Treial plastigau meddal i ddechrau mewn rhannau o Sir Ddinbych

Bydd treial 12 wythnos g i gasglu plastigau meddal yn dechrau ddydd Llun 14 Medi 2026

Bydd treial 12 wythnos g i gasglu plastigau meddal yn dechrau ddydd Llun 14 Medi 2026 i ganfod y ffordd orau o gasglu ac ailgylchu eich bagiau plastig a’ch deunydd lapio. Mae hyn er mwyn paratoi ar gyfer newidiadau sydd ar ddod gan Lywodraeth Cymru i ofynion ailgylchu.

Rydym wedi gwahodd tua 4,500 o gartrefi i gymryd rhan yn y treial. Mae’r preswylwyr rydym wedi’u gwahodd yn byw mewn cymysgedd o fathau o dai ac ardaloedd,  er mwyn i ni gael dealltwriaeth dda a theg o sut y bydd cartrefi gwahanol yn defnyddio’r gwasanaeth.

Mae’r ardaloedd yn cynnwys cartrefi yn Ninbych, Prestatyn, y Rhyl, Rhuddlan, Corwen, Llangollen ac Efenechtyd.

Os yw eich cartref wedi’i ddewis i gymryd rhan yn y treial, byddwn yn dosbarthu taflen i’ch cartref yn esbonio sut mae’n gweithio rhwng dydd Llun 7 Medi 2026 a dydd Gwener 11 Medi 2026.

Bydd y casgliad olaf yn y treial hwn ar ddydd Gwener 4 Rhagfyr 2026.

Bydd opsiynau ynghylch casglu plastigau meddal yn y dyfodol yn cael eu hystyried ar ôl i’r treial gael ei adolygu, a bydd unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn cael eu cyfleu i breswylwyr ar yr adeg briodol.

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw