Cwrs SKITTLES yr Haf yn helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau
Cymerodd grŵp o 10 o bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol ledled Sir Ddinbych ran mewn cwrs datblygiad personol SKITTLES yr Haf, a ddarparwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych.
Roedd y cwrs yn llawn hwyl a gweithgareddau, gan roi cyfle i’r bobl ifanc ddatblygu sgiliau newydd, ennill cymwysterau a rhoi cynnig ar brofiadau newydd.

Fel rhan o’r cwrs, enillodd y 10 person ifanc gymwysterau mewn Hylendid Bwyd, Cymorth Cyntaf a chwrs Agored Phoenix. Cafodd y cwrs ei ddarparu mewn partneriaeth â Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Ngogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Ambiwlans Sant Ioan a Sir Ddinbych yn Gweithio.
Cymerodd y bobl ifanc ran mewn arhosiad preswyl ym Mryn Tysilio yn Llangollen, yn ogystal â chwblhau prosiect gardd gymunedol yng Ngorsaf VIBE yn y Rhyl. Bydd y gymuned ehangach yn gallu mwynhau a chael budd o’r lle cymunedol.
Mae’r cwrs wedi helpu pob un o’r bobl ifanc i fagu hyder, datblygu eu sgiliau a chael profiad gwerthfawr i’w helpu gyda chyfleoedd cyflogaeth neu goleg yn y dyfodol.
Gall pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn cyrsiau yn y dyfodol gysylltu â James Salisbury drwy james.salisbury@sirddinbych.gov.uk.