Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru yn lansio ledled Gogledd Cymru wrth i bartneriaid cyflawni gael eu penodi
Mae Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru bellach wedi dechrau cael ei gyflwyno’n swyddogol ledled Gogledd Cymru, gyda thrigolion Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych yn elwa o’r rhaglen ers mis Mehefin 2026. Mae’r lansiad yn garreg filltir arwyddocaol o ran cefnogi pobl sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth, gan ddarparu cymorth personol a chyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy.
Ers yr haf, mae Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru wedi cael ei gyflwyno’n lleol gan Môn CF, Gwaith Gwynedd, Hwb Cyflogaeth Conwy a Sir Ddinbych yn Gweithio. Yn dilyn prosesau comisiynu cadarn dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, rydym yn falch o groesawu RCS Cymru a ‘Employment Plus’ Byddin yr Iachawdwriaeth fel ein partneriaid cyflawni. Mae ‘Employment Plus’ Byddin yr Iachawdwriaeth wedi’i benodi i gefnogi Sir Ddinbych yn Gweithio, yn ogystal â gwaith Hwb Cyflogaeth Conwy yng Nghonwy a Sir Ddinbych, a bydd y ddau bartner yn dechrau cefnogi cyfranogwyr yn ystod y misoedd nesaf.
Mae Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru yn rhaglen cyflogaeth â chymorth wirfoddol a ariennir gan Lywodraeth y DU, sy’n dilyn y model Cyflogaeth â Chymorth sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n helpu trigolion sy’n anabl, sydd â chyflyrau iechyd neu anghenion cymhleth i ddod o hyd i waith, ymuno â’r gweithlu ac aros mewn gwaith, drwy ddarparu cymorth un-i-un pwrpasol a phersonol.
Dywedodd Gary Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen Ranbarthol Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru:
“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi dechrau cyflwyno Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru ledled Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych. Mae hyn yn gam pwysig yn ein huchelgais i ddarparu cymorth cyflogaeth o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau rhag ymuno â’r gweithlu neu aros mewn gwaith.
“Yn dilyn proses gomisiynu gadarn dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, rydym yn falch o groesawu RCS Cymru a ‘Employment Plus’ Byddin yr Iachawdwriaeth fel ein partneriaid cyflawni. Bydd eu profiad a’u hymrwymiad i gefnogi unigolion sydd bellaf o’r farchnad lafur yn allweddol wrth helpu pobl ledled Gogledd Cymru i wireddu eu dyheadau cyflogaeth a gwella eu llesiant hirdymor.”
Wrth i’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen barhau i ehangu ledled y rhanbarth, bydd partneriaid cyflawni Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru yn cryfhau ac yn datblygu perthnasoedd presennol, yn ogystal â meithrin perthnasoedd newydd, gyda phartneriaid atgyfeirio ym maes iechyd, sefydliadau cymunedol a chyflogwyr. Bydd hyn yn sicrhau bod unigolion cymwys yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt i symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy.
Mae dechrau cyflwyno Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru yn atgyfnerthu ymrwymiad y rhanbarth i leihau anghydraddoldebau drwy rymuso mwy o bobl i gymryd rhan yn y gweithlu a chyfrannu at eu heconomïau lleol.
Dywedodd Heidi McDougall, Pennaeth Gwasanaeth Tai a Chymunedau:
“Fel y Corff Atebol ar gyfer Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru, mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen bwysig hon. Mae Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn helpu trigolion i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth a chael mynediad at gyfleoedd gwaith ystyrlon a chynaliadwy.
“Mae’r rhaglen hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin ledled y rhanbarth i greu marchnad lafur fwy cynhwysol lle mae pawb yn cael cyfle i wireddu eu potensial. Rydym yn falch o weld bod y gwaith eisoes wedi dechrau yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych, ac rydym yn croesawu penodiad RCS Cymru a Byddin yr Iachawdwriaeth fel partneriaid cyflawni. Bydd eu harbenigedd yn cryfhau ein gallu i gefnogi trigolion a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i unigolion, cymunedau a chyflogwyr ledled Gogledd Cymru.”
Os ydych yn byw yng Ngogledd Cymru ac eisiau rhagor o wybodaeth am Gysylltu â Gwaith Gogledd Cymru neu angen cymorth i ddod o hyd i waith neu aros mewn gwaith, cysylltwch â phartneriaid cyflawni eich awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth, chwiliwch am ‘Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru’ neu cliciwch ar y ddolen hon >>> Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru.