Drysau Agored Dinbych 2026
Mae digwyddiadau Drysau Agored Dinbych 2026 yn agosáu.

Mae digwyddiadau Drysau Agored Dinbych 2026 yn agosáu ac mae’r digwyddiad eleni yn disgyn ar ddydd Gwener 18, dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Medi. Mae’n llawn ymweliadau a gweithgareddau treftadaeth i bawb o bob oed.
Cyflwynir y ddarlith agoriadol dydd Gwener 18 Medi gan Dan McLennan o Stange & Co, y cwmni masnachol sy'n berchen ar 11 tafarn a bwyty yng ngogledd a chanolbarth Cymru a gogledd-ddwyrain Lloegr. Cawn glywed popeth sydd i’w wybod am brosiect adfer Y Felin Brwcws yn Ninbych. Gyda'r teitl addas ‘Restoring Brookhouse Mill for the future’, bydd yn sicr o ddod ag atgofion hapus o'r adeilad hanesyddol eiconig yma i'r gynulleidfa ac yn rhannu’r straeon tu ôl i'r llenni am ei adnewyddu.
Mae teithiau yn ystod digwyddiadau Drysau Agored yn llenwi’n gyflym, felly os oes gennych ddiddordeb mewn teithiau penodol, archebwch yn gynnar:
- Teithiau tywys Ffynnon Sant Dyfnog @ 11am neu 2pm ddydd Gwener 18.9.26
- Teithiau cerdded Dinbych Canoloesol @ 11am neu 2pm ddydd Sadwrn 19.9.26
- Taith dywys Coleg Myddelton @ 1pm ddydd Sadwrn 19.9.26 ac eto ddydd Sul 20.9.26
- Taith gerdded Gylchol Ystrad – Brwcws - Santes Farchella @ 3pm ddydd Sadwrn 19.9.26
- Taith gerdded daeareg @ 11am ddydd Sul 20.9.26
Am fwy o wybodaeth ar y digwyddiadau ewch i - https://darganfoddinbych.cymru/cy/cartref/