Sesiynau galw heibio i helpu gyda'ch biliau dŵr

Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru i helpu i wneud eich biliau dŵr yn fwy fforddiadwy. Mae gan Dŵr Cymru amrywiaeth o gynlluniau cymorth a thariffau ar gael, gyda rhai cwsmeriaid yn arbed hyd at £300 y flwyddyn. Mae cymorth hefyd ar gael i gwsmeriaid sy'n cael trafferth gydag ôl-ddyledion, ynghyd â chymorth ymarferol drwy'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth i'r rhai a allai fod angen help ychwanegol oherwydd oedran, salwch, anabledd neu amgylchiadau eraill.
Dewch i un o'r sesiynau galw heibio i gael gwybod pa gymorth allai fod ar gael i chi a derbyn help gyda cheisiadau.
Mae’r sesiynau am ddim ac nid oes angen apwyntiad.
- 29 Medi: Llyfrgell a Siop Un Alwad, Stryd yr Eglwys, Y Rhyl LL18 3AA (2pm - 4pm)
- 14 Hydref: Gorsaf VIBE, 40 Stryd Bodfor, Y Rhyl LL18 1AT (1pm - 4pm)
- 16 Hydref: Llyfrgell Prestatyn, 21 King's Avenue, Prestatyn LL19 9AA (10am - 1pm)
- 21 Hydref: HWB Dinbych, Ffordd Smithfield, Dinbych LL16 3RG (1pm - 2.30pm)
- 26 Hydref: Llyfrgell Prestatyn, 21 King's Avenue, Prestatyn LL19 9AA (10am - 1pm)
- 28 Hydref: Gorsaf VIBE, 40 Stryd Bodfor, Y Rhyl LL18 1AT (10am - 2pm)
- 30 Hydref: Llyfrgell a Siop Un Alwad, Stryd yr Eglwys, Y Rhyl LL18 3AA (11am - 2pm)
- 30 Hydref: Ystafell Siambr y Cyngor Tref, 7 Ffordd Nant Hall, Prestatyn LL19 9LR (3pm - 4.30pm)
- 3 Tachwedd: Ystafell Siambr y Cyngor Tref, 7 Ffordd Nant Hall, Prestatyn LL19 9LR (9am - 11.30am)
- 3 Tachwedd: Llyfrgell a Siop Un Alwad, Stryd yr Eglwys, Y Rhyl LL18 3AA (1pm - 4pm)
- 9 Tachwedd: HWB Dinbych, Ffordd Smithfield, Dinbych LL16 3RG (9.30am - 11am)
- 11 Tachwedd: Gorsaf VIBE, 40 Stryd Bodfor, Y Rhyl LL18 1AT (11am - 2pm)
- 12 Tachwedd: Canolfan ASK, 9 Stryd Water, Y Rhyl LL18 1SP (10.30am - 1.30pm)
- 20 Tachwedd: Llyfrgell Dinbych, Y Sgwâr, Dinbych LL16 3NU (12pm - 4pm)
- 23 Tachwedd: HWB Dinbych, Ffordd Smithfield, Dinbych LL16 3RG (10.30am - 12pm)
- 9 Rhagfyr: Gorsaf VIBE, 40 Stryd Bodfor, Y Rhyl LL18 1AT (11am - 2pm)
Mae gan Dŵr Cymru ardaloedd ffocws lle gallant gynnal gwaith allgymorth ychwanegol. Mae'r Rhyl, Prestatyn a Dinbych yn ardaloedd lle mae nhw yn canolbwyntio arnynt ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae nhw yn edrych ar gynnal sesiynau ychwanegol yn Rhuddlan, Llanelwy a de Sir Ddinbych yn y flwyddyn newydd.
Ffair Swyddi ym Marchnad y Frenhines, Y Rhyl
Gwahoddir trigolion Sir Ddinbych sy'n chwilio am waith, am ddechrau newydd, neu am gyfeiriad newydd yn eu gyrfaoedd i fynychu Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio ym Marchnad y Frenhines, y Rhyl, ddydd Mercher 30 Medi rhwng 10am a 2pm.
Wedi'i chynnal mewn partneriaeth â Jobcentre Plus, bydd y digwyddiad rhad ac am ddim yn dod ag ystod eang o gyflogwyr o bob rhan o Ogledd Cymru ynghyd sy'n recriwtio'n weithredol ar gyfer swyddi gwag mewn sectorau gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, lletygarwch, manwerthu, gweithgynhyrchu, gwasanaethau cyhoeddus, logisteg a llawer mwy.
Mae'r Ffair Swyddi wedi dod yn ddigwyddiad allweddol yng nghalendr cyflogaeth Sir Ddinbych, gan helpu cannoedd o drigolion i gysylltu'n uniongyrchol â chyflogwyr tra'n cael mynediad at y cymorth ehangach sydd ar gael drwy Sir Ddinbych yn Gweithio.

Yn fwy na digwyddiad recriwtio yn unig, mae'r Ffair Swyddi yn rhoi cyfle i fynychwyr siarad â thîm Sir Ddinbych yn Gweithio, sy'n cynnig arweiniad a chymorth personol. Anogir trigolion i siarad ag aelod o'r tîm ar y diwrnod i archwilio'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Gall y tîm helpu trigolion Sir Ddinbych i gael mynediad at gronfeydd hyfforddi, meithrin hyder, goresgyn rhwystrau i gyflogaeth, a chael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddod yn nes at sicrhau swydd. Drwy gymryd amser i ddeall sgiliau, diddordebau a dyheadau pob unigolyn, gall y tîm hefyd eu cyflwyno i gyflogwyr a chyfleoedd sy'n cyfateb i'r hyn y maent yn chwilio amdano, gan helpu i feithrin hyder a chael gwared ar yr ofn o gymryd y cam nesaf tuag at gyflogaeth.
Dros y blynyddoedd, mae Ffeiriau Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio wedi croesawu miloedd o ymwelwyr ac wedi cefnogi cannoedd o bobl i ymgysylltu â gwasanaethau cyflogaeth, gyda llawer o'r mynychwyr yn mynd ymlaen i sicrhau swyddi, cyfleoedd hyfforddi, cymwysterau a chymorth hirdymor drwy'r rhaglen.
P'un a yw rhywun yn chwilio am ei swydd gyntaf, yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod i ffwrdd, yn ystyried newid gyrfa, yn edrych am gyfleoedd hyfforddi, profiad gwaith neu'n syml yn archwilio'r hyn sy'n bosibl, nod y digwyddiad yw agor drysau a chreu cyfleoedd i bobl ar bob cam o'u taith gyflogaeth.
Fforwm Dwristiaeth i gefnogi busnesau lleol yn Sir Ddinbych
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gwahodd busnesau twristiaeth lleol i fynychu ei Fforwm Twristiaeth nesaf, a gynhelir yng Ngwesty The Beaches, Prestatyn, ddydd Mercher 21 Hydref 2026 o 10am.
Bydd y digwyddiad yn dod â busnesau twristiaeth, grwpiau cymunedol a phartneriaid y sector o bob rhan o’r sir ynghyd ar gyfer bore o ddiweddariadau, trafodaeth a rhwydweithio.
Bydd y rhai sy’n mynychu yn cael cyfle i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr ar bynciau sy’n berthnasol i’r economi ymwelwyr. Bydd Sheila Gilmore, Prif Weithredwr VisitArran a The Arran Trust, yn cyflwyno ar reoli cyrchfannau ymwelwyr poblogaidd. Bydd Fiona Argyle yn cyflwyno ar ddatblygiadau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â Llwybr Clawdd Offa, a bydd Claire Roberts o Awdurdod Cyllid Cymru yn egluro’r angen am gofrestru llety ymwelwyr. Bydd y Fforwm hefyd yn cynnwys amser ar gyfer lluniaeth a rhwydweithio, gan roi cyfle i fusnesau gyfarfod â gweithredwyr lleol eraill, rhannu syniadau a thrafod cyfleoedd i gydweithio i gryfhau cynnig twristiaeth Sir Ddinbych.
Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol dros Dwristiaeth: “Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi leol Sir Ddinbych, ac mae ein Fforwm Twristiaeth yn gyfle gwerthfawr i fusnesau ddod ynghyd, clywed diweddariadau defnyddiol a sefydlu cysylltiadau newydd. Byddem yn annog busnesau lleol sydd â diddordeb yn yr economi ymwelwyr i fynychu.”