Parc Bodelwyddan yn cael ei gydnabod yn Gwobrau Ewropeaidd
Mae’r wobr yn dathlu’r arwyddion canfod ffordd a dehongli a osodwyd yn Parc Bodelwyddan.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael ei gydnabod gan Wobrau Canfod Ffordd Ewrop am ei waith gyda’r dylunwyr f.r.a., gan ennill y wobr am ‘Canfod Ffordd Gorau ar gyfer Parth Cyhoeddus Trefol’.
Mae’r wobr yn dathlu’r arwyddion canfod ffordd a dehongli a osodwyd fel rhan o brosiect ehangach i adfywio Parc Bodelwyddan.
Gan ddechrau yn 2022, derbyniodd y prosiect £900,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ac roedd yn ceisio mynd i’r afael â chyflwr tir y parc cyn ei ailagor i’r cyhoedd yn 2025.
Gan weithio’n agos gyda’r dylunwyr, datblygwyd system canfod ffordd i wneud y parc yn groesawgar ac yn hygyrch i ymwelwyr o bob oed a gallu. Mae’r system yn ymateb i wahanol ddiddordebau, anghenion gwybyddol, dewisiadau iaith yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynion symudedd, gan helpu pobl i lywio’r dirwedd wrth ddarganfod ei threftadaeth hanesyddol ac ecolegol gyfoethog.

Mae hierarchaeth arwyddion sydd wedi’i hystyried yn ofalus yn arwain ymwelwyr drwy’r parc, gyda gwybodaeth ddehongli wedi’i hintegreiddio drwy gydol y daith. Mae graffeg lachar a lliwgar yn cael ei pharu â derw o ffynonellau lleol, gan greu hunaniaeth nodedig sy’n cyfuno dylunio cyfoes â chrefftwaith traddodiadol.
Mae’r arwyddion dehongli hefyd yn cynnwys ffotograffiaeth ysbrydoledig, graffeg addysgiadol ac elfennau synhwyraidd 3D arloesol, gan annog archwilio cyffyrddol a chreu profiad mwy cynhwysol, amlsynhwyraidd.
Yn ogystal â’r system canfod ffordd, cyflwynodd Cyngor Sir Ddinbych ddau gilometr o lwybrau newydd ag wyneb calchfaen sy’n addas i bobl anabl er mwyn gwella hygyrchedd ar y safle, adferodd ffosydd ymarfer o’r Rhyfel Byd Cyntaf a phlannodd ddolydd blodau gwyllt i wella bioamrywiaeth.
Dywedodd Jamie Trippier Cyfarwyddwr Prosiectau a Rheoli f.r.a.:
“Rydym yn hynod falch bod ein gwaith ym Mharc Bodelwyddan wedi cael ei gydnabod gan Wobrau Canfod Ffordd Ewrop cylchgrawn Transform. Roedd hwn yn brosiect gwirioneddol gydweithredol, ac roedd gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych wedi rhoi cyfle i ni ddefnyddio dylunio i agor y dirwedd ryfeddol hon a’i threftadaeth i gynulleidfa hyd yn oed yn ehangach. Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth wych o’r uchelgais a’r gofal a roddwyd i’r prosiect.”
Dywedodd Garry Davies, Swyddog Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych a fu’n goruchwylio’r prosiect:
“Rydym wrth ein bodd i dderbyn y wobr hon mewn partneriaeth â f.r.a.creative, a gyflwynodd ddehongli a chanllawiau canfod ffordd flaengar ac arloesol er mwyn darparu man gwyrdd agored cwbl hygyrch. Y weledigaeth oedd annog pobl o bob oed i ymweld, treulio amser yn yr awyr agored a mwynhau popeth sydd gan y parc i’w gynnig. Gall ymwelwyr gyrraedd Parc Bodelwyddan drwy amrywiaeth o drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat a phrofi’r amgylchedd naturiol, y dreftadaeth a’r asedau rhagorol, gyda golygfeydd pellgyrhaeddol o’r dirwedd drawiadol ac amrywiol sydd gan Sir Ddinbych i’w chynnig.”
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymfalchïo mewn gweithio’n gydweithredol gyda phartneriaid i gyflawni gwelliannau i’n trigolion, ac mae’n fraint cael ein cydnabod am y wobr hon ochr yn ochr â f.r.a. ar y prosiect hwn.
“Hoffwn hefyd gydnabod gwaith caled ein tîm cefn gwlad, sydd wedi gweithio’n ddiflino ar y prosiect hwn. Ers ailagor i’r cyhoedd, mae’r parc wedi dod yn ased gwych i’r gymuned leol ac wedi croesawu cymaint o ymwelwyr sydd wedi gallu profi’r amgylchedd naturiol sydd gan ein sir i’w gynnig.”
