sydd ei angen i lwyddo.

Fe gyflwynodd Barod gyfres o weithdai creadigol oedd yn seiliedig ar sgiliau yng Ngholeg y Rhyl dros yr haf. Dyluniwyd y sesiynau yma i fagu hyder, creadigrwydd a chyflwyno llwybrau gyrfaol posibl i gyfranogwyr. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys:
- Sesiynau coginio i hyrwyddo annibyniaeth a byw’n iach
- Gweithdai creu gemwaith a chelf i annog hunan fynegiant ac ymwybyddiaeth ofalgar
- Sesiynau blas o’r sector gan gynnig cipolwg ar faes adeiladu
Roedd y gweithdai yma’n bosibl drwy gydweithio cadarn gyda Choleg Llandrillo y Rhyl a gynhaliodd y sesiynau a chefnogi’r gwaith o ymgysylltu â dysgwyr, ynghyd â phob partner arall a gymerodd ran a fu’n adnabod ac yn atgyfeirio pobl ifanc a allai elwa fwyaf.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae’r rhaglen hon yn enghraifft wych o beth y gellir ei gyflawni pan ddaw timau a sefydliadau ynghyd gyda diben a rennir.
“Drwy gydweithio, nid adnoddau yn unig y gallwn ei gynnig i bobl ifanc, ond cefnogaeth ystyrlon sydd yn helpu iddynt deimlo eu bod yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi ac yn barod i gymryd eu camau nesaf mewn i addysg.”
Meddai Tina Foulkes, Rheolwr Ymyrraeth Gynnar, Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Roedd Prosiect Pontio Ieuenctid yn enghraifft wych o waith partneriaeth ac erbyn i Barod ymuno yn yr haf, roedd y bobl ifanc wedi ymgysylltu ac yn barod i archwilio’r camau nesaf.
“Roedd gweithgareddau hwyliog Barod yn helpu i adeiladu cydberthynas a rhoi hwb i hyder, gan wneud y sesiynau’n garreg gamu gwerthfawr.
“Roedd modd i’r bobl ifanc hefyd drafod pa becynnau fyddai eu hangen ar gyfer y coleg, ac yna cafodd y rhain eu harchebu a’u cyflwyno’n uniongyrchol i’r myfyrwyr.”
Dywedodd Kelly Owen, Gweithiwr Ieuenctid Ymyrraeth Dargedig – Cydlynydd: “Roedd Rhaglen Pontio’r Haf yn fenter hanfodol wrth gefnogi disgyblion Blwyddyn 11 yn Sir Ddinbych wrth iddynt symud i addysg bellach.
“Sicrhaodd y cydweithrediad rhwng Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych, Barod, Addysg, GLLM Coleg Cambria fod pobl ifanc yn derbyn cefnogaeth gynhwysfawr - ymarferol a chymdeithasol - gan eu galluogi i oresgyn rhwystrau sylweddol.
“Chwaraeodd y cymorth ariannol a ddarparwyd ar gyfer deunyddiau a hadnoddau hanfodol y cwrs ran allweddol wrth atal gwaharddiadau addysgiadol, tra bod amgylchedd cymdeithasol cefnogol y rhaglen yn helpu pobl ifanc i adennill hyder a pharatoi ar gyfer yr heriau sydd o’u blaenau.”
Mae’r cynllun cydweithredol yma’n adlewyrchu ymrwymiad parhaus partneriaid i gefnogi dinasyddion NEET ar draws Sir Ddinbych, gan sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i ffynnu, does dim ots o ble maent yn cychwyn.
Roedd Rhaglen Pontio’r Haf yn gynllun hollbwysig yn cefnogi’r rhai oedd yn gadael Blwyddyn 11 yn Sir Ddinbych wrth iddynt symud mewn i addysg bellach. Fe sicrhaodd fod cyfranogwyr yn cael cefnogaeth gynhwysfawr, ymarferol a chymdeithasol, gan alluogi iddynt oresgyn rhwystrau sylweddol. Fe chwaraeodd amgylchedd cefnogol y rhaglen, ynghyd â mynediad i ddeunyddiau hanfodol rôl bwysig yn atal gwaharddiad addysgiadol a pharatoi cyfranogwyr ar gyfer yr heriau o’u blaenau.
I gael gwybod am ddigwyddiadau a chyfleoedd eraill, ewch i sirddinbych.yngweithio.gov.uk neu dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.
Cerbyd trydan oddi ar y ffordd o’r Alban yn ymgartrefu yn nhiroedd Cymru
Mae cerbyd trydan oddi ar y ffordd o’r Alban, y cyntaf o’i fath yn y DU, wedi cyrraedd ei gartref newydd ym mryniau Cymru.

Mae Morag y Munro wedi bod yn crwydro llwybrau Moel Famau i ymgyfarwyddo â Bryniau Clwyd a rhoi cyfle i’r ceidwaid cefn gwlad ddod i’w adnabod drwy hyfforddiant.
Ariannwyd y tryc agored trydan Munro Series-M M280 gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei gyflwyno yn lle tryc agored a oedd yn llosgi tanwydd ffosil sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes. Dyma’r cyntaf o’i fath i gael ei ddefnyddio gan awdurdod lleol yn y DU, a bydd ceidwaid Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ei ddefnyddio i helpu gyda’u dyletswyddau dyddiol ar y bryniau. Bydd yn cael ei leoli ym Mharc Gwledig Loggerheads.
Rhoddwyd y llysenw Morag arno am fod ei gymeriad garw yn ein hatgoffa o wartheg Ucheldiroedd yr Alban. Dewiswyd y Munro oherwydd ei allu i ymdopi â thirwedd Bryniau Clwyd a safleoedd bryniog eraill, a welwyd ar ôl iddo gael ei brofi'n drylwyr yn ôl yn yr Alban ym mhob math o sefyllfaoedd oddi ar y ffordd a llwyddo i ymdopi â llethrau dros 40 gradd.

Mae’r ceidwaid a fydd yn defnyddio Morag ar Fryniau Clwyd eisoes wedi bod wrthi’n cael hyfforddiant, dan ofal Adran Fflyd Cyngor Sir Ddinbych a chynrychiolwyr Munro, a ddaeth gyda Morag mewn cerbyd tebyg.
Cynhaliwyd yr hyfforddiant diweddar ar Lwybr Clawdd Offa, a fydd yn un o’r llwybrau y bydd y Munro’n eu teithio’n rheolaidd wrth iddo helpu’r ceidwaid.
Mae cyflwyno’r Munro yn rhan o ymdrech barhaus Cyngor Sir Ddinbych i leihau allyriadau carbon y fflyd, gwella ansawdd yr aer, a lleihau costau cynnal a chadw a thrin hirdymor drwy ddisodli cerbydau sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes gyda cherbydau trydan cyfwerth.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae’n wych gweld y tryc arloesol hwn yn crwydro’r ardal y bydd yn gweithio ynddi o’r diwedd. Mae’r Adran Fflyd wedi gweithio’n galed i baratoi Morag i weithio yng nghefn gwlad, ac rwy’n ddiolchgar iddyn nhw ac i Munro am gefnogi hyfforddiant hollbwysig y ceidwaid a fydd yn defnyddio’r cerbyd hwn.”
Gwaith Uwchraddio ar y gweill ym Mharc Gwledig Loggerheads
Mae’r gwaith uwchraddio hwn yn rhan o ymdrechion parhaus i wella’r profiad i ymwelwyr.

Mae gwaith wedi dechrau’n swyddogol ar uwchraddio cyfleusterau ymwelwyr Parc Gwledig Loggerheads.
Yn 2023, gwnaeth Llywodraeth y DU gadarnhau eu bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sydd â’r nod o ddiogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Gorllewin Clwyd.
Mae’r cyllid, sef y Gronfa Adfywio Leol, wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yng Ngorllewin Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Mae’r cam cyntaf yn cynnwys gwaith ailwampio llawn yn y toiledau cyhoeddus, yna gwelliannau i’r caffi ar y safle a’r ystafell gyfarfod ac yna’r ganolfan ymwelwyr a gwaith tirlunio allanol sy’n gyfeillgar i deuluoedd.
Mae’r contractwyr lleol, Park City o Lanelwy wedi’u penodi i wneud y gwaith, mewn partneriaeth â’r penseiri dylunio TACP, sy’n seiliedig yn Wrecsam.
Er y gwaith adeiladu sy’n digwydd, bydd Parc Gwledig Loggerheads yn aros ar agor i ymwelwyr. Bydd cyfleusterau toiled dros dro ar gael, ac ardal eistedd â lloches er mwyn sicrhau bod y profiad yn gyfforddus i bawb.
Yn y cyfamser, mae cyfleuster arlwyo dros dro newydd, Tŷ’r Felin / Mill House wedi agor drws nesaf i’r felin hanesyddol. Caiff ei weithredu gan y cynhyrchwyr lleol, Chilly Cow, a bydd yn cynnig dewis o ddiodydd poeth, hufen iâ, byrbrydau a chacennau lleol. Bydd ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 10am a 4pm, tan i’r caffi ailagor ym mis Mawrth 2026 wedi’i adnewyddu.
Mae’r gwaith uwchraddio hwn yn rhan o ymdrechion parhaus i wella’r profiad i ymwelwyr yn un o barciau gwledig mwyaf poblogaidd gogledd Cymru, sy’n croesawu mwy na 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Rydym wedi gweld cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads dros y blynyddoedd diweddar a bydd prosiectau fel rhain, pan fyddan nhw wedi’u cwblhau, yn helpu i ddiogelu’r parc ar gyfer y dyfodol a bodloni disgwyliadau ymwelwyr.
“Bydd y gwaith uwchraddio i Loggerheads yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu’r parc ar gyfer y nifer gynyddol o ymwelwyr sy’n dod bob blwyddyn. Mae’n bwysig ein bod yn cynnal a chadw a datblygu ardaloedd tirwedd cenedlaethol arbennig fel Loggerheads wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy poblogaidd i sicrhau bod modd i bawb sy’n ymweld â nhw barhau i’w mwynhau.”
Mae cynlluniau ar gyfer gwaith gwella Loggerheads i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.

Disgyblion yn dysgu am anifail brodorol
Mae disgyblion ysgolion cynradd yn mynd ati i ddysgu am anifail brodorol a arferai fod yn gyffredin yng Nghymru.
Mae tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn cynnal nifer o sioeau teithiol mewn ysgolion i helpu’r plant i ddysgu mwy am afancod a’u cynefinoedd naturiol.

Mae’r sesiynau wrthi’n cael eu cynnal mewn nifer o ysgolion ac yn rhan o brosiect cyffredinol cyfredol y tîm Bioamrywiaeth i letya teulu o afancod Ewrasiaidd mewn llecyn caeedig diogel 24 erw yng Ngwarchodfa Natur Green Gates, fel rhan o gynllun 5 mlynedd. Yn amodol ar gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dyma fyddai’r prosiect cyntaf ar gyfer afancod mewn llecyn caeedig yng Ngogledd Cymru.
Rhoddwyd cyflwyniad i’r disgyblion ar yr afancod, a oedd yn rhywogaeth frodorol yng Nghymru ar un adeg cyn iddynt gael eu hela hyd at ddifodiant ym Mhrydain a’r rhan fwyaf o Ewrop am eu crwyn, eu cig a’u castorewm. Ar ôl sawl ymgais lwyddiannus i ailgyflwyno’r rhywogaeth, mae yna bellach 1,500 o afancod yn byw ym Mhrydain - yn yr Alban a Lloegr yn bennaf. Mae’r Afanc Ewrasiaidd bellach yn rhywogaeth a warchodir gan Ewrop yn yr Alban a Lloegr, dan Atodlen 2 Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2019. Mae yna boblogaeth fechan o Afancod Ewrasiaidd yn bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd, mewn llecynnau caeedig ac yn y gwyllt.

Dysgodd y plant hefyd sut y gall afancod gynyddu bioamrywiaeth yn eu hamgylchedd yn sgil eu gwaith adeiladu argaeau a fforio.
Yn dilyn y cyflwyniad, cafodd y disgyblion gyfle i weld sut mae afancod yn adeiladu eu hargaeau a’u gwalau eu hunain mewn gweithgaredd awyr agored.
Meddai’r Swyddog Bioamrywiaeth, Ellie Wainwright: “Mae’r sesiynau ymgysylltu hyn yn gyfle gwych i addysgu plant am afancod a sut y gallan nhw gefnogi amrywiaeth o wahanol fywyd gwyllt fel peirianwyr ecosystemau. Un o brif nodau Prosiect Afancod Sir Ddinbych yw addysgu, ac rydym yn gobeithio ennyn diddordeb llawer mwy o bobl yng Ngwarchodfa Natur Green Gates pan fydd y teulu afancod wedi’u lletya yno.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae creu cynllun afancod mewn llecyn caeedig yng Ngwarchodfa Natur Green Gates yn gam arwyddocaol yn ein gwaith i adfer rhywogaethau cynhenid, gwella bioamrywiaeth a chefnogi ecosystemau gwydn yn Sir Ddinbych.
Mae’n wych gweld plant lleol yn cael cyfle i ddysgu am anifail a oedd yn arfer bod mor gyffredin ledled Cymru. Gobeithio y caiff y plant hyn gyfle i ymweld â’r safle i weld yr afancod yn eu cynefin naturiol ryw ddiwrnod.”
Enwebu Tîm Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Ddinbych am Wobr Genedlaethol
Bydd y tîm yn mynd i'r rowndiau terfynol a gynhelir yn Llundain ym mis Ionawr 2026.

(Tîm Rheoli Adeiladu’r Cyngor)
Mae Tîm Rheoli Adeiladu’r Cyngor wedi’i enwebu am wobr yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC 2025.
LABC, neu Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol, sy’n cynrychioli holl dimau rheoli adeiladu mewn awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr.
Y rhain yw’r gwobrau mwyaf blaenllaw yn y sector rheoli adeiladu ac maent yn cydnabod cyfraniadau pobl i’r diwydiant adeiladu a gwaith graenus ymhob math o brosiectau adeiladu.
Y cwsmeriaid sydd wedi enwebu Tîm Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Ddinbych, sydd bellach wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr ‘Tîm Rheoli Adeiladu Awdurdod Lleol Gorau’r Flwyddyn’ ac yn edrych ymlaen at y seremoni a gynhelir yn Llundain ym mis Ionawr 2026.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae’r enwebiad yn glod haeddiannol i’r tîm a’r gwasanaeth mae’n ei ddarparu mewn marchnad gystadleuol iawn, yn enwedig ers cyflwyno’r Ddeddf Diogelwch Adeiladu’n ddiweddar a’r gofynion ychwanegol sy’n dod efo hynny.
“Mae’r ymdrech i feithrin cyswllt â chwsmeriaid mewn ffordd broffesiynol a chymwynasgar wedi creu perthnasau gwaith cadarn sy’n helpu i roi cyngor pendant a chefnogaeth i brosiectau a sicrhau eu bod yn cydymffurfio efo’r rheoliadau adeiladu.”
Agor ardal chwarae newydd Parc Drifft ar Brom y Rhyl
Agorodd Ardal Chwarae Parc Drifft, ar Brom y Rhyl, ei gatiau i’r cyhoedd ar ddydd Gwener (Medi 19), gydag agoriad swyddogol wedi’i drefnu ar gyfer dyddiad yn ddiweddarach yn y mis.
Ardal Chwarae Parc Drifft
Mae’r parc wedi’i adfer â dyluniad newydd wedi’i ddewis gan y gymuned, wedi’i lywio gan sesiynau ymgynghori cyhoeddus a mwy na 200 o ymatebion adborth trwy ffurflenni ar-lein, a helpodd i ffurfio dyluniad Ardal Chwarae newydd Parc Drifft.
Fe’i hadeiladwyd â hygyrchedd a chynhwysiant mewn cof a chynhaliwyd sesiynau ymgysylltu mewn ysgolion lleol, sef Ysgol Tir Morfa ac Ysgol Christchurch, lle rhoddodd disgyblion adborth gan helpu gyda dyluniad yr offer, a rhannu barn ac awgrymiadau.
Ar ôl ystyried yr adborth, fe ychwanegwyd mwy o siglenni i’r dyluniad, gan gynnwys siglen ddwbl. Roedd yr adborth yn nodi bod cais am fwy o fyrddau synhwyraidd a mwy o seddi hefyd. Mae ‘Cone Twister’ a gwifren wib hefyd wedi cael eu hychwanegu yn sgil adborth.
Mae mwy na 55 o nodweddion chwarae yn y parc newydd ac mae lle i 170 o ddefnyddwyr. Mae cylchfan gynhwysol i ddefnyddwyr cadair olwyn yn yr ardal chwarae, ystod o baneli chwarae cynhwysol ar thema forwrol, si-so ar thema’r môr a llithren fawr ar thema llong fôr-ladron gyda grisiau sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.
Y parc newydd o'r awyr
Mae offer campfa ac ymarfer corff awyr agored i oedolion wedi’u gosod hefyd, drws nesaf i’r parc. Maen nhw wedi’u hadeiladu fel rhan o’r prosiect gwaith amddiffynfeydd môr mwy, ynghyd ag Ardal Chwarae newydd Parc Drifft.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Rydw i wrth fy modd o weld bod Ardal Chwarae newydd a gwell Parc Drifft ar agor i’r cyhoedd bellach.
Bydd y dyluniad newydd hwn a ddewiswyd gan y gymuned yn darparu oriau diddiwedd o hwyl a chwarae hygyrch i’r gymuned leol, sy’n cynnwys nodweddion chwarae gwell a mwy cynhwysol bellach.
Hoffwn ddiolch i’r gymuned am ymgysylltu â’r prosiect hwn. Mae eu hadborth wedi helpu i ffurfio dyluniad a gosodiad y parc newydd ar y prom.”
Y Cabinet yn cymeradwyo cynllun gweithredu a strategaeth economaidd newydd ar gyfer 2025-2035
Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i fabwysiadu strategaeth economaidd newydd ar gyfer 2025-2035.
Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i fabwysiadu strategaeth economaidd newydd ar gyfer 2025-2035.
Yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Medi, cyflwynwyd y strategaeth economaidd newydd arfaethedig i’r aelodau, yn ogystal â chynllun gweithredu a luniwyd er mwyn gweithio tuag at ‘Sir Ddinbych Ffyniannus’, sef un o flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor.
Dan arweiniad tîm Datblygu Economaidd y Cyngor, roedd y strategaeth yn manylu ar y camau y gall y Cyngor a phartneriaid eu cymryd i gefnogi adferiad economaidd, gwella mynediad at gyflogaeth ac incwm o safon, a sicrhau bod twf economaidd yn helpu i leihau anghydraddoldeb a thlodi ar draws Sir Ddinbych.
Yn sgil y penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod, bydd y strategaeth economaidd newydd yn disodli’r Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol 2013-2023 flaenorol.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’r strategaeth economaidd newydd hon yn strategaeth twf newydd uchelgeisiol a chyffrous, a fydd yn cefnogi datblygiad economaidd y Sir yn y dyfodol ac yn gweithio tuag at un o’n blaenoriaethau corfforaethol i gyflawni Sir Ddinbych Ffyniannus.
“Roedd y broses yn cynnwys ymgysylltu’n helaeth â budd-ddeiliaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, a chynnal y partneriaethau hyn, gan ei bod hi’n hollbwysig newid i ganolbwyntio ar weithredu. Bydd angen ymdrech ar y cyd gan bartneriaid o fewn y Sir a thu hwnt, er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau ar y cyd”.
Meifod yn cefnogi cymorth lles
Mae prosiect i gefnogi lles yn Ninbych yn cael cymorth i’w adfywio gan wasanaeth yn y dref.

Mae adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych yn adfywio Llwybr Cerdded Lles ar draws Dinbych Isaf ac i Ganol Dinbych ar ôl cyflwyno cais llwyddiannus drwy Gynllun Swm Cymudol Mannau Agored Hamdden Cyhoeddus.
Bydd y datblygiad newydd hwn yn golygu prynu a gosod meinciau cyfeillgarwch gyda chodau QR gwybodaeth ar y dodrefn mewn lleoliadau strategol i greu llwybr cerdded lles yn Ninbych, i fod o fudd i bob aelod o’r cyhoedd.
Mae’r meinciau yn cael eu creu yn Cynnyrch Coed Meifod sy’n gweithredu ar Stad Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych. Mae Meifod yn cynhyrchu dodrefn pren i’r ardd yn eu gweithdy ac yn darparu gwasanaeth profiad gwaith i oedolion ag anableddau dysgu.
Llunnir pob dodrefnyn â choed a gafwyd o ffynhonnell gynaliadwy gan sicrhau ei fod â golwg graenus ac wedi’i wneud i bara.
Bydd y gwaith ym Meifod hefyd yn golygu ysgythru codau QR ar y meinciau a fydd yn mynd â phobl i safle ar-lein sy’n disgrifio’r ardal ble mae’r fainc a gwybodaeth gyffredinol am y llwybr.
Mae’r prosiect hwn wedi cael ei ddylunio i wella profiad i ymwelwyr mewn lleoliadau pwysig, sy’n ganolog i Sir Ddinbych ac annog pobl i ymfalchïo yn eu mannau gwyrdd, gan wella dealltwriaeth am werth bioamrywiaeth a chadwraeth yr ardaloedd hyn.
Meddai Cydlynydd Ardal Gwasanaethau Stryd, Neil Jones: “Rydym yn falch fod Meifod yn creu ein meinciau i fod ar hyd y llwybr hwn gan fod eu crefftwaith yn wych a fydd wir o gymorth wrth ddod â’r datblygiad hwn yn fyw.
Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Mae hon yn fenter wych i’r dref ac mae’n braf gweld bod gwasanaeth lleol poblogaidd fel Meifod yn helpu i ddod â’r prosiect hwn yn fyw.
Swyddog planhigfa goed yn cyrraedd rownd derfynol gwobrau’r BBC
Mae un o geidwaid byd natur yn Sir Ddinbych wedi’i enwebu am wobr genedlaethol o fri.

Mae un o geidwaid byd natur yn Sir Ddinbych wedi’i enwebu am wobr genedlaethol o fri.
Enwyd Sam Brown, Cynorthwyydd Planhigfa Goed Leol Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy, yn un o dri ar y rhestr fer yng nghategori Hyrwyddwr Ifanc Cefn Gwlad Gwobrau Bwyd a Ffermio 2025 BBC Countryfile.
Er lansio yn 2000, mae Gwobrau Bwyd a Ffermio’r BBC wedi rhoi clod i lu o hoelion wyth y byd ffermio, bwyd a chefn gwlad.
Gyda’r categori Hyrwyddwr Ifanc Cefn Gwlad, mae Countryfile yn clodfori hyrwyddwyr cefn gwlad rhwng 16 a 24 oed. Mae hynny’n cynnwys ffermwyr, naturiaethwyr a chadwraethwyr sy’n gwneud gwahaniaeth drwy eu gwaith.
Detholwyd Sam a’r ddau arall o blith miloedd o enwebiadau a feirniadwyd gan banel o arbenigwyr dan arweiniad y cogydd, Hugh Fearnley-Whittingstall.
Yn ôl yr enwebiad, ‘Ar ôl cael diagnosis o ddyspracsia a’i chael hi’n anodd yn ei addysg, mae Sam wastad wedi bod wrth ei fodd â byd natur ac mae bellach yn annog pobl ag anawsterau dysgu i ddilyn eu diddordebau. Gwirfoddolodd fel Ceidwad Iau pan oedd yn wyth oed a mynd ati i weithio ar warchodfeydd natur a phlannu coed. Tyfodd ei frwdfrydedd am goed ynghyd â’i wybodaeth am rywogaethau cynhenid o goed a blodau gwyllt, ac yn awr mae’n gweithio yn y Blanhigfa Goed yn Llanelwy.’
Meddai Joel Walley, Swyddog Arweiniol Ecoleg a Bioamrywiaeth: “Rydyn ni i gyd yn eithriadol o falch o Sam am gael ei gydnabod am ei ymroddiad i ddiogelu byd natur yn lleol, ei feithrin a’i atgyfnerthu wrth weithio yn ein planhigfa goed.
Mae’n frwdfrydig a diwyd dros ben wrth roi’r gefnogaeth angenrheidiol i fyd natur yn Sir Ddinbych a bu’n rhan allweddol o greu cymuned wych o wirfoddolwyr yn y blanhigfa.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych: “Gwn fod Sam yn gweithio’n galed iawn i helpu i ddiogelu a gwarchod y coed a phlanhigion lleol sydd gennym yn Sir Ddinbych, ac mae’n haeddu pob clod am ei frwdfrydedd a’i ddyfalbarhad wrth warchod tiroedd ledled y sir fel bod modd i genedlaethau o bobl ifanc eu mwynhau yn y dyfodol.”
Cynhelir y seremoni wobrwyo ym Mryste ar 18 Tachwedd a chyhoeddir yr enillwyr bryd hynny.
Gwaith ymgysylltu i ddechrau ar brosiect adfer rhywogaeth
Mae gwaith ymgysylltu ar y gweill ar gyfer arbrawf man caeedig i afancod mewn gwarchodfa natur sirol newydd.

Llun gan Joel Walley
Mae gwaith ymgysylltu ar fin dechrau mewn perthynas â chynlluniau ar gyfer arbrawf man caeedig ar gyfer afancod mewn gwarchodfa natur sirol newydd.
Bydd ymgynghoriad pedair wythnos gyda chymunedau lleol i Warchodfa Natur Green Gates, Llanelwy, yn dechrau heddiw (Dydd Llun, 15 Medi) ynglŷn â chynlluniau i letya grŵp teulu o afancod Ewrasiaidd o fewn man caeedig diogel 24 erw ar y safle fel rhan o brosiect 5 mlynedd.
Mae’r cynlluniau hyn yn amodol ar gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a byddant yn darparu’r prosiect man caeedig cyntaf ar gyfer afancod yng Ngogledd Cymru.
Ar un adeg roedd afancod yn rhywogaeth frodorol yng Nghymru, cyn iddynt gael eu hela i'r pwynt o ddiflannu ym Mhrydain ac Ewrop am eu crwyn gwerthfawr, castorewm a chig. Ar ôl sawl achos o ailgyflwyno’r rhywogaeth yn llwyddiannus, mae yna bellach 1500 o afancod yn byw ym Mhrydain - yn yr Alban a Lloegr yn bennaf.
Yn yr Alban a Lloegr, mae’r Afanc Ewrasiaidd bellach yn rhywogaeth a warchodir gan Ewrop, dan Atodlen 2 o’r Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2019.
Ar hyn o bryd mae poblogaeth fach o Afancod Ewrasiaidd yn bresennol yng Nghymru, mewn mannau caeedig ac yn y gwyllt. Ar 26 Medi 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cefnogi symud tuag at ailgyflwyno, a hynny dan reolaeth, afancod yng Nghymru.
Mae gan y Cyngor ddyletswydd bioamrywiaeth i “gynnal a gwella bioamrywiaeth ac, wrth wneud hynny, hyrwyddo gwytnwch ecosystemau” dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru), 2016.
Un o flaenoriaethau’r Cyngor yw creu ‘Sir Ddinbych Mwy Gwyrdd’ drwy wella a chynnal ein hasedau naturiol i gefnogi bioamrywiaeth, a chynyddu’r cynefinoedd sydd ar gael i fywyd gwyllt.
Eglurodd Joel Walley, Swyddog Arweiniol - Ecoleg a Bioamrywiaeth: “Cyfeirir atynt yn aml fel ‘peiranwyr ecosystemau’, ac mae llawer o dystiolaeth y gall afancod gynyddu bioamrywiaeth o fewn eu hamgylchedd drwy eu hymddygiadau fforio ac adeiladu argaeau. Credwn y bydd ychwanegu afancod at fan caeedig diogel yng Ngwarchodfa Natur Green Gates yn creu cynefin gwlyptir deinamig a chyfoethog o ran rhywogaethau, gan ein helpu i gyflawni ein targedau bioamrywiaeth.
“Drwy’r arbrawf cynlluniedig hwn, ein nod yw codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o afancod a’u hecoleg, a’r buddion posibl y gallant eu cyflwyno i amgylchedd naturiol Cymru, yn ogystal ag arddangos rhai o’r technegau lliniaru y gellir eu defnyddio os bydd unrhyw effeithiau posibl yn codi o ganlyniad i weithgarwch afancod. Oherwydd lleoliad a dyluniad gofalus y man caeedig, nid ydym yn disgwyl y bydd unrhyw effeithiau negyddol oddi ar y safle.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae’r cread posibl o arbrawf man caeedig ar gyfer afancod yng Ngwarchodfa Natur Green Gates yn cynrychioli cam arwyddocaol yn ein gwaith i adfer rhywogaethau cynhenid, gwella bioamrywiaeth a chefnogi ecosystemau gwydn yn Sir Ddinbych. Mae’r arbrawf, a fyddai’n cael ei reoli’n ofalus, yn cynrychioli ein hymrwymiad hirdymor i adferiad ecolegol, ac yn darparu cyfleoedd i drigolion lleol gael gweld a dysgu am y rhywogaeth allweddol hon drostynt eu hunain.”
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda’r cymunedau lleol. Mae’n ymgynghoriad cyhoeddus a bydd modd i unrhyw un ymateb iddo. Diben yr ymgynghoriad yw nodi unrhyw effeithiau posibl o’r arbrawf man caeedig arfaethedig, a byddwn hefyd yn cysylltu â’r holl dirfeddianwyr cyfagos o amgylch Green Gates fel rhan o’r ymarfer hwn cyn cyflwyno cais i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am drwydded ar gyfer yr arbrawf man caeedig ar gyfer afancod. Bydd CNC yn penderfynu a ddylid rhoi trwydded.
Er mwyn cael mynediad at yr ymgynghoriad ar-lein, ewch i - https://cy.cadnantplanning.co.uk/beaver-project-afancod
Ymgynghoriad yn agor ar Barc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig
Mae pobl yn cael eu hannog i rannu eu barn ar Barc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig, wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lansio ymgynghoriad statudol 12 wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 15 Medi 2025.

Mae'r ymgynghoriad yn dilyn dwy flynedd o werthuso manwl a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys casglu data, asesiadau technegol, ac ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid ledled y rhanbarth.
Helpodd ymgysylltu cyhoeddus blaenorol yn 2023 ac ymgynghoriad cyhoeddus yn 2024 i lunio'r cynnig presennol. Mae adborth o'r camau hyn wedi llywio'r map ymgynghori terfynol a'r dystiolaeth ategol.
Gellir lawrlwytho map arfaethedig Parc Cenedlaethol Glyndŵr yma:
Map Sylfaenol Parc Cenedlaethol Arfaethedig Glyndŵr
Map Manwl Parc Cenedlaethol Arfaethedig Glyndŵr
*Ar ôl i chi lawrlwytho'r map manwl, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei agor gydag Adobe Acrobat.
Dywedodd Ash Pearce, Rheolwr y Rhaglen, "Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i amddiffyn natur, cefnogi cymunedau, a llunio dyfodol gwell i’r rhan hyfryd hon o Gymru. Rydyn ni’n gwybod y gall newid fod yn anodd, ond gyda’r dull cywir, gallai Parc Cenedlaethol newydd ddod â manteision go iawn i bobl, bywyd gwyllt a’r economi leol.”
Anogir aelodau’r cyhoedd, sefydliadau a rhanddeiliaid i fynychu digwyddiad, archwilio’r cynnig a dweud eu dweud drwy ymateb i’r ymgynghoriad.
Am wybodaeth am y digwyddiadau ymgynghori, ewch i: Digwyddiadau Ymgynghoriad Statudol 2025
I ymateb i'r ymgynghoriad, ewch i: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/north-east-gogledd-ddwyrain/ymgynghoriad-statudol-parc-cenedlaethol-2025
Rhaid derbyn ymatebion erbyn y dyddiad cau, sef dydd Llun 8 Rhagfyr 2025 fan bellaf.
Am ragor o wybodaeth am gefndir y cynnig, ewch i: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/north-east-gogledd-ddwyrain/tudalen-cynnig-parc-cenedlaethol-newydd-cymru/
Diwrnod agored recriwtio Gofal Cymdeithasol i gael ei gynnal yn Ninbych
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn chwilio am bobl frwdfrydig a fyddai’n hoffi gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned. P’un a ydyn nhw’n cymryd y camau cyntaf yn eu gyrfa, neu’n chwilio am her newydd, mae’r Cyngor yn gwahodd y rheiny fyddai a diddordeb i’w Diwrnod Agored Recriwtio diweddaraf.
Cartref Gofal Dolwen, Dinbych
Mae Tîm Gofal Cymdeithasol y Cyngor yn cynnal Diwrnod Agored Recriwtio yng Nghartref Gofal Dolwen yn Ninbych ddydd Mawrth, 23 Medi o 10am tan 2pm.
Gall darpar ymgeiswyr a rhai sy’n meddwl am yrfa ym maes Gofal Cymdeithasol alw draw ar unrhyw adeg sy’n gweddu iddyn nhw i gyfarfod y tîm cyfeillgar a fydd yno i’w croesawu.
Wrth ddod i’r digwyddiad, gall ymgeiswyr ddisgwyl:
- Gweld yr amrywiaeth o rolau sydd ym maes gofal cymdeithasol, a’r rheiny’n rhoi boddhad mawr.
- Sgwrsio gyda’r staff, rheolwyr a’r tîm recriwtio cyfeillgar.
- Dysgu am y manteision gwych o weithio i Gyngor Sir Ddinbych.
- Cael awgrymiadau am y broses ymgeisio a’r hyn mae’r tîm yn chwilio amdano.
- Cymorth i lenwi’r ffurflen gais, os oes angen.
- Darganfod sut mae modd iddyn nhw wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ar draws Sir Ddinbych.
- Cyfle am gyfweliad cyfeillgar ar y diwrnod os ydynt yn barod i gymryd y cam nesaf ar y diwrnod.
Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:
“Mae’r tîm Gofal Cymdeithasol yn chwilio am rai sydd â diddordeb mewn cefnogi trigolion ar hyd a lled Sir Ddinbych a gweithio yn y gymuned.
Mae’r sesiwn hon yn gyfle gwych i gyfarfod â’r timau sy’n cefnogi’r bobl hynny ym mhob cwr o’r sir bob dydd.”
Mae angen archebu drwy Eventbrite – cadwch eich lle heddiw https://www.eventbrite.co.uk/e/diwrnod-agored-recriwtio-social-care-recruitment-open-day-tickets-1616823736319.
Campfa awyr agored ar y gweill mewn parc yn Llangollen

Mae gwaith ar fin dechrau i ddiwygio a datblygu meysydd i hybu iechyd a lles ym Mharc Glan yr Afon yn Llangollen.
Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych sy’n cydlynu a gweithredu’r gwaith gyda chyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Daw hyn yn sgil gwaith a wnaed eisoes i wella rhannau o’r parc mewn blynyddoedd diweddar, gan gynnwys creu cwrs golff mini naw twll a gosod offer chwarae.
Mae’r Gwasanaethau Stryd yn dal i weithio i wella’r parc a’r cyffiniau er budd pobl leol ac ymwelwyr.
Ym Mharc Glan yr Afon, bwriedir defnyddio’r cyllid sydd ar gael i greu campfa awyr agored y tu ôl i’r parc sglefrio presennol. I wneud hynny, bydd angen cael gwared ar y gwrych, tirlunio’r llecyn dan sylw a gosod amrywiaeth o gyfarpar campfa awyr agored.
Bwriedir hefyd cael gwared â’r gwrych gerllaw’r llecyn picnic a’r meinciau a gosod ffensys bwaog, clwyd fel mynedfa i gerddwyr a mainc hygyrch ar gyfer cael picnic, yn ogystal â gwneud y gwaith daear sy’n angenrheidiol at hynny.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydyn ni’n falch o fedru dal i wella’r rhan hyfryd yma o Langollen drwy ddefnyddio’r cyllid sydd ar gael. Bydd y gwaith yn ategu’r hyn y mae’r Gwasanaethau Stryd wedi’i wneud yn barod i wella Parc Glan yr Afon ac yn gam arall ymlaen wrth ddatblygu’r rhan bwysig yma o’r dref er mwynhad pobl leol ac ymwelwyr â Llangollen.”
Gwaith gwelliannau ffordd i ddechrau yn Nant y Garth

Fe fydd Adran Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn dechrau gweithio ar gynllun cynnal a chadw ffyrdd enfawr ger Rhuthun sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi clustnodi 57 o leoliadau yn y sir mewn rhaglen gynnal a chadw ffyrdd dros ddwy flynedd a fydd yn elwa o gyllid Menter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru. Nod y cyllid (£4.780m dros 2025/26 a 2026/27) yw gwella cyflwr arwyneb y ffordd ar rannau o rwydwaith ffyrdd y Sir.
Fe fydd gwaith ailwynebu sylweddol yn digwydd rhwng 15 Medi a 19 Hydref, os bydd y tywydd yn caniatáu, ar A525 Bwlch Nant y Garth. Bydd y traffig yn cael ei reoli gan ddefnyddio system gonfoi Stop/Go, felly dylid disgwyl rhywfaint o oedi. Yn rhan o’r gwaith, fe fydd marciau a stydiau’r ffordd hefyd yn cael eu hailwampio.
Mae rhywfaint o waith paratoi eisoes wedi dechrau, pan gafodd ffensys eu trwsio a draeniau eu glanhau.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn gwbl ymwybodol bod cyflwr Rhwydwaith Ffyrdd Sir Ddinbych yn destun trafod rheolaidd gan ein preswylwyr. Rydym yn ddiolchgar am gyllid Llywodraeth Cymru a fydd yn galluogi i ni fynd i’r afael â rhan fawr o’n rhwydwaith, ynghyd â Bwlch Nant y Garth, sydd angen ei wella”.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk.
Ffair swyddi llwyddiannus yn gael ei gynnal yn Y Rhyl gan Sir Ddinbych yn Gweithio
Ar 10 Medi, croesawodd Sir Ddinbych yn Gweithio cannoedd o bobl i'w Ffair Swyddi diweddaraf ym Mar a Bwyty 1891, Pafiliwn Y Rhyl.
Daeth y digwyddiad, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Chanolfan Byd Gwaith, â dros 50 o gyflogwyr lleol a chenedlaethol ynghyd, gan gynnwys Lluoedd Arfog Prydain, Melin Shotton, Gwestai Warner, Clwyd Alyn a Leader Optic.
Cafodd tua 500 o ymwelwyr i’r ffair gyfle i archwilio ystod eang o swyddi gwag ar draws sectorau fel lletygarwch, gofal, gweithgynhyrchu ac addysg.
Roedd y digwyddiad am ddim ar agor i bawb, ac yn cynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n chwilio am waith, yn ystyried newid gyrfa, neu'n edrych i gael mynediad at gyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaeth.

Trefnodd y tîm awr dawel yn ystod y digwyddiad ar gyfer pobl a fyddai o bosibl yn gwerthfawrogi awyrgylch tawelach.
Nod gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio yw cydlynu cefnogaeth sy'n helpu pobl i gael gwaith trwy gael gwared ar rwystrau.
Trwy gydweithio â busnesau a sefydliadau lleol, mae'r rhaglen wedi ymrwymo i helpu trigolion ledled Sir Ddinbych i gael mynediad at gyflogaeth a datblygu sgiliau.
Tîm Sir Ddinbych sy'n Gweithio
Dywedodd Jake O'Mara, Rheolwr Perthynas Cyflogwyr a Hyfforddiant yn Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Rydym wrth ein bodd gyda'r nifer a ddaeth a'r adborth cadarnhaol gan gyflogwyr a mynychwyr. Mae digwyddiadau fel hyn yn rhan hanfodol o'n cenhadaeth i gysylltu pobl â chyfleoedd ystyrlon a'u cefnogi ar eu taith i waith.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Dinbych ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae llwyddiant y Ffair Swyddi yn dangos pŵer gweithio mewn partneriaeth. Drwy ddod â chyflogwyr a phobl sy’n chwilio am waith at ei gilydd o dan un to, rydym yn helpu i chwalu rhwystrau ac adeiladu economi leol gryfach a mwy cynhwysol.”
I gael gwybod am ddigwyddiadau a chyfleoedd yn y dyfodol, ewch i wefan Sir Ddinbych yn Gweithio neu dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu'n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael gwaith.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU.
Gwaith i wella effeithlonrwydd mewn gweithdai yn y Rhyl
Mae gwaith wedi ei wneud i ostwng costau ynni yn yr hirdymor mewn rhan o gyfadeilad gweithdai yn y Rhyl.
Mae Tîm Ynni Cyngor Sir Dinbych yn parhau i weithio i leihau'r defnydd o ynni a lleihau costau hirdymor yn adeiladau'r Cyngor.
Drwy reoli prosiectau mewn ystod o adeiladau’r sir, fel ysgolion a chanolfannau hamdden, mae’r tîm yn gweithio i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau a gostwng allyriadau yn rhan o ymdrech gan y Cyngor i leihau ei ôl troed carbon ar ôl datgan Argyfwng Hinsawdd a Natur yn ystod 2019.
Mae’r Tîm Ynni wedi cwblhau prosiect i uwchraddio’r goleuadau yng Ngweithdai Pinfold y Rhyl (Adran A) i oleuadau LED.
Mae goleuadau LED yn fwy effeithlon gan eu bod yn defnyddio llai o ynni na bylbiau confensiynol, gan leihau allyriadau carbon. Mae gan y system oleuo hon oes hwy, sy’n golygu na fydd angen newid y goleuadau mor aml – mae hyn yn arbed costau yn ogystal â defnyddio llai o ynni.
Mae’r arbedion ariannol a wneir yn flynyddol o’r gwaith hwn dros £2,000; arbedir dros 9,000 kWh bob blwyddyn, ynghyd â 2.68 tunnell o garbon.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ni wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon o’n hadeiladau, lleihau ein defnydd o ynni a lleihau costau yn y tymor hwy. Mae’r unedau gweithdy hyn yn bwysig iawn i’r bobl sy’n eu prydlesu i gynnal eu busnes o ddydd i ddydd, ac mae’n wych o beth bod ein Tîm Ynni wedi gallu gwneud yr amgylchedd yn fwy effeithlon a chyfforddus drwy osod y goleuadau LED.
Dechrau gwella dolydd blodau gwyllt cyn hir

Mae rhaglen waith ar fin dechrau i wella amryw ddolydd blodau gwyllt yn Sir Ddinbych.
Timau Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Stryd y Cyngor sydd wedi cynllunio’r gwaith er mwyn annog blodau gwyllt i ymwreiddio ar rai o ddolydd y sir yr hydref hwn a hybu amrywiaeth ynddynt.
Mae’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn cynnal ac amddiffyn byd natur yn lleol ac yn fuddiol i les cymunedau ledled y Sir. Llywodraeth Cymru sy’n ei ariannu drwy gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru.
Mae gwella’r dolydd yn fuddiol i bawb, nid byd natur yn unig, a bydd cymunedau’n elwa ar aer glanach, trefi llai poeth, a chael mannau difyr ar gyfer addysg a chwarae er budd eu lles corfforol a meddyliol.
Detholwyd y safleoedd i’w gwella eleni ar sail arolygon y tîm Bioamrywiaeth. Bydd y gwaith yn cynnwys creithio neu gribinio’r gwair i ddinoethi’r pridd a chreu lle i hadau blodau gwyllt egino a magu gwreiddiau. Mae hynny’n helpu i atal y gwair rhag mynd yn drech na’r blodau, yn annog yr hadau i egino ac yn hybu bioamrywiaeth drwy greu cymysgedd fwy helaeth o flodau gwyllt.
Ni fydd modd gwella’r holl ddolydd dan sylw eleni a gobeithir y bydd modd mynd i’r afael â’r rheiny’r flwyddyn nesaf. Safleoedd mawr sydd wedi cael blaenoriaeth eleni er mwyn sicrhau fod gennym gyflenwad da o hadau lleol i’w plannu ar ddolydd eraill mewn blynyddoedd i ddod, gan gynnal natur gynhenid y prosiect.
Yn ystod tymor 2024, cofnodwyd 297 o wahanol rywogaethau o flodau gwyllt ar ddolydd y sir a chyfanswm o 5,269 o flodau unigol, llawer iawn mwy nag sy’n tyfu mewn caeau lle torrir y gwair yn gyson.
Mae’r dolydd yn amrywio o le i le ac fel arfer yn cynnwys gwahanol fathau cynhenid o wair a blodau gwyllt. Rhywogaethau cynhenid yw’r blodau gwyllt ar ein dolydd a’r rhan fwyaf ohonynt yn rhai lluosflwydd, sy’n golygu eu bod yn dychwelyd bob blwyddyn ac yn cynnal cymaint â phosib o fywyd gwyllt.
Mae adfer a chynnal y dolydd blodau gwyllt hyn yn gam pwysig tuag at helpu i wrthdroi’r dirywiad a chynyddu cyfoeth rhywogaethau lleol ac mae’r Cyngor wedi ymrwymo i fanteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio ei feysydd glaswelltir at y diben hwn, lle bo’n briodol.
Mae blodau gwyllt yn darparu bwyd i wenyn a phryfed peillio eraill gydol y flwyddyn, sy’n cynnal ein cadwyn fwyd ni.
Heb fod gan bryfaid y cynefin hwn, byddai llai o beillwyr ym myd natur a byddai hynny’n amharu ar ein cadwyn fwyd gan mai pryfed peillio sy’n ysgogi twf y rhan fwyaf o’n ffrwythau a llysiau.
Mae’r pridd ar ddolydd blodau gwyllt hefyd yn medru dal cymaint o garbon â choedwigoedd ac yn lleihau nwyon tŷ gwydr, sy’n ein helpu wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Bydd gwella a chyfoethogi’r dolydd yn helpu i greu llwybrau sy’n cysylltu’n well efo’i gilydd fel bod bywyd gwyllt yn medru symud o le i le a mynd â phaill i leoedd eraill, er mwyn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a hybu byd natur yn ein trefi i bobl ei fwynhau.”
Llwyddiant Hanesyddol dros yr Haf i Nantclwyd y Dre a Charchar Rhuthun
Mae Gwasanaeth Treftadaeth y Cyngor yn dathlu haf llwyddiannus arall yn Nantclwyd y Dre a Charchar Rhuthun, o ganlyniad i brofiad ymwelwyr a ddiweddarwyd.
Mae'r gweithgareddau newydd, a ariannwyd yn rhannol gan gronfa SPF Llywodraeth y DU, wedi bod yn digwydd ochr yn ochr ag agoriad arferol yr atyniadau treftadaeth yn yr haf, sydd unwaith eto wedi gweld ymwelwyr o bell ac agos yn gwneud eu ffordd i brofi'r darnau pwysig hyn o hanes lleol.
Mae’r tymor hwn wedi bod yn arbennig o boblogaidd gyda theuluoedd, oherwydd yr ymdrech dros y blynyddoedd diwethaf i gynnig mwy i ymwelwyr iau trwy dywyswyr clywedol rhyngweithiol a gweithgareddau ymarferol. Yn wir, yn 2025 cafwyd mwy o ddarpar Houdini's yn cymryd rhan yn llwybr ‘Dianc o’r Carchar’ yng Ngharchar Rhuthun, a theithwyr amser yn cael profiad o dros 500 o flynyddoedd o hanes yn Nantclwyd y Dre nag erioed o’r blaen!
Meddai Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae’r haf hwn unwaith eto yn dangos faint mae pobl yn gwerthfawrogi ein hatyniadau hanesyddol, y gymuned leol ac ymwelwyr â’r ardal a bu’n bleser croesawu amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau ac i weld ein mannau hanesyddol yn cael eu defnyddio mewn ffordd mor greadigol.
“Gobeithiwn ddatblygu llwyddiant y misoedd diwethaf a datblygu ein dewis o ddigwyddiadau a gwasanaethau newydd i hyrwyddo cynaliadwyedd ein hatyniadau, gan sicrhau bod eu hanes yn parhau i fod yn fyw i genedlaethau i ddod”.
Bydd Nantclwyd y Dre a Charchar Rhuthun yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd tan ddiwedd mis Medi. Ewch i’n tudalen treftadaeth i drefnu ymweliad, neu cysylltwch â’r tîm ar treftadaeth@sirddinbych.gov.uk ar gyfer ymholiadau ynghylch llogi lleoliad.

Diwrnod Gwasanaethau Brys
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi nodi diwrnod Gwasanaethau Brys (9 Medi) drwy godi baner i’w anrhydeddu.

Cafodd y faner ei chodi yn Neuadd y Sir, Rhuthun ar ddydd Mawrth, 8 Medi, i gydnabod a chefnogi staff y gwasanaethau brys a’u cyfraniad enfawr i gymdeithas trwy ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol i ni gyd.

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd Cyngor Sir Dinbych: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’n holl wasanaethau brys am y gwaith rhagorol maen nhw’n ei wneud, yn aml yn yr amgylchiadau anoddaf.
“Mae’r diwrnod yn gyfle i rhoi diolch iddyn nhw am y gwasanaeth ymroddgar maent yn ei ddarparu drostom bob diwrnod o’r flwyddyn, a mae’n anrhydedd mawr i ni yng Ngyngor Sir Ddinbych gynnal a chefnogi’r digwyddiad pwysig iawn yma. “
Datgelu dyluniadau ar gyfer ailddatblygu maes chwarae Dinbych
Mae dyluniadau wedi cael eu datgelu ar gyfer ailddatblygu ardal chwarae ym Mharc Isaf, Dinbych.

Mae dyluniadau wedi cael eu datgelu ar gyfer ailddatblygu ardal chwarae ym Mharc Isaf, Dinbych.
Mae adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych yn rheoli’r prosiectau ar ôl sicrhau cyllid grant drwy Gynllun Swm Cymudol Mannau Agored Hamdden Cyhoeddus.
Bydd yr ardal newydd yn cynnwys gosod cyfarpar chwarae hygyrch a synhwyraidd ac wedi’i ddylunio i alluogi plant o bob gallu i chwarae gyda’i gilydd.
Mae’r datblygiad hwn hefyd yn ceisio cynyddu a gwella hygyrchedd i gyfarpar chwarae presennol a newydd.
Bydd cyfleoedd chwarae yn cael ei gynyddu i blant drwy ychwanegu chwarae lefel isel, synhwyraidd, botymog, chwarae cymdeithasol, chwarae cystadleuol, troelli unigol, siglo â chefnogaeth, siglo cymdeithasol a chwarae rhyngweithiol.
Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni gan KOMPAN UK sydd ar hyn o bryd yn datblygu safleoedd chwarae ym Mharc Drifft y Rhyl a Marchnad y Frenhines.
Dywedodd llefarydd ar ran KOMPAN UK: “Gweithiodd KOMPAN UK gyda’r tîm yng Nghyngor Sir Ddinbych i wella’r cynnig ym Maes Chwarae Parc Isaf, gan sicrhau fod lefel uwch o hygyrchedd a chynhwysiant. Mae gwelliannau i’r safle yn cynnwys nifer o gyfleoedd chwarae newydd ar gyfer y plant yn y gymuned ac yn sicr bydd yn datblygu synnwyr cynyddol o berchnogaeth ar gyfer y maes chwarae gyda’i nodweddion modern a chyffrous newydd yr ydym yn eu gosod.
“Mae’r safle yn un o nifer yr ydym yn gweithio arnynt ar draws Sir Ddinbych, felly mae KOMPAN yn falch iawn o weithio gyda’r cymunedau hyn i wella a datblygu cyfleusterau chwarae, a dod a chwarae newydd, modern a chynaliadwy i’r ardal.
“Mae KOMPAN yn un o’r gwneuthurwyr cynnyrch chwarae mwyaf blaengar, gan ddarparu Cyngor Sir Ddinbych gyda dadansoddiad llawn o’r deunyddiau a ailgylchwyd i gael eu defnyddio i greu’r gofodau chwarae hyn. Rydym yn casglu rhwydi pysgota oddi ar yr arfordir a’u defnyddio i greu ein paneli chwarae gwydn, gan olygu eu bod wedi cael eu creu o >95% o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Rydym yn gweithio’n barhaus i leihau ein defnydd o ddeunyddiau crai trwy eu hamnewid a defnyddio deunyddiau wedi ailgylchu yn lle, sy’n rhyddhau llai o allyriadau carbon. Mae hyn yn cyd-fynd â Strategaeth Hinsawdd a Natur Sir Ddinbych.
Meddai Cydlynydd Ardal Gwasanaethau Stryd, Neil Jones: “Rydym yn falch iawn o allu gwella’r ardal chwarae er mwyn helpu i gefnogi plant lleol o bob oed o ran eu hiechyd a lles. Mae’r dyluniad yn wych, a bydd y cyfarpar newydd yn rhoi bywyd newydd i’r parc ar gyfer y plant.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Mae hwn yn brosiect gwych i helpu lles holl blant sy’n byw o amgylch y parc a thu hwnt. Edrychaf ymlaen at weld y prosiect wedi’i gwblhau ac ar agor i’r plant fwynhau.
Disgwylir i’r gwaith ar ailddatblygu ddechrau yng nghanol mis Medi. Disgwylir y bydd y parc ar gau yn ystod y cyfnod adeiladu.
Cofrestrwch nawr ar gyfer Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych 2025
Caiff busnesau a sefydliadau twristiaeth eu gwahodd i Fforwm Twristiaeth nesaf Sir Ddinbych a gaiff ei gynnal ddydd Mercher, 15 Hydref yng ngwesty’r Wild Pheasant, Llangollen (10.30am–1.30pm).

Mae’r Fforwm yn cynnig cyfle gwych i glywed am y datblygiadau diweddaraf yn y sector, cysylltu gyda busnesau o’r un meddylfryd a rhannu profiadau.
Mae’r rhaglen eleni yn cynnwys ystod o siaradwyr gwadd arbenigol.
- Gail Swan, Cadeirydd Grŵp Bwyd a Diod Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru
- Lucy von Weber, Pennaeth Marchnata, Croeso Cymru
- Pennaeth Gwasanaeth Twristiaeth, Cyngor Sir Ddinbych
Bydd cynrychiolwyr yn cael y cyfle hefyd i weld amrywiaeth o stondinau gwybodaeth gan sefydliadau gan gynnwys Coleg Cambria, Banc Datblygu Cymru, Busnes@LlandrilloMenai, Y Ganolfan Sgiliau Coetir, Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Rheilffordd Llangollen a Chorwen a Thwristiaeth Sir Ddinbych.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae twristiaeth yn chwarae rhan mor hanfodol yn economi a diwylliant Sir Ddinbych ac mae’r Fforwm yn ffordd wych i ni ddod ynghyd, rhannu syniadau a chefnogi ein gilydd. P’un ai ydych chi’n fusnes bach, sefydliad cymunedol neu’n rhan o atyniad mwy, fe fyddwn yn eich annog i ddod draw a bod yn rhan o’r sgwrs.”
Bydd cofrestru yn agor am 10.00am a bydd y Fforwm yn dechrau am 10.30am gyda chinio bwffe i ddilyn a rhyngweithio am 1.30pm.
Mae lleoedd yn rhad ac am ddim ond mae’n rhaid archebu lle. Cadwch eich lle heddiw. Ffurflen Archebu Eventbrite.
Stryd Fawr Prestatyn - Prawf Rheoli Traffig
Mae’r prawf rheoli traffig diweddar ar Stryd Fawr Prestatyn, a oedd yn annog cerbydau i deithio i lawr Ffordd Llys Nant i Barc Manwerthu Prestatyn bellach wedi dod i ben.
Hoffai Cyngor Sir Ddinbych ddiolch i bawb am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod prawf, ac i’r rhai a stopiodd i drafod eu harferion teithio.
Ar ôl gwrando ar yr holl adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyntaf a’r prawf rheoli traffig, mae’r Cyngor bellach yn y broses o gyflawni gwaith modelu pellach o ran llif a chyfeiriad y traffig, er mwyn sicrhau darpariaeth prosiect a fydd yn gwella ac adfywio Prestatyn.
Bydd hwn yn canolbwyntio ar ran is y Stryd Fawr, Ffordd y Bont a Ffordd Penisardre er mwyn penderfynu a ellir lleddfu’r tagfeydd fel rhan o Gynllun Gwella Stryd Fawr Prestatyn wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus arall yn digwydd rhwng canol Medi a diwedd Hydref er mwyn casglu adborth am y dyluniadau cychwynnol, a hefyd byddwn yn gwahodd pobl i rannu eu barn a phryderon am y traffig o amgylch y Stryd Fawr ar yr un pryd.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Hoffem ddiolch i breswylwyr, ymwelwyr a busnesau am eu cydweithrediad ac ymgysylltiad trwy gydol y prawf rheoli traffig diweddar ar Stryd Fawr Prestatyn.
“O ganlyniad i’r prawf rydym wedi derbyn adborth gwerthfawr, a fydd yn cael ei ddefnyddio wrth i ni symud ymlaen gyda gwaith modelu traffig pellach.
"Mae ein ffocws yn parhau ar ddarparu cynllun sy’n gwella hygyrchedd, lleihau tagfeydd a chefnogi adfywiad hirdymor o ganol y dref.
"Edrychwn ymlaen at glywed mwy gan y gymuned yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus nesaf ac anogwn bawb i rannu eu safbwyntiau”.
Bydd mwy o wybodaeth am y dyluniadau cychwynnol a’r ymgynghoriad ar gael yn fuan.
Gwaith adfer natur yn esgor ar gnwd newydd o flodau gwyllt
Mae tegeirianau’n atgyfodi yn Sir Ddinbych ar ôl cael hwb gan brosiect bioamrywiaeth.
Wrth i dymor blodeuo 2025 ddirwyn i ben, mae Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor wedi cofnodi twf aruthrol yn niferoedd un o’n planhigion arbennig ledled y sir.
Mae ein Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn hybu ac amddiffyn byd natur yn lleol ac yn cyfrannu at les ein cymunedau ledled y Sir. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r prosiect drwy gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru.
Daeth y tîm Bioamrywiaeth o hyd i’r tegeirianau newydd wrth gynnal arolwg o ddolydd lleol i weld sut hwyl roedd amryw rywogaethau’n ei chael yn ystod y tymor tyfu.
Ar y ddôl ger Ffordd Abergele ym Modelwyddan, darganfuwyd am y tro cyntaf erioed ddau ar bymtheg o degeirianau bera a dau o degeirianau brych. Yn Rhuddlan, daethpwyd o hyd i ddau o degeirianau bera ar y ddôl ger Ffordd Abergele, ac eto dyma’r tro cyntaf erioed i’r tîm eu gweld yno.
Bu cynnydd yn nifer y tegeirianau sy’n tyfu ar amryw ddolydd eraill hefyd.
Ger Cylchfan ATS yn Ninbych, cofnodwyd deunaw o degeirianau’r wenynen o gymharu â naw’r llynedd, canfuwyd dau o degeirianau brych ar Stryd y Brython yn Rhuthun, un yn fwy na’r llynedd, ac yn Neuadd y Dref yn Rhuthun cofnodwyd dau o degeirianau brych, eto un yn fwy na’r llynedd.
Meddai Liam Blazey, Uwch-swyddog Bioamrywiaeth: “Mae’r tîm wedi gweld bod tegeirianau’n ffynnu yn nolydd y sir y tymor hwn ac mae hynny’n arwydd calonogol iawn. Mae’r planhigion hyn o fudd mawr i’r gloÿnnod byw a gwyfynnod yn yr ardal.
“Rydym wedi sylwi fod tegeirianau bera’n dechrau tyfu’n bellach o’r môr, a dim ond ar yr arfordir y daethon ni o hyd i rai yn 2023. Mae hynny’n dangos fod ein dolydd yn gyfrwng gwych i blanhigion, pryfed ac anifeiliaid symud o un safle i’r llall ac wrth wneud hynny, maen nhw’n helpu i gynyddu bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.”
“Peth pwysig arall yw bod hadau tegeirianau’n gorfod dod i gysylltiad â mathau neilltuol o ffwng mycorhisol sy’n eu helpu i egino a blaguro’n gryf. Mae pob tegeirian yn dueddol o gael y berthynas honno â ffwng mycorhisol penodol, felly os nad yw cyflwr y pridd yn iawn ar gyfer y ffwng, fyddwn ni ddim yn cael y tegeirianau.”
Mae’r cofnod o atgyfodiad tegeirianau’n dangos fod y prosiect yn rhoi hwb go iawn i adferiad ein dolydd sirol ac yn gwneud byd natur yn Sir Ddinbych yn fwy gwydn.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn brosiect hollbwysig i adfer cynefin oedd bron â diflannu ers y 1930au ac mae atgyfodiad y tegeirianau’n dangos ein bod yn mynd i’r cyfeiriad iawn wrth gynnal byd natur yn lleol yn wyneb newid yn yr hinsawdd.
“Diolch i’n timau Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Stryd a’u gwaith diwyd ar y prosiect, mae mwy o flodau gwyllt fel y tegeirianau hyn yn dychwelyd i’r dolydd gan ddod ag amrywiaeth a lliwiau i bobl eu mwynhau yn ein cymunedau yn ogystal â rhoi help llaw i’r pryfed peillio sydd mor bwysig i gynhyrchu’r bwyd ar ein platiau ni.”
Recriwtio wedi dechrau ar gyfer Prif Weithredwr newydd
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dechrau ar y broses recriwtio ar gyfer Prif Weithredwr newydd.
Dyma swydd hollbwysig o fewn y Cyngor, gan fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau o safon i breswylwyr Sir Ddinbych ac mae’r Cyngor yn dymuno penodi arweinydd penderfynol sy’n rhannu ein dyheadau i barhau i fod yn un o’r Awdurdodau Lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru.
Gwahoddir ymgeiswyr i ymgeisio am y swydd sy’n golygu gweithio’n agos gydag aelodau etholedig i baratoi, datblygu a chyflwyno cyfeiriad strategol yn ogystal â gweithredu, monitro ac adolygu polisïau'r Cyngor.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor:
“Fel Cyngor sy’n perfformio’n dda yng Nghymru a gafodd ei ganmol fel un sy’n ‘cael ei redeg yn dda’ yn ei Asesiad Perfformiad Panel ddiwedd 2024, mae gan Sir Ddinbych uwch dîm cryf yn ei le sydd â dealltwriaeth o’r heriau ariannol rydym ni’n eu hwynebu ar hyn o bryd, a strategaeth gadarn i ddelio â’r heriau hyn. Mae gan ein staff presennol brofiad o sicrhau buddsoddiad ychwanegol i helpu i wella ac adfywio ein cymunedau.
“Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn ymuno â Sir Ddinbych ac mae yna sawl prosiect a menter ar y gweill a fydd o fudd i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Rydym yn ffodus y gallwn elwa o ardaloedd arfordirol a gwledig o drefi glan y môr y Rhyl a Phrestatyn i drefi hanesyddol Rhuddlan, Llanelwy, Dinbych a Rhuthun, o odidowgrwydd Bryniau Clwyd i harddwch Dyffryn Dyfrdwy a threfi Llangollen a Chorwen. Mae’n Sir sydd â rhywbeth i’w gynnig i bawb.”
“Gyda Chynllun Corfforaethol 2022 – 2027 uchelgeisiol, rydym ni bellach yn chwilio am unigolyn uchelgeisiol a blaengar i arwain y sefydliad mewn i ddyfodol llwyddiannus ac i gyflwyno’r blaenoriaethau a fydd yn cael effaith sylweddol ar ein preswylwyr a busnesau lleol.”
Mae’n rhaid i ymgeiswyr arddangos y gallu i ysbrydoli a grymuso gweithlu amrywiol a meddu ar y sgiliau i arwain Uwch Dîm Arwain deinamig ac uchel ei berfformiad er mwyn darparu'r Cynllun Corfforaethol. Os oes gennych chi’r ymrwymiad a’r gallu i arwain i helpu i foderneiddio'r Cyngor ac ysgogi newid a gwelliannau ar draws ei holl wasanaethau a swyddogaethau, yna gall y swydd hon fod yn un delfrydol i chi.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, ewch i https://www.sirddinbych.gov.uk/gweithio-gydan-gilydd
Systemau yn gwella effeithlonrwydd gwresogi ysgolion

Bydd gan ddwy ysgol system wresogi fwy effeithlon o ganlyniad i waith a wnaed dros yr haf.
Mae Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych yn parhau â gwaith yn ystod gwyliau’r haf i leihau’r defnydd o ynni a gostwng costau hirdymor yn adeiladau’r Cyngor.
Mae’r tîm wedi rheoli prosiectau yn adeiladau’r Cyngor, gan gynnwys ysgolion, i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau a gostwng allyriadau yn rhan o ymdrech gan y Cyngor i leihau ei ôl troed carbon ar ôl datgan Argyfwng Hinsawdd a Natur yn ystod 2019.
Gosodwyd systemau rheoli adeiladau newydd yn Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy, ac Ysgol Christchurch, y Rhyl, er mwyn helpu i wella effeithlonrwydd ar y safleoedd.
Bydd y systemau o gymorth i wneud y gorau o berfformiad y gwresogi drwy fonitro paramedrau’n well, gan gynnwys tymheredd a’r defnydd o ynni. O ganlyniad i’r ychwanegiad hwn ar y ddau safle, bydd yr ysgolion yn gweld eu bod yn defnyddio llai o ynni, a bydd eu costau ynni’n is yn yr hirdymor.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Drwy’r gwaith hwn rydym yn parhau i ymrwymo i leihau allyriadau carbon ein hadeiladau, lleihau ein defnydd o ynni a lleihau costau ysgolion yn y tymor hwy. Rydym yn ddiolchgar i’r Tîm Ynni am ei waith rhagweithiol ac am gefnogaeth y ddwy ysgol i wneud y gwaith yma dros yr haf.”
Gwaith yn dechrau ar Drac Pwmpio newydd yn Ninbych uchaf
Bydd grŵp o bobl ifanc o Ddinbych yn gweld eu gweledigaeth yn cael ei gwireddu cyn bo hir wrth i waith ddechrau ar drac pwmpio newydd sbon ar Gae Hywel y mis hwn.
Mae trac pwmpio yn gylchdaith bwrpasol wedi'i chynllunio ar gyfer beiciau, byrddau sglefrfwrdd, sgwteri, a hyd yn oed cadeiriau olwyn. Mae'r prosiect yn ganlyniad ymgyrch gymunedol gref a phartneriaeth rhwng tîm Grŵp Cynefin yn HWB Dinbych, Actif Gogledd Cymru, Cyngor Sir Ddinbych a thrigolion lleol.
Daeth y syniad gan grŵp o bobl ifanc 13 - 17 oed yn Ninbych Uchaf a dynnodd sylw at ddiffyg cyfleusterau beicio yn lleol. Trwy weithio’n agos gyda thîm Grŵp Cynefin yn HWB Dinbych a Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych, bu’r grŵp - sydd bellach yn cael eu hadnabod fel ‘Bumps and Jumps’ - yn ymgyrchu am drac lleol fel bo modd iddyn nhw a phobl ifanc eraill feicio’n ddiogel heb orfod teithio’n bell.
Dywedodd aelod o'r grŵp 'Bumps and Jumps':
"Rydym yn gyffrous am ddyfodol y prosiect a sut mae'r prosiect yn mynd ar hyn o bryd yn ogystal â bod yn hapus iawn am y trac pwmpio sy'n cael ei adeiladu a bod yn rhan o'i ddylunio. Rydym yn edrych ymlaen i weld y gwaith adeiladu'n dechrau'n fuan."
Grŵp 'Bumps and Jumps'
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Rhys Thomas:
“Dyma enghraifft wych o sut mae gwrando ar y gymuned yn gallu arwain at gyfleusterau newydd sy’n dod â phobl at ei gilydd.
“Dylai’r bobl ifanc sydd wedi bod yn arwain y prosiect hwn deimlo’n falch iawn o’u hunain am lwyddo i wneud i hyn ddigwydd ac mae eu penderfyniad wedi ysbrydoli’r gymuned gyfan.”
Mae trac pwmpio yn galluogi beicwyr i ddefnyddio dull pwmpio er mwyn cynnal eu cyflymder ar y beic heb badlo, diolch i gyfres o roleri, troeon a nodweddion sy’n galluogi defnyddwyr i gynnal momentwm drwy symudiadau’r corff. Bydd y trac - sydd wedi’i lunio ar gyfer beiciau, byrddau sgrialu, sgwteri ac sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn - yn cynnwys adrannau i ddechreuwyr ac i rai mwy profiadol, gan gynnig man diogel a phwrpasol i alluogi pobl o bob oedran a gallu i gadw’n egnïol.
Mewn nifer o ymgynghoriadau cymunedol, llawer ohonynt wedi’u harwain gan y bobl ifanc eu hunain, cadarnhawyd bod cefnogaeth leol gref i’r prosiect. Mae’r safle a ddewiswyd yn agos at y maes chwarae a’r meinciau, gyda llwybrau hygyrch ac yn gwbl ar wahân i eiddo preswyl.
I nodi dechrau’r gwaith adeiladu, bydd y grŵp ‘Bumps and Jumps’ yn ‘torri’r tir’ yn swyddogol ochr yn ochr â’r contractwr ar 8 Medi. Bydd digwyddiad cymunedol arbennig i ddilyn am 5pm yr un diwrnod, lle gall trigolion weld y cynlluniau, cwrdd â’r tîm a chyfrannu syniadau at ddyluniad terfynol y trac ac mae croeso i bawb fynychu. Disgwylir i'r gwaith gymryd pythefnos i dair wythnos, os bydd y tywydd yn caniatáu.
Bydd y gwaith adeiladu’n cael ei wneud gan JB Extreme Landscape, ac mae’r prosiect sy’n werth £58,332 wedi’i ariannu trwy gynllun grant Symiau Gohiriedig Mannau Agored, wedi’i weinyddu gan Dîm Cydnerthu Cymunedol Sir Ddinbych. Bydd Tai Sir Ddinbych yn cymryd cyfrifoldeb dros unrhyw waith cynnal a chadw ac arolygon, gyda chefnogaeth y Gwasanaethau Stryd.
Mae’r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin HWB Dinbych, Actif Gogledd Cymru, Tîm Cydnerthu Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych, Gwasanaeth Tai, Gwasanaethau Stryd a Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych.
Gwaith ar ardal chwarae newydd i blant yn dechrau ym Marchnad y Frenhines
Mae gwaith adeiladu ar ardal chwarae newydd i blant a adeiladwyd ar safle Marchnad y Frenhines wedi dechrau'r wythnos hon.
Bydd yr ardal chwarae ym Marchnad y Frenhines yn cael ei lleoli yn agos at y mynedfeydd ochr, wrth ymyl Maes Parcio Stryd y Frenhines, a bydd yn cymryd tua 3 wythnos i'w chwblhau.

Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd y comisiynu a’r profi yn dechrau, cyn agor yn llawn i'r cyhoedd.
Bydd yr ardal chwarae gynhwysol yn cynnwys mwy nag 20 o nodweddion chwarae, a bydd yn gallu darparu ar gyfer dros 40 o ddefnyddwyr ar unrhyw adeg benodol. Mae'r ardal chwarae wedi'i chynllunio ar gyfer plant o 0 - 10 oed a hŷn, a bydd yn cynnwys byrddau chwarae rhyngweithiol a synhwyraidd hefyd.
Wedi'i hadeiladu gyda Marchnad y Frenhines mewn golwg, thema'r ardal chwarae fydd bwyd a diod, gyda’r thema 'caffi' a 'hufen iâ' wedi'u hymgorffori yn rhai o'r offer chwarae.
Meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir Dinbych, Graham Boase:
“Mae’r ardal chwarae hon yn enghraifft wych o gydweithio, sy’n sicrhau bod lle gwych a chynhwysol arall yn y Rhyl i blant chwarae drwy gydol y flwyddyn, y tro hwn yn lleoliad eiconig Marchnad y Frenhines.
Rydym yn disgwyl i'r gwaith adeiladu gymryd tua thair wythnos i'w gwblhau, cyn y gellir dechrau profi a chomisiynu. Edrychaf ymlaen at weld ased gwych arall i'r lleoliad hwn yn agor yn y dyfodol agos.”
Meddai llefarydd ar ran KOMPAN UK:
“Gweithiodd KOMPAN UK gyda Marchnad y Frenhines i ddatblygu Ardal Chwarae sy’n ategu swyddogaeth y Farchnad yn berffaith, gyda thro hwyliog a chwareus.
Mae plant yn gallu defnyddio eu dychymyg a'u sgiliau chwarae rôl i weini neu fod yn gwsmer yn eu caffi eu hunain!
Mae'r Ardal Chwarae hon wedi'i chynllunio gyda phlant o bob lefel gallu mewn golwg. Mae’n sicrhau bod gweithgareddau chwarae nad ydynt i gyd yn gofyn am gryfder corfforol, ond hefyd yn cynnig gweithgareddau i ddatblygu sgiliau echddygol bras a manwl drwy ddringo, cropian ac archwilio'r nodweddion chwarae. Mae chwarae yma yn datblygu sgiliau gwybyddol hefyd gyda gemau hwyliog a byrddau chwarae creadigol.
Rydym yn falch iawn o allu dylunio a gosod yr Ardal Chwarae hon ym Marchnad y Frenhines ac yn edrych ymlaen at osod mwy o gyfleusterau chwarae a ffitrwydd awyr agored cyffrous yn y Rhyl yn y misoedd nesaf! Dewch i ni Chwarae!”
Hafan Deg yn cynnal Digwyddiad Haf llwyddiannus
Fe gynhaliodd Canolfan Ddydd Hafan Deg yn Y Rhyl Ddigwyddiad Haf yn ddiweddar a gwahoddwyd y cyhoedd i ymuno yn hwyl yr haf gydag ystod o weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan.
Fel rhan o hwyl yr haf roedd amrywiaeth o Adloniant i Blant, Raffl, sesiwn Bingo, Bric a Brac ar werth a chafwyd ymweliad gan Scaly Safari Co a ddaeth â chyfeillion cennog i’r ymwelwyr eu gweld.

Gallai ymwelwyr hefyd gael celf henna wedi’i wneud ac roedd yna hefyd sesiwn greu barcud ar gyfer ymwelwyr iau.
Roedd lluniaeth gan gynnwys te, coffi a byrbrydau hefyd ar gael ar y diwrnod yn ogystal â danteithion wedi eu pobi.
Mae Canolfan Ddydd Hafan Deg yn cynnig ystod eang o gyfleusterau ac mae’n ganolbwynt i lawer o’r bobl hŷn sy’n byw yn yr ardal. Ar hyn o bryd mae’r ganolfan ar agor 3 diwrnod yr wythnos fel canolfan gofal dydd ac mae amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal i’r bobl sy’n mynychu.
Fe wnaed gwaith adnewyddu allweddol i’r ganolfan ers iddi ddod yn ôl i ddwylo’r Cyngor yn 2023.
Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:
“Mae Hafan Deg yn lle sy’n gofalu am y gymuned leol sy’n byw yn ardal y ganolfan ddydd ac roedd heddiw yn enghraifft hyfryd o hyn gyda’r hen a’r ifanc yn dod draw i fwynhau’r cyfleuster, yn ogystal â rhai ffrindiau cennog hefyd!”
Cyngor Sir Ddinbych yn mabwysiadu darpariaethau pellach ar gyfer staff sy’n Maethu
Fel rhan o’i ymrwymiad i staff sy’n penderfynu dod yn Ofalwyr Maeth, mae’r Cyngor wedi mabwysiadu polisi absenoldeb sy’n Cefnogi Maethu, gan gynnig trefniadau gweithio’n hyblyg sy’n ymateb i anghenion Gofalwyr Maeth sy’n gweithio i’r Cyngor.

Mae’r polisi’n cadarnhau ymrwymiad y Cyngor i gefnogi staff sy’n Maethu, ac yn caniatáu 5 diwrnod ychwanegol o absenoldeb arbennig mewn cyfnod o 12 mis ar gyfer y rhai sy’n Maethu drwy raglen Maethu Cymru.
Mae modd i Ofalwyr Maeth sy’n gweithio i’r Cyngor ddefnyddio’r absenoldeb ychwanegol ar gyfer cyfnodau allweddol fel asesu a hyfforddi cyn eu cymeradwyo fel Gofalwyr Maeth a chyfarfodydd adolygu plant, cyfarfod adolygu blynyddol Gofalwyr Maeth a hyfforddiant.
Gellir cymryd yr absenoldeb fel diwrnodau llawn neu hanner diwrnodau.
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Bydd y newid mewn polisi yn galluogi ein staff i gael mwy o amser a gofod i helpu gyda’u rolau pwysig fel Gofalwyr Maeth.
Mae’r newid mewn polisi’n adlewyrchu ein hymrwymiad i’r aelodau anhygoel o staff sy’n penderfynu Maethu.”
Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant:
“Rwy’n falch iawn fod y polisi ar waith, mae’n arddangos ymrwymiad Sir Ddinbych i gefnogi staff sy’n dymuno maethu a’r rhai sydd eisoes yn maethu gyda ni.
Mae gennym nifer o aelodau o staff ymroddedig a dawnus ar draws y Cyngor, rydym yn hyderus y byddai nifer ohonynt yn ofalwyr maeth rhagorol ac yn gobeithio bod y polisi hwn yn annog aelodau o staff i gysylltu â’r Tîm Maethu i drafod.”
Mae'r polisi newydd hwn hefyd yn un ffordd mae'r Cyngor yn trawsnewid un o'i wasanaethau i arbed arian yn y tymor hir.
Drwy gynyddu nifer y gofalwyr maeth yn y sir, mae'n galluogi'r Cyngor i ddarparu canlyniadau gwell i bobl ifanc mewn ffordd sydd hefyd yn fwy cost-effeithiol.
Disgyblion Rhuddlan yn dysgu am yr hanes o dan eu hystafelloedd dosbarth
O ganlyniad i sgwrs gan Archeolegydd Heneb, Ian Grant, cafodd aelodau’r clwb haf (Clwb Hwyl Jester’s) yn Ysgol y Castell yn Rhuddlan gyfle i ddysgu am yr hanes sydd o dan dir eu hysgol.
Disgyblion, cynrychiolwyr o'r Cyngor, Bryn Build a Heneb o flaen y gwaith newydd yn Ysgol y Castell, Rhuddlan.
Ar hyn o bryd mae gwaith ymestyn yn cael ei wneud yn Ysgol y Castell a fydd yn golygu bod 16 metr sgwâr o ofod ystafelloedd dosbarth ychwanegol yn cael ei ychwanegu at 4 ystafell ddosbarth, a fydd yn cynhyrchu estyniad cyfan o 64 metr sgwâr y bydd yn cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion, a bydd cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu ar yr un pryd. Gan fod yr ysgol wedi'i lleoli ar safle a ddiogelir, mae’n rhaid i archeolegydd fonitro'r gwaith cloddio, ac mae’r gwaith diweddaraf, sef cloddio tir ar gyfer y tanc gwanhau ac estyniad yr iard, hefyd yn dod dan y gofyniad hwn.
Yn ystod y sgwrs, cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu am Ruddlan a safle eu hysgol drwy’r oesoedd, a sut mae’r dirwedd a’r darganfyddiadau archeolegol wedi helpu archeolegwyr i ddysgu rhagor am batrymau ymddygiad pobl o wahanol oesoedd allweddol, gan gynnwys yr oesoedd canol, ac yn gynt na hynny hyd yn oed.
Disgyblion yn mynychu sgwrs cyn ymweld â'r safle.
Cafodd y disgyblion weld rhai o’r darganfyddiadau archeolegol a ddarganfuwyd ar y safle o nifer o gloddiadau gwahanol (nid y gwaith cloddio mwyaf diweddar), a oedd yn cynnwys darnau o grochenwaith canoloesol, hen esgyrn anifeiliaid a darnau o offer a ddarganfuwyd.
Archeolegydd Heneb, Ian Grant.
Ar ôl y sgwrs a’r daith o’r hyn a ddarganfuwyd ar safle’r ysgol, cafodd y disgyblion weld y cynnydd ar y gwaith sy’n digwydd yn yr ysgol gan Bryn Build, sy’n ymgymryd â’r gwaith, a oedd yn cynnwys gweld iard yr ysgol sydd wedi’i hymestyn a’r lle a gloddiwyd ar gyfer y tanc gwanhau.
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Roedd yn wych bod yn bresennol ar gyfer y sgwrs a’r daith yn Ysgol y Castell. Dysgais lawer am hanes diddorol safle'r ysgol, sy'n dyddio'n ôl ymhellach nag yr oeddwn i'n ei sylweddoli.
Roedd hefyd yn wych gweld y cynnydd ar y gwaith ymestyn, a fydd yn uwchraddio ac yn gwella dysgu a lles y disgyblion, a bydd cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu yr un pryd ag y bydd yr estyniad yn cael ei adeiladu.”
Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Llywodraethwr Ysgol, Cynghorydd Sir ar gyfer Ward Rhuddlan a Chadeirydd y Cyngor:
“Mae mor bwysig bod disgyblion yn dysgu am hanes eu hardal, a’r straeon gwerthfawr a diddorol sydd o dan eu traed nhw.
Mae ymgysylltu â'u hanes lleol yn helpu disgyblion i ddysgu rhagor ynghylch sut a pham y mae’r ardal maen nhw’n byw ynddi fel y mae heddiw. Mae gan ddisgyblion Ysgol y Castell y cyfle prin i ddysgu am yr hanes sydd yn llythrennol o dan eu traed nhw, yng nghae eu hysgol.”
Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Cynghorydd Sir Ward Rhuddlan:
“Yn y cyfarfod roedd o’n braf gweld pa mor ymgysylltiedig a gwybodus oedd y plant.
Roedd nhw’n amlwg yn awyddus iawn i weld y gloddfa archaeolegol a’r arteffactau a oedd ar ddangos.
Mae'n bwysig i'r plant wybod am yr hanes, a bod rhai o'r creiriau a geir wrth ymyl yr ysgol yn Rhuddlan hyd at 9000 o flynyddoedd oed. Hoffwn ddiolch i staff Heneb am y cyflwyniad rhagorol ac i bawb a oedd yn rhan o'r gloddfa archaeolegol.
Ar ôl bod yn gweithio gyda'r ysgol am y 50 mlynedd diwethaf, rwyf wrth fy modd bod yr estyniad angenrheidiol yn mynd rhagddo.”
Mae cam cyntaf y prosiect hwn wedi derbyn arian cyfatebol o 65% gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae 35% o’r cyllid sy’n weddill wedi dod yn bennaf o gyfraniad datblygwr a ddarparwyd gan ddatblygiad tai Tirionfa yn Rhuddlan.
Gwaith atal llifogydd ar yr A525
Bydd gwaith atal llifogydd yn cael ei gwblhau ar yr A525 rhwng goleuadau Trefnant a chylchfan ATS yn Ninbych

Bydd gwaith atal llifogydd yn cael ei gwblhau ar yr A525 rhwng goleuadau Trefnant a chylchfan ATS yn Ninbych o ddydd Mawrth, 26 Awst hyd ddydd Gwener, 5 Medi.
Pwrpas y gwaith yw datrys y broblem o lifogydd cyson yn yr ardal hon yn ystod cyfnodau o law trwm, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.
Bydd cam cyntaf y gwaith yn cael ei gwblhau rhwng 26 a 29 Awst pan fydd y ffordd ar gau trwy’r dydd a thrwy’r nos gydag arwyddion dargyfeirio mewn lle. Yn dilyn hyn, bydd ail gam y gwaith yn arwain at oleuadau dwy ffordd dros dro rhwng 29 Awst a 5 Medi.
Mae cam cyntaf y gwaith yn cael ei gwblhau dros gyfnod gwyliau haf ysgolion er mwyn lleihau amhariad i draffig ysgolion a busnesau. Yn ogystal, mae lefelau dŵr ar eu hisaf yn enwedig yn dilyn y cyfnod sych parhaus fydd o gymorth ar y safle gan sicrhau caiff y gwaith ei gwblhau’n llwyddiannus.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, “Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra gall y gwaith atal llifogydd anghenrheidiol yma ei achosi, ac rydym yn ddiolchgar bob amser am gydweithrediad lleol ac amynedd trigolion i sicrhau caiff y gwaith ei gwblhau mor gyflym ac effeithlon â phosibl.