Stryd Fawr Prestatyn - Prawf Rheoli Traffig
Mae’r prawf rheoli traffig diweddar ar Stryd Fawr Prestatyn, a oedd yn annog cerbydau i deithio i lawr Ffordd Llys Nant i Barc Manwerthu Prestatyn bellach wedi dod i ben.
Hoffai Cyngor Sir Ddinbych ddiolch i bawb am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod prawf, ac i’r rhai a stopiodd i drafod eu harferion teithio.
Ar ôl gwrando ar yr holl adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyntaf a’r prawf rheoli traffig, mae’r Cyngor bellach yn y broses o gyflawni gwaith modelu pellach o ran llif a chyfeiriad y traffig, er mwyn sicrhau darpariaeth prosiect a fydd yn gwella ac adfywio Prestatyn.
Bydd hwn yn canolbwyntio ar ran is y Stryd Fawr, Ffordd y Bont a Ffordd Penisardre er mwyn penderfynu a ellir lleddfu’r tagfeydd fel rhan o Gynllun Gwella Stryd Fawr Prestatyn wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus arall yn digwydd rhwng canol Medi a diwedd Hydref er mwyn casglu adborth am y dyluniadau cychwynnol, a hefyd byddwn yn gwahodd pobl i rannu eu barn a phryderon am y traffig o amgylch y Stryd Fawr ar yr un pryd.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Hoffem ddiolch i breswylwyr, ymwelwyr a busnesau am eu cydweithrediad ac ymgysylltiad trwy gydol y prawf rheoli traffig diweddar ar Stryd Fawr Prestatyn.
“O ganlyniad i’r prawf rydym wedi derbyn adborth gwerthfawr, a fydd yn cael ei ddefnyddio wrth i ni symud ymlaen gyda gwaith modelu traffig pellach.
"Mae ein ffocws yn parhau ar ddarparu cynllun sy’n gwella hygyrchedd, lleihau tagfeydd a chefnogi adfywiad hirdymor o ganol y dref.
"Edrychwn ymlaen at glywed mwy gan y gymuned yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus nesaf ac anogwn bawb i rannu eu safbwyntiau”.
Bydd mwy o wybodaeth am y dyluniadau cychwynnol a’r ymgynghoriad ar gael yn fuan.