Stori Mary

Mae Mary yn byw yng ngogledd Sir Ddinbych, ger Rhuallt, ac mae’n dioddef o fath ymosodol o glefyd Parkinson o'r enw Dirywiad Corticobasalaidd (Corticobasal Degeneration); mae hyn yn golygu bod angen iddi ddefnyddio amrywiaeth o offer yn ei chartref er mwyn byw mor gyfforddus â phosibl. Mae hi'n byw gyda'i gŵr Allan, ei phrif ofalwr, aelodau o'i theulu, a'i chi, Blaze.

Mary, Allan a Blaze y ci.

Er gwaethaf ei diagnosis, mae Mary yn llawn egni ac mae ganddi synnwyr digrifwch gwych. Mae hi wedi parhau i ymgymryd â nifer o’r diddordebau oedd ganddi cyn iddi gael y diagnosis, gan gynnwys gwneud celf a chrefft. Roedd Mary yn hyfforddwr cŵn llwyddiannus iawn yn y gorffennol, ac mae ei rhosetiau yn dal i hongian ar y wal. Cyn ymddeol, roedd Mary yn gweithio fel ffisiotherapydd yn ei hardal leol.

Mae Mary wedi bod yn byw gyda'r cyflwr hwn ers chwe blynedd, ac mae hi wedi dechrau derbyn cymorth gan Therapydd Galwedigaethol a chynrychiolwyr o'r Tîm Offer Cymunedol (CESI) yn ystod y blynyddoedd diwethaf, unwaith i'w diagnosis ddod yn gliriach ac i'w chyflwr waethygu.

Mae CESI yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB), sy'n darparu offer i bobl o bob oed i'w helpu i fyw eu bywydau i'r eithaf ac i gynnal eu hiechyd a'u hannibyniaeth. Mae hyn yn amrywio o gymhorthion syml ar gyfer bywyd bob dydd i gyfarpar mwy cymhleth sy'n helpu pobl i aros yn eu cartrefi yn hirach.

Drwy ddefnyddio'r offer hyn, nid oes angen i Alan a Mary ddibynnu ar ofalwyr ffurfiol sy'n ymweld bob dydd, gan eu galluogi i fyw mor gyfforddus â phosibl yn eu cartref.

Roedd gwely wedi'i addasu, a elwir yn 'wely annibyniaeth', yn un o'r darnau cyntaf o offer a osodwyd yn ei chartref, ac mae gan Mary hefyd declyn codi i'w helpu i fynd i mewn ac allan yn haws. Mae'r gwely hefyd yn symud yn fecanyddol, gan alluogi Mary i eistedd i fyny ac addasu'r uchder pan fo angen.

Gyda chymorth Therapydd Galwedigaethol, ac yn dilyn asesiad, cyflwynwyd cynfasau llithro arbennig sy'n helpu i symud a throsglwyddo.

Wrth siarad am y gwely Annibyniaeth, dywedodd Allan:

“Mae’r gwely wedi bod yn fendith wirioneddol o’r cychwyn cyntaf; mae’r ffaith ei fod yn gallu gostwng yr holl ffordd i lawr wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o ran symudedd a’i gwneud yn haws i ‘w ddefnyddio.”

Gyda chymorth darn o offer o'r enw Standaid, gall Mary fynd i mewn ac allan o gadeiriau. Mae'r Standaid hefyd yn helpu gyda symudiadau i mewn ac allan o'i chadair olwyn.

Gosodwyd dyfeisiau mecanyddol i godi sedd y toiled, sy'n helpu Mary i symud i mewn ac allan o'r gadair olwyn a gwneud pethau'n haws iddi.

Wrth sôn am ei phrofiad gyda'r CESI, dywedodd Mary:

“Mae'r technegwyr yn wych, ac yn glên iawn bob amser pan fyddan nhw'n dod i gynorthwyo gyda'r offer. Maen nhw'n barod iawn i helpu.

Mae'r holl wasanaethau wedi bod yn dda iawn gyda ni, ac mae cydlyniant da iawn wedi bod rhwng y gwahanol adrannau.

Mae'r offer yno i helpu i gadw Mary mor annibynnol â phosibl, gan ei helpu i wneud pethau y gall eu gwneud ar y dyddiau pan mae hi'n teimlo'n well, a lliniaru effaith y dyddiau pan mae pethau’n teimlo’n anoddach.

Aeth Mary ymlaen i ddweud:

“Rwyf yn dal i wneud celf a chrefft; rwy’n gwneud math o wehyddu i greu patrymau ar gyfer modrwyau allweddi. Rwyf wedi gwneud rhai gyda grŵp crefftau Sant Cyndeyrn. Rwyf wedi bod yn gwneud crefftau gydol fy oes, ac rwy’n falch fod gennyf fodd o barhau i wneud hynny.”

Dywedodd Becky, Therapydd Galwedigaethol sydd wedi helpu Mary:

“Rydym yn gweithio ar y cyd â storfeydd CESI fel tîm, ac ni allem wneud ein gwaith heb eu harbenigedd a'u cefnogaeth. Maen nhw wastad mor barod i helpu ac yn gymwynasgar, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn amdanyn nhw.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw