Recriwtio wedi dechrau ar gyfer Prif Weithredwr newydd
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dechrau ar y broses recriwtio ar gyfer Prif Weithredwr newydd.
Dyma swydd hollbwysig o fewn y Cyngor, gan fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau o safon i breswylwyr Sir Ddinbych ac mae’r Cyngor yn dymuno penodi arweinydd penderfynol sy’n rhannu ein dyheadau i barhau i fod yn un o’r Awdurdodau Lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru.
Gwahoddir ymgeiswyr i ymgeisio am y swydd sy’n golygu gweithio’n agos gydag aelodau etholedig i baratoi, datblygu a chyflwyno cyfeiriad strategol yn ogystal â gweithredu, monitro ac adolygu polisïau'r Cyngor.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor:
“Fel Cyngor sy’n perfformio’n dda yng Nghymru a gafodd ei ganmol fel un sy’n ‘cael ei redeg yn dda’ yn ei Asesiad Perfformiad Panel ddiwedd 2024, mae gan Sir Ddinbych uwch dîm cryf yn ei le sydd â dealltwriaeth o’r heriau ariannol rydym ni’n eu hwynebu ar hyn o bryd, a strategaeth gadarn i ddelio â’r heriau hyn. Mae gan ein staff presennol brofiad o sicrhau buddsoddiad ychwanegol i helpu i wella ac adfywio ein cymunedau.
“Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn ymuno â Sir Ddinbych ac mae yna sawl prosiect a menter ar y gweill a fydd o fudd i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Rydym yn ffodus y gallwn elwa o ardaloedd arfordirol a gwledig o drefi glan y môr y Rhyl a Phrestatyn i drefi hanesyddol Rhuddlan, Llanelwy, Dinbych a Rhuthun, o odidowgrwydd Bryniau Clwyd i harddwch Dyffryn Dyfrdwy a threfi Llangollen a Chorwen. Mae’n Sir sydd â rhywbeth i’w gynnig i bawb.”
“Gyda Chynllun Corfforaethol 2022 – 2027 uchelgeisiol, rydym ni bellach yn chwilio am unigolyn uchelgeisiol a blaengar i arwain y sefydliad mewn i ddyfodol llwyddiannus ac i gyflwyno’r blaenoriaethau a fydd yn cael effaith sylweddol ar ein preswylwyr a busnesau lleol.”
Mae’n rhaid i ymgeiswyr arddangos y gallu i ysbrydoli a grymuso gweithlu amrywiol a meddu ar y sgiliau i arwain Uwch Dîm Arwain deinamig ac uchel ei berfformiad er mwyn darparu'r Cynllun Corfforaethol. Os oes gennych chi’r ymrwymiad a’r gallu i arwain i helpu i foderneiddio'r Cyngor ac ysgogi newid a gwelliannau ar draws ei holl wasanaethau a swyddogaethau, yna gall y swydd hon fod yn un delfrydol i chi.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, ewch i https://www.sirddinbych.gov.uk/gweithio-gydan-gilydd