NEWYDDION
Gwahodd trigolion i fforwm cymunedol Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Gwahoddir trigolion i leisio eu barn yn Fforwm Cymunedol nesaf Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ym Mrymbo.

Gwahoddir trigolion i leisio eu barn yn Fforwm Cymunedol nesaf Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ym Mrymbo.
Bydd y fforwm cymunedol, a gynhelir ar 1 Hydref, yn gyfle i glywed am y gwaith sy’n cael ei wneud ledled Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Bydd y rhai sy’n mynychu’r fforwm yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion tîm y Dirwedd Genedlaethol i gefnogi adferiad poblogaethau’r gylfinir, ac yn dysgu rhagor am y gwaith sy’n cael ei wneud i helpu i atal tanau rhostir ac i ddiogelu’r dirwedd, bywyd gwyllt a chynefinoedd pwysig.
Yn ogystal â chlywed am brosiectau cyfredol, mae’r fforwm wedi’i gynllunio i fod yn sgwrs ddwyffordd. Gall trigolion, Cynghorau Tref a Chymuned, yn ogystal â grwpiau lleol, rannu eu prosiectau a’u syniadau eu hunain, trafod materion lleol a chael rhagor o wybodaeth am gymorth ymarferol, offer cynllunio cymunedol a chyfleoedd ariannu posibl sydd ar gael iddynt.
Dywedodd y Cynghorydd Will Price, Aelod Arweiniol dros Gynllunio, y Cefn Gwlad a Chymunedau Mwy Diogel:
“Mae fforymau fel hyn yn cynnig cyfle gwych i’r gymuned leol ddeall y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud ledled Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
“Maent hefyd yn darparu lle diogel i’r gymuned gwrdd â’r tîm a thrafod eu syniadau, gofyn cwestiynau a chodi unrhyw faterion sydd ganddynt. Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y Dirwedd Genedlaethol i ddod i’r fforwm cymunedol nesaf ym Mrymbo.”
Cynhelir y fforwm ddydd Iau 1 Hydref rhwng 7pm ac 8:30pm yn Ystafell Charles Darby, Stori Brymbo, New High Street, Brymbo, Wrecsam, LL15 5AX.
I archebu eich lle, cliciwch yma. Fel arall, gallwch anfon e-bost at loggerheads.countrypark@denbighshire.gov.uk neu ffonio 01824 712757.
Cyngor yn lansio cefnogaeth deithio wyrddach i staff
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio cynllun gwyrddach i helpu i leihau costau teithio busnes ar gyfer staff

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio cynllun gwyrddach i helpu i leihau costau teithio busnes ar gyfer staff.
Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor yn treialu system ceir y cyngor newydd i helpu i leihau allyriadau carbon yn ogystal â chostau teithio busnes ar draws y sir.
Bu i Gyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol yn 2019 ac ers hynny mae wedi symud i ddefnyddio cerbydau di-allyriadau yn ei fflyd. Mae dros 20% o’r cerbydau yn ei fflyd yn gerbydau di-allyriadau.
Wrth i gerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil gyrraedd diwedd eu hoes, mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor wedi bod yn cyflwyno cerbydau trydan lle y bo’n berthnasol, gyda chefnogaeth sylweddol gan adrannau Llywodraethau Cymru a’r DU. Mae hyn yn helpu i leihau allyriadau, yn lleihau costau hirdymor sy'n gysylltiedig â milltiroedd a gwaith cynnal a chadw ar draws yr holl wasanaethau, ac yn lleihau'r ddibyniaeth ar beiriannau petrol a disel.
Mae staff hefyd yn cymryd rhan mewn pecyn hyfforddi gan yr Adran Fflyd, sy’n cynnwys sut i ddefnyddio isadeiledd gwefru cerbydau trydan yn ddiogel ac yn effeithlon, gwneud defnydd o systemau brecio atgynhyrchiol, a phryd i ddewis ‘dull gyrru’ yn seiliedig ar yr amodau neu lwythi.
Bellach, gall staff sydd wedi cael yr hyfforddiant gymryd rhan mewn system archebu ceir trydan y cyngor sy'n weithredol ar draws y sir, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus ar raddfa lai a gynhaliwyd gan yr Adran Fflyd.

Gyda chefnogaeth faniau Toyota Proace EV a Citroen Ec3, gall staff bellach archebu un o'r cerbydau hyn ar-lein a'i gasglu o leoliadau yn Ninbych, Llanelwy, Prestatyn a Llangollen ar gyfer teithiau gwaith.
Mae defnyddio'r system hon – sy'n cael ei chefnogi gan ddarllenwyr RFID ar ddangosfyrddau'r cerbydau – yn helpu i leihau'r ddibyniaeth ar gerbydau traddodiadol sy'n rhedeg ar danwydd ffosil ar gyfer teithiau gwaith.
Eglurodd Martin Griffiths, Swyddog Arweiniol Symudedd y Fflyd, Cyngor Sir Ddinbych: “Fel rhan o strategaeth Newid Hinsawdd ac Adfer Natur y Cyngor, rydym wedi ymrwymo i barhau i leihau allyriadau carbon ar draws yr awdurdod lleol, sy’n cynnwys ein Fflyd.
“Rydym yn ymwybodol fel cyngor bod rhai aelodau o’r staff yn defnyddio eu cerbydau eu hunain ar gyfer milltiroedd gwaith, ac mae’n debygol mai cerbydau sy’n cael eu pweru gan danwydd ffosil yw’r rhain. Mae'r cynllun newydd hwn wir yn cynnig y gorau o'r ddau fyd; cyn belled â'u bod yn cwblhau'r hyfforddiant ar gerbydau trydan, gall staff archebu un o'r cerbydau hyn i osgoi traul ar eu ceir eu hunain ac i arbed costau teithio. Fel cyngor, rydym hefyd yn helpu i sicrhau bod y ffyrdd yn wyrddach ac felly yn cyfrannu at y nod o leihau ôl-troed carbon y sir.
Ychwanegodd Martin: “Rydym hefyd yn parhau i rannu ein harferion da a’n profiadau gyda Chynghorau a Chyrff Sector Cyhoeddus eraill Cymru er mwyn eu helpu hwythau i drosglwyddo i ddefnyddio cerbydau heb allyriadau. Mae cynnal hyfforddiant mewnol ar gerbydau trydan a gweithredu'r system ceir Cyngor newydd hon yn ein galluogi i ddysgu o brofiadau ein staff wrth ddefnyddio'r cerbydau trydan; mae hyn yn fantais fawr i’n helpu i drefnu ein fflyd er mwyn mynd i'r afael ag allyriadau carbon yn y dyfodol.
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: Mae cyflwyno system ceir y Cyngor yn gam pwysig wrth sicrhau bod y Cyngor yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'i adnoddau. Drwy roi mynediad i staff at gerbydau ar gyfer teithio busnes, gallwn leihau'r ddibyniaeth ar gerbydau preifat, helpu i reoli costau teithio busnes a sicrhau bod trethdalwyr yn cael gwell gwerth am arian. Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi ymrwymiad ehangach y Cyngor i leihau effaith amgylcheddol ei weithrediadau.”
Gwahodd preswylwyr i ddweud eu dweud am ddyheadau ailgylchu y Sir
Mae preswylwyr yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud am ddatblygu cynllun pum mlynedd newydd ar gyfer ailgylchu a gwastraff yn Sir Ddinbych.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn llunio dogfen a fydd yn nodi sut maen bwriadu rheoli ailgylchu a gwastraff yn y Sir dros y pum mlynedd nesaf.
Mae newidiadau sydd i ddod i ganllawiau cenedlaethol ar gyfer ailgylchu yn golygu ei bod hi’n hanfodol fod y Cyngor yn blaengynllunio ac yn sicrhau bod y gwasanaethau ailgylchu sy’n cael eu cynnig yn ddibynadwy, yn addas at y dyfodol ac yn cynnig gwerth da am arian i drethdalwyr.
Mae’r Cyngor wedi gosod set o brif flaenoriaethau o amgylch y meysydd canlynol:
- Atal a lleihau gwastraff: mae’r Cyngor angen sicrhau ei fod yn helpu preswylwyr i wneud dewisiadau sydd yn atal gwastraff rhag cael ei greu yn y lle cyntaf
- Ailddefnyddio a thrwsio: mae’r Cyngor angen ystyried ffyrdd y gall helpu preswylwyr i wneud y defnydd gorau o eitemau maen nhw eisoes yn berchen arnynt
- Ailgylchu: mae’r Cyngor angen cyrraedd targed ailgylchu o 70% cyn gynted â phosibl
Er mwyn helpu i lywio’r cynllun, mae’r Cyngor wedi lansio ymgynghoriad sydd yn canolbwyntio ar ddau beth:
- Gofyn i breswylwyr edrych ar fersiwn ddrafft o gynllun gweithredu ar gyfer pob un o’r meysydd blaenoriaeth a nodi a ydynt yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynigion
- Bydd y Cyngor yn gofyn cwestiynau i breswylwyr am eu harferion ailgylchu personol i geisio deall beth sy’n ysgogi pobl i ailgylchu, a beth allai atal pobl rhag ailgylchu
Mae’r ymgynghoriad ar agor i holl breswylwyr Sir Ddinbych tan ddydd Sul 18 Hydref 2026.
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Ailgylchu a Gwastraff yw un o’r gwasanaethau mwyaf gweladwy y mae’r Cyngor yn ei ddarparu ac mae’n effeithio ar bob aelwyd yn y Sir. Rydym wedi gwneud newidiadau mawr i’n casgliadau ailgylchu a gwastraff dros y blynyddoedd diwethaf i fod o flaen y ddeddfwriaeth, ac rydym ni’n parhau i wneud mwy. Rydym ni newydd lansio cyfnod prawf o gasgliadau plastig meddal o tua 4,500 o gartrefi yn Sir Ddinbych. Unwaith y bydd y cyfnod prawf yma’n dod i ben, byddwn yn ystyried yr opsiynau o ran casgliadau yn y dyfodol, cyn ei gyflwyno ar hyd a lled y Sir.
“Mae’r gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y mae’r Cyngor yn ei ddarparu angen bod yn flaengar ac yn barod ar gyfer newidiadau yn y dyfodol. Mae gofyn i breswylwyr ein helpu i siapio ein cynllun pum mlynedd yn hollbwysig a buaswn yn annog pawb sydd â diddordeb i sicrhau eu bod nhw’n cymryd rhan.”
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gall preswylwyr fynd i www.sirddinbych.gov.uk/ymgynghoriadau neu gallant ymweld ag unrhyw Lyfrgell Cyngor Sir Ddinbych a Siop Un Alwad i ofyn am fersiwn papur o’r pecyn ymgynghori.
Gwaith ailwynebu hanfodol i gael ei gynnal ar Ffordd Tynewydd, Y Rhyl
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal gwaith ailwynebu hanfodol ar Ffordd Tynewydd, Y Rhyl, o ddydd Llun 5 Hydref 2026.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal gwaith ailwynebu hanfodol ar Ffordd Tynewydd, Y Rhyl, o ddydd Llun 5 Hydref 2026.
Disgwylir i'r gwaith gymryd tua phythefnos i'w gwblhau a bydd yn cael ei gynnal rhwng cyffordd Ffordd y Glannau a chyffordd Ffordd Bridgegate.
Er mwyn helpu i sicrhau y gellir cyflawni'r gwaith yn ddiogel a chyda chyn lleied o aflonyddwch â phosibl yn ystod y dydd, bydd y ffordd ar gau i draffig rhwng 6pm ac 1am drwy gydol cyfnod y gwaith.
Bydd mynediad yn cael ei gynnal, ond dylai preswylwyr a defnyddwyr y ffordd ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau gan y gallent brofi rhywfaint o oedi ac aflonyddwch. Bydd llwybr dargyfeirio wedi'i arwyddo yn ystod y gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:
“Rydym yn gwybod y gall gwaith ffordd achosi anghyfleustra i drigolion lleol ac i'r rhai sy'n teithio drwy'r ardal, ond mae'r gwaith hwn yn bwysig er mwyn helpu i wella cyflwr y ffordd.
“Hoffem ddiolch i drigolion, busnesau a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd a'u cydweithrediad tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei gyflawni. Gwneir pob ymdrech i gwblhau'r gwaith mor gyflym ac effeithlon â phosibl a lleihau aflonyddwch.”
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir ac yn diolch i'r gymuned leol am eu dealltwriaeth.
Ymateb Cyngor Sir Ddinbych i'r dyfarniadau yn yr achos camfanteisio rhywiol ar blant
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn meddwl am, ac yn cydymdeimlo gyda’r merched ifanc sydd wrth wraidd yr achos ymal, a dymunwn gydnabod y dewrder a’r gwroldeb a ddangoswyd ganddynt wrth siarad allan i sicrhau cyfiawnder mewn amgylchiadau hynod o anodd.
Bellach, gan fod y rhai sy'n gyfrifol am y cam-drin a ddioddefwyd gan y bobl ifanc wedi cael eu dwyn o flaen eu gwell, bydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru (NWSB) yn bwrw ymlaen â'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR), a gynhelir yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Nid yw'r SUSR yn rhan o'r broses droseddol; ei nod yw archwilio sut y bu i asiantaethau ymwneud â'r bobl ifanc a nodi pa wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol. Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithredu'n llawn ac yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd, Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid eraill fel rhan o'r broses hon.
Mae dedfrydiadau heddiw yn dod â phennod hynod anodd ac emosiynol i ben i'n cymuned. Rydym yn deall bod yr achos hwn wedi bod yn heriol ac wedi codi teimladau cryf. Gofynnwn i bawb barchu'r broses gyfreithiol a'i gilydd wrth i ni ymdopi â'r canlyniad hwn.
Cerdded, sgwrsio a gwella llesiant, un cam ar y tro gyda Sir Ddinbych yn Gweithio
Mae pobl ifanc yn Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ymuno â theithiau cerdded llesiant wythnosol Sir Ddinbych yn Gweithio, sydd wedi bod yn helpu cyfranogwyr i gysylltu ag eraill, mynd allan i’r awyr agored a gwella eu llesiant ers dros flwyddyn.
Yn cael eu cyflwyno gan dîm Barod yn Sir Ddinbych yn Gweithio mewn partneriaeth â Ramblers Cymru, mae’r teithiau cerdded yn cynnig amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed fwynhau manteision natur, magu hyder a chwrdd â phobl newydd wrth archwilio rhai o lwybrau cerdded harddaf Gogledd Cymru.
Mae’r sesiynau’n cael eu cefnogi’n llawn gan staff Barod a Ramblers Cymru, gyda’r llwybrau’n cael eu dewis gan y grŵp. Mae cyfranogwyr wedi archwilio amrywiaeth o lwybrau lleol a rhanbarthol tra’n datblygu sgiliau awyr agored ymarferol megis llywio a chynllunio llwybrau.
Mae’r teithiau cerdded yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth leihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, gan ddarparu amgylchedd croesawgar lle gall pobl ifanc gymdeithasu, rhannu profiadau a mwynhau amser yn yr awyr agored gyda’i gilydd.

Yn agored i drigolion Sir Ddinbych rhwng 18 a 25 oed, mae’r teithiau cerdded yn croesawu pobl o bob lefel ffitrwydd a gallu. Nid oes pwysau i drafod cyflogaeth na chynlluniau ar gyfer y dyfodol, ond gall yr amgylchedd cefnogol helpu cyfranogwyr i feithrin hyder, datblygu sgiliau newydd a theimlo’n fwy parod i gymryd eu camau nesaf pan fyddant yn barod.
Dywedodd Paul Dunham, sy’n mynychu’r sesiynau Cerdded a Sgwrsio yn rheolaidd:
“Mae mynd allan i’r awyr agored a chwrdd â phobl newydd wedi helpu i feithrin fy hyder yn fawr. Doeddwn i erioed wedi bod i Moel Famau o’r blaen, felly roedd ymweld â rhywle newydd a gosod yr her i ni ein hunain o gyrraedd y copa yn gyffrous iawn. Rhoddodd hynny deimlad gwirioneddol o gyflawniad ac ysbryd tîm i mi.
"Roeddwn i’n mwynhau siarad â phobl wahanol ar hyd y daith, a helpodd hynny fi i deimlo’n rhan o’r grŵp. Mae’r profiad wedi fy ysbrydoli i wneud mwy o gerdded a pharhau i feithrin fy hyder a’m gwytnwch.
"Rwy’n hapus i barhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda Barod a Sir Ddinbych yn Gweithio oherwydd eu bod yn dod â phobl ynghyd sydd i gyd ar eu taith eu hunain ac yn helpu i greu gwir ymdeimlad o berthyn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd, Llywodraethu Corfforaethol a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd
“Gall mynd allan i’r awyr agored a bod yn egnïol gael effaith gadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol, ac mae’n galonogol gweld y bartneriaeth hon yn parhau i gefnogi pobl ifanc ledled Sir Ddinbych mewn ffordd mor ymarferol a chynhwysol. Byddwn yn annog unrhyw un a allai elwa o gymryd rhan i ddod draw a rhoi cynnig arni.”
Dywedodd Olivia Evans o Ramblers Cymru:
“Mae ein partneriaeth â rhaglen Barod Sir Ddinbych yn Gweithio wedi bod yn gyfle gwych i bobl Sir Ddinbych. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cyflawni llawer iawn, o’n teithiau cerdded wythnosol sydd wedi helpu pobl i gysylltu â’i gilydd, i ddiwrnodau yn y bryniau, cyrsiau llywio a llawer mwy.
“Wrth i ni barhau, byddwn yn datblygu cyfleoedd megis cynllun mentora i helpu cyfranogwyr i ennill y sgiliau a’r hyder i ddechrau arwain teithiau cerdded eu hunain gyda’n cefnogaeth ni. Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda’n gilydd a thynnu’r dillad glaw allan eto wrth i ni fynd i mewn i’r tymor sydd o’n blaenau!”
Mae’r teithiau cerdded llesiant yn cael eu cynnal bob dydd Iau am 3pm, gan gyfarfod yn Llyfrgell Y Rhyl, gyda chymorth trafnidiaeth ac offer ar gael lle bo angen. Wrth i’r dyddiau fynd yn fyrrach dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf, efallai y bydd yr amseroedd cychwyn yn cael eu haddasu ychydig. Anogir cyfranogwyr i ddilyn sianeli cyfryngau cymdeithasol Sir Ddinbych yn Gweithio am y wybodaeth ddiweddaraf a manylion y teithiau cerdded.
Nid oes angen archebu lle, ac anogir cyfranogwyr i wisgo dillad addas ar gyfer y tywydd. Mae croeso hefyd i ffrindiau ymuno.
Am ragor o wybodaeth, gall trigolion ffonio 01745 331438 neu ymweld â gwefan Sir Ddinbych yn Gweithio.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU a nifer o raglenni, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer Cymru-DU sy’n targedu anweithgarwch economaidd, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF), a Cysylltu â Gwaith.

Cyngor yn erfyn ar drigolion i helpu i gadw ardaloedd cymunedol yn lân
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog trigolion ac ymwelwyr i waredu eu gwastraff yn gyfrifol, fel rhan o waith parhaus i fynd i'r afael â sbwriel ar draws cymunedau.
Mae taflu sbwriel yn drosedd amgylcheddol, a gellir rhoi Rhybudd Cosb Benodedig i unrhyw un a ddelir yn taflu sbwriel os ceir digon o dystiolaeth.
Mae Tîm Troseddau Amgylcheddol y Cyngor eisoes wedi cyhoeddi nifer o Rybuddion Cosb Benodedig ar draws y sir, i gefnogi ymdrechion ehangach i atal troseddau amgylcheddol a gwella glendid ac ymddangosiad cymunedau Sir Ddinbych.
Gall taflu sbwriel gael effaith sylweddol ar gymunedau lleol, yr amgylchedd a bywyd gwyllt. Gall ddifetha golwg strydoedd a mannau cyhoeddus, arwain at gostau glanhau ychwanegol ac annog mwy o sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gall sbwriel sy'n cael ei daflu'n ddi-hid hefyd beri risg ddifrifol i fywyd gwyllt, wrth i anifeiliaid gael eu hanafu neu lyncu eitemau sydd wedi'u gadael ar ôl.
Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych, "Rydym yn erfyn ar bobl i chwarae eu rhan wrth gadw Sir Ddinbych yn lân ac yn groesawus. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud y peth iawn, ac rydym yn ddiolchgar i drigolion ac ymwelwyr sy'n mynd â'u sbwriel adref neu'n defnyddio'r biniau a ddarperir."
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: Rydym yn gweithio'n galed i leihau troseddau amgylcheddol ar draws Sir Ddinbych ac yn parhau i gymryd camau yn erbyn y rhai sy'n dewis gadael sbwriel yn ein cymunedau, gan fod hynny'n cael effaith wirioneddol ar ein strydoedd, ein mannau agored, ein bywyd gwyllt a'n cymunedau lleol. Pan fydd pobl yn dewis taflu sbwriel a bod tystiolaeth o hynny, gellir cymryd camau gorfodi, gan gynnwys rhoi Rhybuddion Cosb Benodedig."
Mae dull gweithredu'r Cyngor yn canolbwyntio ar addysgu, atal a newid ymddygiad, ochr yn ochr â chymryd camau gorfodi priodol lle bo angen. Mae swyddogion yn gweithio gyda thrigolion, busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol i annog pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu gwastraff a helpu i gadw Sir Ddinbych yn lân.
Anogir aelodau o'r cyhoedd hefyd i roi gwybod am faterion amgylcheddol a darparu gwybodaeth a allai gynorthwyo gydag ymchwiliadau.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i fonitro ardaloedd ar draws y sir ac yn cymryd camau gorfodi priodol lle nodir troseddau amgylcheddol a lle mae tystiolaeth yn profi hynny.
'Coeden de’ hanesyddol yn cael bywyd newydd drwy brosiect tyfu Sir Ddinbych
Mae coeden brin a oedd yn enwog am ddarparu diod yn lle te yn ystod yr ail ryfel byd yn cael bywyd newydd.
Mae staff ym Mhlanhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych yng Ngwarchodfa Natur Green Gates wedi ymgymryd â phrosiect i gynyddu nifer y coed pisgwydd gyda dail bach yn y sir.
Mae planhigfa goed y Cyngor wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Mae staff y blanhigfa a gwirfoddolwyr yn gweithio i gynyddu niferoedd rhywogaethau o goed, yn cynnwys poplys du, cerddin gwyllt a deri trwy gasglu hadau o’r ardal leol i’w tyfu.
Roedd coed pisgwydd gyda dail bach yn arfer bod yn amlwg mewn coetir ond oherwydd colli cynefin a newidiadau, maent wedi dod yn fwy prin dros amser. Mae canfod un o’r coed hyn yn aml yn arwydd o ardal goetir hynafol.
Yn dilyn cynaeafu hadau yn lleol, mae staff y blanhigfa wedi sicrhau 110 gram o hadau rhywogaeth a fydd yn cynnig cyfle i dyfu bron i 800 o goed ar y safle.
Dangosodd y coed pisgwydd gyda dail bach eu gwir werth yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd y cyfyngiadau ar de du. Defnyddiwyd y blodau sych a’r dail i greu diod a oedd yn debyg i de.
Roedd y blodau ar y coed hefyd yn cael eu gwerthfawrogi oherwydd eu diben meddyginiaethol ac roeddent yn arfer cael eu defnyddio ar gyfer trin cur pen a diffyg cwsg.
Mae’r goeden hefyd yn ffynhonnell wych o ran bioamrywiaeth, mae’r dail yn cael eu bwyta gan sawl math o lindys, maent yn denu llyslau, gan ddarparu ffynhonnell fwyd ar gyfer eu hysglyfaethwyr, yn cynnwys gwybed hofran, buchod coch cwta a nifer o rywogaethau o adar. Mae blodau’r goeden hefyd yn darparu neithdar a phaill ar gyfer pryfed, yn enwedig gwenyn, sydd hefyd yn yfed melwlith llyslau o’r dail.
Roedd y blodau ar y coed hefyd yn cael eu gwerthfawrogi oherwydd eu diben meddyginiaethol ac yn cael eu hystyried yn driniaeth effeithiol ar gyfer diffyg cwsg, cur pen, ac anhwylderau ‘nerfus’ eraill.
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae staff y blanhigfa a gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen at dyfu’r coed pisgwydd gyda dail bach o’r hadau a gasglwyd yn lleol a rhoi’r cyfle gorau posibl iddynt ffynnu. Trwy ofalu amdanynt yn y blanhigfa cyn eu plannu, bydd y tîm yn helpu i wella eu cyfraddau goroesi wrth gefnogi rhywogaeth frodorol sy’n cynnig gwerth gwirioneddol o ran bioamrywiaeth, o wenyn a pheillwyr eraill i wyfynod, adar a llawer o rywogaethau eraill.
Planhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych
Trigolion yn helpu i sbarduno ailgylchu plastigion meddal yn Sir Ddinbych
Mae trigolion sy'n cymryd rhan mewn treial ailgylchu yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn Sir Ddinbych.
Yn dilyn wythnos gyntaf treial casglu plastigion meddal y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu, mae staff yng Ngorsaf Wastraff a Throsglwyddo Dinbych yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y deunyddiau hyn sy'n cael eu casglu. Bu staff y Gwasanaeth yn casglu ac yn didoli 2,700 o fagiau o blastigion meddal yn Ninbych.
Mae’r treial o gasglu plastigion meddal yn para 12 wythnos a’r bwriad yw canfod y ffordd orau o gasglu ac ailgylchu bagiau plastig a deunydd lapio. Mae hyn yn rhan o'r paratoadau ar gyfer newidiadau Llywodraeth Cymru i'r gofynion ailgylchu, a fydd yn effeithio pob awdurdod lleol yng Nghymru.
Gwahoddwyd tua 4,500 o gartrefi i gymryd rhan yn y treial, gan gynnwys cymysgedd o fathau o dai ac ardaloedd er mwyn galluogi'r gwasanaeth i gael dealltwriaeth dda a theg o sut y bydd gwahanol aelwydydd yn defnyddio'r gwasanaeth.
Mae'r ardaloedd yn cynnwys cartrefi yn Ninbych, Prestatyn, y Rhyl, Rhuddlan, Corwen, Llangollen ac Effenechtyd.
Caiff plastigion meddal eu casglu naill ai mewn bag a roddwyd i hanner y trigolion sy'n cymryd rhan, neu mae hanner arall y trigolion yn dewis bag addas eu hunain. Caiff y rhain eu cludo i Orsaf Wastraff a Throsglwyddo Dinbych a'u didoli gan staff er mwyn sicrhau bod y plastigion meddal yn cael eu gwahanu, gan fod y ffordd y cânt eu hailgylchu yn wahanol i blastigion caled.
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i asesu effaith y treial ar bwysau’r gwastraff na ellir ei ailgylchu sy'n cael ei gasglu, pwysau'r plastigion meddal sy'n cael eu casglu, yr eitemau na ellir eu hailgylchu drwy'r casgliad treial, a'r dull mwyaf priodol o'u casglu yn y dyfodol pan fydd newidiadau newydd Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno.
Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: "Mae ymateb y preswylwyr sy'n cymryd rhan yn y treial hwn yn ystod yr wythnos gyntaf wedi bod yn wych. Maent wedi croesawu'r cyfle i gasglu eitemau a fyddai fel arfer yn mynd i'r bin gwastraff cyffredinol, sydd wedi dod yn amlwg gan faint o blastigion meddal a ddychwelyd gyda'r deunyddiau ailgylchadwy eraill.
"Bydd camau i ailgylchu plastigion meddal yn fuddiol i breswylwyr drwy greu mwy o le yn eu biniau gwastraff cyffredinol a helpu'r amgylchedd drwy leihau effaith gwastraff cyffredinol ar ein hamgylchedd.
"Rydym yn ddiolchgar i'r preswylwyr sy'n cymryd rhan yn y treial hwn, gan y bydd eu hymdrechion a'u hadborth yn ein helpu i lunio'r ffordd rydym yn casglu deunyddiau plastig meddal yn y dyfodol er mwyn cefnogi ailgylchu yn Sir Ddinbych yn well.
"Hoffwn hefyd ddiolch i'n staff sydd wedi helpu i wneud camau cyntaf y treial plastigion meddal hwn yn llwyddiant drwy eu gwaith caled ar ein strydoedd ac yn yr Orsaf Wastraff a Throsglwyddo yn Ninbych."
Bydd opsiynau ar sut i gasglu plastigion meddal yn y dyfodol dan ystyriaeth ar ôl adolygu'r treial, a bydd unrhyw newidiadau’n cael eu cyfathrebu i breswylwyr ar yr adeg briodol.
Os ydych yn cymryd rhan yn y treial, mae mwy o wybodaeth ar ein tudalen we treial casglu plastigion meddal, sy'n eich helpu i ddeall beth y gallwch ac na allwch ei roi allan i'w gasglu.
Y casgliad olaf yn y treial hwn fydd ddydd Gwener, 4 Rhagfyr 2026.
Gwaith adnewyddu llawn ar floc Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi’i orffen
Mae gwaith adnewyddu bloc cyfan yn ysgol fwyaf Sir Ddinbych bellach wedi'i gwblhau, gan weld buddsoddiad o dros £600,000 yn ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau'r ysgol.
Prif fynedfa Ysgol Uwchradd Prestatyn
Dechreuodd y gwaith ar Floc 2 yn Ysgol Uwchradd Prestatyn yn yr haf, a chafodd y bloc cyfan ei ail-fodelu’n llwyr, gan gynnwys tynnu popeth mewnol oddi yno a’i ail-lunio’n gyfan gwbl.
Fel rhan o’r prosiect, cwblhawyd gwaith ailweirio, ail-sgimio ac ailosod tri dosbarth TG, dau ddosbarth economeg y cartref, dwy swyddfa, ystafell staff, a phum dosbarth arall. Gwnaed y gwaith gan Bryn Build Ltd.
Mae cyfanswm o 12 ystafell yn y bloc wedi’u moderneiddio.
Dosbarth TG
Yn ystod y gwaith adnewyddu, cafodd yr offer a’r dechnoleg yn yr ystafelloedd eu moderneiddio a’u huwchraddio yn ôl yr angen.

Dosbarth economeg y cartref
Wedi'u cynnwys yn y gwelliannau i'r un o'r ystafelloedd dosbarth economeg y cartref mae adran sy'n cynnwys sinc a hob hygyrch sy’n codi a gostwng, a adeiladwyd yn unol â'r fanyleb yn ystod y gwaith adnewyddu hwn.
Sinc a hob hygyrch sy’n codi a gostwng
Mae system gamera newydd wedi'i gosod yn y bloc economeg y cartref sy'n taflunio gweithredoedd gorsaf goginio yr athro ar sgrin fawr. Golyga hyn nad oes angen i ddisgyblion wasgu at ei gilydd o amgylch un orsaf goginio i ddeall cyfarwyddiadau coginio, gan arwain at brofiad dysgu mwy diogel a hygyrch.
System gamera newydd
Ail-agorodd y bloc yn swyddogol i staff a disgyblion ar ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd.
Dyluniwyd y gwaith adnewyddu ar y cyd ag athrawon yn yr ysgol, i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â gweithrediadau o ddydd i ddydd y dosbarthiadau.
Yn ogystal â’r gwaith adnewyddu’r bloc, mae’r dosbarth drama, sydd uwch ben neuadd yr ysgol, hefyd wedi cael ei ailfodelu, gyda bloc lifft newydd sbon, wedi ei adeiladu a’i ychwanegu i sicrhau mynediad hygyrch i’r dosbarth a adnewyddwyd.

Dosbarth drama
Mae cynllun newydd Bloc 2 hefyd wedi ei ddylunio o amgylch dau lifft a osodwyd yn flaenorol, gan eu hintegreiddio yn well i’r adeilad a llif y dosbarthiadau.

Dosbarth wedi'i ddiweddaru
Caiff y prosiectau eu hariannu drwy Raglen Cynnal a Chadw Cyfalaf Ysgolion a Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Grant Atgyweirio a Chynnal a Chadw, gyda dros £600,000 yn cael ei fuddsoddi yn yr ysgol drwy'r prosiectau hyn.
Cafodd y prosiectau eu harwain a’u rheoli gan Dîm Cynnal a Chadw Adeiladau y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
"Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn un o ysgolion mwyaf Sir Ddinbych, lle mae dros 1,600 o ddisgyblion yn dysgu ac yn datblygu ar y safle bob dydd.
Mae sicrhau bod disgyblion ac athrawon fel ei gilydd yn gallu dysgu ac addysgu yn y cyfleusterau gorau posibl yn hanfodol er mwyn cynnal addysg o ansawdd uchel yn Sir Ddinbych.
Mae dros £600,000 wedi'i fuddsoddi ar gyfer adnewyddu Bloc 2, sydd bellach yn cynnwys ystafelloedd dosbarth mwy modern a chyfleusterau o ansawdd uchel, a fydd yn cefnogi addysgu a dysgu am flynyddoedd i ddod.
Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r ysgol i ddarparu cyfleusterau sy'n diwallu anghenion disgyblion a staff, ac yn helpu i greu'r amgylchedd gorau posibl ar gyfer dysgu drwy'r gwelliannau newydd hyn."
Dywedodd Claire Turner, Pennaeth Ysgol Uwchradd Prestatyn:
"Rydym yn falch iawn o weld prosiect adnewyddu Bloc 2 wedi’i gwblhau. Mae’r ardal newydd eisoes yn cael ei defnyddio a’i mwynhau gan ein disgyblion a’n staff ac mae bellach yn amgylchedd dysgu modern, croesawus a hygyrch.
Hoffem hefyd ddiolch i’r Cyngor am gefnogi’r prosiect hwn ar gyfer ein cymuned ysgol wrth i ni barhau i wella’r cyfleusterau yn yr ysgol.”
Disgyblion Ysgol Carrog yn creu hafan newydd i natur
Mae disgyblion ysgol gynradd yn Sir Ddinbych wedi mynd ati’n ddiwyd i greu hafan newydd i natur.

Mae disgyblion ysgol gynradd yn Sir Ddinbych wedi mynd ati’n ddiwyd i greu hafan newydd i natur.
Yn ddiweddar, fe ymunodd disgyblion Ysgol Carrog â thîm Bioamrywiaeth y Cyngor i blannu dôl newydd o flodau gwyllt ar dir yr ysgol.
Fe fu’r plant yn gweithio gyda’r swyddogion i greu’r ardal newydd yn yr ysgol i’w helpu i ddysgu mwy am y manteision mae’r cynefinoedd hyn yn eu creu i natur ac iddyn nhw eu hunain hefyd.

Maent wedi creu cynefin sy’n cynnwys rhywogaethau blodau gwyllt fel moronen y maes, llygad-llo mawr, melynydd, blodyn neidr, y feddyges las, y bengaled, blodyn menyn, pysen-y-ceirw, gludlys gwyn, ytbysen y ddôl, a’r feillionen goch.
Bydd y ddôl yn helpu’r plant i ddysgu ynglŷn â phwysigrwydd y cynefinoedd hyn i gefnogi pryfed peillio lleol fel gwenyn sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau a bydd hefyd yn creu lle ychwanegol tu allan yn yr ysgol i ddysgu am natur.
Daeth y blodau gwyllt i’w plannu o blanhigfa goed Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy.
Dywedodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Ellie Wainwright: “Fe wnaeth y plant wir fwynhau’r gwaith plannu a dysgu sut mae dolydd yn helpu natur a’r gymuned leol. Mae’r ysgol yn angerddol iawn am gefnogi natur a bydd y prosiect hwn i greu’r ddôl yn helpu i greu cynefin gwych i’r holl anifeiliaid a’r planhigion o amgylch safle’r ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Fe hoffwn i ddiolch yn fawr i ddisgyblion a staff Ysgol Carrog am groesawu ein tîm Bioamrywiaeth i’r ysgol i helpu i greu’r cynefin ar gyfer natur ar y safle.”
“Gwych yw gweld y disgyblion yma’n rhoi help llaw i natur yn lleol drwy blannu’r ddôl ar dir yr ysgol.”
Gohirio Arwerthiant Eiddo yn Cyffylliog am Drafodaethau Cymunedol
Mae’r arwerthiant arfaethedig o chwe eiddo ym mhentref Cyffylliog, ger Rhuthun, wedi’i ohirio yn dilyn pryderon a godwyd gan y cynghorydd lleol.
Roedd y chwe thŷ yn Bryn Awelon i fod i gael eu gwerthu fel un lot yn arwerthiant drwy BTG Eddisons Property Auctions ar 30 Medi.
Daw’r penderfyniad i ohirio’r arwerthiant yn dilyn cyfarfod rhwng Dirprwy Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts; yr Aelod Arweiniol dros Dai a’r Cynllun Datblygu Lleol, y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams; ac aelod lleol y ward, y Cynghorydd Ian Evans, i ystyried pryderon a godwyd gan drigolion ynghylch dyfodol yr eiddo.
Drwy ohirio, bydd amser ar gyfer ymweliad â’r safle a chyfarfod cyhoeddus gyda thrigolion lleol i drafod y sefyllfa ac archwilio opsiynau posibl ar gyfer y cartrefi cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Cawsom gyfarfod adeiladol gyda’r Cynghorydd Evans yn dilyn ei gais i ni ystyried barn trigolion lleol, ac mae hyn wedi arwain at y gohiriad hwn. Byddwn yn gwrando’n ofalus ar y pryderon a godwyd gan drigolion ac rydym yn teimlo ei bod hi’n bwysig gohirio’r broses arwerthu er mwyn caniatáu i drafodaethau pellach ddigwydd. Rydym am sicrhau bod gan bobl leol gyfle i rannu eu barn a bod modd ystyried yr holl opsiynau yn llawn.”
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams: “Mae tai lleol yn flaenoriaeth i’r weinyddiaeth hon ac mae’r eiddo hyn yn fater pwysig i’r gymuned leol. Drwy ohirio, bydd cyfle i ni ymweld â’r safle, cwrdd â thrigolion a chael sgyrsiau adeiladol am ddyfodol y cartrefi.”
Bydd cyfarfod cyhoeddus ar gyfer trigolion lleol yn cael ei drefny gan y Cynghorydd Evans a fydd yn rhannu’r manylion yn y man.
Binnie Mouse yn helpu disgyblion Ysgol Bodnant i ddysgu am bŵer ailgylchu
Cafodd disgyblion Ysgol Bodnant ymweliad arbennig yn ddiweddar gan ‘Binnie Mouse’ i’w helpu i ddeall manteision ailgylchu.
Bu Tîm Addysgu am Ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych i’r ysgol i helpu disgyblion i ddeall manteision ailgylchu a sut i ailgylchu’n gywir gartref ac yn yr ysgol.
Siaradodd y tîm â disgyblion Blwyddyn 6 am fanteision ailgylchu i aelwydydd, cymunedau lleol a’r amgylchedd ehangach.
Roedd y masgotiaid ailgylchu, Troli-bob a Cadi, yn rhan o’r ymweliad hefyd, gan helpu i ddod â’r neges yn fyw ac annog disgyblion i feddwl am y deunyddiau y gellir eu casglu a’u hailgylchu bob wythnos.
Yna, cymerodd y disgyblion ran mewn sesiynau ymarferol i ddysgu pa mor syml yw hi i wahanu eitemau i’w hailgylchu gan ddefnyddio gwasanaeth y Cyngor. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys gêm ailgylchu a gynlluniwyd i helpu disgyblion i ddeall pa ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio a pha gynwysyddion cywir y dylid eu rhoi ynddynt, er mwyn cefnogi ymdrechion bob dydd i leihau gwastraff.
Yna, cyflwynwyd y disgyblion i ‘Binnie Mouse’, un o gerbydau’r Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu a ddefnyddir i gasglu ailgylchu o gartrefi ledled y sir.
Yn ystod yr ymweliad, dangoswyd sut y caiff gwahanol ddeunyddiau eu casglu a’u gwahanu i adrannau cyn cael eu cludo i’w prosesu yn yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff yn Ninbych.
Mae system Trolibocs y Cyngor yn helpu trigolion i wahanu deunyddiau wrth ymyl y ffordd, gan gynnwys papur, caniau, plastigau cymysg, a photeli a jariau gwydr. Mae gwahanu deunyddiau i’w hailgylchu yn helpu i wella ansawdd yr hyn gaiff ei gasglu ac yn cefnogi ymdrechion i leihau gwastraff ac allyriadau carbon.
Dywedodd Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych: “Roedd disgyblion Ysgol Bodnant yn cymryd rhan yn wych gyda’n tîm i ddarganfod sut y gall eu gweithredoedd bob dydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae helpu pobl ifanc i ddeall pwysigrwydd ailgylchu yn cefnogi ein gwaith ehangach i leihau gwastraff, gwella cyfraddau ailgylchu ac amddiffyn ein hamgylchedd lleol.”
Dywedodd y Cynghorydd James Elson, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae gweithio gydag ysgolion yn hynod bwysig o ran sut rydym yn ailgylchu, gan mai’r plant hyn yw dyfodol Sir Ddinbych. Mae’n wych clywed sut mae’r disgyblion hyn yn ymgymryd â’r her i ailgylchu yn rhagweithiol, gan y bydd eu hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau lleol.”

Sir Ddinbych yn goleuo’n goch i ddathlu 80 mlynedd o roi gwaed yng Nghymru
Mae Cyngor Sir Ddinbych a DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn ymuno â chymunedau ledled Cymru i gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru wrth iddynt ddathlu eu pen-blwydd yn 80 oed.
Ar 26 Medi 2026, bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn nodi 80 mlynedd o roi gwaed yng Nghymru – wyth degawd o bobl yn rhoi o’u hamser er mwyn helpu i achub a gwella bywydau eraill.
I nodi’r garreg filltir bwysig hon, bydd DLL yn goleuo ei adeiladau a’i atyniadau yn goch, gan helpu i greu ‘Cymru goch’ i gydnabod y miloedd o bobl ledled y wlad sy’n rhoi gwaed, platennau a bôn-gelloedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser:
“Mae ein pen-blwydd yn 80 oed yn perthyn i bob rhoddwr sydd erioed wedi rhoi o’i hamser, ei ymrwymiad a’u gwaed i helpu rhywun na fydd efallai byth yn cwrdd ag ef.
“Mae’n perthyn i bob aelod o’r teulu sydd wedi cefnogi eu hanwyliaid i barhau i roi gwaed. Mae’n perthyn i bob cydweithiwr, yn y gorffennol a’r presennol, sydd wedi ymrwymo eu sgiliau, eu tosturi a’i broffesiynoldeb i helpu cleifion ledled Cymru.”
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Dinbych:
“Rydym yn falch iawn o gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru wrth iddynt ddathlu 80 mlynedd o roi gwaed yng Nghymru. Mae rhoi gwaed yn rhywbeth sy’n cyffwrdd â chymunedau ledled y wlad, ac mae gan bob rhodd y potensial i wneud gwahaniaeth sy’n newid bywyd rhywun a’u teuluoedd.
“Mae goleuo ein hadeiladau yn goch yn ffordd fach ond ystyrlon i ni ddangos ein cefnogaeth a helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cyfraniad anhygoel a wneir gan roddwyr gwaed, platennau a bôn-gelloedd. Rydym yn falch o chwarae ein rhan yn y dathliad arbennig hwn ac yn gobeithio y bydd gweld ein hadeiladau wedi’u goleuo’n goch yn annog pobl i gael gwybod mwy am ddod yn rhoddwr.”
Mae’r Cyngor yn falch o gefnogi dathliadau pen-blwydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn 80 oed a helpu i dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae rhoddwyr yn ei chwarae mewn cymunedau ledled Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:
“Rydym yn falch iawn o gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru wrth iddynt ddathlu’r garreg filltir arwyddocaol hon. Am 80 mlynedd, mae pobl ledled Cymru wedi rhoi o’u hamser i helpu eraill, yn aml heb wybod pwy yw’r bobl y maent wedi helpu. Mae’r haelioni hwnnw yn rhywbeth y dylem i gyd ei gydnabod a’i ddathlu.
“Mae goleuo ein hadeiladau yn goch yn ffordd wych o ddangos ein gwerthfawrogiad i roddwyr a’r staff sy’n gwneud y gwasanaeth rhoi gwaed yn bosibl, gan hefyd helpu i godi ymwybyddiaeth o’r angen parhaus am roddion.
“Gobeithiwn y bydd ein cefnogaeth yn annog pobl i gael gwybod mwy am roi gwaed ac ystyried i roi gwaed os ydynt yn gallu gwneud hynny.”
Gallwch gael gwybod sut i ddod yn rhoddwr gwaed drwy ymweld â gwefan Gwasanaeth Gwaed Cymru: www.wbs.wales/bookWBS80.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn edrych ar ôl rhoddion gwaed ledled Cymru ac yn nodi eu pen-blwydd yn 80 oed drwy ddathlu cyfraniad cyfunol rhoddwyr, staff a chymunedau ledled y wlad.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn annog sefydliadau ledled Cymru i ymuno â’r dathliadau drwy ‘oleuo’r wlad yn goch’ ar 26 Medi.

Parc Bodelwyddan yn cael ei gydnabod yn Gwobrau Ewropeaidd
Mae’r wobr yn dathlu’r arwyddion canfod ffordd a dehongli a osodwyd yn Parc Bodelwyddan.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael ei gydnabod gan Wobrau Canfod Ffordd Ewrop am ei waith gyda’r dylunwyr f.r.a., gan ennill y wobr am ‘Canfod Ffordd Gorau ar gyfer Parth Cyhoeddus Trefol’.
Mae’r wobr yn dathlu’r arwyddion canfod ffordd a dehongli a osodwyd fel rhan o brosiect ehangach i adfywio Parc Bodelwyddan.
Gan ddechrau yn 2022, derbyniodd y prosiect £900,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ac roedd yn ceisio mynd i’r afael â chyflwr tir y parc cyn ei ailagor i’r cyhoedd yn 2025.
Gan weithio’n agos gyda’r dylunwyr, datblygwyd system canfod ffordd i wneud y parc yn groesawgar ac yn hygyrch i ymwelwyr o bob oed a gallu. Mae’r system yn ymateb i wahanol ddiddordebau, anghenion gwybyddol, dewisiadau iaith yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynion symudedd, gan helpu pobl i lywio’r dirwedd wrth ddarganfod ei threftadaeth hanesyddol ac ecolegol gyfoethog.

Mae hierarchaeth arwyddion sydd wedi’i hystyried yn ofalus yn arwain ymwelwyr drwy’r parc, gyda gwybodaeth ddehongli wedi’i hintegreiddio drwy gydol y daith. Mae graffeg lachar a lliwgar yn cael ei pharu â derw o ffynonellau lleol, gan greu hunaniaeth nodedig sy’n cyfuno dylunio cyfoes â chrefftwaith traddodiadol.
Mae’r arwyddion dehongli hefyd yn cynnwys ffotograffiaeth ysbrydoledig, graffeg addysgiadol ac elfennau synhwyraidd 3D arloesol, gan annog archwilio cyffyrddol a chreu profiad mwy cynhwysol, amlsynhwyraidd.
Yn ogystal â’r system canfod ffordd, cyflwynodd Cyngor Sir Ddinbych ddau gilometr o lwybrau newydd ag wyneb calchfaen sy’n addas i bobl anabl er mwyn gwella hygyrchedd ar y safle, adferodd ffosydd ymarfer o’r Rhyfel Byd Cyntaf a phlannodd ddolydd blodau gwyllt i wella bioamrywiaeth.
Dywedodd Jamie Trippier Cyfarwyddwr Prosiectau a Rheoli f.r.a.:
“Rydym yn hynod falch bod ein gwaith ym Mharc Bodelwyddan wedi cael ei gydnabod gan Wobrau Canfod Ffordd Ewrop cylchgrawn Transform. Roedd hwn yn brosiect gwirioneddol gydweithredol, ac roedd gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych wedi rhoi cyfle i ni ddefnyddio dylunio i agor y dirwedd ryfeddol hon a’i threftadaeth i gynulleidfa hyd yn oed yn ehangach. Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth wych o’r uchelgais a’r gofal a roddwyd i’r prosiect.”
Dywedodd Garry Davies, Swyddog Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych a fu’n goruchwylio’r prosiect:
“Rydym wrth ein bodd i dderbyn y wobr hon mewn partneriaeth â f.r.a.creative, a gyflwynodd ddehongli a chanllawiau canfod ffordd flaengar ac arloesol er mwyn darparu man gwyrdd agored cwbl hygyrch. Y weledigaeth oedd annog pobl o bob oed i ymweld, treulio amser yn yr awyr agored a mwynhau popeth sydd gan y parc i’w gynnig. Gall ymwelwyr gyrraedd Parc Bodelwyddan drwy amrywiaeth o drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat a phrofi’r amgylchedd naturiol, y dreftadaeth a’r asedau rhagorol, gyda golygfeydd pellgyrhaeddol o’r dirwedd drawiadol ac amrywiol sydd gan Sir Ddinbych i’w chynnig.”
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymfalchïo mewn gweithio’n gydweithredol gyda phartneriaid i gyflawni gwelliannau i’n trigolion, ac mae’n fraint cael ein cydnabod am y wobr hon ochr yn ochr â f.r.a. ar y prosiect hwn.
“Hoffwn hefyd gydnabod gwaith caled ein tîm cefn gwlad, sydd wedi gweithio’n ddiflino ar y prosiect hwn. Ers ailagor i’r cyhoedd, mae’r parc wedi dod yn ased gwych i’r gymuned leol ac wedi croesawu cymaint o ymwelwyr sydd wedi gallu profi’r amgylchedd naturiol sydd gan ein sir i’w gynnig.”

Tipiwr anghyfreithlon yn cael ei ganfod ac yn cael dirwy ar ôl gollwng gwastraff ar lwybr yn y Rhyl
Mae unigolyn a ollyngodd wastraff o’r cartref yn anghyfreithlon ar lwybr wedi cael dirwy yn sgil ymchwiliad gan Dîm Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych.

Mae unigolyn a ollyngodd wastraff o’r cartref yn anghyfreithlon ar lwybr wedi cael dirwy yn sgil ymchwiliad gan Dîm Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych.
Gadawyd nifer o fagiau o wastraff o’r cartref yn erbyn wal ar y llwybr, gan greu llanast i drigolion lleol a gadael rhywun arall i glirio ar eu holau. Fodd bynnag, bu i dystiolaeth a ganfuwyd o fewn y gwastraff alluogi swyddogion i adnabod yr unigolyn oedd yn gyfrifol.
Bu i Swyddogion Troseddau Amgylcheddol wneud ymholiadau a dilyn amrywiaeth o dystiolaeth, gan arwain at gymryd camau gorfodi yn erbyn y troseddwr a gafodd Rybudd Cosb Benodedig o £250.
Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych: "Yn anffodus, ymddengys bod rhai pobl yn meddwl os ydynt yn gadael eu gwastraff ar lwybr, bydd rhywun arall yn dod i’w glirio.
"Yr hyn nad yw pobl bob amser yn ei ystyried yw y gall y gwastraff ei hun ddarparu tystiolaeth werthfawr. Mae ein swyddogion yn ymchwilio i ddigwyddiadau gan ddefnyddio ystod o ddulliau gan gynnwys CCTV, gwybodaeth gan dystion a thystiolaeth a ganfyddir o fewn y gwastraff ei hun. Pan fyddwn yn gallu sefydlu pwy sy’n gyfrifol, byddwn yn cymryd camau gorfodi priodol.”
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Ni ddylai unrhyw un orfod dioddef gweld gwastraff a adawyd yn anghyfreithlon yn eu cymuned. Mae tipio anghyfreithlon nid yn unig yn amhleserus o ran golwg, ond gall hefyd gael effaith negyddol ar gymunedau lleol, yr amgylchedd a’r balchder mae preswylwyr yn ei gymryd ym mhle maent yn byw.
“Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r mater hwn ar draws Sir Ddinbych a byddwn yn parhau i ymchwilio i adroddiadau a chymryd camau gorfodi pan fo tystiolaeth ddigonol i wneud hynny. Mae achosion fel yr un hwn yn anfon neges glir bod tipio anghyfreithlon yn annerbyniol ac y bydd y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu dal yn atebol am eu gweithredoedd.
“Rydym yn annog trigolion i barhau i ddweud ynglŷn ag achosion er mwyn i ni allu cydweithio i gadw ein cymunedau yn lân, yn ddiogel ac yn groesawus i bawb.”
Diwrnod Agored Recriwtio Gofal Cymdeithasol i gael ei gynnal yn y Rhyl
Mae tîm Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych yn gwahodd y rheiny sy’n chwilio am yrfa ym maes Gofal Cymdeithasol i ddiwrnod agored recriwtio i gael gwybodaeth am yr amrywiaeth o swyddi gwerth chweil sydd ar gael yn y sector.
Bydd y diwrnod agored yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Gofal Dydd Hafan Deg yn y Rhyl ar 25 Medi. Mae croeso i fynychwyr alw heibio ar unrhyw amser rhwng 9am a 12pm.
Hafan Deg, Rhyl
Bydd y digwyddiad galw heibio’n siawns i fynychwyr ddysgu am y swyddi gofal cymdeithasol gwerth chweil sydd ar gael, siarad gyda staff a rheolwyr, cael cyngor am wneud ceisiadau, a darganfod mwy am y buddion o weithio i’r cyngor.
Mae’r sesiwn ar agor i bawb, p’un a ydynt eisoes yn gweithio ym maes cefnogaeth gymunedol, yn ystyried newid gyrfa, neu’n syml yn teimlo’n angerddol am wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol.
Nid oes angen archebu lle, ond anogir mynychwyr i gofrestru o flaen llaw trwy Eventbrite er mwyn helpu’r tîm i gael syniad cywir o nifer y mynychwyr o flaen llaw.
Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:
“Mae’r diwrnod agored hwn yn gyfle gwych i bobl ddarganfod mwy am yr ystod eang o swyddi gwerth chweil sydd ar gael gyda thîm gofal cymdeithasol y cyngor.
Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â phobl sydd â phrofiad ym maes gofal neu gefnogaeth gymunedol, yn ogystal â’r rheiny sydd efallai’n ystyried llwybr gyrfa newydd. Gall mynychwyr alw heibio ar unrhyw adeg trwy gydol y digwyddiad a bydd modd iddyn nhw siarad yn uniongyrchol â’n timau, gofyn cwestiynau a chael arweiniad ar y broses ymgeisio a’r gefnogaeth sydd ar gael i staff.
Gall gweithio yn y sector gofal cymdeithasol roi llawer iawn o foddhad, ac mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i’r rheiny sydd â diddordeb i gymryd y cam cyntaf a dysgu mwy am sut y gallant wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl leol.”
Gweler y ddolen i archebu lle.
Cosbi’r Cyflawnwr: Rhybudd Cosb Benodedig o £250 i Dipiwr Anghyfreithlon yn Rhuthun
Mae unigolyn sydd wedi cael ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon yn Rhuthun wedi cael Rhybudd Cosb Benodedig o £250 yn dilyn gweithredu gan Swyddogion Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych.

Mae unigolyn sydd wedi cael ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon yn Rhuthun wedi cael Rhybudd Cosb Benodedig o £250 yn dilyn gweithredu gan Swyddogion Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych.
Mae Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad y Cyngor yn parhau i ddilyn dull rhagweithiol o ran mynd i’r afael â throseddau amgylcheddol ar draws y sir, wrth i swyddogion gynnal ymchwiliadau a chasglu tystiolaeth lle canfyddir bod gwastraff wedi cael ei adael yn anghyfreithlon.
Yn yr achos hwn, llwyddodd y swyddogion i adnabod yr unigolyn a oedd yn gyfrifol a chymryd camau gorfodi, gan arwain at gyflwyno Cosb Benodedig o £250.
Gall tipio anghyfreithlon gael effaith barhaol ar y mannau y mae pobl yn byw, gweithio ac ymweld â nhw. Boed yn ychydig o wastraff y cartref neu’n bentwr mawr o bethau wedi’u gwaredu, bydd y Cyngor yn ymchwilio i’r achos os bydd digon o dystiolaeth i ganfod y rhai sy’n gyfrifol.
Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych:
“Dyma enghraifft arall o’n swyddogion allan yn ein cymunedau ac yn gweithredu yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am dipio anghyfreithlon.
“Mae tipio anghyfreithlon yn ymwneud â mwy na gadael bag o sbwriel ar eich ôl. Mae’n effeithio ar edrychiad ein cymunedau, gall achosi niwed amgylcheddol, ac mae’n creu gwaith a chostau ychwanegol i lanhau’r gwastraff na ddylai wedi cael ei adael yno yn y lle cyntaf.
“Rydym eisiau i bobl feddwl ddwywaith cyn gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon. Mae ein neges yn syml - gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol a pheidiwch â’i roi i rywun arall oni bai eich bod yn fodlon bod ganddynt yr awdurdod i’w gymryd.”
Mae’r Cyngor yn annog trigolion i roi gwybod am achosion o dipio anghyfreithlon pan maent yn eu gweld ac, os yn bosibl, darparu gwybodaeth a allai helpu swyddogion i ganfod y rhai sy’n gyfrifol.
Mae ymchwilio i droseddau amgylcheddol a’r camau gorfodi dilynol yn rhan o waith ehangach Cyngor Sir Ddinbych i wella glendid cymunedau a lleihau faint o wastraff sy’n cael ei waredu’n anghyfreithlon ar draws y sir.
Mae Tyler Turner o Sir Ddinbych yn Gweithio yn hyrwyddo niwroamrywiaeth
Cafodd Tyler Turner, Hyfforddwr Llesiant a Gwydnwch gyda Sir Ddinbych yn Gweithio a Hyrwyddwr Niwroamrywiaeth, ei choroni’n ddiweddar yn Ms Diamond United Kingdom 2026, ac mae eisoes yn defnyddio ei theitl i godi ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth a chynhwysiant pobl anabl ledled y DU.

Er bod llawer o deitlau cystadlaethau harddwch yn canolbwyntio ar godi arian neu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, mae Tyler wedi defnyddio ei llwyfan i greu adnoddau ac yn cynnig cyfleoedd ymarferol sy’n helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu deall a’u cefnogi.
Mae’r fenter yn adlewyrchu’r gwaith y mae Tyler yn ei wneud bob dydd drwy ei rôl gyda Sir Ddinbych yn Gweithio. Fel rhan o Brosiect Barod, mae Tyler wedi cynnal amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai sy’n canolbwyntio ar lesiant, wedi’u cynllunio i annog ymgysylltu, creadigrwydd a datblygiad personol ymhlith pobl ifanc.
Mae’r rhain wedi cynnwys sesiynau crefft creadigol, sesiynau galw heibio ar niwroamrywiaeth a’r prosiect ‘The Sea In You’, a oedd yn cyfuno llesiant, ymwybyddiaeth amgylcheddol a chadwraeth forol. Drwy’r rhaglen, cafodd pobl ifanc eu hannog i gysylltu â natur, dysgu am bwysigrwydd gwarchod yr amgylchedd a magu hyder drwy brofiadau cadarnhaol a rennir.
Mae angerdd Tyler dros gadwraeth forol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’w gwaith gyda Sir Ddinbych yn Gweithio. Yn broffesiynol, mae’n cael ei hadnabod fel Official North Wales Mermaid™, ac mae hi wedi treulio blynyddoedd lawer yn codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol drwy ymgysylltu creadigol â’r gymuned. Mae ei gwaith wedi cynnwys cynnal sesiynau crefft ecogyfeillgar, sgyrsiau addysgol, arddangosfeydd a pherfformiadau, yn ogystal â chydweithio â sefydliadau lleol fel Resource Rhuthun er mwyn gwneud negeseuon cadwraeth yn hygyrch ac yn ddifyr i bobl o bob oed.
Yn fwy diweddar, mae Tyler wedi cefnogi mentrau cymunedol gan gynnwys Diwrnod Agored yr RNLI ac ymdrechion codi arian ar gyfer sesiynau Swim Safe a gynhaliwyd yn Y Rhyl yn ystod gwyliau’r haf. Mae ei hymgyrchu dros yr amgylchedd, ynghyd â’i hymrwymiad i lesiant a chynhwysiant, yn adlewyrchu ei chred y gall addysg, creadigrwydd a’r gymuned fod yn arfau pwerus ar gyfer newid cadarnhaol.
Mae ymrwymiad Tyler i greu cyfleoedd cynhwysol hefyd yn amlwg yn ei rôl fel Ms Diamond United Kingdom 2026. Yn ystod ei theyrnasiad, cyflwynodd broffil ymarferol un dudalen sydd wedi’i gynllunio i helpu unigolion i gyfleu eu hanghenion ychwanegol, gan gynnwys pa gymorth sy’n ddefnyddiol, beth y gallent ei chael yn anodd a sut y gall eraill greu amgylcheddau mwy hygyrch.
Mae’r fenter yn adlewyrchu’r dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn y mae Tyler yn ei ddefnyddio yn ei gwaith bob dydd, gan helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi a’u grymuso i gyflawni eu nodau.

Dywedodd Tyler:
“Mae helpu pobl i adnabod eu cryfderau a theimlo’n hyderus i fod yn nhw eu hunain yn rhywbeth rwy’n angerddol amdano. Boed hynny drwy fy ngwaith gyda Sir Ddinbych yn Gweithio, cefnogi pobl ifanc drwy Brosiect Barod, neu ddefnyddio fy nheitl mewn cystadleuaeth i godi ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth, mae’n ymwneud â chreu mannau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys, eu gwerthfawrogi a’u deall.”
Mae Diamond Pageants wedi treulio’r degawd diwethaf yn hyrwyddo ei hethos o “Dathlu harddwch ac amrywiaeth pawb”, gan annog deiliaid teitlau i ddefnyddio eu llwyfannau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau.
Mae gwaith Tyler yn enghraifft gref o’r ethos hwn ar waith, gan gyfuno ymgysylltu â’r gymuned, cymorth llesiant ac eiriolaeth ar ran unigolion niwrowahanol.
Ychwanegodd Melanie Evans, Rheolwr Gwasanaeth, Cyflogaeth Strategol ar gyfer Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Mae Tyler yn dod ag egni, tosturi a chreadigrwydd i bopeth y mae’n ei wneud. Drwy ei gwaith gyda chyfranogwyr a phobl ifanc, mae hi’n chwilio’n barhaus am ffyrdd o wneud gwasanaethau’n fwy cynhwysol a hygyrch. Rydym yn hynod falch o’i gweld yn mynd â’r gwerthoedd hynny i lwyfan cenedlaethol ac yn defnyddio ei llwyfan i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o niwroamrywiaeth ac anabledd.”
Bydd taith Tyler fel Ms Diamond United Kingdom 2026 yn parhau ym mis Chwefror 2027 pan fydd yn ymuno â’i chyd-aelodau o Diamond Royalty mewn encil i’r teulu brenhinol ym Moroco. Yna bydd yn mynd ymlaen i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn y categori Ms yng nghystadleuaeth International Global Icon Pageant yn Las Vegas ym mis Awst 2027.
Wrth iddi barhau â’i theyrnasiad, mae Tyler yn gobeithio annog mwy o sgyrsiau am niwroamrywiaeth, ymwybyddiaeth o anabledd a chynhwysiant, gan ddangos hefyd sut y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl.
I Sir Ddinbych yn Gweithio, mae cyflawniadau Tyler yn amlygu’r effaith gadarnhaol y gellir ei chael pan ddaw angerdd, profiad byw a chefnogaeth gymunedol ynghyd i greu newid ystyrlon.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU a nifer o raglenni, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer y DU a Chymru sy’n targedu anweithgarwch economaidd, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF), a Cysylltu â Gwaith.
Cyngor yn dathlu Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Mae Cyngor Sir Dinbych wedi nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys (9 Medi) drwy godi baner er anrhydedd iddynt.
Mae'r diwrnod ymwybyddiaeth, a ddathlwyd gyntaf yn 2018, yn cydnabod personél y gwasanaethau brys a'u cyfraniad aruthrol i gymdeithas, sy'n helpu i ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol i bob un ohonom.

Codwyd baner y tu allan i Neuadd y Sir yn Rhuthun i goffáu'r diwrnod.
Cafwyd munud o dawelwch yn ystod y seremoni hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Cadeirydd Cyngor Sir Dinbych:
“Mae'r diwrnod ymwybyddiaeth hwn yn rhoi cyfle inni ddiolch i bersonél y gwasanaethau brys am y gwasanaeth ymroddedig maen nhw'n ei ddarparu i bob un ohonom bob dydd.
Mae dros ddwy filiwn o bobl yn gweithio yn y gwasanaethau brys ym Mhrydain heddiw, ac mae llawer ohonynt yn wirfoddolwyr. Mae gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o deulu'r gwasanaethau brys, ac maen nhw'n chwarae rhan greiddiol wrth ein cadw'n ddiogel.
Mae Diwrnod y Gwasanaethau Brys yn hyrwyddo gwaith y gwasanaethau brys, yn hyrwyddo defnyddio'r gwasanaethau brys yn gyfrifol, yn addysgu'r cyhoedd am sgiliau achub bywyd sylfaenol, ac yn hyrwyddo'r nifer o gyfleoedd gyrfa a gwirfoddoli sydd ar gael.”
Arweinydd a Chabinet Newydd i Sir Ddinbych
Mewn cyfarfod cyngor llawn yn Neuadd y Sir Rhuthun heddiw (dydd Mawrth, 8 Medi) etholwyd y Cynghorydd Hugh Evans yn Arweinydd newydd ar yr awdurdod.
Mae'r Cynghorydd Evans (Annibynnol – Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern) sydd wedi bod yn gynghorydd ers 2004 ac yn Arweinydd rhwng 2007 a 2022, hefyd wedi penodi'r Cabinet newydd.
Yn dilyn ei etholiad dywedodd y Cynghorydd Evans, “Nid ydym yn edrych yn ôl heddiw, ond yn hytrach yn gosod sylfeini cryf ar gyfer y dyfodol ac ymdrin â'r heriau sy'n wynebu ein sir. Dros yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi cyfarfod â'r Prif Weithredwr ac uwch swyddogion i gael dealltwriaeth glir o'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau. Er bod gennym lawer o swyddogion ymroddedig a gwasanaethau cryf, rhaid inni gryfhau'r cysylltiad rhwng ein uchelgais strategol a phrofiadau ein trigolion.
“Rwy'n awyddus i greu diwylliant agored a thryloyw a thros y misoedd nesaf, bydd y Cabinet yn canolbwyntio ar dri maes allweddol: y gyllideb, ein rôl fel cyngor, a'n cymunedau a'n diwylliant. Dim ond wyth mis sydd gennym, ond mae llawer y gallwn ei gyflawni. Drwy ganolbwyntio ar y blaenoriaethau hyn, gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chyflawni canlyniadau go iawn, gallwn gryfhau hyder yn y cyngor, darparu gwell eglurder i’r gweithlu a sicrhau bod Sir Ddinbych yn gyngor y gall trigolion a staff fod yn falch ohono.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi, a diolch i Jason am y gwaith blaenorol y mae'r Cabinet wedi'i wneud. Rydym i gyd yma i'n trigolion. Rydym i gyd yn llysgenhadon dros ein cymunedau."
Yn y cyfamser, mae'r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, (Annibynnol - Rhuthun) wedi'i benodi'n Ddirprwy Arweinydd. Mae'r Cynghorydd Hilditch-Roberts wedi gwasanaethu fel cynghorydd sir ers 2012 ac roedd yn Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Gwasanaethau Plant a'r Iaith Gymraeg rhwng Mai 2017 a Mai 2022. Dywedodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts, "Mae'n anrhydedd enfawr cael fy mhenodi'n Ddirprwy Arweinydd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Hugh a gweddill y Cabinet i adfer ymddiriedaeth a hyder yn y Cyngor, mynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau, a chyflawni gwelliannau ystyrlon i gymunedau Sir Ddinbych.
“Er bod y Cynghorydd Evans wedi amlinellu rhai o’n blaenoriaethau allweddol heddiw, bydd y Cabinet yn cydweithio dros yr wythnosau nesaf i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa bresennol ac i benderfynu beth fydd ein prif ffocws ar gyfer y misoedd nesaf.”
Yn dilyn ei benodiad, mae'r Arweinydd newydd hefyd wedi cyhoeddi'r Cabinet newydd a'r meysydd portffolio diwygiedig:
Y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd, Llywodraethu Corfforaethol a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd
Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth
Y Cynghorydd Anton Sampson, Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldeb
Y Cynghorydd Will Price, Aelod Arweiniol dros Gynllunio a Chefn Gwlad
Y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams, Aelod Arweiniol dros Dai a'r Cynllun Datblygu Lleol
Y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth
Y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Asedau a'r Economi Leol
Y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chymunedau. Bydd y Cynghorydd Feeley yn parhau fel Cadeirydd yr awdurdod i gwblhau ei dyletswyddau dinesig gan ymuno â'r cabinet ar 21 Medi.
Partneriaeth yn parhau ag ymgyrch i glirio sbwriel oddi ar draeth yn y sir
Mae digwyddiad partneriaeth wedi dychwelyd i draeth y Rhyl i helpu i fynd i’r afael â sbwriel.
Fe gynhaliodd Tîm Rheoli Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych, gydag offer wedi’u darparu gan Cadwch Gymru'n Daclus a’u cefnogi gan wirfoddolwyr caredig, sesiwn codi sbwriel yn ddiweddar ar y traeth a’r promenâd y tu ôl i faes parcio Pafiliwn y Rhyl.

Mae’r digwyddiadau yma yn y Rhyl a Phrestatyn wedi’u trefnu helpu i fynd i’r afael ag effaith sbwriel morol yn yr ardal a all greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr, ac arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.
Bu 13 o wirfoddolwyr yn helpu i gasglu wyth bag yn llawn o sbwriel oddi ar y traeth, a buont yn helpu i gael gwared ar bibelli plwm o’r ardal hefyd.
Meddai Claudia Smith, Swyddog Erydu Arfordirol a Pherygl Llifogydd: “Unwaith eto rydym ni’n ddiolchgar iawn i bawb a ymunodd â’r digwyddiad yma yn y Rhyl. Rydym oll yn gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael ag effaith sbwriel o’r môr yn yr ardal, yn enwedig yn ystod wythnosau prysur, gan y gall rwystro dyfrffyrdd a draeniau, atal llif y dŵr a chreu mwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.
“Mae tynnu sbwriel o’r traeth hefyd yn cefnogi amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd rhag y môr yn well. Yr hyn mae’r grŵp yma wedi’i wneud yw helpu i wella’r amgylchedd i breswylwyr lleol ac ymwelwyr â’r rhan yma o draeth y Rhyl.”
Y wybodaeth ddiweddaraf am waith cynnal a chadw cylchol ar ffyrdd
Bydd gwaith cynnal a chadw arferol yn cael ei wneud ger Llanelwy a Rhuddlan y mis hwn.

Bydd gwaith cynnal a chadw arferol yn cael ei wneud ger Llanelwy a Rhuddlan y mis hwn.
Bydd gwaith torri gwair, strimio, casglu sbwriel ac ysgubo yn cael ei gwblhau ar Ffordd Ddeuol yr A525 rhwng Cylchfan Talardy a chylchfan Bryn Cwybyr ac ar yr A547 Ffordd Abergele, ar y dyddiadau sydd wedi’u nodi isod.
- Dydd Llun a Dydd Mawrth 14ydd a 15ydd Medi Ffordd ar Gau– A525 Talardy - KFC
- Dydd Mercher 16ydd Medi - A525 Ffordd osgoi Rhuddlan
- Dydd Iau 17ydd Medi – A525 Bryn Cwybr Cylchfan Ffordd Derwen
- Dydd Llun 21af Medi - A547 – Ffordd Abergele -Cylchfan Borth to Ffin yr Ardal
Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 7pm a 6am ac yn cymryd 3 noson i’w wneud. I sicrhau y cyflawnir y gwaith yn ddiogel, bydd yr A525 a’r A547 ar gau i gerbydau a cherddwyr ar y dyddiadau a’r amseroedd a nodir.
Bydd yna arwyddion ar gyfer y llwybr gwyro amgen i bob rhan o’r ffordd fydd ar gau. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi ac yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.
Cyngor yn nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol gyda seremoni codi baner
Mae Cyngor Sir Dinbych wedi talu teyrnged i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Llynges Fasnachol ddoe (Medi 3ydd).
Mae Diwrnod y Llynges Fasnachol yn cael ei nodi'n flynyddol yn y DU ar Fedi 3ydd i anrhydeddu'r rhai sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu yn y fflydoedd llongau masnachol yn ystod cyfnodau o ryfel a heddwch.

Y tu allan i Neuadd y Sir yn Rhuthun, codwyd baner y Lluman Goch i ddangos cefnogaeth i Ddiwrnod y Llynges Fasnachol a chydnabod rôl y morwyr.
Mae'r Lluman Goch, neu'r 'Red Duster' fel y'i gelwir hefyd, wedi bod yn faner gydnabyddedig Llynges Fasnachol Prydain ers 1854.
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Cadeirydd Cyngor Sir Dinbych:
“Mae Diwrnod y Llynges Fasnachol yn rhoi cyfle inni oedi a myfyrio ar y cyfraniad hanfodol a wnaed gan forwyr masnachol, y mae eu hymroddiad a'u gwasanaeth wedi cefnogi ein cenedl ers cenedlaethau. Boed yn cludo bwyd, tanwydd, meddyginiaethau, nwyddau, neu gyflenwadau hanfodol, mae'r Llynges Fasnachol wedi chwarae rhan hanfodol wrth gynnal ein heconomi, ein cymunedau, a'n ffordd o fyw.
Mae morwyr masnachol yn aml wedi gwasanaethu mewn amodau peryglus a heriol, gan ddangos dewrder a gwydnwch rhyfeddol. Rhoddodd llawer eu bywydau i sicrhau bod cyflenwadau hanfodol yn cyrraedd ein glannau, ac rydym yn anrhydeddu eu cof heddiw gyda diolchgarwch a pharch.
Mae Diwrnod y Llynges Fasnachol hefyd yn gyfle i gydnabod y rhai sy'n parhau â'r gwaith pwysig hwn. Wrth i ni godi'r Lluman Goch, gadewch iddo wasanaethu fel symbol gweladwy o'n gwerthfawrogiad i bawb sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn y Llynges Fasnachol. Mae'n atgof o'u hymrwymiad, eu proffesiynoldeb, a'u cyfraniad at ein bywyd cenedlaethol.
Ar ran y Cyngor a'n cymuned, hoffwn i fynegi ein diolch diffuant i bob morwr masnachol a'u teuluoedd am y gwasanaeth a'r aberthau a wnaethant.”
Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru yn lansio ledled Gogledd Cymru wrth i bartneriaid cyflawni gael eu penodi
Mae Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru bellach wedi dechrau cael ei gyflwyno’n swyddogol ledled Gogledd Cymru, gyda thrigolion Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych yn elwa o’r rhaglen ers mis Mehefin 2026. Mae’r lansiad yn garreg filltir arwyddocaol o ran cefnogi pobl sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth, gan ddarparu cymorth personol a chyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy.
Ers yr haf, mae Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru wedi cael ei gyflwyno’n lleol gan Môn CF, Gwaith Gwynedd, Hwb Cyflogaeth Conwy a Sir Ddinbych yn Gweithio. Yn dilyn prosesau comisiynu cadarn dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, rydym yn falch o groesawu RCS Cymru a ‘Employment Plus’ Byddin yr Iachawdwriaeth fel ein partneriaid cyflawni. Mae ‘Employment Plus’ Byddin yr Iachawdwriaeth wedi’i benodi i gefnogi Sir Ddinbych yn Gweithio, yn ogystal â gwaith Hwb Cyflogaeth Conwy yng Nghonwy a Sir Ddinbych, a bydd y ddau bartner yn dechrau cefnogi cyfranogwyr yn ystod y misoedd nesaf.
Mae Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru yn rhaglen cyflogaeth â chymorth wirfoddol a ariennir gan Lywodraeth y DU, sy’n dilyn y model Cyflogaeth â Chymorth sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n helpu trigolion sy’n anabl, sydd â chyflyrau iechyd neu anghenion cymhleth i ddod o hyd i waith, ymuno â’r gweithlu ac aros mewn gwaith, drwy ddarparu cymorth un-i-un pwrpasol a phersonol.
Dywedodd Gary Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen Ranbarthol Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru:
“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi dechrau cyflwyno Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru ledled Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych. Mae hyn yn gam pwysig yn ein huchelgais i ddarparu cymorth cyflogaeth o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau rhag ymuno â’r gweithlu neu aros mewn gwaith.
“Yn dilyn proses gomisiynu gadarn dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, rydym yn falch o groesawu RCS Cymru a ‘Employment Plus’ Byddin yr Iachawdwriaeth fel ein partneriaid cyflawni. Bydd eu profiad a’u hymrwymiad i gefnogi unigolion sydd bellaf o’r farchnad lafur yn allweddol wrth helpu pobl ledled Gogledd Cymru i wireddu eu dyheadau cyflogaeth a gwella eu llesiant hirdymor.”
Wrth i’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen barhau i ehangu ledled y rhanbarth, bydd partneriaid cyflawni Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru yn cryfhau ac yn datblygu perthnasoedd presennol, yn ogystal â meithrin perthnasoedd newydd, gyda phartneriaid atgyfeirio ym maes iechyd, sefydliadau cymunedol a chyflogwyr. Bydd hyn yn sicrhau bod unigolion cymwys yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt i symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy.
Mae dechrau cyflwyno Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru yn atgyfnerthu ymrwymiad y rhanbarth i leihau anghydraddoldebau drwy rymuso mwy o bobl i gymryd rhan yn y gweithlu a chyfrannu at eu heconomïau lleol.
Dywedodd Heidi McDougall, Pennaeth Gwasanaeth Tai a Chymunedau:
“Fel y Corff Atebol ar gyfer Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru, mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen bwysig hon. Mae Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn helpu trigolion i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth a chael mynediad at gyfleoedd gwaith ystyrlon a chynaliadwy.
“Mae’r rhaglen hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin ledled y rhanbarth i greu marchnad lafur fwy cynhwysol lle mae pawb yn cael cyfle i wireddu eu potensial. Rydym yn falch o weld bod y gwaith eisoes wedi dechrau yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych, ac rydym yn croesawu penodiad RCS Cymru a Byddin yr Iachawdwriaeth fel partneriaid cyflawni. Bydd eu harbenigedd yn cryfhau ein gallu i gefnogi trigolion a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i unigolion, cymunedau a chyflogwyr ledled Gogledd Cymru.”
Os ydych yn byw yng Ngogledd Cymru ac eisiau rhagor o wybodaeth am Gysylltu â Gwaith Gogledd Cymru neu angen cymorth i ddod o hyd i waith neu aros mewn gwaith, cysylltwch â phartneriaid cyflawni eich awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth, chwiliwch am ‘Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru’ neu cliciwch ar y ddolen hon >>> Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru.
Dros 2,200 awr o gefnogaeth yn cael ei ddarparu gan Wirfoddolwyr Ar Ymyl Gofal ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion Sir Ddinbych
Mae gwirfoddolwyr gyda Thîm Ar Ymyl Gofal yng Ngofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Sir Ddinbych wedi cyfrannu cyfanswm o 2,202 awr o gefnogaeth dros y 12 mis diwethaf, gan helpu dinasyddion, teuluoedd a gofalwyr ar hyd a lled y Sir i fagu hyder, i gadw mewn cysylltiad a chael gafael ar gefnogaeth gymunedol hollbwysig.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae 64 o wirfoddolwyr wedi cefnogi 49 o ddinasyddion Sir Ddinbych drwy’r Gwasanaeth Gwirfoddoli Ar Ymyl Gofal, gan gynnig anogaeth, cymorth ymarferol a chysylltiad cymdeithasol i bobl allai fod yn unig, sydd â hyder isel, sy’n wynebu pwysau ar y teulu, sydd â heriau iechyd meddwl neu’n delio ag amgylchiadau anodd eraill bywyd.
Trwy gydol y 2,202 awr, mae gwirfoddolwyr wedi cynnig cwmnïaeth a chymorth ymarferol, o gefnogi pobl i ailgysylltu â’u cymunedau i helpu gofalwyr i deimlo eu bod yn gallu parhau â'u rolau gofalu.
Mae Tîm Ar Ymyl Gofal yng Ngwasanaeth Cymdeithasol i Oedolion bellach yn awyddus i adeiladu ar hyn drwy recriwtio gwirfoddolwyr newydd o bob cefndir. Nid oes angen profiad blaenorol gan y bydd hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus yn cael ei darparu.
Gallai gwirfoddolwyr newydd helpu drwy:
• Gefnogi unigolion i gael gafael ar grwpiau, gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol.
• Darparu cwmnïaeth a helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol.
• Cynorthwyo unigolion i fagu hyder ac annibyniaeth.
• Annog cyfranogiad mewn gweithgareddau iechyd a lles cadarnhaol.
• Helpu pobl i ailgysylltu â’u cymunedau lleol a rhwydweithiau cymorth.
Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:
“Mae gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon yn ein cymunedau lleol. Rydym ni’n chwilio am fwy o bobl drugarog sydd yn gofalu am eu cymuned i ddod i ymuno â’n gwirfoddolwyr.
Mae gwirfoddoli yn agor y drws i ddatblygu sgiliau a phrofiad newydd, ac mae’r gwasanaeth yn darparu sesiwn sefydlu a hyfforddiant cynhwysfawr yn ogystal â goruchwyliaeth a chefnogaeth barhaus.
Os ydych chi’n teimlo y gallech chi wneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol, ystyriwch gofrestru i wirfoddoli.”
I ddysgu mwy am ddod yn wirfoddolwr gyda Thîm Ar Ymyl Gofal, cysylltwch â Thîm Ar Ymyl Gofal neu dilynwch y ddolen:
https://www.denbighshire.gov.uk/en/jobs-and-employees/volunteering/forms/volunteer-enquiry-edge-of-care.aspx
Ceisiadau am le mewn ysgol uwchradd yn Sir Ddinbych ar gyfer 2027 ar agor
Gall rhieni a gwarcheidwaid wneud cais am le i’w plentyn mewn ysgol uwchradd, yn agor wythnos yma, hyd at 31 Hydref.
Mae ceisiadau ar agor am le ym Mlwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd o fewn yr ystod oedran perthnasol, sef plant a aned rhwng 1 Medi 2015 a 31 Awst 2016.

Er mwyn gallu gwneud cais am le mewn ysgol, bydd angen i rieni a gwarcheidwaid greu cyfrif Hunan-wasanaeth Addysg. Gellir creu cyfrif cyn, yn ystod ac ar ôl y cyfnod ceisiadau.
Caiff ceisiadau a gyflwynir ar ôl 31 Hydref eu trin fel ceisiadau hwyr a chânt eu prosesu ar ôl i’r ceisiadau a ddaeth i law yn brydlon gael eu prosesu.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am le mewn ysgol uwchradd yw 31 Hydref 2026, a chaiff rhieni a gwarcheidwaid wybod am ganlyniad eu cais erbyn 1 Mawrth 2027.
Meddai Geraint Davies, Pennaeth Gwasanaethau Addysg:
“Mae symud i’r ysgol uwchradd yn gam cyffrous iawn.
Byddwn i’n annog rhieni a gwarcheidwaid i wirio’r dyddiadau cymhwysedd, a sicrhau bod unrhyw geisiadau’n cael eu cyflwyno cyn y dyddiad cau.
Mae cyflwyno cais yn brydlon yn helpu i sicrhau bod modd i geisiadau gael eu prosesu mor ddidrafferth â phosibl.”
Ewch i’r ddolen isod:
https://www.sirddinbych.gov.uk/derbyn-i-ysgol
Treial plastigau meddal i ddechrau mewn rhannau o Sir Ddinbych
Bydd treial 12 wythnos g i gasglu plastigau meddal yn dechrau ddydd Llun 14 Medi 2026

Bydd treial 12 wythnos g i gasglu plastigau meddal yn dechrau ddydd Llun 14 Medi 2026 i ganfod y ffordd orau o gasglu ac ailgylchu eich bagiau plastig a’ch deunydd lapio. Mae hyn er mwyn paratoi ar gyfer newidiadau sydd ar ddod gan Lywodraeth Cymru i ofynion ailgylchu.
Rydym wedi gwahodd tua 4,500 o gartrefi i gymryd rhan yn y treial. Mae’r preswylwyr rydym wedi’u gwahodd yn byw mewn cymysgedd o fathau o dai ac ardaloedd, er mwyn i ni gael dealltwriaeth dda a theg o sut y bydd cartrefi gwahanol yn defnyddio’r gwasanaeth.
Mae’r ardaloedd yn cynnwys cartrefi yn Ninbych, Prestatyn, y Rhyl, Rhuddlan, Corwen, Llangollen ac Efenechtyd.
Os yw eich cartref wedi’i ddewis i gymryd rhan yn y treial, byddwn yn dosbarthu taflen i’ch cartref yn esbonio sut mae’n gweithio rhwng dydd Llun 7 Medi 2026 a dydd Gwener 11 Medi 2026.
Bydd y casgliad olaf yn y treial hwn ar ddydd Gwener 4 Rhagfyr 2026.
Bydd opsiynau ynghylch casglu plastigau meddal yn y dyfodol yn cael eu hystyried ar ôl i’r treial gael ei adolygu, a bydd unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn cael eu cyfleu i breswylwyr ar yr adeg briodol.
Y wybodaeth ddiweddaraf am brydau ysgol am ddim
Ym mis Mehefin 2026, ymrwymodd Llywodraeth newydd Cymru i gyflwyno prydau ychwanegol am ddim i deuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol mewn Ysgolion Uwchradd, gan ddechrau gyda Blynyddoedd 7 ac 8.

Ym mis Mehefin 2026, ymrwymodd Llywodraeth newydd Cymru i gyflwyno prydau ychwanegol am ddim i deuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol mewn Ysgolion Uwchradd, gan ddechrau gyda Blynyddoedd 7 ac 8.
Gwnaethpwyd yr ymrwymiad hwn mewn ymateb i bwysau cynyddol costau byw ar deuluoedd, ac oherwydd eu bod yn rhannu’r uchelgais o fynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol.
Er mwyn cyflawni’r uchelgais hwn, mae LlC wedi darparu cyllid Cyfalaf a Refeniw i holl awdurdodau lleol Cymru.
Yn Sir Ddinbych, mae’r cyllid cyfalaf yn cael ei ddefnyddio i dalu costau gwella’r gegin a chyfleusterau bwyta ar draws yr awdurdod, er mwyn sicrhau bod gennym y cymhwysedd digonol i ddarparu’r prydau ychwanegol i ddisgyblion.
Mae’r cyllid refeniw yn cael ei ddefnyddio i dalu costau’r bwyd ychwanegol sydd ei angen a’r cynnydd mewn lefelau staffio i allu coginio ar gyfer y nifer gynyddol o ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol.
Bydd rhieni a gofalwyr yn gallu cofrestru eu ceisiadau am brydau ysgol am ddim ar wefan y Cyngor o ddechrau mis Medi, a bydd disgyblion cymwys yn gallu cael y pryd bwyd o 2 Tachwedd, unwaith y bydd y gwaith yn yr ysgolion uwchradd wedi'i gwblhau.
Arweinydd a Chabinet Cyngor Sir Ddinbych yn ymddiswyddo
Mae arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Jason McLellan a’i gyd aelodau ar y cabinet wedi ymddiswyddo o’u rolau ar y cabinet.
Etholwyd y Cynghorydd McLellan, sy’n cynrychioli ward Gogledd Prestatyn, yn arweinydd fis Mai 2022. Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd “Mae hwn wedi bod yn benderfyniad hynod o anodd i mi gan fod arwain Cyngor Sir Ddinbych dros y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd – yn aml wrth i ni wynebu heriau sylweddol.
“Er gwaetha’r pwysau yma, rwy’n falch iawn o’n hymdrechion i sicrhau ein bod wedi gallu darparu gwasanaethau i’r mwyaf bregus yn ein cymunedau, yn enwedig i’r rheiny mewn addysg a gofal cymdeithasol. Fe fyddaf yn parhau i weithio’n galed i gynrychioli fy ward a chefnogi pobl Prestatyn.”
Bydd pob cyn aelod o’r cabinet yn parhau i wasanaethu fel cynghorydd sir ar gyfer eu wardiau priodol.
Caiff arweinydd newydd i’r cyngor ei ethol yng nghyfarfod llawn y cyngor ar ddydd Mawrth, 8 Medi. Wedi iddynt gael eu hethol, bydd yr arweinydd newydd yn gallu penodi aelodau i’r cabinet.
Er bod y trefniadau gwleidyddol yn newid, bydd swyddogion yn parhau i weithio i ddarparu gwasanaethau i drigolion Sir Ddinbych. Mae prosesau llywodraethu’r cyngor yn caniatáu i fusnes barhau fel arfer tan y caiff cabinet newydd ei ffurfio.
AS Becky Gittins yn ymweld â Gorsaf VIBE i weld effaith cymorth cyflogaeth a chymunedol
Croesawodd Sir Ddinbych yn Gweithio AS Dwyrain Clwyd, Becky Gittins, i'r ‘stafelloedd llesiant a chyflogadwyedd integredig yng Ngorsaf VIBE yn Y Rhyl. Roedd Ms Gittins yn awyddus i gwrdd â'r timau sy'n helpu trigolion lleol i oresgyn rhwystrau, meithrin hyder a chymryd camau cadarnhaol tuag at gyflogaeth, dysgu sgiliau newydd a sicrhau mwy o annibyniaeth.
Yn ystod ei hymweliad â'r gwasanaeth, cyfarfu Ms Gittins â staff o bob rhan o Sir Ddinbych yn Gweithio er mwyn dysgu mwy am yr ystod eang o gymorth sydd ar gael i breswylwyr sy'n wynebu heriau megis digartrefedd, diffyg hyder a chymhelliant, a bylchau mewn sgiliau. Rhoddodd yr ymweliad gyfle i arddangos yr effaith gadarnhaol y mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn ei chael ar gymunedau ledled y sir, gan helpu cannoedd o bobl bob blwyddyn i gael mynediad at gymorth personol sydd wedi'i deilwra i'w hamgylchiadau a'u nodau unigol.
Rhannodd aelodau'r tîm enghreifftiau o sut mae ymyrraeth gynnar, gweithgareddau ymgysylltu, cyfleoedd hyfforddi a chymorth cyflogadwyedd yn helpu trigolion i oresgyn rhwystrau ac i symud ymlaen gyda hyder. Amlygodd y trafodaethau bwysigrwydd darparu cymorth cyn gynted â phosibl, gan sicrhau bod unigolion yn gallu cael mynediad at y cymorth cywir cyn i heriau ddod yn fwy cymhleth.
Yn ystod yr ymweliad, clywodd Ms Gittins gan staff sy'n gweithio ar draws ystod o wasanaethau, gan gynnwys ymyrraeth gynnar gyda'n partneriaid iechyd, hyfforddiant, cyflogadwyedd, cymorth tai, digartrefedd, mentora a mentrau cyflogaeth. Rhannodd aelodau'r tîm sut mae eu gwaith yn helpu trigolion i oresgyn rhwystrau, meithrin hyder, datblygu sgiliau newydd a symud ymlaen tuag at gyflogaeth gynaliadwy.
Rhoddodd yr ymweliad gyfle i Sir Ddinbych yn Gweithio ddangos sut y gall dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn helpu trigolion i fynd i'r afael â sawl rhwystr ar yr un pryd, gan greu llwybrau tuag at gyflogaeth, llesiant gwell a sefydlogrwydd hirdymor.

Dywedodd Becky Gittins, Aelod Seneddol Dwyrain Clwyd:
"Roedd hi'n wych ymweld â Sir Ddinbych yn Gweithio a chwrdd â'r staff ymroddedig sy'n cefnogi trigolion ledled y sir. Mae Gorsaf VIBE yn enghraifft wych o le cynhwysol sy'n gallu helpu pobl i gael gwaith hirdymor a chynaliadwy. Roedd clywed am yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu, a'r cymorth ymarferol sy'n cael ei ddarparu i'w helpu i oresgyn y rhwystrau hynny, yn hynod werthfawr. Mae ymrwymiad ac angerdd y tîm yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl."
Dywedodd Melanie Evans, Rheolwr Gwasanaeth, Cyflogaeth Strategol, Sir Ddinbych yn Gweithio:
"Y tu ôl i bob gwasanaeth rydym yn ei ddarparu mae unigolyn gyda'i stori, ei heriau a'i ddyheadau ei hun. Roeddem yn falch o allu dangos i Becky ehangder y cymorth sydd ar gael drwy Sir Ddinbych yn Gweithio a'r effaith wirioneddol y mae'n ei chael ar fywydau pobl. Boed yn helpu rhywun i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, cefnogi'r rhai sy'n wynebu anawsterau tai, neu greu cyfleoedd i bobl ifanc ffynnu, ein ffocws bob amser yw adeiladu hyder, annibyniaeth a gobaith. Roedd yr ymweliad yn gyfle gwych i rannu nid yn unig yr heriau sy'n wynebu ein cymunedau, ond hefyd y straeon ysbrydoledig am wydnwch a chynnydd sy'n digwydd bob dydd. Rydym yn hynod optimistaidd am y dyfodol a'r cyfleoedd y gallwn barhau i'w creu ar gyfer trigolion lleol."
Atgyfnerthodd yr ymweliad bwysigrwydd ymyrraeth gynnar, cymorth wedi'i deilwra a gweithio mewn partneriaeth gref wrth helpu trigolion i wella eu hamgylchiadau a sicrhau canlyniadau cynaliadwy fel y gallant deimlo'n dda a byw'n well.
Wrth i Sir Ddinbych yn Gweithio barhau i gefnogi cymunedau ledled y sir drwy'r gwasanaethau amlasiantaethol a ddarperir ynn Ngorsaf VIBE a thu hwnt, mae cyfleoedd i arddangos profiadau trigolion ac ymroddiad timau rheng flaen yn parhau'n hanfodol wrth godi ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth y gall gwasanaethau lleol ei wneud.
Caiff Sir Ddinbych yn Gweithio ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU a sawl rhaglen, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer Cymru-DU sy'n targedu anweithgarwch economaidd, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF), a Cysylltu â Gwaith.
Prosiect yn ceisio adfer coetir a gwrychoedd ar fferm yn Sir Ddinbych
Mae prosiect Ffermio Bro wedi mynd i’r afael a rhywogaethau goresgynnol ac wedi adfer gwrychoedd.

Mae prosiect Ffermio Bro wedi mynd i’r afael a rhywogaethau goresgynnol ac wedi adfer gwrychoedd hanfodol rhwng coetiroedd hynafol ar fferm yn Sir Ddinbych.
Wedi’i lansio fis Ebrill 2025, mae’r rhaglen hon gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau ffermio sy’n ceisio gwella natur ac amgylchedd Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol.
Mae pob tîm Tirwedd Genedlaethol yn gyfrifol am osod blaenoriaethau lleol ar gyfer y cynllun, sy’n adlewyrchu anghenion lleol, ac mae ganddynt ymgynghorwyr arbenigol sy’n gweithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir i’w cefnogi nhw drwy’r broses ymgeisio.
Mae un fferm yn Sir Ddinbych wedi derbyn cyllid drwy’r prosiect Ffermio Bro i gynnal rhaglen fawr o waith adfer coetir a gwrychoedd, i wella’r cysylltiad rhwng cynefinoedd, mynd i’r afael a rhywogaethau goresgynnol ac adfer iechyd ecolegol coetiroedd hynafol y fferm.
Cyn dechrau’r gwaith rheoli coetir, codwyd 1,200 metr o ffensys newydd er mwyn atal da byw rhag mynd i mewn i’r coetir, cam yr oedd tîm y prosiect yn ei ystyried yn hollbwysig i lwyddiant y cynllun cyfan.
Roedd y gwaith coetir ar fferm Llangwyfan yn canolbwyntio ar adfer cydbwysedd rhywogaethau coetir hynafol y fferm drwy gael gwared ar goed afiach a thocio rhywogaethau dominyddol, fel sycamorwydd, rhododendrons a llawr-geirios, er mwyn i fflora a ffawna brodorol ffynnu.
Yn ogystal ag adfer y coetiroedd hynafol, defnyddiwyd cyfran o’r cyllid Ffermio Bro i adfer 240 metr o wrychoedd i greu coridorau bywyd gwyllt i gysylltu coetiroedd y fferm.
Meddai Julia Hughes, Fferm Llangwyfan:
“Bu i ni ymgeisio a nodi’r gwaith oedd gennym mewn golwg ac roeddem ni wrth ein bodd bod rhywfaint o’n cynigion wedi llwyddo i gael eu hariannu. Roedd arweiniad manwl a chyngor technegol ac ymarferol y tîm Ffermio Bro, cyn ac yn ystod y gwaith, yn werthfawr iawn ac yn rhan hanfodol o’r prosiect cyfan”.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o gydweithio i wella bioamrywiaeth y sir, gan gyfrannu at gynllun corfforaethol y Cyngor.
“Tra bod y prosiect eisoes wedi cyflawni llawer o amcanion, mae ganddo’r potensial i gael budd ecolegol ehangach ar y dirwedd”.
Prosiect adfer natur yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau CLlLC
Mae Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt Sir Ddinbych wedi cyrraedd rhestr fer categori Arwain Arloesedd Gwobrau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 2026.

Mae Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt Sir Ddinbych wedi cyrraedd rhestr fer categori Arwain Arloesedd Gwobrau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 2026.
Mae’r gwobrau, sy’n nodi 30 mlynedd o lywodraeth leol yng Nghymru, yn dathlu gwaith, medrau ac arloesedd cynghorau a’u timau. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 17 Medi 2026.
Mae’r categori Arwain Arloesedd yn rhoi cydnabyddiaeth i dimau a phrosiectau sydd wedi datrys problem leol mewn ffordd arloesol, yn defnyddio dulliau newydd, creadigrwydd neu ddulliau gwahanol o weithio i ddarparu gwasanaethau effeithiol a chynaliadwy i gymunedau.
Wedi’i sefydlu yn 2019 mae’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt bellach yn cynnwys bron i 70 erw o gynefinoedd blodau gwyllt brodorol, gan gefnogi natur, gwella bioamrywiaeth a chyfrannu at les cymunedol.
Mae Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Stryd, yn cynnwys eu Gweithwyr Adfer Natur, i greu, cynnal a gwella cynefinoedd. Mae hynny’n cynnwys torri a chasglu gwair i leihau maetholion, annog twf blodau gwyllt a chefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau.
Mae’r prosiect hefyd yn defnyddio dull rhywogaethau lleol, gan gasglu hadau o ddolydd y sir cyn tyfu’r planhigion yn y blanhigfa goed yn Llanelwy a’u plannu wedyn ar draws y sir.
Mae’r gwaith wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi yng Nghynhadledd Flynyddol CLlLC yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, ar 17 Medi.
Pwyllgor i glywed y wybodaeth ddiweddaraf am adolygu codi tâl am gynwysyddion gwastraff ac ailgylchu
Fe fydd Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Sir Ddinbych yn trafod adolygiad o godi tâl am Gynwysyddion Gwastraff ac Ailgylchu.

Fe fydd Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Sir Ddinbych yn trafod adolygiad o godi tâl am Gynwysyddion Gwastraff ac Ailgylchu.
Bydd papur yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod ar 3 Medi a fydd yn amlinellu nifer o opsiynau i’w hystyried ac adrodd yn ôl arnynt yn dilyn rhybudd o gynnig a godwyd yn y Cyngor Llawn ym mis Mai eleni.
Mae codi tâl am gynwysyddion gwastraff yn Sir Ddinbych wedi bod ar waith ers 2019. Cytunwyd ar y polisi cyfredol i godi tâl am gynwysyddion gwastraff ac ailgylchu ym Medi 2023 cyn cyflwyno’r model gwastraff newydd yn ffurfiol ym mis Mehefin 2024. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ddiwedd 2025 gan arwain at Benderfyniad Dirprwyedig Aelod Arweiniol at lacio’r polisi tâl er mwyn caniatáu i’r rhai sy’n derbyn Grant Hanfodion Ysgol neu Gredydau Pensiwn gael un cynhwysydd ailgylchu newydd am ddim bob blwyddyn galendr.
Ym mis Mai, gofynnodd Cynghorwyr am adolygiad o drefniadau presennol o ran darpariaeth cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu ac i roi opsiynau am ddulliau amgen o ddarparu’r eitemau yma.
Mae adolygiad llawn o’r trefniadau a chostau ariannol dilynol ynghylch gwahanol opsiynau yn amrywio o wella’r system bresennol i gyflwyno darpariaeth am ddim i bawb wedi cael ei gynnal, ac mae rhagor o wybodaeth am hyn i’w weld yn y papurau ar gyfer Pwyllgor Craffu Cymunedau ar-lein yma .
Bydd Aelodau’r pwyllgor yn trafod ac yn gwneud argymhellion ar ddiwygio polisi sy’n cynnwys
- Gweithredu proses gyfnewid am ddim i gwsmeriaid yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar gyfer bagiau glas a chadis bwyd yn unig
- Cadw’r ffioedd ar gyfer bob eitem os ydi cwsmeriaid angen i’r nwyddau gael eu cludo i’w cartrefi
- Ehangu’r eitem sengl am ddim y flwyddyn ar gyfer unrhyw gynhwysydd ailgylchu ar gyfer y rhai sydd ar y Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor. Er eglurder, mae blychau du gwahanol y trolibocs yn cael eu hystyried yn un eitem.
Yn dilyn argymhellion gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau, bydd Cabinet y Cyngor yn gwneud y penderfyniad terfynol ar unrhyw ddewis o ran codi tâl am gynwysyddion.
Bydd ail bapur hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu i’w drafod, ynghylch perfformiad y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu sydd hefyd ar gael ar-lein
Fforwm Dwristiaeth i gefnogi busnesau lleol yn Sir Ddinbych
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gwahodd busnesau twristiaeth lleol i fynychu ei Fforwm Twristiaeth nesaf, a gynhelir yng Ngwesty The Beaches, Prestatyn, ddydd Mercher 21 Hydref 2026 o 10am.

Bydd y digwyddiad yn dod â busnesau twristiaeth, grwpiau cymunedol a phartneriaid y sector o bob rhan o’r sir ynghyd ar gyfer bore o ddiweddariadau, trafodaeth a rhwydweithio.
Bydd y rhai sy’n mynychu yn cael cyfle i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr ar bynciau sy’n berthnasol i’r economi ymwelwyr. Bydd Sheila Gilmore, Prif Weithredwr VisitArran a The Arran Trust, yn cyflwyno ar reoli cyrchfannau ymwelwyr poblogaidd. Bydd Fiona Argyle yn cyflwyno ar ddatblygiadau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â Llwybr Clawdd Offa, a bydd Claire Roberts o Awdurdod Cyllid Cymru yn egluro’r angen am gofrestru llety ymwelwyr. Bydd y Fforwm hefyd yn cynnwys amser ar gyfer lluniaeth a rhwydweithio, gan roi cyfle i fusnesau gyfarfod â gweithredwyr lleol eraill, rhannu syniadau a thrafod cyfleoedd i gydweithio i gryfhau cynnig twristiaeth Sir Ddinbych.
Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol dros Dwristiaeth: “Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi leol Sir Ddinbych, ac mae ein Fforwm Twristiaeth yn gyfle gwerthfawr i fusnesau ddod ynghyd, clywed diweddariadau defnyddiol a sefydlu cysylltiadau newydd. Byddem yn annog busnesau lleol sydd â diddordeb yn yr economi ymwelwyr i fynychu.”
Gellir archebu lleoedd drwi glicio ar y ddolen Eventbrite yma.
Parcio’n ddiogel yng nghefn gwlad Llangollen
Bydd swyddogion y Cyngor yn monitro parcio yn Rhaeadr y Bedol, Llangollen, a’r ardal gyfagos dros y penwythnos gŵyl banc.

Bydd swyddogion y Cyngor yn monitro parcio yn Rhaeadr y Bedol, Llangollen, a’r ardal gyfagos dros y penwythnos gŵyl banc.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog rhai sy’n ymweld â’r gyrchfan boblogaidd i barcio’n gyfrifol dros y penwythnos gŵyl banc ac ystyried cynllunio ymlaen llaw i ymweld ag atyniadau eraill sydd ar gael ar draws Dyffryn Dyfrdwy, os bydd yr ardal hon yn brysur. Atgoffir ymwelwyr bod digon o leoedd parcio yn y dref sy’n bellter cerdded hygyrch a dymunol ar hyd llwybr tynnu’r gamlas i gyrraedd Rhaeadr y Bedol.
Mae cyfyngiadau parcio yn bwysig ar gyfer diogelwch y ffyrdd ac i sicrhau bod trosiant teg o leoedd parcio; mae'r cyngor wedi gosod pyst rhwystr ac arwyddion ymwybyddiaeth ar y safle i annog gyrwyr i barcio'n gyfrifol.
Bydd swyddogion gorfodi sifil hefyd yn monitro’r safle, yn enwedig ar amseroedd prysur, a gall gyrwyr nad ydynt yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau parcio gael Rhybudd Talu Cosb.
Fel Safle Treftadaeth y Byd, mae Rhaeadr y Bedol yn boblogaidd ymysg pobl leol yn ogystal â thwristiaid. Tra bod croeso i ymwelwyr ddod â phicnic gyda nhw, ni chaniateir barbeciws ar y safle. Gofynnwn i’r holl ymwelwyr ddangos parch tuag at y safle, defnyddwyr eraill a’r gymuned leol.
Mae’r cyngor yn cysylltu â phartneriaid hefyd gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru er mwyn monitro unrhyw gynnydd o ran problemau ar y safle.
Dywedodd yr Arolygydd Joseph Dunn, Arolygydd Ardal ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych Wledig:
“Codwyd parcio yn Rhaeadr y Bedol fel gwir bryder i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac yn defnyddio’r llwybr fel rhan o fywyd bob dydd. Mae hefyd gwir bryderon o ran mynediad i’r gwasanaethau brys ar hyd y llwybr. Er mai’r awdurdod lleol sy’n bennaf gyfrifol am orfodi parcio, rwy’n falch y bydd ein swyddogion yn cefnogi ein cydweithwyr yng Nghyngor Sir Ddinbych gyda phatrolau gweladwy, siarad gyda modurwyr a’r gymuned, a chamau gorfodi pan fo angen.
“Bydd Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn parhau i weithio mewn partneriaeth ar fesurau datrys problemau hirdymor ar gyfer y lleoliad, ac ar ymgysylltu a gwydro i atal digwyddiadau blaenorol rhag digwydd eto”.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych:
“Gofynnwn i ymwelwyr fwynhau’r ardal hardd hon yn gyfrifol, mynd â’u sbwriel adref pan fo’n bosib neu ddefnyddio’r biniau sydd ar gael. Mae hefyd yn bwysig bod ymwelwyr yn parchu’r rhai sy’n gweithio ar y safle i sicrhau diogelwch a mwynhad ymwelwyr a thrigolion hefyd.
“Rydym hefyd yn annog ymwelwyr i ddilyn y cyfyngiadau parcio sydd ar waith gan eu bod yn bwysig i ddefnyddwyr y ffordd a sicrhau bod trosiant teg o leoedd parcio. Mae angen i yrwyr fod yn ymwybodol wrth ymweld y gall swyddogion gorfodi sifil roi Rhybudd Talu Cosb i unrhyw un nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau parcio”.
Gwaith i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ger eglwys yn y Rhyl

Yn ddiweddar bu Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad a Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych ar safle Eglwys Sant Tomos yn y Rhyl i helpu i glirio gwastraff a oedd wedi ei adael yn anghyfreithlon a thacluso tir yr eglwys, gan weithio ochr yn ochr â Dyfodol Disglair a Swyddogion Cymorth Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru.
Bu’r holl dimau’n gweithio gyda’i gilydd i gael gwared â’r gwastraff a gwella edrychiad y lle cymunedol pwysig hwn, sydd o bwys diwylliannol a hanesyddol mawr i’r Rhyl.
Mae’r Cyngor yn ymroddedig i weithio gyda chymunedau a phartneriaid i fynd i’r afael â materion amgylcheddol a helpu i gadw trefi a mannau cyhoeddus Sir Ddinbych yn lân, diogel a chroesawgar.
Yn rhan o’r gwaith, rhoddwyd cyngor i breswylwyr yr ardal ynglŷn ag effaith tipio anghyfreithlon, sut y gallant helpu i’w atal a sut i roi gwybod am unrhyw achosion y maent yn eu gweld. Mae ymgysylltu â’r gymuned yn rhan bwysig o ddull y Cyngor o weithredu i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol, a bydd yn cynorthwyo preswylwyr i ddeall sut y gallant gymryd rhan yn y gwaith o gadw eu hardal leol yn lân a rhoi gwybod am broblemau pan fônt yn digwydd.
Hoffai Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad y Cyngor atgoffa preswylwyr fod tipio anghyfreithlon yn drosedd a gall gael effaith wirioneddol ar ein cymunedau. Gall ddifetha ardaloedd lleol, niweidio’r amgylchedd, denu fermin ac mae’n costio arian i ymchwilio a’i glirio.
Os ydych yn gweld achos o dipio anghyfreithlon neu fod gennych wybodaeth a allai helpu i ganfod y rhai sy’n gyfrifol, rhowch wybod i Gyngor Sir Ddinbych dry wefan y Cyngor neu drwy gysylltu â thîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid y Cyngor ar 01824 706000. Gallai eich gwybodaeth ein helpu i weithredu ac atal mwy o dipio anghyfreithlon yn ein cymunedau.
Diolch yn fawr i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o wella tir Eglwys Sant Tomos a gwarchod y lle cymunedol pwysig hwn.
Gwelliannau wedi’u cwblhau ym Mynwent Llangollen
Mae gwelliannau i’r isadeiledd wedi'u cwblhau ym Mynwent Llangollen

Mae gwelliannau i’r isadeiledd wedi'u cwblhau ym Mynwent Llangollen.
Mae Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych wedi sicrhau cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ynghyd â chyllid cyfalaf i wneud gwaith i wella isadeiledd ar y safle.
Gwnaed gwaith i wella mynediad i gerbydau i’r fynwent. Cyn hyn, roedd angen gyrru drwy ystâd dai gyfagos i gael mynediad, ac roedd y ffordd yn gul ac anodd teithio ar ei hyd.
Ar ôl cwblhau’r gwaith, mae mynediad newydd i gerbydau wedi cael ei greu yng ngwaelod y safle ac mae modd cael mynediad i’r fynwent ar hyd Vicarage Road.
Bydd y gwelliant hwn yn creu gwell mynediad i ymwelwyr a bydd yn galluogi trefnwyr angladdau i gyrraedd y safle heb darfu ar drigolion cyfagos yn ogystal â darparu lle i barcio ger y fynwent.
Yn ogystal â hyn, cafodd tir cyfagos i dde’r safle, sydd wedi ei ddefnyddio ar gyfer pori yn y blynyddoedd diweddar ei glustnodi ar gyfer darpariaeth gladdu yn y dyfodol pan fydd ei angen.

Mae’r gwaith yma wedi cefnogi datblygiad yr isadeiledd ar y darn hwn o dir ar gyfer mwy o le ar gyfer claddedigaethau. Hefyd mae mân waith tirlunio wedi cael ei gwblhau gan gynnwys plannu coed mewn rhai ardaloedd o amgylch y maes parcio i wella ymddangosiad y safle ynghyd â gwelliannau i gefnogi bioamrywiaeth megis gosod blychau ystlumod ac adar.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae cwblhau’r prosiect yma wedi gwella’r isadeiledd ym Mynwent Llangollen yn fawr i ddarparu gwasanaeth mwy urddasol a pharchus i deuluoedd lleol ar gyfer y dyfodol.”
Mae Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio ym mis Medi yn dod â chyfleoedd newydd i drigolion
Gwahoddir trigolion Sir Ddinbych sy'n chwilio am waith, am ddechrau newydd, neu am gyfeiriad newydd yn eu gyrfaoedd i fynychu Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio ym Marchnad y Frenhines, y Rhyl, ddydd Mercher 30 Medi rhwng 10yb a 2yp.
Wedi'i chynnal mewn partneriaeth â Jobcentre Plus, bydd y digwyddiad rhad ac am ddim yn dod ag ystod eang o gyflogwyr o bob rhan o Ogledd Cymru ynghyd sy'n recriwtio'n weithredol ar gyfer swyddi gwag mewn sectorau gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, lletygarwch, manwerthu, gweithgynhyrchu, gwasanaethau cyhoeddus, logisteg a llawer mwy.
Mae'r Ffair Swyddi wedi dod yn ddigwyddiad allweddol yng nghalendr cyflogaeth Sir Ddinbych, gan helpu cannoedd o drigolion i gysylltu'n uniongyrchol â chyflogwyr tra'n cael mynediad at y cymorth ehangach sydd ar gael drwy Sir Ddinbych yn Gweithio.

Yn fwy na digwyddiad recriwtio yn unig, mae'r Ffair Swyddi yn rhoi cyfle i fynychwyr siarad â thîm Sir Ddinbych yn Gweithio, sy'n cynnig arweiniad a chymorth personol. Anogir trigolion i siarad ag aelod o'r tîm ar y diwrnod i archwilio'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Gall y tîm helpu trigolion Sir Ddinbych i gael mynediad at gronfeydd hyfforddi, meithrin hyder, goresgyn rhwystrau i gyflogaeth, a chael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddod yn nes at sicrhau swydd. Drwy gymryd amser i ddeall sgiliau, diddordebau a dyheadau pob unigolyn, gall y tîm hefyd eu cyflwyno i gyflogwyr a chyfleoedd sy'n cyfateb i'r hyn y maent yn chwilio amdano, gan helpu i feithrin hyder a chael gwared ar yr ofn o gymryd y cam nesaf tuag at gyflogaeth.
Dros y blynyddoedd, mae Ffeiriau Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio wedi croesawu miloedd o ymwelwyr ac wedi cefnogi cannoedd o bobl i ymgysylltu â gwasanaethau cyflogaeth, gyda llawer o'r mynychwyr yn mynd ymlaen i sicrhau swyddi, cyfleoedd hyfforddi, cymwysterau a chymorth hirdymor drwy'r rhaglen.
P'un a yw rhywun yn chwilio am ei swydd gyntaf, yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod i ffwrdd, yn ystyried newid gyrfa, yn edrych am gyfleoedd hyfforddi, profiad gwaith neu'n syml yn archwilio'r hyn sy'n bosibl, nod y digwyddiad yw agor drysau a chreu cyfleoedd i bobl ar bob cam o'u taith gyflogaeth.
Dywedodd Melanie Evans, Rheolwr Gwasanaeth, Cyflogaeth Strategol:
"Rydym yn gwybod nad yw dod o hyd i gyflogaeth bob amser yn syml, ac i rai pobl y rhan anoddaf yw gwybod ble i ddechrau. Dyna pam mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn falch o drefnu'r Ffair Swyddi hon. Dro ar ôl tro, rydym wedi gweld y gwahaniaeth y gall y digwyddiadau hyn ei wneud, gyda thrigolion yn sicrhau swyddi, yn cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi, yn ennill cymwysterau ac, mewn rhai achosion, yn trawsnewid eu bywydau. Drwy gymryd amser i ddeall amgylchiadau, sgiliau a dyheadau unigol pob person, gall y tîm helpu trigolion i nodi cyfleoedd sy'n cyfateb i'r hyn y maent yn chwilio amdano, eu cyflwyno i gyflogwyr a darparu'r cymorth sydd ei angen i feithrin hyder a chymryd y cam pwysig nesaf tuag at gyflogaeth."
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i'w fynychu ac yn agored i bawb, gan gynnwys ceiswyr gwaith, pobl ifanc sy'n ystyried eu gyrfaoedd yn y dyfodol, y rhai sy'n dymuno dychwelyd i'r gwaith, ac unrhyw un sy'n chwilio am hyfforddiant, datblygu sgiliau neu gymorth gyda chyflogaeth.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu'n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi'r rhai sydd fwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael cyflogaeth.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd yn cael ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU.