Binnie Mouse yn helpu disgyblion Ysgol Bodnant i ddysgu am bŵer ailgylchu
Cafodd disgyblion Ysgol Bodnant ymweliad arbennig yn ddiweddar gan ‘Binnie Mouse’ i’w helpu i ddeall manteision ailgylchu.
Bu Tîm Addysgu am Ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych i’r ysgol i helpu disgyblion i ddeall manteision ailgylchu a sut i ailgylchu’n gywir gartref ac yn yr ysgol.
Siaradodd y tîm â disgyblion Blwyddyn 6 am fanteision ailgylchu i aelwydydd, cymunedau lleol a’r amgylchedd ehangach.
Roedd y masgotiaid ailgylchu, Troli-bob a Cadi, yn rhan o’r ymweliad hefyd, gan helpu i ddod â’r neges yn fyw ac annog disgyblion i feddwl am y deunyddiau y gellir eu casglu a’u hailgylchu bob wythnos.
Yna, cymerodd y disgyblion ran mewn sesiynau ymarferol i ddysgu pa mor syml yw hi i wahanu eitemau i’w hailgylchu gan ddefnyddio gwasanaeth y Cyngor. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys gêm ailgylchu a gynlluniwyd i helpu disgyblion i ddeall pa ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio a pha gynwysyddion cywir y dylid eu rhoi ynddynt, er mwyn cefnogi ymdrechion bob dydd i leihau gwastraff.
Yna, cyflwynwyd y disgyblion i ‘Binnie Mouse’, un o gerbydau’r Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu a ddefnyddir i gasglu ailgylchu o gartrefi ledled y sir.
Yn ystod yr ymweliad, dangoswyd sut y caiff gwahanol ddeunyddiau eu casglu a’u gwahanu i adrannau cyn cael eu cludo i’w prosesu yn yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff yn Ninbych.
Mae system Trolibocs y Cyngor yn helpu trigolion i wahanu deunyddiau wrth ymyl y ffordd, gan gynnwys papur, caniau, plastigau cymysg, a photeli a jariau gwydr. Mae gwahanu deunyddiau i’w hailgylchu yn helpu i wella ansawdd yr hyn gaiff ei gasglu ac yn cefnogi ymdrechion i leihau gwastraff ac allyriadau carbon.
Dywedodd Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych: “Roedd disgyblion Ysgol Bodnant yn cymryd rhan yn wych gyda’n tîm i ddarganfod sut y gall eu gweithredoedd bob dydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae helpu pobl ifanc i ddeall pwysigrwydd ailgylchu yn cefnogi ein gwaith ehangach i leihau gwastraff, gwella cyfraddau ailgylchu ac amddiffyn ein hamgylchedd lleol.”
Dywedodd y Cynghorydd James Elson, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae gweithio gydag ysgolion yn hynod bwysig o ran sut rydym yn ailgylchu, gan mai’r plant hyn yw dyfodol Sir Ddinbych. Mae’n wych clywed sut mae’r disgyblion hyn yn ymgymryd â’r her i ailgylchu yn rhagweithiol, gan y bydd eu hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau lleol.”
