Swyddog planhigfa goed yn cyrraedd rownd derfynol gwobrau’r BBC
Mae un o geidwaid byd natur yn Sir Ddinbych wedi’i enwebu am wobr genedlaethol o fri.

Mae un o geidwaid byd natur yn Sir Ddinbych wedi’i enwebu am wobr genedlaethol o fri.
Enwyd Sam Brown, Cynorthwyydd Planhigfa Goed Leol Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy, yn un o dri ar y rhestr fer yng nghategori Hyrwyddwr Ifanc Cefn Gwlad Gwobrau Bwyd a Ffermio 2025 BBC Countryfile.
Er lansio yn 2000, mae Gwobrau Bwyd a Ffermio’r BBC wedi rhoi clod i lu o hoelion wyth y byd ffermio, bwyd a chefn gwlad.
Gyda’r categori Hyrwyddwr Ifanc Cefn Gwlad, mae Countryfile yn clodfori hyrwyddwyr cefn gwlad rhwng 16 a 24 oed. Mae hynny’n cynnwys ffermwyr, naturiaethwyr a chadwraethwyr sy’n gwneud gwahaniaeth drwy eu gwaith.
Detholwyd Sam a’r ddau arall o blith miloedd o enwebiadau a feirniadwyd gan banel o arbenigwyr dan arweiniad y cogydd, Hugh Fearnley-Whittingstall.
Yn ôl yr enwebiad, ‘Ar ôl cael diagnosis o ddyspracsia a’i chael hi’n anodd yn ei addysg, mae Sam wastad wedi bod wrth ei fodd â byd natur ac mae bellach yn annog pobl ag anawsterau dysgu i ddilyn eu diddordebau. Gwirfoddolodd fel Ceidwad Iau pan oedd yn wyth oed a mynd ati i weithio ar warchodfeydd natur a phlannu coed. Tyfodd ei frwdfrydedd am goed ynghyd â’i wybodaeth am rywogaethau cynhenid o goed a blodau gwyllt, ac yn awr mae’n gweithio yn y Blanhigfa Goed yn Llanelwy.’
Meddai Joel Walley, Swyddog Arweiniol Ecoleg a Bioamrywiaeth: “Rydyn ni i gyd yn eithriadol o falch o Sam am gael ei gydnabod am ei ymroddiad i ddiogelu byd natur yn lleol, ei feithrin a’i atgyfnerthu wrth weithio yn ein planhigfa goed.
Mae’n frwdfrydig a diwyd dros ben wrth roi’r gefnogaeth angenrheidiol i fyd natur yn Sir Ddinbych a bu’n rhan allweddol o greu cymuned wych o wirfoddolwyr yn y blanhigfa.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych: “Gwn fod Sam yn gweithio’n galed iawn i helpu i ddiogelu a gwarchod y coed a phlanhigion lleol sydd gennym yn Sir Ddinbych, ac mae’n haeddu pob clod am ei frwdfrydedd a’i ddyfalbarhad wrth warchod tiroedd ledled y sir fel bod modd i genedlaethau o bobl ifanc eu mwynhau yn y dyfodol.”
Cynhelir y seremoni wobrwyo ym Mryste ar 18 Tachwedd a chyhoeddir yr enillwyr bryd hynny.