Gwaith adnewyddu llawn ar floc Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi’i orffen
Mae gwaith adnewyddu bloc cyfan yn ysgol fwyaf Sir Ddinbych bellach wedi'i gwblhau, gan weld buddsoddiad o dros £600,000 yn ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau'r ysgol.
Prif fynedfa Ysgol Uwchradd Prestatyn
Dechreuodd y gwaith ar Floc 2 yn Ysgol Uwchradd Prestatyn yn yr haf, a chafodd y bloc cyfan ei ail-fodelu’n llwyr, gan gynnwys tynnu popeth mewnol oddi yno a’i ail-lunio’n gyfan gwbl.
Fel rhan o’r prosiect, cwblhawyd gwaith ailweirio, ail-sgimio ac ailosod tri dosbarth TG, dau ddosbarth economeg y cartref, dwy swyddfa, ystafell staff, a phum dosbarth arall. Gwnaed y gwaith gan Bryn Build Ltd.
Mae cyfanswm o 12 ystafell yn y bloc wedi’u moderneiddio.
Dosbarth TG
Yn ystod y gwaith adnewyddu, cafodd yr offer a’r dechnoleg yn yr ystafelloedd eu moderneiddio a’u huwchraddio yn ôl yr angen.

Dosbarth economeg y cartref
Wedi'u cynnwys yn y gwelliannau i'r un o'r ystafelloedd dosbarth economeg y cartref mae adran sy'n cynnwys sinc a hob hygyrch sy’n codi a gostwng, a adeiladwyd yn unol â'r fanyleb yn ystod y gwaith adnewyddu hwn.
Sinc a hob hygyrch sy’n codi a gostwng
Mae system gamera newydd wedi'i gosod yn y bloc economeg y cartref sy'n taflunio gweithredoedd gorsaf goginio yr athro ar sgrin fawr. Golyga hyn nad oes angen i ddisgyblion wasgu at ei gilydd o amgylch un orsaf goginio i ddeall cyfarwyddiadau coginio, gan arwain at brofiad dysgu mwy diogel a hygyrch.
System gamera newydd
Ail-agorodd y bloc yn swyddogol i staff a disgyblion ar ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd.
Dyluniwyd y gwaith adnewyddu ar y cyd ag athrawon yn yr ysgol, i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â gweithrediadau o ddydd i ddydd y dosbarthiadau.
Yn ogystal â’r gwaith adnewyddu’r bloc, mae’r dosbarth drama, sydd uwch ben neuadd yr ysgol, hefyd wedi cael ei ailfodelu, gyda bloc lifft newydd sbon, wedi ei adeiladu a’i ychwanegu i sicrhau mynediad hygyrch i’r dosbarth a adnewyddwyd.

Dosbarth drama
Mae cynllun newydd Bloc 2 hefyd wedi ei ddylunio o amgylch dau lifft a osodwyd yn flaenorol, gan eu hintegreiddio yn well i’r adeilad a llif y dosbarthiadau.

Dosbarth wedi'i ddiweddaru
Caiff y prosiectau eu hariannu drwy Raglen Cynnal a Chadw Cyfalaf Ysgolion a Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Grant Atgyweirio a Chynnal a Chadw, gyda dros £600,000 yn cael ei fuddsoddi yn yr ysgol drwy'r prosiectau hyn.
Cafodd y prosiectau eu harwain a’u rheoli gan Dîm Cynnal a Chadw Adeiladau y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
"Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn un o ysgolion mwyaf Sir Ddinbych, lle mae dros 1,600 o ddisgyblion yn dysgu ac yn datblygu ar y safle bob dydd.
Mae sicrhau bod disgyblion ac athrawon fel ei gilydd yn gallu dysgu ac addysgu yn y cyfleusterau gorau posibl yn hanfodol er mwyn cynnal addysg o ansawdd uchel yn Sir Ddinbych.
Mae dros £600,000 wedi'i fuddsoddi ar gyfer adnewyddu Bloc 2, sydd bellach yn cynnwys ystafelloedd dosbarth mwy modern a chyfleusterau o ansawdd uchel, a fydd yn cefnogi addysgu a dysgu am flynyddoedd i ddod.
Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r ysgol i ddarparu cyfleusterau sy'n diwallu anghenion disgyblion a staff, ac yn helpu i greu'r amgylchedd gorau posibl ar gyfer dysgu drwy'r gwelliannau newydd hyn."
Dywedodd Claire Turner, Pennaeth Ysgol Uwchradd Prestatyn:
"Rydym yn falch iawn o weld prosiect adnewyddu Bloc 2 wedi’i gwblhau. Mae’r ardal newydd eisoes yn cael ei defnyddio a’i mwynhau gan ein disgyblion a’n staff ac mae bellach yn amgylchedd dysgu modern, croesawus a hygyrch.
Hoffem hefyd ddiolch i’r Cyngor am gefnogi’r prosiect hwn ar gyfer ein cymuned ysgol wrth i ni barhau i wella’r cyfleusterau yn yr ysgol.”