Mae Sialens Cyfrolau’n Canu yn taro’r nodiadau iawn yr haf hwn
Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn dathlu'r ymateb gwych i Her Ddarllen yr Haf eleni, ‘Cyfrolau’n Canu’, gyda phlant a theuluoedd ledled y sir yn profi eu bod yn sêr darllen go iawn.
Mae staff y llyfrgelloedd wedi mwynhau gweld darllenwyr ifanc yn cymryd rhan yn y sialens, yn benthyca llyfrau, yn darganfod straeon newydd ac yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau cyffrous ar thema cerddoriaeth drwy gydol yr haf.
Hyd yn hyn, mae'r cyfranogwyr wedi mwynhau sesiynau crefft creadigol, gweithdai bît-bocsio a dolennu llais gyda Mr Phormula, ymweliad gan y Welsh Whisperer yn siarad am ei lyfr am beiriannau fferm, a Diesel and Me, y sioe un dyn newydd gan yr awdur lleol Oliver Sykes.

Y Welsh Whisperer yn Llyfrgell Dinbych

Crefftau yn Llyfrgell Llanelwy

Mr Phormula efo Ffrindiau Llyfrgell Rhuddlan
Mae digon o amser o hyd i blant a theuluoedd gymryd rhan yn yr hwyl.
Dywedodd Deborah Owen, Prif Lyfrgellydd y Cyngor Sir:
"Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o blant a theuluoedd yn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf eleni. Mae ein llyfrgelloedd wedi bod yn llawn bywyd a gweithgarwch, ac mae'n braf gweld pobl ifanc yn datblygu cariad at ddarllen wrth gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau creadigol a diddorol. Byddwn yn annog unrhyw un nad ydynt wedi cofrestru eto i ymweld â'u llyfrgell leol a chymryd rhan cyn i'r her ddod i ben."
Mae Sialens Ddarllen Cyfrolau’n Canu yn rhedeg tan ddiwedd mis Medi. Gall plant sy'n cwblhau'r sialens gasglu eu medal o hyd, felly peidiwch â cholli'r cyfle i orffen eich antur ddarllen a dathlu eich cyflawniad.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i'ch llyfrgell leol.