Tipiwr anghyfreithlon yn cael ei ganfod ac yn cael dirwy ar ôl gollwng gwastraff ar lwybr yn y Rhyl
Mae unigolyn a ollyngodd wastraff o’r cartref yn anghyfreithlon ar lwybr wedi cael dirwy yn sgil ymchwiliad gan Dîm Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych.

Mae unigolyn a ollyngodd wastraff o’r cartref yn anghyfreithlon ar lwybr wedi cael dirwy yn sgil ymchwiliad gan Dîm Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych.
Gadawyd nifer o fagiau o wastraff o’r cartref yn erbyn wal ar y llwybr, gan greu llanast i drigolion lleol a gadael rhywun arall i glirio ar eu holau. Fodd bynnag, bu i dystiolaeth a ganfuwyd o fewn y gwastraff alluogi swyddogion i adnabod yr unigolyn oedd yn gyfrifol.
Bu i Swyddogion Troseddau Amgylcheddol wneud ymholiadau a dilyn amrywiaeth o dystiolaeth, gan arwain at gymryd camau gorfodi yn erbyn y troseddwr a gafodd Rybudd Cosb Benodedig o £250.
Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych: "Yn anffodus, ymddengys bod rhai pobl yn meddwl os ydynt yn gadael eu gwastraff ar lwybr, bydd rhywun arall yn dod i’w glirio.
"Yr hyn nad yw pobl bob amser yn ei ystyried yw y gall y gwastraff ei hun ddarparu tystiolaeth werthfawr. Mae ein swyddogion yn ymchwilio i ddigwyddiadau gan ddefnyddio ystod o ddulliau gan gynnwys CCTV, gwybodaeth gan dystion a thystiolaeth a ganfyddir o fewn y gwastraff ei hun. Pan fyddwn yn gallu sefydlu pwy sy’n gyfrifol, byddwn yn cymryd camau gorfodi priodol.”
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Ni ddylai unrhyw un orfod dioddef gweld gwastraff a adawyd yn anghyfreithlon yn eu cymuned. Mae tipio anghyfreithlon nid yn unig yn amhleserus o ran golwg, ond gall hefyd gael effaith negyddol ar gymunedau lleol, yr amgylchedd a’r balchder mae preswylwyr yn ei gymryd ym mhle maent yn byw.
“Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r mater hwn ar draws Sir Ddinbych a byddwn yn parhau i ymchwilio i adroddiadau a chymryd camau gorfodi pan fo tystiolaeth ddigonol i wneud hynny. Mae achosion fel yr un hwn yn anfon neges glir bod tipio anghyfreithlon yn annerbyniol ac y bydd y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu dal yn atebol am eu gweithredoedd.
“Rydym yn annog trigolion i barhau i ddweud ynglŷn ag achosion er mwyn i ni allu cydweithio i gadw ein cymunedau yn lân, yn ddiogel ac yn groesawus i bawb.”