Arweinydd a Chabinet Cyngor Sir Ddinbych yn ymddiswyddo

Mae arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Jason McLellan a’i gyd aelodau ar y cabinet wedi ymddiswyddo o’u rolau ar y cabinet.

Jason McLellanEtholwyd y Cynghorydd McLellan, sy’n cynrychioli ward Gogledd Prestatyn, yn arweinydd fis Mai 2022. Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd “Mae hwn wedi bod yn benderfyniad hynod o anodd i mi gan fod arwain Cyngor Sir Ddinbych dros y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd – yn aml wrth i ni wynebu heriau sylweddol.

“Er gwaetha’r pwysau yma, rwy’n falch iawn o’n hymdrechion i sicrhau ein bod wedi gallu darparu gwasanaethau i’r mwyaf bregus yn ein cymunedau, yn enwedig i’r rheiny mewn addysg a gofal cymdeithasol. Fe fyddaf yn parhau i weithio’n galed i gynrychioli fy ward a chefnogi pobl Prestatyn.”

Bydd pob cyn aelod o’r cabinet yn parhau i wasanaethu fel cynghorydd sir ar gyfer eu wardiau priodol.

Caiff arweinydd newydd i’r cyngor ei ethol yng nghyfarfod llawn y cyngor ar ddydd Mawrth, 8 Medi. Wedi iddynt gael eu hethol, bydd yr arweinydd newydd yn gallu penodi aelodau i’r cabinet.

Er bod y trefniadau gwleidyddol yn newid, bydd swyddogion yn parhau i weithio i ddarparu gwasanaethau i drigolion Sir Ddinbych. Mae prosesau llywodraethu’r cyngor yn caniatáu i fusnes barhau fel arfer tan y caiff cabinet newydd ei ffurfio.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw