Pwyllgor i glywed y wybodaeth ddiweddaraf am adolygu codi tâl am gynwysyddion gwastraff ac ailgylchu 

Fe fydd Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Sir Ddinbych yn trafod adolygiad o godi tâl am Gynwysyddion Gwastraff ac Ailgylchu.

Fe fydd Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Sir Ddinbych yn trafod adolygiad o godi tâl am Gynwysyddion Gwastraff ac Ailgylchu.

Bydd papur yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod ar 3 Medi a fydd yn amlinellu nifer o opsiynau i’w hystyried ac adrodd yn ôl arnynt yn dilyn rhybudd o gynnig a godwyd yn y Cyngor Llawn ym mis Mai eleni.

Mae codi tâl am gynwysyddion gwastraff yn Sir Ddinbych wedi bod ar waith ers 2019. Cytunwyd ar y polisi cyfredol i godi tâl am gynwysyddion gwastraff ac ailgylchu ym Medi 2023 cyn cyflwyno’r model gwastraff newydd yn ffurfiol ym mis Mehefin 2024.  Cafodd ei adolygu ddiwethaf ddiwedd 2025 gan arwain at Benderfyniad Dirprwyedig Aelod Arweiniol at lacio’r polisi tâl er mwyn caniatáu i’r rhai sy’n derbyn Grant Hanfodion Ysgol neu Gredydau Pensiwn gael un cynhwysydd ailgylchu newydd am ddim bob blwyddyn galendr.

Ym mis Mai, gofynnodd Cynghorwyr am adolygiad o drefniadau presennol o ran darpariaeth cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu ac i roi opsiynau am ddulliau amgen o ddarparu’r eitemau yma.

Mae adolygiad llawn o’r trefniadau a chostau ariannol dilynol ynghylch gwahanol opsiynau yn amrywio o wella’r system bresennol i gyflwyno darpariaeth am ddim i bawb wedi cael ei gynnal, ac mae rhagor o wybodaeth am hyn i’w weld yn y papurau ar gyfer Pwyllgor Craffu Cymunedau ar-lein yma .

Bydd Aelodau’r pwyllgor yn trafod ac yn gwneud argymhellion ar ddiwygio polisi sy’n cynnwys

  • Gweithredu proses gyfnewid am ddim i gwsmeriaid yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar gyfer bagiau glas a chadis bwyd yn unig
  • Cadw’r ffioedd ar gyfer bob eitem os ydi cwsmeriaid angen i’r nwyddau gael eu cludo i’w cartrefi
  • Ehangu’r eitem sengl am ddim y flwyddyn ar gyfer unrhyw gynhwysydd ailgylchu ar gyfer y rhai sydd ar y Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor. Er eglurder, mae blychau du gwahanol y trolibocs yn cael eu hystyried yn un eitem.

Yn dilyn argymhellion gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau, bydd Cabinet y Cyngor yn gwneud y penderfyniad terfynol ar unrhyw ddewis o ran codi tâl am gynwysyddion.

Bydd ail bapur hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu i’w drafod, ynghylch perfformiad y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu sydd hefyd ar gael ar-lein 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw