Systemau yn gwella effeithlonrwydd gwresogi ysgolion

Bydd gan ddwy ysgol system wresogi fwy effeithlon o ganlyniad i waith a wnaed dros yr haf.

Mae Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych yn parhau â gwaith yn ystod gwyliau’r haf i leihau’r defnydd o ynni a gostwng costau hirdymor yn adeiladau’r Cyngor.

Mae’r tîm wedi rheoli prosiectau yn adeiladau’r Cyngor, gan gynnwys ysgolion, i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau a gostwng allyriadau yn rhan o ymdrech gan y Cyngor i leihau ei ôl troed carbon ar ôl datgan Argyfwng Hinsawdd a Natur yn ystod 2019.

Gosodwyd systemau rheoli adeiladau newydd yn Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy, ac Ysgol Christchurch, y Rhyl, er mwyn helpu i wella effeithlonrwydd ar y safleoedd.

Bydd y systemau o gymorth i wneud y gorau o berfformiad y gwresogi drwy fonitro paramedrau’n well, gan gynnwys tymheredd a’r defnydd o ynni. O ganlyniad i’r ychwanegiad hwn ar y ddau safle, bydd yr ysgolion yn gweld eu bod yn defnyddio llai o ynni, a bydd eu costau ynni’n is yn yr hirdymor.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Drwy’r gwaith hwn rydym yn parhau i ymrwymo i leihau allyriadau carbon ein hadeiladau, lleihau ein defnydd o ynni a lleihau costau ysgolion yn y tymor hwy. Rydym yn ddiolchgar i’r Tîm Ynni am ei waith rhagweithiol ac am gefnogaeth y ddwy ysgol i wneud y gwaith yma dros yr haf.”

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw